Mae'r Prif Weinidog wedi amlinellu dull gweithredu traws-lywodraethol newydd i wella bywyd gwaith yng Nghymru.
Wrth siarad yn y Senedd heddiw, cyhoeddodd Mark Drakeford yr egwyddorion allweddol a fydd yn creu “Cymru mwy cyfartal, teg a chyfiawn”, gyda gwaith teg yn rhan annatod ohoni.
Bydd y dull gweithredu ‘partneriaeth gymdeithasol’ yn adeiladu ar waith ymgysylltu ag undebau llafur, cyflogwyr a sefydliadau drwy ddulliau gweithredu arloesol a sgyrsiau agored.
Bydd yn golygu newidiadau i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu gwariant cyhoeddus a'r ffordd y caiff nwyddau a gwasanaethau eu cynhyrchu; caiff y rheini sy'n glynu wrth arferion gwaith teg eu ffafrio, gyda'r nod o wella ansawdd y gwaith a mynediad cyflogeion at eu hawliau.
Mae deddfwriaeth newydd, yn ogystal â phrotocol cyffredin yn disgrifio disgwyliadau Llywodraeth Cymru, TUC Cymru a chyflogwyr, hefyd yn cael eu datblygu.
Daw’r dull gweithredu newydd yn dilyn adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg ym mis Mai a oedd yn nodi y dylai safonau newydd yn amlinellu beth y mae gwaith teg yn ei olygu yn ymarferol gael eu datblygu er lles pawb yng Nghymru.
I gyd-fynd â chyhoeddiad y Prif Weinidog, mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, wedi cyhoeddi datganiad yn derbyn pob un o 48 o argymhellion y Comisiwn mewn egwyddor.
Wrth siarad heddiw, dywedodd y Prif Weinidog:
“Mae gwaith i waredu arferion annheg, megis hunangyflogaeth ffug a chontractiau dim oriau gorfodol sy'n cael effaith niweidiol ar iechyd a lles gormod o bobl yng Nghymru, yn egwyddor greiddiol ar gyfer Llywodraeth Cymru. Bydd ein hymgyrch i gyflwyno Gwaith Teg yn arf hollbwysig wrth wneud bywyd gwaith yn decach i fwy o bobl yng Nghymru.”
“Yn sgil y cwymp ariannol, datblygodd Cymru gamau gweithredu penodol ac arloesol, a oedd yn bosibl drwy ddod â phartneriaid cymdeithasol at ei gilydd. Arweiniodd y sgyrsiau hynny at gytundebau a buddsoddiadau a oedd yn diogelu swyddi ac yn hybu cyfleoedd hyfforddi. Rydym am geisio efelychu’r cadernid hwn a ddaw drwy gydweithio.”
“Rydym yn cydnabod y bydd angen newid diwylliant a dysgu gwersi newydd er mwyn gwneud gwaith teg yn realiti i bobl ar draws Cymru, ond mae ein hymrwymiad yn glir - rydym am wneud yn siŵr ein bod yn cael cymaint o ddylanwad â phosibl er mwyn sicrhau gwaith teg i bawb.”