Creu Parc Cenedlaethol newydd i Gymru.
Cynnwys
Ein hymrwymiad
Yn ein Rhaglen Lywodraethu, nodwyd y byddem yn creu Parc Cenedlaethol newydd. Byddai o amgylch Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Pam Creu Parc Cenedlaethol newydd
Mae parciau cenedlaethol yn bwysig i'n hamgylchedd. Maent yn ein helpu i:
- fynd i'r afael â'r argyfwng natur
- sicrhau twristiaeth fwy cynaliadwy
Sut i greu Parc Cenedlaethol newydd
Mae dynodi Parc Cenedlaethol yn fenter sylweddol. Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r awdurdod dynodi statudol. Rydym wedi gofyn i CNC edrych ar yr achos dros Barc Cenedlaethol newydd. Bydd angen:
- ymgynghori â chymunedau lleol ac awdurdodau lleol perthnasol
- asesu'r nodweddion daearyddol yn yr ardal
- gwirio addasrwydd yr ardal yn erbyn diffiniadau cyfreithiol o'r hyn y dylai Parc Cenedlaethol fod
- pennu ffiniau delfrydol y parc newydd
- gwneud argymhellion i'n Gweinidogion
I wybod mwy, ewch i'r Cynnig am Barc Cenedlaethol Newydd yng Nghymru (ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru).