Neidio i'r prif gynnwy

Sut gallwch chi baratoi eich sefydliad ar gyfer y newidiadau sydd i ddod i gaffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae dros £10 biliwn yn cael ei wario ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn. Dyna bron i draean o holl wariant y sector cyhoeddus. Caffael yn y sector cyhoeddus yw un o’r arfau pwysicaf sydd gennym i helpu i greu Cymru fwy cyfartal, mwy cynaliadwy a mwy llewyrchus. Trwy gaffael effeithiol, gall sefydliadau'r sector cyhoeddus helpu i gefnogi economi Cymru, hyrwyddo gwaith diogel a theg, helpu i ddiogelu'r amgylchedd, a helpu i ddod â manteision diwylliannol a chymdeithasol i gymunedau.

Mae deddfwriaeth newydd wedi trawsnewid sut mae caffael yn cael ei wneud yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Nod y ddeddfwriaeth yw gwneud caffael yn ddoethach, drwy wneud y canlynol:

  • Canolbwyntio mwy ar y nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Ei wneud yn well gwerth am arian ac yn fwy tryloyw
  • Ei wneud yn well i gyflenwyr gyda llai o fiwrocratiaeth a rheoli contractau’n well

Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn ei gwneud yn ofynnol i bobl sy'n rhedeg ymarferion caffael a chyflenwyr i'r sector cyhoeddus wneud rhai newidiadau pwysig i'w ffyrdd o weithio a'r systemau y maent yn eu defnyddio.

Mae'n bwysig i unrhyw un sy'n ymwneud â chaffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ddeall y newidiadau a'r hyn y gallai fod angen iddyn nhw ei wneud i baratoi.

Mae arnom angen eich caniatâd i lwytho fideos YouTube

Gallai’r fideo yma ddefnyddio cwcis neu dechnolegau eraill nad yw eich gosodiadau LLYW.CYMRU yn gweddu iddynt.

Efallai yr hoffech ddarllen polisi preifatrwydd Google cyn derbyn.

Dewiswch 'derbyn a pharhau' i lwytho’r fideo yma.

Beth yw'r ddeddfwriaeth newydd?

Deddf Caffael 2023

Mae'r Ddeddf wedi diwygio system gaffael y DU fel bod pob punt yn mynd ymhellach i wasanaethau cyhoeddus a chymunedau. Bydd yn gwneud caffael yn gyflymach, yn symlach, yn fwy hyblyg ac yn fwy tryloyw. Yn dod i rym ar 24 Chwefror 2025.

Rhagor o wybodaeth am y Ddeddf Caffael.

Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

Mae'r Ddeddf yn rhoi sail statudol i gaffael cymdeithasol gyfrifol. Bydd yn sicrhau bod caffael cyhoeddus yn cyfrannu at lesiant Cymru mewn ffordd gyson ac atebol. Mae’r dyddiad y daw’r ddeddfwriaeth hon i rym i’w gadarnhau. 

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025

Bydd Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025 wedi cyflwyno Cyfundrefn Dethol Darparwyr newydd yng Nghymru. Bydd y newidiadau yn lleihau biwrocratiaeth drwy gyflwyno system gaffael hyblyg a chymesur ar gyfer gwasanaethau iechyd a ddarperir ar ran y GIG yng Nghymru. Daeth i rym ar 24 Chwefror 2025.

Rhagor o wybodaeth am Gyfundrefn Dethol Darparwyr Cymru.

Pecyn Cymorth i Randdeiliaid

Rydym wedi creu pecyn cymorth i randdeiliaid, sy’n cynnwys ystod o adnoddau am ddim i’w lawrlwytho, i’ch helpu chi adael i bobl o fewn eich rhwydwaith wybod am y newidiadau i ddeddfwriaeth caffael. Ar gael yma.