Y diweddariadau polisi a llywodraethu TB buchol diweddaraf.
Cynnwys
Llywodraethu
Ein Dogfennau Polisi a Rhaglen TB
Mae ein polisi a'n chynllun cyflawni ar gyfer Dileu TB Gwartheg yn nodi sut rydym yn bwriadu dileu'r clefyd erbyn 2041. I weld y ddogfen hon, cliciwch ar y ddolen isod:
Rhaglen dileu TB Gwartheg Cymru: cynllun cyflawni 2023 | LLYW. CYMRU
Grŵp Cynghori Technegol
Mae'r Grŵp Cynghori Technegol yn rhoi cyngor arbenigol annibynnol i Lywodraeth Cymru ar y rhaglen dileu TB.
Ar 17 Ebrill 2024 cyfarfu'r Grŵp Cynghori Technegol TB Gwartheg (TAG) am y tro cyntaf a thrafod lladd ar y fferm fel eu blaenoriaeth gyntaf.
Derbyniwyd eu hargymhellion yn llawn gan Brif Swyddog Milfeddygol Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. O ganlyniad, gwnaed newidiadau ar unwaith i'r polisi lladd ar y fferm o 17 Mai ymlaen (gweler yr adran polisi ymhellach i lawr y dudalen).
Bydd y TAG yn cyfarfod bob tri mis i roi cyngor i Weinidogion Cymru drwy Fwrdd y Rhaglen TB fydd yn cael ei greu cyn hir. Yn y cyfamser, tan hynny, bydd cyngor yn cael ei roi imi drwy'r Prif Swyddog Milfeddygol.
Am fwy o wybodaeth am y TAG ac i weld cofnodion cyfarfodydd gweler:
Grŵp Cynghori Technegol TB Gwartheg Cymru
Bwrdd y Rhaglen
Bydd Bwrdd y Rhaglen yn darparu argymhellion strategol i Lywodraeth Cymru ar TB gwartheg, gan ddefnyddio cyngor y TAG.
Mae'r broses recriwtio i'r Bwrdd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ac rydym yn gobeithio cyhoeddi rhagor yn y dyfodol agos.
Mae angen inni sicrhau bod gennym y set gywir o sgiliau ar Fwrdd y Rhaglen o ran cyfranogiad ein rhanddeiliaid. Bydd hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth a bod gennym ddull o'r gwaelod i fyny o ymdrin â'n rhaglen dileu TB yng Nghymru.
Bydd angen i'r Bwrdd ystyried ffyrdd newydd o ymgysylltu â diwydiant, ffermwyr a rhanddeiliaid eraill.
Polisi
Yn ystod y 12 mis diwethaf rydym wedi gwrando ar adborth ac wedi cyflwyno'r newidiadau polisi canlynol:
Newid gofynion profi ar gyfer lloi o dan 42 diwrnod oed
Newid y trefniadau ar gyfer lladd ar y fferm
Yn ogystal, drwy Brosiect Sir Benfro, gyda chyllid Llywodraeth Cymru, mae trefniadau llywodraethu newydd ar gyfer dileu TB ar lefel leol yn cael eu harchwilio drwy rymuso milfeddygon a ffermwyr i wneud penderfyniadau gwybodus a dangos arweiniad o ran rheoli clefydau.
Nod y prosiect yw gweithio ar sampl fach o ffermydd yn Sir Benfro, gan roi'r grym i filfeddygon a ffermwyr allu gwneud penderfyniadau cytbwys a dangos arweiniad o ran rheoli’r clefyd. Bydd yn datblygu ac yn cyflwyno rhagor o fesurau ar gyfer rheoli TB gwartheg, yn ychwanegol at y mesurau statudol sydd ar waith ar hyn o bryd.
Mae dechrau cadarnhaol wedi'i wneud, drwy:
- gwblhau cyfres lwyddiannus o ddigwyddiadau hyfforddi milfeddygon (yn bersonol ar y fferm ac yn rhithwir)
- recriwtio ffermydd sy'n cymryd rhan drwy ddadansoddiad cychwynnol o hanes profi buchesi i nodi anifeiliaid risg uchel ac asesu safonau bioddiogelwch.
Bydd astudiaeth gwyddorau cymdeithasol yn cael ei chynnal i ddeall agweddau milfeddygon a ffermwyr at TB yn well cyn ac ar ôl cymryd rhan.
Ein gobaith yw y byddwn yn dysgu yn sgil y prosiect hwn ac yn annog ardaloedd eraill i roi technegau ymgysylltu a chyd-gynhyrchu tebyg ar waith.
Manylion cyswllt
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch llywodraethu neu bolisïau newydd, cysylltwch â'r tîm TB gwartheg gan ddefnyddio'r e-bost canlynol: BovineTB@llyw.cymru
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cyflwyno polisïau presennol yng Nghymru, cysylltwch â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion gan ddefnyddio'r manylion isod:
Ffôn: 0300 303 8268
E-bost: APHA.CymruWales@apha.gsi.gov.uk
Gwefan: Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion