Hoffem glywed eich barn am ein cynigion ar gyfer cyfundrefn statudol newydd i reoli tomenni glo nas defnyddir.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Nod y cynigion yw sicrhau cysondeb wrth reoli, monitro a goruchwylio tomenni glo nas defnyddir. Rydym yn ymgynghori ar:
- gyfundrefn reoli ddeddfwriaethol newydd ar gyfer monitro a chynnal a chadw tomenni glo nas defnyddir;
- sefydlu corff cyhoeddus newydd a fydd yn sicrhau cydymffurfiaeth â’r gyfundrefn reoli newydd ac a fydd yn sicrhau cysondeb o ran sut y bydd yn cael ei gweithredu.
Byddwn yn cynnal digwyddiadau ymgynghori er mwyn egluro’n cynigion ac ateb cwestiynau. I gofrestru ar gyfer un o'n digwyddiadau ar-lein, ewch i’r dudalen ddigwyddiadau ar Eventbrite.
Dogfennau ymghynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

Asesiad effaith integredig , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 531 KB

Cwestiynau cyffredin , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 852 KB
Help a chymorth
Am fwy o wybodaeth amdano’r ymgynghoriad hwn, e-bostiwch CoalTipSafetyConsultation@llyw.cymru.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 4 Awst 2022, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
E-bost
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Llenwch y ffurflen a’i hanfon at: CoalTipSafetyConsultation@llyw.cymru
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Llenwch y ffurflen a’i hanfon i’r cyfeiriad isod:
Y Papur Gwyn ar Ddiogelwch Tomenni Glo (Cymru)
Yr Is-adran Dŵr, Llifogydd a Diogelwch Tomenni Glo
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ