Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu safbwyntiau ynglŷn ag opsiynau i addasu cyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud datganiad mewn perthynas â’r camau nesaf unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben ac ar ôl i’r ymatebion gael eu hystyried.

Cyflwyniad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar dri opsiwn ar gyfer addasu cyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yng Nghymru:

  1. dileu’r gyfradd is (mewn camau neu drwy un diwygiad)
  2. cynyddu’r gyfradd is yn sylweddol
  3. newid y deunyddiau y mae’r gyfradd is yn gymwys iddynt

Nod yr opsiynau hyn yw:

  • cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn wlad Ddiwastraff erbyn 2050, a
  • lleihau’r risg y caiff gwastraff ei gamddisgrifio er mwyn talu llai o dreth.

Caiff yr ymgynghoriad hwn ei gynnal dros gyfnod o wyth wythnos yn hytrach na’r cyfnod arferol o 12 wythnos. Mae’r cyfnod ymgynghori byrrach nag arfer yn adlewyrchu natur gryno a ffocws cul yr ymgynghoriad. 

Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn esbonio’r opsiynau sy’n cael eu hystyried ac yn cynnwys cwestiynau i’r cyhoedd. Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb yn atebion y cyhoedd i’r cwestiynau hyn yn benodol, ond mae’n croesawu pob sylw ynglŷn â’r opsiynau.

Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn helpu Llywodraeth Cymru wrth iddi ystyried costau, manteision ac effaith ehangach yr opsiynau, gan gynnwys o ran llesiant cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol, anfantais economaidd-gymdeithasol a’r Gymraeg.

Rhowch dystiolaeth i ategu’ch barn a chysylltwch â ni os hoffech drafod eich barn â swyddogion.

Ymgynghori ar drethi datganoledig

Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn barhaus. Mae egwyddorion treth Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r ffordd y mae’n datblygu ac yn cyflwyno trethi datganoledig, gan nodi y dylai trethi Cymreig:

  • godi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl, 
  • cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru, 
  • bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml, 
  • cael eu datblygu drwy gydweithio a chyfranogi,
  • cyfrannu’n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o greu Cymru sy’n fwy cyfartal.

Nid oes dyletswydd statudol benodol i ymgynghori ar y materion sy’n cael eu hystyried yn yr ymgynghoriad hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dewis ymgynghori â’r cyhoedd er mwyn asesu safbwyntiau ynghylch effaith bosibl yr opsiynau.

Cyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu safbwyntiau ar ei hopsiynau ar gyfer addasu cyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn helpu Llywodraeth Cymru i asesu’r effaith yng Nghymru pe bai cyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cael ei haddasu.

Y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn croesawu safbwyntiau ar unrhyw effeithiau y gallai’r opsiynau hyn eu cael ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Beth sy’n digwydd nesaf

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal rhwng 19 Gorffennaf a 15 Medi 2024.

Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn cael eu gweld a’u trin i ddechrau gan swyddogion yn Nhrysorlys Cymru, sef yr adran yn Llywodraeth Cymru sy’n cynghori Gweinidogion ar bolisi treth, ac Awdurdod Cyllid Cymru sy’n gyfrifol am reoli trethi datganoledig a sicrhau bod trethdalwyr yn talu’r swm cywir o’r Dreth Trafodiadau Tir. Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth am y ffordd y mae’n rheoli trethi. Mae hefyd yn cyhoeddi canllawiau yn disgrifio pwerau a dyletswyddau Awdurdod Cyllid Cymru a dyletswyddau a hawliau trethdalwyr. Mae’n bosibl y caiff ymatebion eu gweld a’u trin gan swyddogion mewn adrannau eraill o Lywodraeth Cymru hefyd.

Ar ôl yr ymgynghoriad, bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried yr ymatebion, yn cyhoeddi adroddiad yn eu crynhoi, ac yn nodi eu bwriadau a’r camau nesaf.

Cyfeiriadau

Gall y cyfeiriadau a’r dolenni canlynol fod yn ddefnyddiol i ddarllenwyr::

Termau allweddol

Deunydd cymwys

Dim ond i "ddeunydd cymwys", gan gynnwys cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau, y mae cyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn gymwys. Mae wyth categori o ddeunydd cymwys:

  • creigiau a phridd
  • deunydd cerameg neu goncrit
  • mwynau
  • slag ffwrnais
  • lludw
  • cyfansoddion anorganig actifedd isel
  • calsiwm sylffad
  • calsiwm hydrocsid a heli

Er mwyn cael ei ystyried yn ddeunydd cymwys, mae’n rhaid iddo fodloni’r amodau a nodwyd yn adrannau 15 i 17 ac atodlen 1 i’r Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi. Mae atodlen 1 hefyd yn rhoi mwy o fanylion am bob categori.

Gronynnau mân

Gronynnau a gynhyrchir yn ystod proses trin gwastraff sy’n cynnwys triniaeth fecanyddol yw gronynnau mân. Gall gronynnau mân gael eu hystyried yn gymysgedd cymwys o ddeunyddiau, a chael eu gwaredu ar gyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, pan fyddant yn bodloni’r amodau a nodwyd yn:

Codau gwastraff

Mae’n rhaid i bob math o wastraff gael ei nodi a’i ddosbarthu cyn cael ei anfon i’w ailgylchu neu i’w waredu. Mae’r cod dosbarthu gwastraff, y cyfeirir ato hefyd fel y Rhestr Gwastraff neu’r Catalog Gwastraff Ewropeaidd, yn dosbarthu gwahanol fathau o wastraff yn ôl codau unigryw. Mae’n rhaid defnyddio’r codau cywir i nodi deunydd a anfonir i’w dirlenwi. Mae rhagor o ganllawiau ar ddosbarthu gwastraff ar gael ar wefan GOV.UK.

Materion yr ymgynghoriad

Cyflwyniad

1.1 Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnig i’r Senedd y dylid gwneud diwygiad i’r Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi a fydd yn addasu cyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn sylweddol. Mae’n ystyried tri opsiwn ar gyfer yr addasiad hwn. Esbonnir y rheolau presennol a’r opsiynau isod.

Y rheolau presennol

1.2 Mae tair cyfradd ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Hyd yma, mae’r rhain wedi’u cynyddu’n flynyddol yn unol â’r chwyddiant a ragwelir ac maent wedi parhau’n gyson â chyfraddau’r Dreth Tirlenwi yng ngweddill y DU, sef:

  • y gyfradd is, £3.30 y dunnell ar hyn o bryd, sy’n gymwys i ddeunydd cymwys.
  • y gyfradd safonol, £103.70 y dunnell ar hyn o bryd, sy’n gymwys i bob math arall o wastraff sy’n cael ei waredu’n gyfreithlon.
  • y gyfradd anawdurdodedig, £155.55 y dunnell ar hyn o bryd (150% o’r gyfradd safonol), sy’n gymwys i bob math o wastraff sy’n cael ei waredu’n anghyfreithlon ac sy’n unigryw i Gymru.

1.3 Mae’n rhaid i Weithredwyr Safleoedd Tirlenwi gofnodi sawl tunnell o wastraff y maent yn ei derbyn ar bob cyfradd a chyflwyno’r wybodaeth hon i Awdurdod Cyllid Cymru. Mae angen cyfanswm y tunelli ar gyfer gwarediadau ar y gyfradd safonol ond ar gyfer gwarediadau ar y gyfradd is, mae’n rhaid dosbarthu’r tunelli yn ôl y cod gwastraff perthnasol. Yn achos gronynnau mân, mae’n rhaid i’r cwsmer hefyd ddosbarthu’r tunelli.

1.4 Er mwyn helpu i sicrhau mai dim ond ar gyfer deunydd cymwys yr hawlir cyfradd is y dreth, mae Awdurdod Cyllid Cymru yn gweithio’n agos gyda Gweithredwyr Safleoedd Tirlenwi i asesu’r codau gwastraff sy’n gymwys i’r deunydd y maent yn ei dderbyn ac a ddylai’r codau hyn gymhwyso ar gyfer y gyfradd is. Rhoddir ffurflenni treth pwrpasol i bob Gweithredwr Safle Tirlenwi, sydd ond yn gofyn am wybodaeth am y codau gwastraff sy’n berthnasol iddynt.

1.5 Ceir canllawiau manylach ar yr wybodaeth sydd ei hangen i ffeilio ffurflenni’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Yr opsiynau ar gyfer addasu’r gyfradd is

1.6 Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud Cymru yn wlad Ddiwastraff erbyn 2050, ac i sicrhau mai dim ond ychydig bach iawn o wastraff, os o gwbl, a anfonir i’w dirlenwi erbyn 2025, sy’n golygu bod yn rhaid i wastraff yng Nghymru gael ei leihau, ei ailddefnyddio a’i ailgylchu, yn hytrach na’i anfon i’w dirlenwi. Mae’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn rhoi cymhelliant ariannol i gyflawni’r nod hwn.

1.7 Ers iddynt gael eu cyflwyno, mae cyfradd is a chyfradd safonol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi wedi bod yn gymwys i wahanol ddeunydd gwastraff am resymau amgylcheddol ac economaidd. Mae tirlenwi deunydd anadweithiol megis creigiau a phridd, wedi’i bennu ar y gyfradd is oherwydd ystyrir ei fod yn annhebygol o achosi llygredd tir, dŵr neu aer. Mae deunydd arall, nad yw’n anadweithiol wedi cael ei bennu ar y gyfradd is drwy benderfyniadau’r llywodraeth o ganlyniad i sylwadau gan fusnesau pan gyflwynwyd y Dreth Tirlenwi yn gyntaf yn 1996.

1.8 Yn y flwyddyn dreth 2023 i 2024 yng Nghymru, tirlenwyd 272,000 o dunelli o wastraff ar y gyfradd safonol a thirlenwyd 576,000 o dunelli ar y gyfradd is. Ers i’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi gael ei datganoli yn 2018, gwelwyd gostyngiad o 49% o ran faint o ddeunydd sy’n cael ei dirlenwi ar y gyfradd safonol. Fodd bynnag, gwelwyd cynnydd o 9% o ran faint o ddeunydd sy’n cael ei dirlenwi ar y gyfradd is, er bod llawer o’r deunydd hwn yn addas iawn i’w ailddefnyddio. Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cyhoeddi ystadegau ynghylch y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar sail chwarterol a blynyddol.

1.9 Mae cyfradd safonol uchel y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn effeithiol o ran lleihau faint o wastraff sy’n caei ei dirlenwi ond mae’r gyfradd is yn golygu ei bod yn rhatach tirlenwi deunydd cymwys na’i leihau, ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ddefnyddio ffyrdd mwy cynaliadwy o’i waredu. Mae’r gyfradd is hefyd yn creu cymhelliant cryf i gamddisgrifio gwastraff fel deunydd cymwys er mwyn osgoi talu’r gyfradd safonol. Mae hyn yn creu risg treth ac yn arwain at ganlyniadau amgylcheddol gwael gan y gall deunydd ar y gyfradd safonol sy’n cael ei waredu’n anghywir arwain at lygredd aer, daear, a dŵr wyneb.

1.10 Cyhoeddwyd adolygiad annibynnol o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 ym mis Gorffennaf 2023. Canfu’r adolygiad hwn fod y bwlch rhwng cyfraddau is a chyfraddau safonol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi wedi cyfrannu at gamddisgrifio gwastraff yn fwriadol:

1.11 Canfu’r adolygiad hefyd nad oedd cyfraddau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn gweithredu fel atalydd rhag triniaeth tirlenwi ar gyfer nifer o fathau penodol o wastraff. Priodolwyd hyn yn rhannol i gost ratach gwaredu gwastraff drwy dirlenwi o gymharu â ffyrdd eraill o drin gwastraff.

1.12 Er mwyn helpu i gyflawni ei hymrwymiad i wneud Cymru yn wlad Ddiwastraff, a lleihau’r risg treth a achosir drwy gamddisgrifio gwastraff, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnig i’r Senedd y dylid gwneud addasiad sylweddol i gyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae tri opsiwn ar gyfer addasu yn cael eu hystyried:

a. Dileu’r gyfradd is

1.13 O dan yr opsiwn hwn, byddai’r holl ddeunydd gwastraff a waredir drwy ei dirlenwi yn cael ei drethu ar y gyfradd safonol. Gallai’r gyfradd is gael ei dileu ar un cam, neu gellid ei chynyddu dros amser nes ei bod yn gyson â’r gyfradd safonol ac yna’i dileu.

b. Cynyddu’r gyfradd is yn sylweddol

1.14 O dan yr opsiwn hwn, byddai’r gyfradd is yn cael ei chynyddu’n sylweddol. Un ffordd o wneud hynny fyddai cadw’r gyfradd is ar ganran o’r gyfradd safonol.

c. Newid y deunyddiau y mae’r gyfradd is yn gymwys iddynt

1.15 O dan yr opsiwn hwn, byddai rhai categorïau o ddeunydd cymwys yn cael eu dileu a byddent yn dod yn rhai cyfradd safonol. Un ffordd o wneud hynny fyddai ond cadw categorïau o ddeunydd cymwys ar y gyfradd is nad ydynt yn addas i’w defnyddio yn llai, i’w hailddefnyddio, i’w hailgylchu, nac i’w gwaredu drwy ddulliau mwy cynaliadwy. Gallai’r opsiwn hwn gael ei gyfuno ag opsiwn b.

Effaith

1.16 Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am sylwadau a thystiolaeth ar effaith bosibl yr opsiynau hyn. Mae effeithiau posibl yn cynnwys:

  • amharu ar fodelau busnes rhai cynhyrchwyr gwastraff a Gweithredwyr Safleoedd Tirlenwi
  • prisiau cynyddol am gynhyrchion sy’n gofyn am ddefnyddio deunydd cymwys
  • newid yn y galw i rai busnesau, megis y rhai sy’n rhan o ddiwydiannau trin ac ailgylchu
  • gwastraff yn cael ei symud dros y ffin i wledydd eraill, o ganlyniad i gyfraddau treth gwahanol o dan drethi tirlenwi gwahanol
  • cynnydd o ran faint o wastraff sy’n cael ei waredu heb awdurdod

Cwestiynau ymgynghori

Cwestiynau ar bob opsiwn

Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniad terfynol ar addasu cyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, gan ystyried:

  • yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn
  • unrhyw sylwadau perthnasol eraill a wnaed y tu allan i’r ymgynghoriad hwn
  • gwaith parhaus i ddadansoddi effeithiau
  • egwyddorion treth Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried yr opsiynau canlynol ar gyfer addasu cyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi:

  1. dileu’r gyfradd is
  2. cynyddu’r gyfradd is yn sylweddol
  3. newid y deunyddiau y mae’r gyfradd is yn gymwys iddynt.

Cwestiwn 1.1

Mae egwyddorion treth Llywodraeth Cymru yn nodi y dylai trethi Cymru:

  • godi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl,
  • cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru,
  • bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml,
  • cael eu datblygu drwy gydweithio a chyfranogi,
  • cyfrannu at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o greu Cymru sy’n fwy cyfartal.

A ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod yr opsiynau hyn yn gyson ag egwyddorion treth Llywodraeth Cymru? Esboniwch eich ymateb.

Cwestiwn 1.2

Yn eich barn chi, pa effeithiau cadarnhaol, os o gwbl, y byddai’r opsiynau hyn yn eu cael ar:

  1. yr amgylchedd
  2. yr economi
  3. pobl Cymru
  4. chi a/neu’ch busnes

Cwestiwn 1.3

Sut y gellid addasu’r opsiynau hyn er mwyn cynyddu neu ychwanegu at unrhyw effeithiau cadarnhaol?

Cwestiwn 1.4

Yn eich barn chi, pa effeithiau negyddol, os o gwbl, y byddai’r opsiynau hyn yn eu cael ar:

  1. yr amgylchedd
  2. yr economi
  3. pobl Cymru
  4. chi a/neu’ch busnes

Cwestiwn 1.5

Sut y gellid addasu’r opsiynau hyn er mwyn lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Cwestiwn 1.6

A ydych yn credu y dylai’r dreth gynnwys cyfradd is, fel y mae ar hyn o bryd? Esboniwch eich ymateb.

Cwestiynau ynglŷn ag opsiwn a: dileu’r gyfradd is

Cwestiwn 1.7

Gellid dileu’r gyfradd is drwy un diwygiad, neu mewn camau. Beth yw manteision ac anfanteision pob opsiwn yn eich barn chi? Esboniwch eich ymateb.

Cwestiwn 1.8

Pe bai’r gyfradd is yn cael ei dileu mewn camau, beth, yn eich barn chi, fyddai’r ffordd orau o’i dileu’n raddol a pham?

Cwestiwn 1.9

Pe bai’r gyfradd is yn cael ei dileu drwy un diwygiad, faint o amser y byddai ei angen i baratoi’n ddigonol ar gyfer y newid hwn, yn eich barn chi? Os yw’n berthnasol, pa gamau y byddai angen ichi eu cymryd i baratoi’ch busnes ar gyfer y newid hwn?

Cwestiwn 1.10

Pe bai’r gyfradd is yn cael ei dileu, pa rwystrau, os o gwbl, a fyddai’n cael eu hwynebu wrth addasu i’r newid hwnnw, yn eich barn chi?

Cwestiynau ynglŷn ag opsiwn b: cynyddu’r gyfradd is

Cwestiwn 1.11

Pe bai’r gyfradd is yn cael ei chadw, beth ddylai’r gyfradd honno fod, yn eich barn chi, a pham?

Cwestiwn 1.12

Pa rwystrau, os o gwbl, a fyddai’n cael eu hwynebu wrth addasu i gynnydd sylweddol yn y gyfradd is, yn eich barn chi?

Cwestiynau ynglŷn ag opsiwn c: newid y deunyddiau sydd ar y gyfradd is

Cwestiwn 1.13

A oes unrhyw ddeunyddiau cymwys sy’n arbennig o anodd i’w lleihau, eu hailddefnyddio, eu hailgylchu neu eu gwaredu drwy ddulliau mwy cynaliadwy na thirlenwi? Esboniwch eich ymateb.

Cwestiwn 1.14

Pa ddeunyddiau cymwys y dylid eu cadw ar y gyfradd is, yn eich barn chi? Esboniwch eich ymateb.

Cwestiwn 1.15

Pa ddeunyddiau cymwys y dylid eu symud i’r gyfradd safonol, yn eich barn chi? Esboniwch eich ymateb.

Cwestiynau ehangach

Cwestiwn 1.16

Pa ddulliau o leihau, ailddefnyddio, ailgylchu neu waredu deunyddiau cymwys mewn ffordd fwy cynaliadwy rydych yn ymwybodol ohonynt? Os yw’n berthnasol, pa ddulliau ydych chi’n eu defnyddio ar hyn o bryd?

Cwestiwn 1.17

Ym mha ffyrdd eraill y gallai Llywodraeth Cymru wella cymhellion ariannol i leihau, ailddefnyddio, ailgylchu neu waredu deunyddiau cymwys drwy ddulliau mwy cynaliadwy na thirlenwi?

Cwestiwn 1.18

Pa opsiynau eraill y byddech yn eu hargymell i leihau’r risg y caiff gwastraff ei gamddisgrifio er mwyn talu llai o dreth?

Cwestiwn 1.19

Beth yn rhagor y gellid ei wneud/beth y gellid ei wneud mewn ffordd wahanol i leihau’r risg o waredu gwastraff heb awdurdod, yn eich barn chi?

Y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am safbwyntiau ar unrhyw effeithiau y gallai’r opsiynau hyn eu cael ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 2.1

Pa effaith, os o gwbl, y byddai’r opsiynau hyn yn ei chael ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg?

Cwestiwn 2.2

A ydych chi’n credu y gellid newid yr opsiynau hyn er mwyn cefnogi’r Gymraeg yn well a sicrhau ei bod yn cael ei thrin yn gyfartal â’r Saesneg? Esboniwch eich ymateb.

Sylwadau eraill

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion neu sylwadau cysylltiedig yr hoffech eu rhannu, defnyddiwch y lle isod i wneud hynny:

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno eich sylwadau erbyn 15 Medi 2024, mewn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:

Yr Ymgynghoriad ar Gyfradd Is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Yr Is-adran Strategaeth Trethi a Chysylltiadau Rhynglywodraethol
Trysorlys Cymru
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a’u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei dal ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Information Commissioner’s Office

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth. 

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ran o’ch data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael ei chadw am fwy na thair blynedd.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG50193

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os bydd ei hangen arnoch mewn fformat gwahanol cysylltwch â ni.