Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r gwaith o drawsnewid Castell eiconig Cyfarthfa sydd wedi'i leoli mewn parc cyhoeddus trawiadol 100 hectar ym Merthyr Tudful yn amgueddfa o ansawdd rhyngwladol wedi symud gam yn nes diolch i hwb ariannol ychwanegol gwerth £1.2m gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cynllun Cyfarthfa sy’n gynllun 20 mlynedd yn ffrwyth 12 mis o waith gan dîm amlddisgyblaethol dan arweiniad Penseiri uchel eu bri ar lefel ryngwladol Ian Ritchie. Comisiynwyd y cynllun gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac fe'i croesawyd yn gynnes gan Lywodraeth Cymru.

Gallai'r datblygiad agor penodau newydd ym maes twristiaeth, datblygu cymunedol a diwylliannol yng Nghymru a chreu prosiect enghreifftiol sy'n tystio i rym ac effeithiolrwydd agenda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Bydd y prosiect yn cael ei ddatblygu drwy sefydliad elusennol newydd – Sefydliad Cyfarthfa – mewn cydweithrediad â Chyngor Merthyr Tudful, Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful a Pharc Rhanbarthol y Cymoedd.

Bydd yr ysgogiad ychwanegol hwn yn caniatáu i'r prosiect symud ymlaen drwy:

  • Sicrhau bod astudiaethau archif hanesyddol yn parhau er mwyn asesu pa gyfraniad y gallai gwybodaeth a deunyddiau a gedwir ynddynt ei wneud o ran cyflwyno a dehongli'r atyniad arfaethedig i ymwelwyr.
  • Ymgysylltu â thrigolion lleol i sicrhau bod y safle'n adeiladu ar y ffocws newydd ar ddefnyddio mannau gwyrdd a lleoliadau cymunedol i gefnogi ffyrdd iach o fyw a lles er mwyn cadarnhau dull adfywio hirdymor o'r gwaelod i fyny, dan arweiniad y gymuned'.
  • Cychwyn atgyweiriadau brys i asedau hanesyddol Cyfarthfa yn unol â holl bolisïau a gweithdrefnau priodol awdurdodau lleol, Cadw a Llywodraeth Cymru.
  • Sefydlu Bwrdd Sylfaen cryf, amrywiol a chynrychioliadol a staff craidd i wireddu'r weledigaeth eang ei chwmpas a gyflwynir yn y prif gynllun.

Dywedodd Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Chadeirydd Tasglu’r Cymoedd:

"Gallai’r prosiect hwn greu atyniad o bwysigrwydd rhyngwladol, sydd hefyd yn dod â manteision gwirioneddol i'r gymuned leol. Cymeradwyaf weledigaeth Sefydliad Cyfarthfa sydd wedi bod yn gwbl gadarn a chlir ynglŷn â'i uchelgais a'i benderfyniad i greu atyniad blaenllaw sy'n dathlu pwysigrwydd byd-eang Merthyr Tudful yn y stori am y ffordd yr ydym oll wedi datblygu.

"Dylai'r buddsoddiad hwn greu gwaddol gwych i brosiect tasglu'r Cymoedd a bydd yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad parhaus Parc Rhanbarthol y Cymoedd fel catalydd ar gyfer newid".

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas:

"Uchelgais Croeso Cymru yw tyfu twristiaeth er lles Cymru. Mae hyn yn golygu twf economaidd sy'n sicrhau manteision i bobl a lleoedd, gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol, cyfoethogi cymdeithasol a diwylliannol a manteision iechyd.

"Bydd y weledigaeth ragorol hon yn dathlu ac yn gwella'r amgylchedd naturiol ac ôl-ddiwydiannol er mwyn creu lleoliad hardd ar gyfer hamdden, gan elwa i’r eithaf ar dwristiaeth er mwyn gwella lles economaidd ehangach Merthyr a rhanbarth ehangach y Cymoedd."

Dywedodd Geraint Talfan Davies, Cadeirydd Sefydliad Cyfarthfa:

"Mae'r cyllid hwn yn gam ymlaen sydd i'w groesawu'n fawr ar gyfer prosiect a all fod yn wirioneddol drawsnewidiol i'r gymuned leol ac i Gymru gyfan. Mae'r Sefydliad yn benderfynol o greu rhywbeth o ansawdd rhyngwladol a fydd yn dathlu treftadaeth ddiwydiannol o bwysigrwydd byd-eang, yn gwella'r amgylchedd naturiol ac yn sbardun i adnewyddu cymdeithasol a diwylliannol. Mae cefnogaeth barod Llywodraeth Cymru yn tystio i botensial aruthrol y prosiect."

Parc Cyfarthfa Fwyaf