Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau am y cynllun i helpu'r rhai sy'n gadael gofal i gael swm penodol o arian gan y llywodraeth i dalu costau anghenion sylfaenol.

Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru: cynllunio polisi

Beth yw’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru?

O ran y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru:

  • Mae ar gael i’r rhai sy’n gadael gofal ac sy’n troi’n 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023
  • Mae’n gwneud taliad misol o £1,600 (£1,280 ar ôl treth) i’r holl dderbynyddion cymwys sy’n dewis cymryd rhan yn y cynllun peilot, drwy BACS
  • Mae’n gwneud taliadau am gyfnod o 24 mis, gan ddechrau fis ar ôl pen-blwydd y derbynnydd yn 18 oed
  • Mae ar gael i’r rhai 18 oed sy’n gadael gofal yng Nghymru yn ystod y terfyn amser agoriadol o 12 mis, sy’n cynnwys y plant hynny sy’n derbyn gofal mewn lleoliad y tu allan i Gymru ond sy’n parhau’n gyfrifoldeb awdurdod lleol yng Nghymru
  • Mae’n cael ei gyflwyno am gyfanswm o 36 mis, gydag unigolion yn ymuno â’r cynllun peilot ac yn ei adael yn ystod y terfyn amser hwn yn ôl eu hadeg ymuno
  • Nid yw’n orfodol; mae cymryd rhan yn y cynllun yn wirfoddol. Mae’r rhai sy’n gymwys i gymryd rhan yn cael cyfle i gymryd rhan yn y cynllun a chymorth i ymuno â’r cynllun peilot os yw’n briodol iddynt wneud hynny

Pwy sy’n gymwys ar gyfer y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru?

Mae unigolyn yn gymwys ar gyfer y peilot hwn os yw:

  • yn gadael gofal ac yn troi’n 18 oed rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023
  • wedi bod yn derbyn gofal awdurdod lleol am gyfnod o 13 wythnos, neu am gyfnodau sy’n dod i gyfanswm o 13 wythnos, a ddechreuodd ar ôl iddo ef neu hi gyrraedd 14 oed, ac a ddaeth i ben ar ôl iddo ef neu hi gyrraedd 16 oed
  • yn gadael gofal ac yn byw yng Nghymru, neu wedi’i osod y tu allan i Gymru ond yn cael ei gefnogi gan adran gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yng Nghymru

Efallai y bydd rhai sefyllfaoedd lle mae person mewn amgylchiadau penodol ond sydd fel arall yn bodloni’r meini prawf uchod yn ei chael hi’n fwy heriol nag eraill i gymryd rhan yn y cynllun peilot.

Pam mae'r cynllun peilot yn canolbwyntio ar bobl ifanc sy'n gadael gofal?

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi’r rhai sy’n byw mewn tlodi, i sicrhau eu bod yn cael cymorth ariannol digonol fel y gall pawb yng Nghymru fyw bywyd hapus ac iach. Er hynny, roedd angen i raddfa’r cynllun peilot incwm sylfaenol fod yn rhywbeth y gallem ei reoli a’i fforddio.

Mae gan bobl ifanc sy’n gadael gofal yr hawl i gael cymorth wrth iddynt dyfu’n oedolion ifanc annibynnol. Er hynny, mae gormod o bobl ifanc sy’n gadael gofal yn parhau i wynebu rhwystrau sylweddol wrth bontio i fywyd oedolyn. Mae incwm sylfaenol yn fuddsoddiad uniongyrchol yn y garfan hon o bobl ifanc, gan roi’r cyfle iddynt ffynnu, a sicrhau eu hanghenion sylfaenol ar yr un pryd.

Rydym yn gweithio gyda’r garfan hon dros unrhyw grwpiau eraill sydd fel arfer yn wynebu tlodi ac unrhyw fathau eraill o anfantais er mwyn deall yr heriau unigryw y mae pobl ifanc sy’n gadael gofal yn eu hwynebu. Rydym am weld a allai ymestyn y cyfnod y darperir cymorth iddynt gael effaith gadarnhaol wrth iddynt bontio i fywyd oedolyn. Byddwn yn defnyddio’r ddealltwriaeth hon i weld sut y gallai taliadau ariannol ac aildrefnu’r system eu helpu’n well i fyw y math o fywydau y maent am eu byw.

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn grŵp y mae Llywodraeth Cymru wedi dewis buddsoddi ynddo yn gyson. Er enghraifft, mae wedi ychwanegu at daliad y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, wedi gwneud rhagor o esemptiadau mewn perthynas â’r Dreth Gyngor ac wedi sefydlu Cronfa Dydd Gŵyl Dewi. O gymharu â’u cyfoedion, cydnabyddir bod pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal dan anfantais anghymesur, a bod y rhai sy’n rhan o’r grŵp hwn, yn ystadegol, yn fwy tebygol o wynebu materion fel digartrefedd, caethiwed a salwch meddwl.

Mae’r cynllun peilot hwn yn adeiladu ar y cymorth a gynigir ar hyn o bryd i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru. Y nod yw sicrhau bod y bobl ifanc sy’n cymryd rhan ynddo yn cael pob cymorth sydd ei angen er mwyn cael y cyfle gorau posibl i lwyddo yn y byd, gan adael gofal mewn sefyllfa fwy cadarnhaol.

Pam mae'r cynllun peilot yn canolbwyntio ar bobl ifanc sy'n gadael gofal sy’n troi'n 18 oed yn ystod cyfnod 12 mis penodol?

Gallai rhoi cymorth ychwanegol i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn fuan ar ôl iddynt droi’n 18 oed ddarparu sylfaen fwy cadarn i adeiladu eu bywydau fel oedolion arni.

Pan fyddant yn 18 oed, yn gyfreithiol bydd pob un sy’n derbyn y cymorth hwn yn oedolion ac yn gallu manteisio’n llawn ar y system fudd-daliadau. Gan mai’r awdurdod lleol fydd wedi arfer swyddogaeth rhiant corfforaethol hyd yma, rydym yn disgwyl y bydd y garfan yn parhau i fod mewn cyswllt â thîm gwasanaethau cymdeithasol eu hawdurdod lleol ac yn cael cefnogaeth ganddynt.

Mae cynnal cynllun peilot am gyfnod cyfyngedig yn ein galluogi i werthuso ac asesu effaith y polisi ar y grŵp hwn o bobl ifanc, a chael dealltwriaeth ehangach o werth incwm sylfaenol fel dull gweithredu.

Faint fydd hyn yn ei gostio?

Mae’r Gweinidogion wedi dyrannu £20m i’r broses o weithredu'r cynllun peilot hwn dros 3 blynedd.

A oes unrhyw amodau?

Nid oes unrhyw amodau na gofynion ynghlwm wrth y taliad. Bydd yr un swm gros yn cael ei dalu i bawb ac ni fydd yn cael ei addasu yn ystod y cynllun peilot. Bydd y taliadau yn cael eu gwneud i unigolion ac nid i aelwydydd.

Beth fydd yn digwydd pan ddaw'r cynllun peilot i ben?

Mae Llywodraeth Cymru yn credu y bydd y dull hwn o gefnogi’r rheini sy’n gadael gofal yn golygu y byddant mewn gwell sefyllfa i ymdopi â’r hyn a ddaw ar ôl y cynllun peilot a cham nesaf eu bywyd.

Mae’r cynllun peilot wedi cael ei gynllunio fel bod y rhai sy’n derbyn cymorth yn cael mwy na dim ond trosglwyddiad ariannol. Mae cymorth ychwanegol yn cael ei gynnig, gyda’r nod o feithrin eu hyder i ymdopi â’r byd y tu hwnt i’r system ofal.

Maent yn cael mynediad at gymorth a chefnogaeth ariannol yn unigol gan Gyngor ar Bopeth Cymru, cânt eu llywio a chânt gynnig cymorth ychwanegol sy’n ymwneud â lles, addysg a gwaith, yn ogystal â chyngor ariannol ehangach.

Mae’r cynllun peilot yn cael ei werthuso’n fanwl, a bydd hynny’n cynnwys adborth gan y rhai sy’n derbyn cymorth a rhanddeiliaid ynghylch effeithiolrwydd a phrosesau gweinyddu’r incwm sylfaenol. Bydd y gwerthusiad parhaus hwn a’r adborth yn llywio’r ffordd y byddwn yn cefnogi’r rhai sy’n derbyn cymorth wrth i’r ddwy flynedd o incwm sylfaenol ddod i ben.

A oes risg na fydd rhai pobl ifanc sy’n gadael gofal yn gweithio neu’n chwilio am addysg yn ystod cyfnod 24 mis y taliadau? A fydd hyn yn eu gadael ar ôl ac yna yn ôl lle roedden nhw?

Gwyddom, ar sail cynlluniau treialu, arbrofi a pheilot rhyngwladol o incwm sylfaenol, mai ychydig iawn o unigolion na wnaeth ymgysylltu o gwbl ag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Yn wir, mae rhai wedi manteisio ar y cyfle a ddaeth, yn sgil sefydlogrwydd incwm sylfaenol, er mwyn dechrau eu busnesau eu hunain neu ailgydio yn eu haddysg, neu wedi cael hyder i chwilio am swyddi mwy diogel a oedd yn talu’n uwch.

Wedi dweud hynny, rydym yn ymwybodol bod cynnig Cymru yn sylweddol uwch na’r hyn a gynigiwyd yn ein henghreifftiau o wledydd eraill. Bydd angen inni, felly, gadw llygad ar yr hyn a ddysgwn o’n cynllun peilot wrth iddo fynd yn ei flaen, a dyna un o’r rhesymau pam ein bod yn dilyn llwybr dysgu gweithredol wrth fynd ati i werthuso a monitro. O’r herwydd, bydd yn bwysig, wrth gyfathrebu’n gyson â’r rhai sy’n derbyn cymorth drwy awdurdodau lleol, Voices from Care Cymru a Chyngor ar Bopeth, ein bod yn pwysleisio mai dim ond am 24 mis y mae’r cynllun peilot hwn yn para, a’n bod yn rhoi’r wybodaeth a’r gefnogaeth angenrheidiol iddynt wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth, yn ôl eu hamgylchiadau a’u huchelgeisiau.

Rydym hefyd yn helpu i sicrhau bod y bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn ymwybodol o fentrau polisi eraill Llywodraeth Cymru, megis y Warant i Bobl Ifanc. Ymrwymiad allweddol Llywodraeth Cymru i bawb o dan 25 oed sy’n byw yng Nghymru yw hwn, gan eu cefnogi i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, a’u helpu i gael gwaith neu i fynd yn hunangyflogedig.

Faint o bobl y mae disgwyl iddynt gael y taliad hwn?

Bydd pob person ifanc sy’n gadael gofal ac sy’n troi’n 18 oed yn ystod cyfnod penodol o 12 mis, ac sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd perthnasol, yn cael cyfle i gymryd rhan yn y cynllun peilot hwn.

Dechreuodd y cynllun peilot ar 1 Gorffennaf 2022 ac rydym yn disgwyl y bydd dros 500 o bobl ifanc yn gymwys i ymuno â’r cynllun. Nid yw’n orfodol iddynt gymryd rhan, felly ni fydd union niferoedd ar gael tan i’r cyfnod 12 mis ddod i ben ar 30 Mehefin. Cysylltir â’r bobl ifanc sy’n gymwys cyn eu pen-blwydd yn 18 oed i roi’r wybodaeth lawn iddynt am y cynllun, yr hyn y mae’n ei olygu iddynt, sut i gymryd rhan a pha gymorth ychwanegol sydd ar gael iddynt. Os nad yw’r unigolyn am dderbyn taliad y cynllun peilot incwm sylfaenol bryd hynny, nid oes rhaid iddo ymgeisio. Rydym yn gofyn i’r rhai sy’n dewis peidio ag ymgeisio i lenwi ffurflenni peidio â chymryd rhan i ddeall y rhesymau pam.

Pam nad ydym yn cynnig incwm sylfaenol ar sail ddaearyddol?

Prif nod y polisi yw cefnogi pobl ifanc sy’n gadael gofal i bontio yn y modd mwyaf cadarnhaol posibl o ofal awdurdod lleol, gan ddefnyddio incwm sylfaenol fel ffordd o wneud hyn.

Dull gweithredu yw incwm sylfaenol, yn hytrach na diben ein rhaglen, ond rydym yn credu bod ein cynllun peilot yn cyfrannu at ddatblygiad byd-eang. Mae tua 80 o dreialon incwm sylfaenol amrywiol yn cael eu cynnal ar draws y byd. Mae pob un ohonynt yn canolbwyntio’n benodol ar rywbeth gwahanol, a phob un yn darparu gwersi pwysig ynghylch yr hyn y gall incwm sylfaenol ei gynnig o ran manteision a heriau.
Nid oes rhaid i Gymru wneud yr holl waith arbrofi hwn drosti ei hun. Gallwn gyfrannu’r hyn a ddysgwn o’n gwaith ni ac elwa ar yr hyn a ddysgir o waith sy’n digwydd yn fyd-eang.

A fydd arian sydd eisoes ar gael yn cael ei atal e.e. Cronfa Dydd Gŵyl Dewi?

Na. Mae'r incwm sylfaenol yn ychwanegol at y cymorth presennol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i'r garfan hon yng Nghymru. At hynny, byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol a darparwyr allanol eraill barhau i gynnig cymorth lleol i'r garfan hon fel y byddent fel arfer. Ni ddylai'r cynllun peilot incwm sylfaenol olygu unrhyw gwtogi ar y cymorth a gynigir neu a ddarperir.

Pa gynlluniau wrth gefn sydd ar waith os aiff pethau o chwith?

Rydym yn gobeithio y bydd y rhai sy’n derbyn y cymorth incwm sylfaenol yn ei gael yn gyfle cadarnhaol sy'n gwella bywyd, ac yn gyfrwng i symud ymlaen i fywyd llwyddiannus fel oedolyn. Bwriad cynnig incwm sylfaenol yw rhoi'r sicrwydd incwm i unigolion i'w galluogi i wneud dewisiadau ar sail eu huchelgeisiau, eu dyheadau a'u hamgylchiadau unigol. Serch hynny, gwyddom y gallai rhai ei chael yn anodd cael cymorth o'r fath, ac felly mae deialog gyson rhwng y rhai sy'n cyflwyno'r cynllun a'r unigolion hynny sy'n derbyn y cymorth yn hanfodol.

Mae sicrhau y gall pob person ifanc wneud dewis gwybodus am eu rôl nhw, o'r cychwyn cyntaf, a thrwy ymgysylltu cyson, yn hanfodol. Dylai'r wybodaeth hon a thrafodaethau cysylltiedig adlewyrchu amgylchiadau personol pawb fel y gall yr unigolyn wneud dewis gwybodus am ei gamau nesaf. Dylid atgoffa’r rhai sy’n derbyn cymorth hefyd faint o fisoedd o gymorth sy'n weddill yn rheolaidd, rhag i ddiwedd y peilot ddod yn sioc iddynt, ac er mwyn iddynt gynllunio yn unol â hynny.

Dylai’r cymorth a fyddai fel arall yn cael ei ddarparu i'r garfan hon aros yn ei le hefyd – nid yw incwm sylfaenol yn disodli'r ddarpariaeth gymorth bresennol. Dylai'r un gweithdrefnau a llwybrau diogelu barhau ar gyfer y rhai sy'n derbyn incwm sylfaenol ag a fyddai fel arall ar waith ar gyfer unrhyw un 18 oed sy'n gadael gofal.

Mae'n werth cofio hefyd nad yw cymryd rhan yn y peilot yn orfodol. Os bydd person ifanc yn dymuno tynnu'n ôl o'r peilot, gall wneud hynny. Fodd bynnag, at ddibenion y peilot hwn, byddai hyn yn benderfyniad terfynol ac ni fyddai'n gallu ailymuno yn ddiweddarach.

Gweithredu'r cynllun Ppeilot

Pwy fydd yn darparu’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru?

Mae ystod o gyrff a gweithwyr proffesiynol yn chwarae rôl hollbwysig yn y gwaith o weithredu gwahanol agweddau ar y cynllun peilot incwm sylfaenol i bobl ifanc sy’n gadael gofal yng Nghymru. Yn eu plith mae awdurdodau lleol, darparwr y taliad, Cynghorwyr Pobl Ifanc, a chyrff y trydydd sector.

Beth sy’n digwydd os yw’r rhai sy’n cael incwm sylfaenol yn symud o Gymru?

Os bydd unigolyn yn bodloni’r tri maen prawf uchod ac yn cael ei gefnogi gan adran gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yng Nghymru nes ei fod yn 18 oed, caiff dderbyn yr incwm sylfaenol, lle bynnag y bydd yn dewis byw ar ôl ei ben-blwydd yn 18.

Beth os yw awdurdodau lleol wedi lleoli rhywun sy’n gadael gofal yn Lloegr? A fyddent wedyn yn anghymwys ar gyfer y peilot?

Os yw’r rhain yn bobl ifanc a gefnogir gan awdurdodau lleol yng Nghymru, maent yn parhau i fod yn gymwys i fanteisio ar y peilot, gan na ddylent fod o dan anfantais oherwydd eu lleoliad.

A fydd yna gyfyngiadau o gwbl o ran sut bydd y rhai sy’n derbyn cymorth yn defnyddio’r arian?

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar sut y bydd pobl yn dewis gwario eu taliad incwm sylfaenol.

Mae’r dystiolaeth o’r profion hyd yma yn dynodi bod yr arian, ar y cyfan, wedi’i wario’n briodol.

Caiff yr unigolion eu llywio a chânt gymorth ychwanegol i’w hannog i wneud dewisiadau cadarnhaol.

Pwy fydd yn delio â chwynion posibl gan eraill sy’n gadael gofal nad ydynt yn bodloni’r meini prawf, ee oedran/cyfnod gweithredu? Gallai rhoi’r arian i un aelod o deulu, gan ei wrthod i un arall, effeithio ar gydberthnasau/ymgysylltu teuluol.

Fel yn achos pob cynllun peilot ar gyfer polisi newydd, dim ond hyn a hyn o bobl all fanteisio arno, a hynny o fewn amserlen benodol, cyn mynd ati i asesu’r polisi yn briodol gyda’r nod o benderfynu p’un a yw’n gweithio. Mae pob gohebiaeth ynghylch y peilot hwn hyd yma wedi ei gwneud yn glir mai i garfan gyfyngedig o unigolion yn unig y cynigir hyn dros gyfnod cyfyngedig. Mae’n bwysig bod y sawl sy’n cefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cyfleu’n glir y meini prawf bob amser, er mwyn osgoi camddeall neu gamddehongli.

A oes yna ddisgwyliad i ddarparwyr gwasanaethau gadw cofnod o sut mae’r bobl ifanc yn gwario’r arian hwn?

Nac oes, er y gallai hyn fod yn destun ymchwil a wneir ochr yn ochr â’r cynllun peilot.

Gwneud cais i ymuno

Sut gall unigolion cymwys wneud cais?

Bydd gwasanaethau cymdeithasol neu ei Gynghorydd Pobl Ifanc yn cysylltu ag unrhyw berson ifanc sy’n gymwys i dynnu ei sylw at y cynllun peilot a’i wahodd i gwblhau cyfrifiad ‘gwell ei fyd’ â chynghorwyr cymwys. Bydd y cyfrifiad hwn yn ymdrin ag unrhyw effeithiau y gallai hyn eu cael ar ei hawl i fudd-daliadau.

Er mwyn cofrestru, mae angen i berson ifanc gadarnhau ei fod yn cydsynio i ymuno â’r peilot, cwblhau cyfres o gwestiynau yn unol â’r system monitro cydraddoldebau, a darparu manylion ei gyfrif er mwyn derbyn taliadau.

Pa gyngor a roddir i'r rhai sy'n gadael gofal cyn iddynt gofrestru?

Cyn iddynt wneud unrhyw benderfyniad ynghylch ymuno â’r peilot, gwahoddir ymgeiswyr cymwys i gwrdd (dros y ffôn neu wyneb yn wyneb) â chynghorydd annibynnol lle cânt gyfle i drafod y broses ymgeisio/taliadau, ac effeithiau posibl hyn ar eu hawl i fudd-daliadau. Bydd hyn yn eu galluogi i wneud dewis gwybodus.

Bydd y drafodaeth yn cynnwys gwybodaeth am fudd-daliadau, addysg, cyflogaeth a’r pecyn ehangach o gymorth.

A yw darparwyr gwasanaethau yn cynnig enwau unigolion addas sy’n gadael gofal neu a ydynt yn cael eu dewis ar hap?

Nid yw unigolion cymwys yn cael eu dewis ar hap. Os yw person ifanc yn bodloni’r meini prawf, yna bydd yn gymwys i fanteisio ar y peilot.

A yw'n orfodol i unigolion cymwys wneud cais a derbyn y taliad?

Os na fydd unigolion cymwys yn dymuno cael y taliad incwm sylfaenol, ni fydd rhaid iddynt fod yn rhan o’r cynllun. Bydd pawb sy'n gymwys yn cael cyfle i gael gwybod mwy ac i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a ydynt am gymryd rhan yn y peilot ai peidio.

Os bydd Cynghorydd Pobl Ifanc o’r farn bod person ifanc yn wynebu risg am ba reswm bynnag, a ellir ei atal rhag cofrestru ar gyfer y peilot?

Fel mater o egwyddor, dylai pawb sy’n bodloni’r meini prawf allu cofrestru ar gyfer y peilot os dewisant wneud hynny. Ni ddylid trin incwm sylfaenol yn wahanol i unrhyw fath arall o incwm; ni fyddem, er enghraifft, yn atal y rheini sy’n gadael gofal rhag ennill cyflog nac yn argymell na ddylent gofrestru ar gyfer Credyd Cynhwysol (CC) os oes ganddynt hawl i wneud hynny. Dylid dilyn y gweithdrefnau diogelu sy’n bodoli, a dylid cynnig cefnogaeth ac arweiniad unigol yn unol â’r risg dybiedig.

A all unigolyn sy’n derbyn cymorth ddewis gadael y peilot cyn i'w gyfnod 24 mis ddod i ben?

Gall. Os bydd unigolyn sy’n derbyn cymorth yn dymuno gadael y peilot, gall wneud hynny ar unrhyw adeg. Bydd yn ofynnol iddo lenwi ffurflen ‘tynnu’n ôl’ a bydd ei benderfyniad yn cael ei nodi yn unol â hynny, a bydd y taliadau’n dod i ben y mis ar ôl iddo gadarnhau ei fod am adael. Ni fydd unrhyw un sy’n dewis gadael y peilot yn gynnar yn gallu ailymuno yn ddiweddarach.

Manylion o ran y bobl Ifanc sy’n gadael gofal

Beth yw’r rhagolygon i’r rhai sy’n gadael gofal?

Fel rheol, mae’r rhagolygon ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn llai cadarnhaol nag ar gyfer y bobl ifanc hynny sy'n byw gartref gyda rhiant neu rieni. Gwyddom fod pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn llai tebygol o ennill cymwysterau addysgol da, eu bod yn profi mwy o anghenion o ran iechyd ac o ran llety, a’u bod yn fwy tebygol o gamddefnyddio sylweddau ac ymgysylltu â'r system cyfiawnder troseddol.
Yn aml, mae'n ofynnol i'r rhai sy'n gadael gofal fyw'n annibynnol yn llawer cynt na'u cyfoedion nad ydynt wedi bod mewn gofal. Dengys data 2021, er bod 19% o'r rhai a adawodd ofal wedi dychwelyd adref i fyw gyda'u rhieni neu rywun â chyfrifoldeb rhiant, fod llawer o bobl ifanc yn byw'n annibynnol neu'n lled-annibynnol gydag ystod amrywiol o gymorth.

Gall gadael gofal i fyw'n annibynnol neu'n lled-annibynnol fod yn frawychus i rai mor ifanc. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi pobl ifanc, gan eu helpu i fanteisio ar gyfleoedd ac opsiynau a gynigir fel y gallant ffynnu a gwireddu eu potensial.
Yn ogystal â'n hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i dreialu cynnig incwm sylfaenol, rydym yn cryfhau cyrff cyhoeddus yn eu rôl fel 'rhieni corfforaethol'. Mae hyn yn golygu codi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus am ein cyfrifoldeb cyffredin i gefnogi plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. I'r rhai sy'n gadael gofal, mae dyletswydd arnom i'w helpu i bontio'n llwyddiannus i fod yn oedolion ifanc annibynnol ac economaidd weithgar. Rydym yn gweld ein cynllun peilot incwm sylfaenol yn arwydd clir o'n hymrwymiad i gefnogi pobl ifanc sy'n gadael gofal a'u helpu i gael dechrau cadarnhaol ar eu bywyd fel oedolion.

A yw’r dystiolaeth ryngwladol ynghylch cynnig incwm sylfaenol yn darparu gwersi ynghylch y rhai sy'n gadael gofal?

Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau peilot incwm sylfaenol yn canolbwyntio ar boblogaethau cyffredinol neu grwpiau poblogaeth penodol eraill. Yn achos y cynlluniau peilot hynny sy'n canolbwyntio ar boblogaethau cyffredinol, mae'n ddigon posibl bod pobl sydd â phrofiad o ofal yn derbyn yr incwm sylfaenol, ond nid yw hon yn nodwedd benodol mewn unrhyw dystiolaeth sydd gennym hyd yma.

Mae cynllun a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2021 yn sir Santa Clara yng Nghaliffornia yn canolbwyntio ar bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal sy'n trosglwyddo o ofal maeth yn 25 oed. Mae’r rhai sy’n derbyn cymorth drwy’r cynllun hwn yn cael $1,000 y mis, ac ar hyn o bryd disgwylir iddo redeg tan fis Mawrth 2023. Mae hyn bellach yn cael ei ehangu ledled Califfornia, ar gyfer 2,500 o unigolion.

Er bod gwahaniaethau amlwg o ran cyd-destun a dull gweithredu, bydd y gwersi a ddysgwn o gynlluniau Cymru a Santa Clara yn creu sylfaen dystiolaeth ynghylch incwm sylfaenol i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, ac mae'r rhai sy'n llunio polisïau yng Nghymru a Santa Clara yn cydweithio i rannu’r gwersi ar draws y ddwy awdurdodaeth.

Swm y taliadau, budd-daliadau lles a threthu

Am ba hyd y bydd unigolion cymwys yn derbyn y taliadau?

Bydd unigolion cymwys yn derbyn taliad incwm sylfaenol am 24 mis o’r mis ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed.

Os tybiwn fod person ifanc sy’n gadael gofal yn troi’n 18 oed ym mis Gorffennaf 2022, bydd yn derbyn ei daliad cyntaf ym mis Awst ac yn parhau i’w gael bob mis tan fis Gorffennaf 2024.

Faint o arian y bydd gan unigolion cymwys hawl i'w gael drwy'r cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru?

Mae pawb sy’n cymryd rhan yn y cynllun peilot yn cael taliad o £1,600 y mis, cyn treth, am gyfnod o 24 mis. Mae Cyllid a Thollau EF a’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cadarnhau y bydd y taliad yn gysylltiedig â’r system dreth a budd-daliadau ac yn cael ei ystyried yn incwm.

Bydd taliadau yn cael eu trethu yn y tarddle, sy’n golygu y bydd cyfranogwyr yn cael £1,280 y mis, ar ôl treth.

Sut y bydd cymryd rhan yn y cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru yn gysylltiedig â'r system dreth a budd-daliadau?

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau na fydd y taliad incwm sylfaenol yn cael ei ddiystyru o safbwynt budd-daliadau. Bydd angen i unrhyw hawlwyr budd-daliadau sydd hefyd yn derbyn y taliadau incwm sylfaenol roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau, gan y bydd angen cyfyngu ar eu budd-daliadau yn unol â hynny. Bydd Taliadau Annibyniaeth Personol yn eithriad, a bydd y rhai sy’n derbyn taliadau incwm sylfaenol yn dal i fod yn gymwys ar eu cyfer. Bydd yn dal i fod hawl hefyd gan y rheini mewn tai â chymorth i wneud cais am Fudd-dal Tai.

Drwy bennu’r taliad incwm sylfaenol ar y lefel a bennwyd, yn weddol agos at y Cyflog Byw Gwirioneddol, bydd y rhan fwyaf o’r rhai sy’n gadael gofal yn dal i fod yn well eu byd, hyd yn oed os bydd eu hawl i fudd-daliadau lles yn dod i ben dros gyfnod y peilot. Mae sicrhau bod y rhai sy’n gadael gofal yn cael cyngor clir am effaith y peilot incwm sylfaenol ar eu hamgylchiadau penodol yn hanfodol er mwyn eu galluogi i wneud dewis gwybodus ynghylch a ydynt am fanteisio ar y cynllun.

Mewn perthynas â threthiant, mae’r swm gros o £1,600 y mis yn drethadwy ar y gyfradd dreth sylfaenol berthnasol. Caiff ei drethu yn y tarddle ar y gyfradd dreth sylfaenol, hynny yw cyn i’r unigolyn dderbyn y taliad.

Bydd taliadau treth pob unigolyn yn amrywio, yn dibynnu ar unrhyw incwm arall a enillir, a bydd angen datgan yr incwm sylfaenol fel incwm ychwanegol. I’r rheini nad ydynt yn ennill incwm ychwanegol, efallai y bydd hawl ganddynt i ad-daliad treth. Darperir help llaw i’r bobl ifanc fynd ati i hawlio unrhyw ad-daliad treth drwy’r gwasanaeth cyngor a chymorth ariannol.

Rydym yn cydnabod ein bod, ar lefel gros, wedi pennu taliad sy’n sylweddol uwch nag yn achos unrhyw gynllun peilot incwm sylfaenol arall a gynigiwyd yn y byd. Fodd bynnag, mae’n cyd-fynd yn fras â’r Cyflog Byw Gwirioneddol, ac rydym yn bwriadu i’r lefel hon o daliad wneud newid sylweddol a chadarnhaol i fywydau’r rhai sy’n ei dderbyn.

Sut fydd unigolion yn cael eu talu?

Bydd angen cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd ar bob unigolyn cymwys er mwyn cael y taliadau incwm sylfaenol.

Wrth gofrestru, bydd y bobl ifanc yn datgelu manylion eu cyfrif, a gaiff eu pasio i ddarparwr y taliad.

A fydd unigolion cymwys yn dal i dderbyn sgil-fudd-daliadau?

Gall unigolion cymwys sy'n derbyn budd-daliadau lles neu gredydau treth hefyd fod yn gymwys i gael sgil-fudd-daliadau – hynny yw, lle mae hawl i fudd-daliad penodol yn golygu bod hawl gan yr unigolyn hefyd i un neu fwy o fudd-daliadau lles eraill Llywodraeth y DU.

Mae sgil-fudd-daliadau yng Nghymru yn cwmpasu meysydd fel Iechyd, Tai, Cymorth i Fyfyrwyr Addysg Uwch, Ysgolion (gan gynnwys Prydau Ysgol am Ddim, Grant Gwisg Ysgol, a chymorth i dalu am deithiau preswyl ysgolion), Trafnidiaeth ac Ynni.

O dan y peilot, mae’r rhai sy’n derbyn y cymorth yn parhau i gael unrhyw rai o fudd-daliadau Cymru y byddai ganddynt hawl iddynt pe na baent wedi bod yn rhan o’r cynllun.

A yw'r taliad yn lleihau costau'r Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghymru i'r rhai a fyddai fel arall yn derbyn Credyd Cynhwysol?

Gallai hyn fod yn wir yn achos rhai. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r cynllun peilot er gwaethaf y gost i Lywodraeth Cymru.

Sylwais y bydd y taliad yn cael ei drin fel incwm heb ei ennill at ddibenion treth a budd-daliadau? A fydd yn rhaid cofnodi hynny ar wahân? A fydd y rhai sy’n derbyn y cymorth yn talu treth o’r £ cyntaf o enillion ac ati, felly?

Mae Cyllid a Thollau EF a’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cadarnhau y byddai’r taliad yn gysylltiedig â’r system dreth a budd-daliadau ac yn cael ei ystyried yn incwm.

Caiff y taliad ei drethu cyn i’r unigolyn dderbyn y taliad, a bydd yn cael y swm net (‘wedi treth’), sef £1,280.00 ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau na fydd y taliad incwm sylfaenol yn cael ei ddiystyru o safbwynt budd-daliadau. Drwy bennu'r taliad incwm sylfaenol ar y lefel a bennwyd, yn weddol agos at y Cyflog Byw Gwirioneddol, bydd y rhan fwyaf o'r rhai sy'n gadael gofal yn dal i fod yn well eu byd, hyd yn oed os bydd eu hawl i fudd-daliadau lles yn dod i ben dros gyfnod y peilot. Bydd sicrhau bod y rhai sy'n gadael gofal yn cael cyngor clir am effaith y peilot incwm sylfaenol ar eu hamgylchiadau penodol yn hanfodol er mwyn eu galluogi i wneud dewis gwybodus ynghylch a ydynt am fanteisio ar y cynllun.

A fydd hyn yn cyfrif fel incwm os yw person ifanc am wneud cais am rywbeth sy’n ei gwneud yn ofynnol datgan incwm, ee morgais?

Bydd. Ym mhob sefyllfa lle mae’n rhaid datgan incwm fel rhan o’r broses ymgeisio, rhaid datgan incwm sylfaenol fel incwm. Bydd sut i’w ddatgan yn amrywio yn ôl y math o gais a wneir, ond yn aml cyfeirir at arian o’r fath fel incwm ‘ychwanegol’, ‘arall’ neu ‘nas enillir’.

A fydd yna gofnod o’u cyfraniad Yswiriant Gwladol yn ystod y peilot?

Bydd yn dibynnu ar amgylchiadau unigol y rhai sy’n derbyn y cymorth; bydd rhai yn mynd ymlaen i weithio yn ystod y peilot, efallai y bydd rhai yn dechrau eu busnesau eu hunain, ac efallai y bydd rhai yn dal i gael budd-daliadau, a fydd yn cofrestru cyfraniadau Yswiriant Gwladol, tra bydd gan eraill fwlch yn eu cofnod, er enghraifft os ydynt yn parhau'n ddi-waith a heb hawlio budd-daliadau, neu’n hunangyflogedig ond heb dalu cyfraniadau oherwydd elw bach.

Nid yw'r taliadau incwm sylfaenol ynddynt eu hunain yn gyfystyr ag incwm a enillir o dan Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 ac, o ganlyniad, mae Cyllid a Thollau EM wedi cadarnhau nad yw'r taliadau’n agored i ddidyniadau YG. Mae hyn hefyd yn golygu, oni bai bod yr unigolyn sy’n derbyn y cymorth yn cyfrannu drwy incwm arall a enillir neu'n dewis gwneud cyfraniad YG gwirfoddol, y gallai fod ganddynt fwlch yn eu cofnod cyfraniadau YG, a allai eu rhoi dan fymryn o anfantais o ran budd-daliadau neu bensiwn y wladwriaeth yn ddiweddarach mewn bywyd.

O ystyried oedran y garfan hon a hyd y peilot, nid yw Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd hyn yn bryder sylweddol o ran eu cyfraniadau YG hirdymor. Bydd effaith bosibl hyn yn ffactor allweddol i dynnu sylw ato wrth i'r unigolion cymwys benderfynu a ydynt am fod yn rhan o'r cynllun, ac wrth eu cefnogi drwy gydol y cyfnod.

Er na fyddai’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y peilot ac yn ddi-waith yn gymwys i gael CC, byddant yn dal i allu cofrestru gyda’u swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol fel pobl ddi-waith. Os gallant ddangos eu bod ar gael am waith ac yn chwilio’n weithredol am waith, cânt gredyd YG Dosbarth 1 (am bob wythnos y bodlonant yr amodau). Bydd hyn hefyd yn golygu mynediad at y cyngor a’r gefnogaeth ynghylch cyflogaeth/hyfforddiant sydd ar gael o’r Ganolfan Byd Gwaith.

Gwybodaeth am sut i wneud cyfraniadau NI gwirfoddol (ar GOV.UK) 

Mae rhagor o wybodaeth am bwy sy’n gymwys i gael credydau YG (ar GOV.UK)

Beth sy’n digwydd ar y diwedd os oes rhaid gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ac aros i’r Credyd Cynhwysol gael ei dalu?

Mae paratoi ar gyfer diwedd y peilot yr un mor bwysig ag ar gyfer dechrau’r peilot. Caiff y rheini sy’n derbyn cymorth eu hatgoffa’n rheolaidd ynghylch pryd y daw’r cynllun i ben fel bod modd gwneud cynlluniau priodol ar gyfer trosglwyddo o’r peilot.

Mae cyngor a chymorth ariannol ar gael i’r unigolion drwy gydol y peilot. Bydd cynllunio ar gyfer beth sy’n digwydd ar ddiwedd y cyfnod yn rhan bwysig o’r cyngor hwn.

A allai’r rhai sy’n gadael gofal yng Nghymru ac yn derbyn incwm sylfaenol gael eu cosbi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar ddiwedd y peilot os ydynt wedi gadael eu gwaith o’u gwirfodd neu os nad ydynt wedi gweithio o gwbl yn ystod y cyfnod?

Gall unigolyn sy’n hawlio CC wynebu cosb lefel uchel os ystyrir ei fod yn ddi-waith yn wirfoddol. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cadarnhau y byddai’n ystyried bod person yn ddi-waith yn wirfoddol os yw, yn ystod y cyfnod tri mis cyn iddo hawlio CC, wedi gadael ei gyflogaeth heb reswm da.
Os bydd angen i berson ifanc hawlio CC ar ôl i’r incwm sylfaenol ddod i ben, ni ddylai fod mewn sefyllfa o fod yn ddi-waith yn wirfoddol, hy wedi dewis rhoi’r gorau i’w swydd(i) yn ystod tri mis diwethaf y taliadau incwm sylfaenol. Anogir person ifanc i gael cyngor diduedd cyn gwneud y penderfyniad i roi’r gorau i’w gyflogaeth.

Os bydd y rhai sy’n derbyn cymorth yn gwario’r taliadau incwm sylfaenol ar unwaith, a fyddai’n ofynnol i awdurdodau lleol ac eraill ddarparu cymorth ariannol, parseli bwyd / talu biliau cyfleustodau i’w cefnogi pe na bai arian ar ôl ganddynt?

Ni ddylai’r peilot incwm sylfaenol gwtogi ar y cymorth sydd eisoes ar gael. Os byddai gan bobl ifanc hawl i gymorth o’r fath yn ychwanegol at fathau eraill o incwm (ee budd-daliadau lles, incwm a enillir), yna dylai’r cymorth hwn ddal i fod ar gael iddynt.

A fydd rhaid i’r rhai sy’n derbyn cymorth agor cyfrif i gynilo rhai o’r taliadau incwm sylfaenol, ee gan drefnu bod swm sefydlog yn cael ei dalu i mewn iddo bob mis?

Na. Nid yw’n orfodol agor unrhyw fath o gyfrif, ond bydd gofyn i bob unigolyn fod â chyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd i dderbyn y taliadau. Drwy’r cymorth ariannol a’r wybodaeth ychwanegol, cânt eu cefnogi a’u hannog i wneud y defnydd gorau o’u taliadau incwm sylfaenol yn ôl eu hangen a’u hamcanion.

A gaiff y taliad incwm sylfaenol ei leihau os yw’r unigolyn yn gweithio ac yn ennill cyflog?

Na. £1,600 (£1,280 ar ôl treth) fydd y taliadau incwm sylfaenol drwy gydol y cyfnod.

A gynhelir asesiad risg mewn perthynas ag unigolion?

Na. Yr un yw lefel y taliad i bob unigolyn. Fel mater o egwyddor, dylai pawb sy’n bodloni’r meini prawf allu cofrestru ar gyfer y peilot os dewisant wneud hynny. Ni ddylid trin incwm sylfaenol yn wahanol i unrhyw fath arall o incwm; ni fyddem, er enghraifft, yn atal y rheini sy’n gadael gofal rhag ennill cyflog nac yn argymell na ddylent gofrestru ar gyfer CC os oes ganddynt hawl i wneud hynny. Dylid dilyn y gweithdrefnau diogelu sy’n bodoli, a dylid cynnig cefnogaeth ac arweiniad unigol yn unol â’r risg dybiedig.

A ellir defnyddio’r taliadau incwm sylfaenol i gefnogi interniaeth?

Gellir. Dylid annog unigolion i ddefnyddio’r taliad mewn ffordd sy’n briodol i’w hanghenion a’u hamcanion. Fel rhan o’r wybodaeth a’r gefnogaeth ehangach a gynigir ochr yn ochr â’r cynllun hwn, dylid cyfeirio’r bobl ifanc a darparwyr gwasanaethau at Warant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc, sydd wedi’i lunio i helpu pobl ifanc i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, cael gwaith neu fynd yn hunangyflogedig.

Tai

A yw’n bosibl tynnu taliadau llety cyn i’r arian gyrraedd yr unigolyn?

Ydy. Mae modd i’r rheini sy’n gadael gofal ac yn cymryd rhan yn y cynllun ddewis a ydynt am dderbyn eu taliadau bob mis neu ddwywaith y mis, a chânt yr opsiwn o ofyn am i daliadau rhent gael eu talu’n uniongyrchol i landlordiaid. Mae modd rhoi’r un trefniadau ar waith mewn perthynas â CC.

Fodd bynnag, egwyddor gyffredinol incwm sylfaenol yw ei fod yn ddiamod, fel bod unigolion yn cael eu grymuso i ddefnyddio’r cymorth fel sy’n briodol, yn eu barn hwy. Felly, rhaid i ‘optio i mewn’ ar gyfer taliadau landlord fod yn ddewis penodol gan y derbynnydd, felly, a rhaid iddynt gydnabod, unwaith y daw’r peilot i ben, y byddan nhw’n gyfrifol am wneud y taliadau hynny eu hunain.

A fydd pobl sy'n byw â chymorth o dan anfantais? Mae’r costau yn uchel. A ellid talu rhent ac yna'r taliad incwm sylfaenol?

Gallai effaith bosibl cymryd rhan yn y cynllun peilot incwm sylfaenol i’r rhai sy’n gadael gofal yng Nghymru ar hawl unigolyn i fudd-daliadau Llywodraeth y DU fod yn bryder i rai, yn dibynnu ar gostau tai â chymorth unigolyn.

Yn unol ag egwyddorion cyffredinol y peilot hwn, os na fydd unigolyn ar ei ennill drwy gymryd rhan yn y cynllun, a bod y darpariaethau cymorth sydd eisoes yn bodoli yn well opsiwn iddo, yna ni ddylai gymryd rhan. Caiff astudiaethau achos a senarios sy’n egluro’r dewisiadau sydd ar gael eu cynnwys yn y canllawiau cyffredinol.

A fyddant yn dal i gael lwfans i brynu eitemau hanfodol ar gyfer eu cartref newydd yn ystod y cyfnod hwn?

Bydd pob cymorth a ddarperir eisoes gan Lywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol Cymru i’r rheini sy’n gadael gofal yng Nghymru, neu i’r rheini a gefnogir gan wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, yn parhau.

Os na fydd y rhai sy’n derbyn cymorth yn cael taliad am fis ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed, sut byddant yn ymdopi am y mis cyntaf (y mis pan fyddant yn troi’n 18 oed)? Pwy fydd yn talu eu rhent y mis hwnnw? Byddai CC/Budd-dâl Tai yn talu am hyn

Os yw unigolyn sy’n rhan o’r peilot incwm sylfaenol eisoes yn cael cymorth tuag at ei gostau tai, yna bydd hyn yn parhau hyd nes y bydd yn derbyn ei daliad incwm sylfaenol cyntaf. Unwaith y bydd wedi derbyn ei daliad incwm sylfaenol cyntaf, bydd angen rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau ei fod yn derbyn cymorth incwm sylfaenol, ac mae’n debygol y daw cymorth yr Adran Gwaith a Phensiynau i ben.

Os nad yw unigolyn erioed wedi hawlio CC cyn ei ben-blwydd yn 18 oed, anogir yr awdurdod lleol i dalu ei gostau byw ac i beidio â gofyn i’r person ifanc wneud cais am CC ar gyfer y cyfnod hwn. Gallai hyn gynnwys talu rhent, costau tai â chymorth a lwfans wythnosol. Fodd bynnag, bydd y broses hon yn dibynnu ar broses bresennol pob awdurdod lleol unigol.

Camddefnyddio sylweddau

Beth yw'r ffordd orau o gefnogi'r rheini sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau eisoes?

Nid ydym am atal un person cymwys sy’n gadael gofal rhag cymryd rhan yn y peilot os dewisant wneud hynny ar sail yr wybodaeth a gânt. Bydd awdurdodau lleol yn helpu pobl ifanc i ystyried ai’r cynllun incwm sylfaenol yw’r dewis iawn iddyn nhw.

Fel rhieni corfforaethol, mae dyletswyddau ar awdurdodau lleol i barhau i gefnogi’r rheini sy’n gadael gofal. Bydd hyn yn cynnwys nodi unrhyw faterion yn ymwneud â’u diogelwch megis camddefnyddio sylweddau, a chefnogi pobl ifanc sy’n gadael gofal mewn perthynas â’r cwestiynau hyn. Byddem yn disgwyl i unrhyw fesurau diogelu a chefnogaeth sydd ar waith gan awdurdodau lleol eisoes fel rhan o’u dyletswydd gofal i’r rheini sy’n gadael barhau i fod ar gael i’r rheini fydd yn cael incwm sylfaenol.

Cyfiawnder troseddol a’r ddalfa

Beth fyddwch yn ei wneud os bydd y rhai sy’n cael incwm sylfaenol yn cael eu carcharu?

Yn achos y rheini sydd o dan ddedfryd o garchar, a fyddai fel arall yn gymwys ar gyfer y peilot incwm sylfaenol, ni ddylent gymryd rhan yn y cynllun nes y mis calendr yn dilyn eu rhyddhau o’r carchar, os yw hyn o fewn amserlen 12 mis agoriadol y cyfnod pan geir manteisio ar y peilot. Byddant wedyn yn cael taliadau am faint bynnag o fisoedd fyddai wedi bod ar ôl pe baent wedi ymuno â’r cynllun yn 18 oed.

Ni fydd unrhyw un sydd o dan ddedfryd o garchar tra byddant yn rhan o’r peilot yn derbyn eu taliadau o’r mis y byddant yn mynd i’r carchar (hy ni chânt unrhyw daliadau y mis hwnnw nac unrhyw fis dilynol tra byddant yn y carchar). Os daw cyfnod y person ifanc yn y carchar i ben tra bydd y peilot yn dal i redeg, yna gall ailymuno â’r peilot i gael taliadau gweddill y 24 mis gwreiddiol. Caiff llwybr ei ddatblygu ar gyfer rhoi gwybod i’r rheini sy’n gweithredu’r cynllun incwm sylfaenol bod unigolyn o dan ddedfryd o garchar drwy gydweithrediad â darparwyr gofal a Thimau Troseddau Ieuenctid.

O ran costau tai, bydd y trefniadau ar gyfer y rheini ar remánd neu o dan ddedfryd o garchar yn ystod y peilot yn unol â’r trefniadau presennol ar gyfer budd-daliadau tai. Caiff y llwybrau gweithredu eu cadarnhau maes o law.

Anghenion dysgu ychwanegol

A fydd pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu sydd â phenodeion neu ddirprwyon i fod yn gyfrifol am dderbyn a rheoli eu budd-daliadau yn gymwys, ac os felly sut cânt eu cefnogi?

Bydd pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn gymwys, a dylent dderbyn cymorth yn unol â’r gweithdrefnau cymorth presennol.

Bydd awdurdodau lleol ac eraill sy’n cefnogi pobl ifanc sydd o dan fesurau amddifadu o ryddid neu fesurau capasiti meddyliol (ee eiriolwyr, penodeion) yn penderfynu, fesul achos, a fyddai’r cynllun o fudd i’r person ifanc arbennig dan sylw; mae’n bosibl y bydd y ddarpariaeth les sydd ganddynt eisoes yn well iddynt yn ariannol.

Os bydd person ifanc yn ei gael ei hun mewn sefyllfa o beidio â bod bellach o dan un o’r mesurau uchod yn dilyn ei ben-blwydd yn 18 oed, ac o fewn y cyfnod cofrestru 12 mis, caiff ymuno â’r peilot am weddill y misoedd y byddai wedi bod yn gymwys i gael taliadau.

Bydd y gweithdrefnau diogelu yn parhau, a dylent fod yn berthnasol i’r rheini a fyddai fel arall yn gymwys i fanteisio ar y peilot.

Plant ar eu pen eu Hunain sy’n ceisio lloches

A yw Plant ar eu Pen eu Hunain sy’n Ceisio Lloches yn gymwys i gymryd rhan yn y peilot?

Yn unol ag egwyddor Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru, caniateir i geiswyr lloches a ffoaduriaid cymwys gymryd rhan yn y cynllun, cyn belled â’u bod yn bodloni’r meini prawf cyffredinol, a bod ganddynt gyfrif banc / cymdeithas adeiladu/undeb credyd.

Dylid ystyried yr wybodaeth isod ynghylch cymhwysedd ar gyfer cymorth cyfreithiol hefyd.

Mae canllawiau ar y gwasanaethau banc sydd ar gael i ffoaduriaid ar wefan y Cyngor Ffoaduriaid.

Cymorth cyfreithiol

A fydd y taliad incwm sylfaenol yn effeithio ar gymhwysedd ar gyfer cymorth cyfreithiol?

Mae swm yr incwm sy’n cael ei dderbyn drwy’r taliad incwm sylfaenol yn golygu ei bod yn annhebygol y byddai person ifanc yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol pe bai angen cynrychiolaeth gyfreithiol arno. Bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau unigol a’r dibenion y mae angen cynrychiolaeth ar eu cyfer.

Un o bedair egwyddor allweddol y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru yw na ddylai cymryd rhan yn y peilot wneud unrhyw gyfranogwr yn waeth ei fyd. Lle gallai mynediad i gymorth cyfreithiol fod yn ffactor, dylid ystyried hyn fel rhan o’r cyfrifiadau ‘gwell eu byd’ cyffredinol. Rydym yn cydnabod y gall amgylchiadau unigolion newid unwaith y byddant wedi cofrestru â’r peilot ac efallai y bydd angen ystyried hyn ymhellach er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn well eu byd o ddal ati i dderbyn y Cymorth Incwm Sylfaenol.

Cyllid myfyrwyr

A fydd y taliad incwm sylfaenol yn effeithio ar gymhwysedd i gael cyllid myfyrwyr?

I'r rhai sy'n gwneud cais yn ystod yr amserlen beilot, ni ddylai effeithio ar gymhwysedd y rhan fwyaf rhag cael cyllid myfyrwyr – yn unol â’r trefniadau i gael cyllid myfyrwyr yn gyffredinol, bydd angen llythyr gan weithiwr cymdeithasol neu weithiwr cymorth ar bobl ifanc sy'n gadael gofal yn cadarnhau eu bod yn gadael gofal ac yn cadarnhau eu cyfnod mewn gofal wrth wneud cais am gyllid myfyrwyr. Mae'n bwysig cofio y bydd pob cais am gyllid myfyrwyr yn cael ei ystyried ar sail unigol, felly gallai unrhyw incwm ychwanegol, e.e. cynilion neu incwm a enillir, neu incwm y cartref drwy briodas neu gyd-fyw, effeithio ar eu cais. Bydd angen datgelu'r taliadau incwm sylfaenol a dderbynnir fel incwm ar geisiadau lle bo’n ofynnol.

Bydd rhaid i eraill a allai fod am wneud cais am gyllid myfyrwyr mewn blynyddoedd i ddod drwy'r llwybr 'statws annibynnol' brofi gwerth tair blynedd o incwm mewn perthynas â’r amser cyn iddynt wneud cais am gyllid myfyrwyr. Gan fod yr incwm sylfaenol yn cael ei ystyried yn incwm a enillir, byddai angen datgelu'r taliadau incwm sylfaenol a dderbynnir yn y blynyddoedd hynny, ynghyd ag unrhyw incwm ychwanegol a enillir. Gall hyn effeithio ar gymhwysedd yn dibynnu ar y cyfanswm a enillir.

Mae rhagor o wybodaeth gyffredinol am gyllid i fyfyrwyr sy’n cynnal eu hunain ar gael drwy wefan Standalone ac mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn darparu gwybodaeth i fyfyrwyr annibynnol a myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio.

Gwerthuso

Sut y caiff llwyddiant ei fesur a’i werthuso?

Bydd cofnodi llais a phrofiad y bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y cynllun peilot hwn yn hollbwysig i’w lwyddiant. Byddwn yn gweithio gyda nhw drwy gydol y cynllun peilot i gyfrannu at ein gwerthusiad dynamig a sicrhau bod profiadau bywyd yn ganolog i’w ganlyniadau. Bydd y gwerthusiad yn ystyried effaith y cynllun peilot o ran gwelliannau yn y profiadau o ofal unigol a sut mae cymryd rhan yn y cynllun peilot wedi effeithio ar fywydau pobl ifanc. Bydd adborth rheolaidd gan dderbynyddion yn sicrhau gwerthusiad sy’n nodi themâu sy’n dod i’r amlwg ynglŷn â phrofiadau’r rhai sy’n cymryd rhan ac sy’n helpu i wella’r cynllun peilot wrth iddo gael ei gyflwyno.

Bwriedir gwerthuso’r broses ei hun/y gweithredu, yr effaith a gwerth am arian, er mwyn ystyried p’un a yw incwm sylfaenol wedi cyfoethogi bywydau pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a sut y mae wedi’u cyfoethogi. Gwneir hyn drwy gomisiynu dau weithgaredd gwahanol, ond integredig:

  • gwerthusiad cyfun o’r broses a’r effaith, gan ddefnyddio cymysgedd o ddulliau ansoddol a meintiol
  • astudiaeth ansoddol fanwl o’r ethnograffeg. Mae hyn yn ymwneud â phrofiad unigolion o’r peilot incwm sylfaenol a’i effeithiolrwydd

Caiff arolwg llinell sylfaen ei gynnal hefyd ag unigolion sydd wedi cydsynio. Diben yr wybodaeth llinell sylfaen yw asesu effaith y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol a chymharu’r hyn sy’n digwydd cyn ac ar ôl i’r rhaglen gael ei rhoi ar waith. Heb ddata sylfaenol, mae’n anodd amcangyfrif unrhyw newidiadau na dangos sut mae’r cynllun peilot wedi effeithio ar fywydau’r bobl ifanc sy’n gadael gofal ac a yw’r rhaglen wedi cyfoethogi ac wedi gwella eu bywydau. Mae swyddogion yn gweithio mewn partneriaeth ag elusen sydd wedi cynnal arolygon ymhlith pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gyda chymorth awdurdodau lleol, i ymgymryd â’r gwaith hwn yn llawn.

Er na fydd yn ofynnol cymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil – yn unol â natur ddiamod y cynllun peilot – hoffem annog cynifer o bobl ifanc â phosibl i gymryd rhan yn yr ymchwil fel y gall Cymru a’r byd ddysgu am y profiadau o fod yn rhan o’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol arloesol hwn.

A fyddwn yn gallu casglu unrhyw beth yn sgil y cynllun hwn am incwm sylfaenol yn fwy cyffredinol?

Byddwn. Bydd hyn yn cynnig peth dealltwriaeth, ac mewn arbofion ledled y byd mae yna elfen o dargedu neu amodau. Mae pob un yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar yr hyn y mae incwm sylfaenol neu incwm sylfaenol cyffredinol yn ei gynnig.

Mae’r arbrawf hwn wedi'i dargedu, ac mae'n amlwg na fyddai'r holl ganlyniadau yn berthnasol i'r boblogaeth gyfan. Serch hynny, mae'n dal yn debygol o ddarparu gwybodaeth a dealltwriaeth werthfawr ar gyfer y dyfodol ynghylch sut y gallai'r cysyniad o incwm sylfaenol fod yn berthnasol i grwpiau eraill yn ehangach, gan fod y ffordd y caiff y cynllun ei ddylunio a'i weithredu yn profi rhai o egwyddorion incwm sylfaenol.

Pwy sy’n cwblhau’r gwerthusiad ar gyfer y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal?

Y sawl sy’n gyfrifol am y gwaith gwerthuso ar gyfer y peilot yw Prifysgol Caerdydd. Bydd y gwerthusiad yn cael ei arwain gan Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant y Brifysgol (CASCADE). Mae’r tîm gwerthuso’n arbenigo mewn gadael gofal, tlodi a lles, digartrefedd, iechyd, epidemioleg, incwm sylfaenol, gwerthuso economaidd, cysylltu data, econometreg a methodolegau ansoddol creadigol.

Llywio unigolion a chymorth ychwanegol

Pa gymorth fydd yn cael ei roi i'r rhai sy’n rhan o’r cynllun?

Cynigir cyngor a chefnogaeth ariannol annibynnol o ansawdd i’r rheini sy’n gadael gofal ac sy’n dewis cymryd rhan yn y cynllun drwy gydol y cyfnod perthnasol.

I sicrhau cysondeb o ran lefel y cyngor a’r gefnogaeth a ddarperir, mae pecyn o gyngor a chefnogaeth ariannol ar gael. Mae’r pecyn hwn yn ehangu cytundeb grant Cronfa Gynghori Sengl Llywodraeth Cymru, a ddarperir ar hyn o bryd gan Gyngor ar Bopeth. Bydd y gwasanaeth yn rhoi cyngor uniongyrchol i bobl ifanc a chyngor a chymorth ‘ail haen’ i weithwyr proffesiynol mewn awdurdodau lleol sy’n gweithio gyda phobl ifanc. Bydd y cyngor a roddir yn cwmpasu pob cam o’r ffordd, o gyfrifiadau ariannol cyn y peilot i gyngor cyllidebu neu gymorth mewn argyfwng ariannol. Cynigir cyngor diduedd i bobl ifanc sy’n gadael gofal ar sail eu hamgylchiadau unigol nhw, ac mae un corff arweiniol yn sicrhau cysondeb gwasanaeth ledled Cymru.

Yn ychwanegol at y cyngor ariannol unigol a ddarperir i’r rheini sy’n derbyn incwm sylfaenol, mae cyrff eraill megis Voices from Care a’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn darparu cyngor mwy holistaidd o ran rheoli arian, addysg, hyfforddiant a lles. Caiff unigolion eu cyfeirio atynt drwy eu Cynghorwyr Pobl Ifanc a gwasanaethau cymorth eraill.

Beth am aelodau eraill o'r cyhoedd sy'n ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd/cael gafael ar gymorth arall sydd ar gael?

Rydym yn deall na allwn helpu pawb gyda’n cynllun peilot incwm sylfaenol, ond mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cymorth pellach i eraill a allai fod o ddiddordeb.

Rydym wedi darparu cymorth gwerth £1.6 biliwn, drwy raglenni sy’n diogelu aelwydydd difreintiedig a mentrau sy’n helpu i gyflawni’r cyflog cymdeithasol yng Nghymru, gan gadw arian ym mhocedi pobl i liniaru effaith yr argyfwng costau byw.

Mae peth o’r cyllid hwn yn cynnwys taliad costau byw o £150 i bob aelwyd mewn eiddo ym mandiau treth gyngor A i D, ac i bob aelwyd sy’n cael cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ym mhob band treth gyngor.

Rydym hefyd wedi darparu £25 miliwn yn rhagor i awdurdodau lleol ar ffurf cronfa ddewisol i gefnogi aelwydydd sy’n agored i niwed yn eu hardaloedd. Bydd modd i awdurdodau lleol dargedu’r cyllid ychwanegol hwn i helpu aelwydydd sy’n cael trafferthion ariannol.

Dyrannwyd £90 miliwn arall gennym i gynnal ail Gynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru yn 2022-23 sy’n cefnogi pobl ar incwm isel gyda thaliad gwerth £200 nad oes rhaid ei ad-dalu tuag at eu costau ynni. Mae’r cynllun ar agor i aelwydydd lle mae ymgeisydd neu ei bartner yn derbyn un o’r budd-daliadau cymwys rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i’r Cynllun yw 5pm ar 28 Chwefror 2023. Mae gan bob cyngor lleol ei amserlen ei hun ar gyfer prosesu ceisiadau yn dibynnu ar beth mae ei gapasiti a’i adnoddau yn ei ganiatáu. Hefyd, rhaid i ymgeiswyr fod yn gyfrifol am dalu’r biliau ynni ar gyfer yr eiddo.

Mae cyllid gwerth £4 miliwn hefyd wedi cefnogi’r broses o gyflwyno cynllun Taleb Tanwydd a Chronfa Wres i helpu aelwydydd sydd â mesuryddion talu ymlaen llaw a’r rheini nad ydynt wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad nwy sy’n cael trafferth talu am eu tanwydd ymlaen llaw ac sydd mewn perygl o hunan-ddatgysylltu.

Rydym wedi cynnal dwy ymgyrch genedlaethol ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’ a hyd yn hyn, mae dros 8,000 o bobl ar draws Cymru wedi ymateb i’r ymgyrch a oedd yn annog pobl i gysylltu ag Advicelink Cymru ac wedi cael cymorth i hawlio mwy na £2.7 miliwn o incwm budd-daliadau ychwanegol. Mae llawer o’n trydedd ymgyrch hawlio budd-daliadau, sef ‘Yma i Helpu’ wedi bod yn fyw ers mis Rhagfyr a bydd gweddill elfennau’r ymgyrch ar-lein fel y cynlluniwyd dros y mis nesaf.

Ers mis Ionawr 2020, mae gwasanaethau’r Gronfa Gynghori Sengl wedi helpu pobl ledled Cymru i hawlio dros £83 miliwn o incwm budd-daliadau ychwanegol. Mae gwasanaeth Cronfa Gynghori Sengl Llywodraeth Cymru yn cynnig gwiriadau i weld a oes gan unigolion hawl i gael budd-daliadau lles, waeth beth fo’r broblem y maent yn gofyn am gyngor yn ei chylch.

Rydym wedi buddsoddi £1 miliwn i helpu awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol i ehangu a gwella’r ddarpariaeth Canolfannau Clyd ledled Cymru. Mae dros 300 o leoliadau bellach yn cynnig lleoliad clyd a diogel at ddefnydd pobl nad ydynt yn gallu fforddio gwresogi eu cartrefi yn ystod y gaeaf hwn. Mae’r ddarpariaeth yn amrywio, yn dibynnu ar leoliadau’r canolfannau clyd, o de a choffi syml, i brydau poeth a chyngor cofleidiol, cymorth TG a phwyntiau gwefru. Mae nifer o’r canolfannau clyd wedi’u datblygu o amgylch cyfleusterau / gweithgareddau cymunedol presennol.

Cymorth Ehangach i Aelwydydd Incwm Isel

Rydym yn parhau i ddarparu cymorth i aelwydydd drwy gefnogi rhaglenni ‘cyflog cymdeithasol’ mwy hael – sy’n sicrhau bod mwy o arian ym mhocedi dinasyddion Cymru.

Mae hyn yn cynnwys mentrau megis ein Cynnig Gofal Plant, ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, Prydau Ysgol am Ddim, ein Rhaglen Cartrefi Clyd a’n hymrwymiad i helpu gyda chostau iechyd megis Presgripsiynau am Ddim i bawb.

Hefyd, fel rhan o’n hagenda gwaith teg, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo’r Cyflog Byw Gwirioneddol fel ffordd o fynd i’r afael â chyflog isel a thlodi mewn gwaith.

Yng Nghymru, rydym yn cefnogi cronfa frys ar gyfer pobl sy’n profi anawsterau ariannol eithafol. Os ydych yn ei chael yn anodd yn ariannol, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol. Gellir gwneud cais i'r Gronfa hon drwy'r wefan neu drwy radffôn ar 0800 859 5924.

Rydym hefyd yn annog pobl i gysylltu ag Advicelink i wirio eu bod yn derbyn yr holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. Gall y gwasanaeth eich cyfeirio hefyd at wasanaethau eraill a allai fod o ddefnydd. Gellir cysylltu â nhw ar radffôn 0800 702 2020 neu gallwch siarad â chynghorydd ar-lein yma. Gallant hefyd eich siarad drwy'r opsiynau sydd ar gael ar gyfer ariannu gofal plant pan fyddwch yn ystyried opsiynau i ddychwelyd i'r gwaith.

Cael help gyda chostau byw.

Os hoffech siarad ag aelod o Lywodraeth Cymru am dîm y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol, e-bostiwch PeilotISCymru@llyw.cymru.