Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, wedi cyhoeddi y bydd OECD ac Estyn yn gweithio ar fframwaith hunanwerthuso newydd i athrawon.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gan siarad mewn Cynhadledd i Benaethiaid Athrawon 7fed o Fawrth, dywedodd Kirsty Williams:

“Wrth i ni ddatblygu a chynllunio ein cwricwlwm newydd, mae angen i ni feddwl hefyd am sut y gall asesu ar lefel ysgolion a systemau arwain at welliannau i’n holl ddysgwyr.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda nifer o benaethiaid uwchradd a chynradd wrth ddatblygu system newydd o asesu a gwerthuso a fydd yn arwain at welliannau a system nad yw’n canolbwyntio ar labelu yn unig.

“Rydyn ni hefyd wedi edrych ar arferion gorau yn rhyngwladol, drwy weithio gydag academyddion sy’n arwain yn eu meysydd, ac ry’n ni wedi mireinio a phrofi’r syniadau hynny gyda’r proffesiwn.

“Rydw i bellach yn cynnig y bydd y fframwaith asesu, gwerthuso a gwella newydd yn seiliedig yn bennaf ar hunanwerthusiad.

“Dyna’r rheswm rydw i wedi comisiynu’r OECD ac Estyn i weithio gyda’r proffesiwn i ddatblygu fframwaith hunanwerthuso cenedlaethol fydd yn gallu gweithio ar y cyd ag adolygiad gan gymheiriaid a fframwaith cadarnhau.

“Wedi hynny, byddwn am glywed eich barn am sut y gallwn sicrhau y bydd hyn yn gweithio’n dda i bawb a rhoi darlun clir o’r meysydd hynny lle gall eich ysgol wella a sut.”

Dywedodd Prif Arolygydd Estyn, Meilyr Rowlands:

“Mae’n dda gan Estyn arwain yr adolygiad hwn ar y cyd ag OECD. Mae gan OECD arbenigedd rhyngwladol helaeth yn y maes ac mae gennym ni’r wybodaeth yng nghyd-destun Cymru.

“Bydd cydweithio â phenaethiaid ac eraill sy’n gweithio gydag ysgolion yn hanfodol hefyd wrth ddatblygu’r fframwaith.”