Neidio i'r prif gynnwy

Ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y cynllun Nofio am Ddim ar gyfer y Lluoedd Arfog yn parhau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae hyn yn galluogi aelodau presennol o'r Lluoedd Arfog, a'r rhai sydd wedi ymddeol, i nofio am ddim mewn canolfannau hamdden a phyllau nofio sy'n cymryd rhan yn y cynllun, gan ddefnyddio eu Cerdyn Braint y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Cafodd y Cynllun Nofio am Ddim ar gyfer y Lluoedd Arfog ei gyflwyno gyntaf yn 2016, ac mae'n rhan o'r ymrwymiad parhaus i sicrhau bod gan y Lluoedd Arfog fynediad at wasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion penodol, ac i gydnabod y ffordd maen nhw wedi gwasanaethu eu gwlad.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

"Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu parhau i gefnogi'r cynllun hwn, sydd â'r nod o sicrhau bod aelodau presennol o'r Lluoedd Arfog a'r rhai sydd wedi ymddeol yn gallu elwa ar fanteision iechyd corfforol ac iechyd meddwl mae nofio'n eu darparu.

Dwedodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn:

"Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi personél ein Lluoedd Arfog, ac yn cydnabod y ffordd mae mentrau fel hyn yn gallu rhoi hwb i'w lles meddyliol a chorfforol. Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n mwynhau manteision y cynllun hwn dros y tair blynedd nesaf."

Dywedodd Chris Llewelyn, Prif weithredwr CLlLC:

“Mae’r Llywodraeth leol yn falch iawn o ddarparu nofio am ddim i bersonél ein Lluoedd Arfog a’n Cyn-filwyr. Y gobaith yw bod hyd yn oed rhagor o bobl yn cymryd rhan yn y cynllun y flwyddyn hon, gan elwa ar y manteision niferus a llesol sy’n cael eu cynnig gan weithgarwch corfforol. Mae pyllau nofio sy’n rhan o’r cynllun ar gael gan bob un o awdurdodau lleol Cymru. Ewch ar wefan eich awdurdod lleol i weld lle mae’r pwll nofio agosaf i chi.”

Drwy gydol blwyddyn ariannol 2021 i 2022, ar gyfartaledd bob chwarter fe gymerodd 569 o bersonél milwrol a chyn-filwyr ledled Cymru rhan yn y cynllun. Mae'r ffigurau  yn dangos cynnydd yn y nifer sy'n manteisio ar y cynllun wrth i gyfyngiadau gael eu codi, gyda'r chwarter diwethaf yn cofnodi uchafbwynt o 879 o bobl yn elwa o 2641 o ymweliadau â'u pyllau nofio cymunedol lleol.

I gefnogi'r cynllun hwn, bydd £45,000 yn cael ei neilltuo bob blwyddyn am dair blynedd; yn 2022 i 2023, 2023 i 2024 a 2024 i 2025.