Cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl am y Panel Arbenigol ar Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru.
Trosolwg
Bydd y Panel Arbenigol ('y Panel') yn cyflawni'r gwaith hwn fel rhan o'r ymrwymiadau darlledu a wnaed yn y Cytundeb Cydweithredu a'r Rhaglen Lywodraethu
Teitl a math
Corff cynghori yw’r Panel Arbenigol sy’n atebol i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip, ac Aelod Dynodedig Plaid Cymru. Mae’r Panel wedi’i sefydlu a’i benodi fel grŵp gorchwyl a gorffen am gyfnod o ddim mwy na blwyddyn o’i gyfarfod cyntaf.
Diben
Prif ddiben y Panel yw darparu opsiynau ac argymhellion ynghylch gweithredu’r ymrwymiad yng Nghytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i ymchwilio i greu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru.
Wrth gynnig safbwynt a phersbectif sy’n seiliedig ar wybodaeth ac arbenigedd unigolion, bydd y Panel yn ategu ac yn ychwanegu gwerth at ffynonellau ehangach o gyngor a ddarperir gan y gwasanaeth sifil, partneriaid diwydiant a mecanweithiau eraill, megis ymgysylltu cymunedol.
Cwmpas a chylch gwaith
Bydd y Panel yn rhoi sylw penodol i’r ymrwymiad uchod ynghylch Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol. Caiff ei waith ei lywio gan gyd-destun ehangach yr ymrwymiadau ynghylch darlledu a’r cyfryngau a nodir yn y Cytundeb Cydweithio. Mae mwy o fanylion yn Nogfen 1.
Mae’r Cytundeb Cydweithio yn nodi manylion y mathau o rolau y gallai Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol eu cyflawni, gan gynnwys cymryd camau i unioni’r diffyg gwybodaeth sydd ar gael yng Nghymru, alinio’r ymdrechion presennol i gryfhau’r cyfryngau yng Nghymru ag ymdrechion arloesol i gefnogi’r Gymraeg ar holl blatfformau’r cyfryngau ac yn y maes digidol, a datblygu cynlluniau ar gyfer fframwaith amgen yng Nghymru yn barod ar gyfer datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu.
Bydd disgwyl i’r Panel adeiladu ar y safbwynt cychwynnol a amlinellwyd yn y Cytundeb Cydweithio i ystyried a gwneud argymhellion ynghylch sut i gyflawni’r amcanion hynny. Bydd angen cynnwys argymhellion ynghylch:
- Cylch gwaith a chwmpas;
- Strwythur a lle o fewn y fframwaith llywodraethu a rheoleiddio ehangach;
- Tryloywder ac atebolrwydd;
- Trefniadau llywodraethiant;
- Goblygiadau cyllid a chynaliadwyedd i’r dyfodol;
- Unrhyw opsiynau perthnasol eraill ar gyfer gwireddu amcanion yr ymrwymiadau darlledu yn y Cytundeb Cydweithio.
Fel un elfen o’i waith, bydd disgwyl i’r Panel nodi arferion gorau a’r hyn a ddysgwyd gan wledydd ac ardaloedd eraill y DU ac yn rhyngwladol, a dangos sut gellid defnyddio esiamplau o’r fath i lywio’r meddylfryd yng Nghymru. Bydd gwaith y Panel yn allweddol i’r broses o ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth a’r achos busnes dros ddatganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i Gymru.
Atebolrwydd
Yn y pen draw, mae’r Panel yn atebol i Lywodraeth Cymru, a chaiff yr adroddiadau eu darparu i Weinidogion Cymru ac Aelod Dynodedig Plaid Cymru.
Adolygu
Caiff y Cylch Gorchwyl hwn ei adolygu a’i newid drwy gytundeb â Gweinidogion Cymru ac Aelod Dynodedig Plaid Cymru.
Ymrwymiadau darlledu a’r cyfryngau y Cytundeb Cyd-weithio
Darlledu
Er bod y pandemig wedi rhoi proffil uwch i Gymru ac i ddemocratiaeth Cymru yng nghyfryngau’r DU, mae consensws eang bod y fframwaith darlledu a chyfathrebu presennol yn annigonol, ei fod yn llesteirio bywyd democrataidd ein gwlad ac nad yw'n diwallu anghenion y Gymraeg, na’r uchelgais ar ei chyfer. Nid yw'r system bresennol, felly, yn abl i ddarparu’r cyfryngau y mae ar Gymru eu hangen. Mae bygythiadau parhaus hefyd i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, ac ymosodiadau arno, o du Lywodraeth Geidwadol yr DU. Mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cytuno y dylai pwerau darlledu a chyfathrebu gael eu datganoli i'r Senedd.
- Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd, a chydag arbenigwyr yn y diwydiant, cymunedau a phartneriaid ehangach, i ystyried creu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru.
- Byddai cylch gwaith y corff hwnnw’n cynnwys ceisio cryfhau democratiaeth Cymru a chau'r bwlch gwybodaeth; dwyn ynghyd a chydgysylltu mewn ffordd strwythuredig ymdrechion presennol Llywodraeth Cymru i gryfhau'r cyfryngau yng Nghymru, a datblygiadau arloesol i gefnogi'r Gymraeg yn y maes digidol, megis amam.cymru; gwneud y cyfryngau’n fwy lluosogaethol a defnyddio'r Gymraeg ar holl blatfformau’r cyfryngau.
- Byddai'r Awdurdod newydd hefyd yn gyfrifol am lunio cynlluniau ar gyfer fframwaith darlledu a chyfathrebu amgen i Gymru, ac am gymryd camau tuag ato, yn barod ar gyfer datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu.
Drwy weithredu fel hyn, bydd modd inni gryfhau'r sector er gwaethaf yr heriau sy’n codi oherwydd nad yw llywodraeth yn y DU yn ymdrin mewn ffordd adeiladol â datganoli yng Nghymru.
Cymorth ariannol i'r cyfryngau
Ein hymyriad cychwynnol fydd darparu buddsoddiad ychwanegol i ddatblygu mentrau sydd eisoes yn bod a mentrau newydd sy'n ceisio gwella newyddiaduraeth yng Nghymru ac i helpu’r cyfryngau yng Nghymru i fynd i'r afael â'r bwlch gwybodaeth.