Neidio i'r prif gynnwy

Sut gallwch chi baratoi eich sefydliad ar gyfer y newidiadau sydd i ddod i gaffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae dros £8 biliwn yn cael ei wario ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn. Dyna bron i draean o holl wariant y sector cyhoeddus. Caffael yn y sector cyhoeddus yw un o’r arfau pwysicaf sydd gennym i helpu i greu Cymru fwy cyfartal, mwy cynaliadwy a mwy llewyrchus. Trwy gaffael effeithiol, gall sefydliadau'r sector cyhoeddus helpu i gefnogi economi Cymru, hyrwyddo gwaith diogel a theg, helpu i ddiogelu'r amgylchedd, a helpu i ddod â manteision diwylliannol a chymdeithasol i gymunedau. 

Mae deddfwriaeth newydd ar y gweill i newid sut mae caffael yn cael ei wneud yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. 

Nod y ddeddfwriaeth yw gwneud caffael yn ddoethach, drwy wneud y canlynol: 

  • Canolbwyntio mwy ar y nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 
  • Ei wneud yn well gwerth am arian ac yn fwy tryloyw 
  • Ei wneud yn well i gyflenwyr gyda llai o fiwrocratiaeth a rheoli contractau’n well 

Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn ei gwneud yn ofynnol i bobl sy'n cynnal ymarferion caffael a chyflenwyr y sector cyhoeddus wneud rhai newidiadau pwysig i'w ffyrdd o weithio a'r systemau maen nhw’n eu defnyddio. 

Mae'n bwysig i unrhyw un sy'n ymwneud â chaffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ddeall y newidiadau a'r hyn y gallai fod angen iddyn nhw ei wneud i baratoi. 

Beth yw'r ddeddfwriaeth newydd?

Deddf Caffael 2023

Bydd y Ddeddf yn diwygio system gaffael y DU fel bod pob punt yn mynd ymhellach i wasanaethau cyhoeddus a chymunedau. Bydd yn gwneud caffael yn gyflymach, yn symlach, yn fwy hyblyg ac yn fwy tryloyw. Mae disgwyl iddo ddod i rym ym mis Chwefror 2025. 

Rhagor o wybodaeth am y Ddeddf Caffael.

Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

Mae'r Ddeddf yn rhoi sail statudol i gaffael cymdeithasol gyfrifol. Bydd yn sicrhau bod caffael cyhoeddus yn cyfrannu at lesiant Cymru mewn ffordd gyson ac atebol. Mae’r dyddiad y daw’r ddeddfwriaeth hon i rym i’w gadarnhau. 

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru)

Bydd Rheoliadau drafft Gwasanaethau Iechyd (y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) yn cyflwyno Cyfundrefn Dethol Darparwyr newydd yng Nghymru. Bydd y newidiadau yn lleihau biwrocratiaeth drwy gyflwyno system gaffael hyblyg a chymesur ar gyfer gwasanaethau iechyd a ddarperir ar ran y GIG yng Nghymru. Yn amodol ar gytundeb y Senedd, disgwylir i’r Gyfundrefn ddod i rym ym mis Chwefror 2025.

Rhagor o wybodaeth am Gyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru.

Darganfod mwy am yr Wybodaeth am Gyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru.

Beth sydd angen i mi ei wneud i baratoi?

Ydych chi'n weithiwr proffesiynol caffael neu fasnachol, neu'n uwch arweinydd mewn sefydliad sector cyhoeddus? Ydych chi’n ymwneud â rheoli contractau, neu ydych chi’n gyflenwr i’r sector cyhoeddus yng Nghymru? Mae canllawiau a hyfforddiant ar ofynion y ddeddfwriaeth newydd wedi'u datblygu ar eich cyfer.

Gweithwyr proffesiynol caffael a rheolwyr contractau

Mae adnoddau hyfforddi a dysgu ar gael i weithwyr proffesiynol caffael mewn sefydliadau sector cyhoeddus a Rheolwyr Contractau mewn sefydliadau caffael.

Uwch arweinwyr mewn sefydliadau sy’n caffael

Adnoddau dysgu ar gyfer uwch arweinwyr mewn sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru:

Cyflenwyr a darpar gyflenwyr y sector cyhoeddus

Adnoddau dysgu i gyflenwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru:

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.