Safonau'r Gymraeg
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod rhaid iddi beidio â chael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Cyhoeddwyd Safonau’r Gymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg. Cyfres o ofynion cyfreithiol rwymol ydynt sydd wedi bod yn berthnasol i Lywodraeth Cymru ers 30 Mawrth 2016.
Mae’r hysbysiad cydymffurfio a roddwyd i Weinidogion Cymru ar 30 Medi 2015 yn amlinellu pa safonau sy’n berthnasol i Lywodraeth Cymru. Mae’n rhaid i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru gydymffurfio â’r safonau mewn perthynas â’r holl waith a wneir ar ran Gweinidogion Cymru.
Yn unol ag ysbryd y mesurau, er mwyn sefydlu hawliau a rhyddid i ddefnyddwyr y Gymraeg, ceisiwn gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg yn ein holl waith gyda’r cyhoedd yng Nghymru, p’un a yw hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith ai peidio.
Os methwn â darparu gwasanaeth Cymraeg, neu os bydd unrhyw un yn anfodlon ar safon y gwasanaeth Cymraeg a ddarparwn, cânt gwyno i Gomisiynydd y Gymraeg.