Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Gweinidog

Lee Waters MS, Deputy Minister for Climate Change:

Bysiau yw asgwrn cefn ein gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus. Maent yn cludo tair gwaith cymaint o deithwyr â threnau, yn mynd â phobl ledled Cymru i'r gwaith ac i'r ysgol, yn caniatáu inni gwrdd â theulu a ffrindiau, ac yn cynnig llinell fywyd allweddol i'r chwarter o bobl yng Nghymru nad oes ganddynt gar.

Mae llywodraethau wedi cydnabod ers tro byd bwysigrwydd y gwasanaeth cyhoeddus hwn. Hyd yn oed cyn pandemig COVID-19 roeddem yn buddsoddi cryn dipyn mwy £100 miliwn mewn gwasanaethau bysiau bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae effeithiau preifateiddio’n parhau i'n hatal rhag cynllunio bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus, a chynllunio rhwydweithiau i sicrhau bod arian yn cael ei fuddsoddi i sicrhau y gall pobl fynd lle mae angen iddynt fynd.  

Nid yw hynny'n dderbyniol.

Mae'r cyngor gwyddonol ar Newid Hinsawdd yn glir ac yn frawychus. Rhaid inni newid y ffordd rydym yn byw fel mater o frys a chymryd camau ystyrlon i osgoi difrod trychinebus i'n hinsawdd.

Mae trafnidiaeth yn cyfrif am bron i un rhan o bump o'n hallyriadau carbon, ond ar hyn o bryd ni allwn gynllunio rhwydweithiau bysiau i leihau faint rydym yn dibynnu ar geir preifat a sicrhau bod gwasanaethau dibynadwy a chynaliadwy ar gael i bobl. Mae hyn yn rhwystr allweddol rhag symud i gymdeithas sero-net.

Mae'r papur gwyn hwn yn amlinellu ein cynllun i newid yn sylfaenol y ffordd y mae gwasanaethau bysiau'n cael eu cynllunio yng Nghymru – gan ganiatáu i bob lefel o lywodraeth yng Nghymru weithio ar y cyd i gynllunio'r rhwydweithiau bysiau sydd eu hangen ar ein cymunedau.

Hoffwn ddiolch i gydweithwyr mewn llywodraeth leol a phartneriaid yn y diwydiant am weithio gyda ni i helpu i ddatblygu'r cynigion hyn, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda chi i adeiladu'r system fysiau sydd ei hangen ar Gymru. 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi dechrau proses a fydd yn ein galluogi i wella gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn sylweddol, a chymryd camau ystyrlon tuag at ddarparu system drafnidiaeth sy'n helpu yn hytrach na rhwystro ein taith tuag at sero-net.

Edrychaf ymlaen at dderbyn eich barn a'ch sylwadau ar y cynigion hyn. Mae hwn yn gyfle ar gyfer ein cenhedlaeth i newid y sefyllfa fel y mae a gweithredu system fysiau sy'n gweithio i Gymru. Hoffem weithio gyda phartneriaid i wneud hyn mewn ffordd mor effeithiol a theg ag y bo modd.

Gall eich adborth a'ch cyfraniadau parhaus wrth inni lunio'r fersiwn derfynol o'r ddeddfwriaeth a gynigir yn y papur gwyn ein helpu i lwyddo i wneud hynny.

Gweledigaeth

Oherwydd yr argyfwng hinsawdd mae angen inni weithredu fel mater o frys. Mae angen degawd o weithredu sy'n cyflawni mwy yn y deng mlynedd nesaf nag rydym wedi'i wneud yn y 30 mlynedd diwethaf. Mae maint yr her hon a'r angen i weithredu ar unwaith yn cael eu hamlinellu yn ein cynllun cyffredinol yn: Cymru Sero Net Cyllideb Garbon 2 (2021 i 25)

O ran allyriadau sy'n niweidio'r hinsawdd, o fewn y sector trafnidiaeth y bu'r perfformiad gwaethaf. Mae angen inni newid y ffordd rydym yn teithio. Hyd yn oed os byddwn yn trydaneiddio cerbydau mor gyflym ag y bo modd, byddwn yn methu bodloni ein cyllideb garbon oni bai ein bod yn lleihau nifer y ceir ar ein ffyrdd, ac yn gwneud rhagor o’n teithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus neu drwy gerdded neu feicio. 

Er mwyn cyflawni'r newid hwn, mae angen system drafnidiaeth arnom sy'n gweithio i bawb ac sy'n cynnig opsiynau ymarferol eraill yn lle dibynnu ar ein ceir. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod opsiynau trafnidiaeth fforddiadwy ar gael fel y gall pawb gyrraedd ble bynnag mae angen iddynt fynd, yn ogystal â chyrraedd ein targedau ar gyfer yr hinsawdd. Gyda phris cyfartalog o £44,000 (cost gyfartalog car trydan), nid yw llawer o deuluoedd yn gallu fforddio car trydan. Hefyd, nid oes gan tua 13% o aelwydydd yng Nghymru gar (Arolwg Cenedlaethol Cymru: dangosydd canlyniadau), ac mae 25% o ddefnyddwyr bysiau yn anabl neu mae ganddynt salwch hirdymor. Mae hyn yn tynnu sylw at y rôl gymdeithasol ac economaidd hanfodol mae bysiau'n ei chwarae ar hyn o bryd, a'r rôl y gallent ei chwarae yn y dyfodol – maent yn llinell fywyd allweddol i bobl ledled Cymru wrth gael mynediad at wasanaethau, cyrraedd y gwaith, a chwrdd â theulu a ffrindiau.

Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o sicrhau bod gennym system fysiau sy'n hybu tegwch cymdeithasol ac sy'n gallu sicrhau ein bod yn newid y ffordd rydym yn teithio er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.  

Nod y papur gwyn hwn yw creu system fysiau’n benodol i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl ar gyfer y cyhoedd. Mae hynny'n golygu system fysiau sy'n cael ei llywodraethu a'i chynllunio er budd y cyhoedd, gyda'r cyrhaeddiad daearyddol ehangaf posibl, cysylltiadau cwbl integredig rhwng gwahanol wasanaethau, gwasanaethau sy'n rhedeg mor aml ag y bo modd, a gwybodaeth hygyrch sy'n hawdd ei deall a system docynnau seml integredig sy'n hawdd ei defnyddio: ‘Un Rhwydwaith, Un amserlen, Un tocyn’. 

Oherwydd y newid yn yr hinsawdd mae angen inni feddwl y tu hwnt i'r presennol. Mae angen i'r weledigaeth hon lywio’r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth dros y 30 mlynedd nesaf. System fysiau wedi'i dadreoleiddio sydd gennym ar hyn o bryd, sy'n cael ei harwain gan rym y farchnad yn hytrach nag angen y cyhoedd. Dangoswyd nad yw'n gallu cyflawni maint y newydd sydd ei angen a hynny ar y cyflymer sydd ei angen. Nod y papur gwyn hwn yw sefydlu system lywodraethu ar gyfer bysiau a fydd yn ein galluogi i wireddu'r weledigaeth hon ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus cynhwysfawr, fforddiadwy sy'n gweithio mewn ffordd gydgysylltiedig, i'n helpu ni ar ein taith i gyrraedd sero-net. 

Beth yw'r nodau a'r amcanion? 

Mae'r weledigaeth a amlinellir uchod yn golygu y bydd angen inni drawsnewid y trefniadau llywodraethu ar gyfer bysiau yng Nghymru i gyflawni'r nodau cyffredinol canlynol:

  • system fysiau sydd wedi'i chynllunio'n bwrpasol er bydd gorau'r cyhoedd.
  • system fysiau sy'n defnyddio buddsoddiadau cyhoeddus yn effeithlon, i wneud gwelliannau i fysiau sy’n mynd i’r afael â blaenoriaethau’r cyhoedd, a hynny mewn modd strategol, gan gyfiawnhau rhagor o fuddsoddiadau cyhoeddus.
  • system fysiau, sy'n rhan o rwydwaith trafnidiaeth integredig sy'n darparu opsiwn rhagorol ar gyfer teithio, lle a phryd bynnag mae angen hynny ar bobl, ledled Cymru.

Ni all deddfwriaeth yn unig, na llwybrau bysiau arferol traddodiadol ar eu pennau eu hunain, gyflawni'r nodau hyn: mae angen gwella'r rhwydwaith yn sylweddol er mwyn darparu'r seilwaith ar gyfer gwasanaethau hyblyg, cysylltiedig sy'n estyn cyrhaeddiad bysiau i gynnwys llawer mwy o amseroedd a lleoedd. Bydd gweithredu'r ddeddfwriaeth a chyflwyno contractau masnachfraint mewn gwahanol ardaloedd yn cymryd amser, ac mae'n debyg y bydd angen nifer o welliannau i gyrraedd y lefel uchelgeisiol o wasanaethau yr ydym ceisio ei datblygu. Bydd angen inni barhau i gyflwyno'r achos dros ragor o fuddsoddiadau mewn gwasanaethau bysiau, er mwyn darparu nifer a rheoleidd-dra'r gwasanaethau sydd eu hangen. Bydd angen inni hefyd barhau i weithio ar opsiynau teithio sy'n ymateb i'r galw, megis y gwasanaeth Fflecsi sy'n cael ei dreialu gan Drafnidiaeth Cymru, i gynnig opsiynau teithio dibynadwy, cynaliadwy a fforddiadwy mewn mannau ac ar adegau nad oes gwasanaethau bysiau arferol wedi'u trefnu ar eu cyfer. Fodd bynnag, mae hyn yn amlinellu ein nodau a'r ffordd y bydd ein cynigion deddfwriaethol yn ein helpu i gyrraedd y nodau hynny.

Mae'r term trafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw’n cwmpasu gwahanol fathau o wasanaeth, gan gynnwys bysiau, bysiau mini a thacsis, sy'n hyblyg o ran amseroedd a/neu gyrchfannau, ac yn galluogi pobl i deithio i leoedd ac ar adegau y tu hwnt i'r hyn mae gwasanaethau bysiau arferol yn ei gynnig. Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth Fflecsi ar gael yn Fflecsi Cymru.

Er mwyn darparu opsiwn teithio rhagorol i bobl ar gyfer y tymor hir, bydd angen arnom y canlynol:

  • rhwydwaith cynhwysfawr o lwybrau bysiau i wasanaethu'r amrediad ehangaf o gyrchfannau ag sy'n ymarferol, ar adegau prysur ac amseroedd llai prysur gyda'r nos ac ar ddydd Sul
  • amserlenni cydgysylltiedig ar gyfer cysylltiadau bws-bws a chysylltiadau bws â phob math arall o drafnidiaeth gyhoeddus
  • prisiau syml ar draws ardal gyfan, a thocynnau sy’n ddilys ar draws pob llwybr bws ac ar bob math o drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae teitl y papur gwyn hwn yn crynhoi'r tri amcan hyn: ‘Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn’.

Mae amcanion eraill ar gyfer system fysiau ragorol yn cynnwys:

  • gwasanaethau bysiau sy'n rhedeg yn gyflym ac yn brydlon, gyda lle pwrpasol ar y ffyrdd er mwyn osgoi tagfeydd, a seilwaith sy'n rhoi blaenoriaeth i fysiau, er mwyn cynnig opsiwn amgen i ddefnyddio ceir preifat sy'n cynnig amseroedd teithio cystadleuol.
  • rhwydwaith bysiau sefydlog o un flwyddyn i'r llall, y mae pobl yn dod i'w adnabod ac ymddiried ynddo.
  • gwybodaeth gynhwysfawr a hygyrch o dan un brand amlwg.
  • prisiau fforddiadwy sy'n cynnig gwerth da am arian o'u cymharu â gyrru.
  • gyrwyr sy'n ystyriol o deithwyr, wedi'u hyfforddi a'u cefnogi i fod yn llysgenhadon rheng flaen sy'n darparu wyneb cyhoeddus ar gyfer y gwasanaeth bysiau o ddydd i ddydd, er mwyn helpu i ddenu defnyddwyr.
  • cerbydau a chyfleusterau aros o ansawdd da, gyda newid cyflym i gerbydau dim allyriadau.
  • pob rhan o'r sector gweithredu bysiau yn cyfrannu ei chryfderau (yr arian mae teithwyr yn ei dalu i ddefnyddio gwasanaethau) penodol, gan gynnwys busnesau bach a chanolig, cwmnïau o dan berchnogaeth drefol a sefydliadau corfforaethol, i sicrhau gwasanaethau sy'n ymateb i'r galw, darparwyr tacsis a gweithredwyr yn y gymuned.

Er mwyn sicrhau bod buddsoddiadau cyhoeddus yn cael eu defnyddio mewn modd effeithlon mae angen cyflawni'r amcanion strategol canlynol: 

  • y gallu i ddatblygu, cynllunio a gweithredu llwybrau a rhwydweithiau bysiau.
  • rheolaeth gyhoeddus effeithiol dros y ffordd mae arian cyhoeddus a fuddsoddir yn y system fysiau yn cael ei wario, gan gynnwys rheoli'r ffordd mae refeniw o docynnau yn cael ei ailfuddsoddi.
  • y gallu i weithredu polisïau i sicrhau gwasanaethau bysiau fforddiadwy a chonsesiynol, heb anhawster neu gostau gormodol oherwydd trafodaethau estynedig neu systemau cymhleth ar gyfer ad-dalu gweithredwyr.
  • marchnad iach ar gyfer cystadlu am gontractau masnachfraint.
  • y gallu i ddefnyddio arian cyhoeddus mewn ffyrdd sy'n ategu ac yn ysgogi buddsoddiadau o'r sector preifat mewn modd effeithiol.
  • yr holl drafnidiaeth teithwyr ffyrdd yn cael ei hariannu a'i llywodraethu gyda'i gilydd, i sicrhau'r synergeddau mwyaf posibl, lleihau dyblygu gwastraffus a sicrhau y gellir cynyddu’r rhwydwaith arferol o wasanaethau bysiau mor gyflym ag y bo modd yn unol â’r galw.
  • y gallu i integreiddio gwariant ar welliannau i fysiau a lleihau prisiau’n agos â chamau i leihau dibyniaeth ar geir, i ffurfio polisi trafnidiaeth strategol er mwyn newid y ffordd rydym yn teithio.
  • integreiddio buddsoddiadau yn y system fysiau â chynlluniau ar gyfer defnyddio tir a buddsoddi economaidd a datblygu, fel bod datblygiadau newydd yn canolbwyntio ar leoliadau sydd â gwasanaethau bysiau cryf, ac felly bydd datblygiadau newydd eu hunain yn cael eu cynllunio i hwyluso llif gwasanaethau bysiau drwy'r datblygiad.
  • dyraniadau cyllid cynaliadwy aml-flwyddyn ar gyfer gwasanaethau bysiau a seilwaith bysiau sy'n galluogi cynllunio a buddsoddi strategol ar gyfer y tymor hir, defnyddio'r arian sydd ar gael yn y ffordd orau posibl a datblygu pecynnau gwella parhaus wedi'u targedu at gynyddu nifer y defnyddwyr.

Cynigion deddfwriaethol amlinellol

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod y cynigion deddfwriaethol yn y papur hwn yn angenrheidiol i helpu i gyflawni'r nodau, yr amcanion a'r uchelgeisiau a amlinellir uchod. Bydd y papur hwn yn nodi pob cynnig ac yn disgrifio ei botensial i ategu'r newidiadau hoffem eu gweld.

Dylem fod yn glir mai dyma ddechrau'r daith, nid y diwedd. Bydd deddfwriaeth yn creu pwerau newydd a gwell ar gyfer llywodraeth yng Nghymru ar bob lefel, i weithio ar y cyd i lunio’r rhwydwaith bysiau sydd ei angen ar Gymru, a thynnu'r rhwystrau sy'n atal Awdurdodau Lleol rhag sefydlu a gweithredu eu cwmnïau bysiau eu hunain yn effeithiol. Fodd bynnag, bydd gwneud hyn yn cymryd amser. Bydd angen inni weithio gyda marchnad iach, gan gystadlu am gontractau yn hytrach na chystadlu am deithwyr mewn safleoedd bysiau, er mwyn sefydlu rhwydweithiau effeithiol drwy fasnachfreintiau a gwneud yr achos dros ragor o fuddsoddiadau i ehangu'r rhwydweithiau hynny a sicrhau gwasanaeth o'r maint a'r ansawdd yr hoffem eu gweld.  

Mae ein cynigion deddfwriaethol yn cynnwys:

  • gwneud masnachfreinio gwasanaethau bysiau yn ofynnol ledled Cymru
  • caniatáu i Awdurdodau Lleol greu cwmnïau bysiau trefol newydd
  • llacio'r cyfyngiadau ar gwmnïau bysiau trefol presennol i sicrhau eu bod yn yr un sefyllfa â rhai newydd

Cyd-destun a chefndir

Mae llawer o'r data a ddefnyddir yn y papur gwyn hwn yn dod o'r cyfnod cyn pandemig COVID-19 (2019/2020 yn bennaf). Mae hyn yn rhoi darlun gwell inni o'r hyn a oedd yn digwydd pan oedd teithwyr yn gwneud dewisiadau trafnidiaeth pan nad oedd cyfyngiadau’r pandemig yn gorfod bod yn ganolog i bob penderfyniad. Rydym hefyd yn cydnabod, wrth inni symud ymlaen o'r pandemig, y bydd dewisiadau teithwyr wedi newid. Er enghraifft, mae pandemig COVID-19 wedi achosi newid sylweddol o ran gweithio gartref lle mae modd gwneud hynny, gan ein symud yn nes at uchelgais hirdymor Llywodraeth Cymru i weld tua 30% o weithwyr Cymru yn gweithio gartref neu'n agos at adref (Anelu at gael 30% o’r gweithlu yng Nghymru i weithio o bell) – gan roi'r dewis i ragor o bobl weithio mewn ffordd sy'n helpu eu cynhyrchiant yn ogystal â'u cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, a chyda'r potensial i sbarduno adfywio a gweithgareddau economaidd mewn cymunedau. Mae'n debyg y bydd newidiadau hirdymor i batrymau defnyddio bysiau o ganlyniad i hyn, ond nid yw'n glir eto beth yn union fydd y newidiadau hyn. Fodd bynnag, yn y bôn nod y cynigion yn y papur gwyn hwn yw sicrhau y gallwn gynllunio rhwydweithiau bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus, gan fynd â phobl i ble bynnag y mae angen iddynt fynd, hyd yn oed os bydd patrymau teithio'n newid rhwng strydoedd mawr lleol, canol dinasoedd a chyrchfannau eraill. 

Cyn pandemig COVID-19, roedd gan Gymru 1539 o lwybrau (Arolwg Cenedlaethol Cymru ar 31 Mawrth 2018 ) bysiau cofrestredig, a oedd yn cael eu gwasanaethau gan 2378 o gerbydau (Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019/20) a oedd yn cael eu gweithredu'n lleol ac yn teithio 88.8 miliwn o gilomedrau bob blwyddyn (Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019/20). Mae'r teithiau bws lleol hyn yn cyfrif am dair o bob pedair taith a wneir ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn. Mae gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn darparu mynediad pwysig at wasanaethau hanfodol, addysg, hamdden a thwristiaeth, ac yn darparu cysylltiadau pwysig ar gyfer cymunedau. 

O edrych ar y ffigurau diweddaraf ar gyfer defnyddwyr, lle mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith fawr, mae nifer y defnyddwyr bysiau wedi gostwng tua 90% dros y ddwy flynedd diwethaf, gan leihau'r incwm o docynnau yn sylweddol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi galluogi gweithredwyr bysiau i barhau i ddarparu rhai gwasanaethau drwy ei Chronfa Galedi ar gyfer y Sector Bysiau (BHF) a'r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau (BES).

Amlygodd pandemig COVID-19 broblemau difrifol mewn perthynas â'r rhwydwaith gwasanaethau bysiau yng Nghymru, a pha mor niweidiol mae colli teithwyr a cholli refeniw o docynnau i’r diwydiant bysiau yng Nghymru. Wrth i Gymru adfer, mae cyfle i ddeddfu ar gyfer y diwygiadau, sydd eu hangen yn fawr iawn, i'r ffordd mae gwasanaethau bysiau'n cael eu cynllunio a'u gweithredu, ac i alluogi cynyddu gwasanaethau bysiau mewn ffordd sy'n cyflawni amrediad o amcanion polisi.  

Er bod gwasanaethau bysiau yn rhan hanfodol o'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, maent yn dirywio, gyda nifer y teithwyr yn gostwng yn gyson am flynyddoedd lawer ar y rhan fwyaf o lwybrau yng Nghymru. Mae'r dirywiad hwn yn adlewyrchu sefyllfa debyg ar draws y DU gyfan. 

Y pellter a deithiwyd ar wasanaethau bysiau lleol 2009 i 2010 i 2019 i 2020

Image
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ‘Arolwg Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus’ yr Adran Drafnidiaeth

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ‘Arolwg Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus’ yr Adran Drafnidiaeth

Bu gostyngiad hefyd yn y llwybrau a gynigir a nifer y cerbydau ar y ffordd (Gostyngiad o 71 cerbyd ers 2017 Cerbydau Gwasanaeth cyhoeddus (bysiau a thacsis): Ebrill 2019 i Fawrth 2020). Mae gostyngiad yn nifer y teithwyr yn rhoi pwysau ar deithwyr sy'n prynu tocynnau a'r pwrs cyhoeddus i gynnal rhwydwaith sydd, er gwaethaf buddsoddiadau sylweddol o ffynonellau preifat a chyhoeddus, yn parhau i ddirywio. Mae hyn yn ei dro yn cynyddu'r pwysau ar Awdurdodau Lleol wrth iddynt nodi a darparu cymorthdaliadau ar gyfer gwasanaethau sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol ar gyfer cymunedau lleol. 

Er bod rhaid nodi'r dirywiad, nid yw hyn yn golygu nad oes angen bysiau mwyach. I'r gwrthwyneb. Bws yw'r dewis mwyaf poblogaidd o hyd ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, ac mae'n cyfrif am tua 90 miliwn o deithiau bob  blwyddyn o'u cymharu â thua 30 miliwn o deithiau rheilffordd bob blwyddyn. Felly, yn hytrach na chanolbwyntio ar y dirywiad, mae gwir angen inni newid y ffordd rydym yn meddwl ac ystyried sut y gallwn wella gwasanaethau yng Nghymru a bodloni gofynion dinasyddion Cymru yn well.  Bydd hyn hefyd yn ein helpu i gyrraedd ein targedau uchelgeisiol ar gyfer newid y ffordd rydym yn teithio a chreu system drafnidiaeth wirioneddol integredig sy'n addas i'r diben, yn annog rhagor o bobl i'w defnyddio ac felly'n cael effaith gadarnhaol wrth fynd i'r afael â'r Newid yn yr Hinsawdd.  

Mae angen inni hefyd ddatblygu system sy'n gweithio ar gyfer ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol ac ar draws Cymru. Ar hyn o bryd, mae gan ddinasoedd a threfi wasanaethau sy'n rhedeg gryn dipyn yn amlach, er eu bod yn aml yn brin o lawer o'r hyn sydd ei angen i ddarparu'r opsiynau sydd eu hangen yn lle defnyddio ceir preifat. Mae angen integreiddio gwell rhwng gwasanaethau bysiau lleol a gwasanaethau eraill fel trafnidiaeth i leoliadau addysg (a elwir hefyd yn deithio gan ddysgwyr), gofal cymdeithasol, gwasanaethau cymunedol, iechyd a gwasanaethau sy'n ymateb i'r galw. Byddai hyn yn darparu gwasanaeth bysiau mwy cynhwysfawr ar gyfer cymunedau lleol, yn enwedig y rheini mewn ardaloedd gwledig.

Er mwyn creu system sy'n addas i'r diben, mae angen inni edrych ar y system bresennol a'r elfennau efallai y bydd angen eu newid. Cafodd gwasanaethau bysiau yn y DU eu dadreoleiddio, ym mhob ardal y tu allan i Lundain a Gogledd Iwerddon, fel rhan o Ddeddf Trafnidiaeth 1985. Ers dadreoleiddio, mae wedi cael ei chydnabod yn helaeth (fel y nodwyd gan ddyfyniad o strategaeth fysiau'r Adran Drafnidiaeth, 'Bus Back Better', isod) nad yw'r system wedi'i dadreoleiddio yn gweithio. Mae hyn wedi arwain at lawer o gamau graddol i alluogi ailreoleiddio yn rhannol ar ffurf eithriadau marchnad ar gyfer prisiau teithio cydgysylltiedig a darpariaethau partneriaeth amrywiol. Mae'r system bresennol wedi'i dadreoleiddio yng Nghymru wedi creu gwasanaethau darniog a diffyg cydweithio cynhwysfawr ymhlith gweithredwyr o ran amserlenni, mapiau llwybrau a thocynnau, sy'n rhoi darlun dryslyd i'r cyhoedd ac nad yw'n gwneud fawr ddim i ddenu cwsmeriaid newydd i deithio ar fysiau. 

Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r papur gwyn hwn yn crynhoi'r heriau sy'n wynebu'r system bresennol fel a ganlyn:

  • mae cyfrifoldebau ar gyfer bysiau yn cael eu darnio rhwng gweithredwyr lluosog ac Awdurdodau Lleol, gyda’r anhawster cysylltiedig o ran alinio nodau cyffredin a chanlyniadau sy'n seiliedig ar bolisi.
  • ar hyn o bryd, dim ond gallu rhannol sydd gan Awdurdodau Lleol i reoli rhwydweithiau bysiau, felly, nid yw systemau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer bysiau’n destun cynllunio trafnidiaeth, fel y byddai gwelliannau i’r rhwydwaith ffyrdd, er enghraifft.
  • mae llinellau gwasanaeth bysiau fel arfer yn cael eu gweithredu fel set o wasanaethau ar wahân gyda chydgysylltu cyfyngedig â gwasanaethau eraill – gan nad oes gan yr un sefydliad unigol y capasiti priodol a'r pwerau gweithredol i reoli'r cydgysylltu hwn.
  • hyd yn oed cyn pandemig COVID-19, roedd cyllid Llywodraeth Cymru yn cyfrif am dros hanner y costau gweithredu bysiau yng Nghymru, ond mae'n cael ei rhoi yn bennaf i weithredwyr, heb gysylltiadau ag unrhyw strategaethau gwella hirdymor.
  • er bod system docynnau sy'n cael ei defnyddio gan nifer o weithredwyr yn ymarferol, byddai gweithredwyr yn parhau i ddarparu eu tocynnau eu hunain, sydd yn y pen draw yn methu darparu hwylustod un tocyn ar gyfer cwsmeriaid. At hynny, bydd unrhyw ddefnydd helaeth yn y farchnad o docyn aml-weithredwr hefyd yn dod â'r angen am system ailddosbarthu refeniw gymhleth i wahanol wasanaethau a gweithredwyr, ac mae’n debyg y byddai angen trafodaethau parhaus mewn ymateb i newidiadau i amodau ffyrdd, defnydd tir, amlder gwasanaethau ac ati.

Mae’r strategaeth fysiau ddiweddaraf gan yr Adran Drafnidiaeth: Bus Back Better yn nodi'r rhwystrau canlynol i ddarparu gwasanaethau bysiau gwell:

Cydweithredu cyfyngedig

Mewn cyrchfan brysur ar lan y môr, mae dau rwydwaith bysiau cystadleuol sylweddol nad ydynt yn cydnabod bodolaeth ei gilydd. 

  • maent yn cyhoeddi mapiau dinas ar wahân, gan ddangos eu gwasanaethau eu hunain yn unig, gan roi'r argraff i ddarpar ddefnyddwyr, gan gynnwys ymwelwyr, nad yw rhai rhannau o'r ddinas yn cael eu gwasanaethu o gwbl
  • maent yn defnyddio'r un rhifau llwybr ar gyfer llwybrau cwbl wahanol
  • ar y llwybrau prysuraf, a wasanaethir gan y ddau weithredwr, gall fod gormod o gapasiti ar rai adegau o'r dydd. 

Mae tocyn aml-weithredwr ar gael, ond mae'n ddrutach ac yn anodd cael gwybod amdano. 

Ar nifer o lwybrau ledled y wlad, mae gwasanaethau gyda'r nos ac yn ystod y dydd yn cael eu gweithredu gan gwmnïau bysiau gwahanol, ac nid yw llawer ohonynt yn cydnabod bodolaeth ei gilydd na hyd yn oed yn derbyn tocynnau ei gilydd. Nid yw amserlenni rhai gweithredwyr yn dangos gwasanaethau ei gilydd, sy'n rhoi'r argraff nad oes unrhyw wasanaethau ar wahanol adegau o'r dydd.

Mae'r system farchnad yn gweithio i wneud cymaint o elw masnachol ag y bo modd yn y tymor byr, ac nid yw'n sicrhau'r manteision gorau i deithwyr nac yn sicrhau'r manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach sy'n flaenoriaeth i awdurdodau cyhoeddus a'r llywodraeth. Roedd y niferoedd a oedd yn defnyddio bysiau yn Llundain, lle na chafodd bysiau eu dadreoleiddio, yn sylweddol uwch na gweddill y DU, hyd yn oed cyn buddsoddi sylweddol i wella gwasanaethau bysiau ar ddechrau'r ganrif hon. Amlinellir rhai o'r gwahaniaethau isod. Mae llywodraethu pob dull o drafnidiaeth gyhoeddus yng ngwledydd gogledd Ewrop fel yr Almaen, Awstria a'r Swistir, yn arwain at rhwng dwy a phedair gwaith cynifer o deithiau trafnidiaeth gyhoeddus y pen y flwyddyn nag ardaloedd o'r DU sydd â dwysedd poblogaeth tebyg. 

Masnachfreinio Bysiau Llundain

Llundain

  • Ni chafodd rhwydwaith bysiau Llundain ei ddadreoleiddio gan Ddeddf Trafnidiaeth 1985. Llywodraethir bysiau yn Llundain gan Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (Mae Pennod Pedwar (Public passenger transport) (adrannau 173–178) o Greater London Authority Act 1999 yn amlinellu sut y darperir gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr yn Llundain.).
  • Yn Llundain, mae Transport for London (TfL) yn nodi pa wasanaethau bysiau sydd i'w darparu. TfL sy'n penderfynu ar y llwybrau, yr amserlenni a'r prisiau. Mae'r gwasanaethau eu hunain yn cael eu gweithredu o dan gontract gan gwmnïau preifat drwy broses dendro gystadleuol.
  • Mae TfL yn atebol i Faer Llundain
  • Ers 1986:

 Gweddill y DU

  • dechreuodd Deddf Trafnidiaeth 1985 ddadreoleiddio gwasanaethau bysiau ledled Prydain Fawr. Mae dadreoleiddio'r bysiau wedi arwain at farchnad rydd – gall unrhyw un (yn amodol ar safonau diogelwch a gweithredu gofynnol) weithredu gwasanaethau bysiau. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod o dan reolaeth uniongyrchol yng Ngogledd Iwerddon.
  • mae gweithredwyr bysiau yn rhydd i redeg y gwasanaethau y maent am eu rhedeg, gosod eu prisiau eu hunain a dewis y cerbydau maent yn eu defnyddio.
  • nid yw’r rhwydwaith yn cael gydgysylltu.
  • mae amrywiaeth o opsiynau tocynnau.
  • yn anaml y mae'r pum cwmni mawr sydd, ar draws y rhan fwyaf o'r wlad, yn dominyddu'r farchnad (Arriva, First, Go-Ahead, National Express a Stagecoach) yn cystadlu'n uniongyrchol â'i gilydd.
  • mae gweithredwyr yn canolbwyntio ar y teithiau mwyaf proffidiol
  • rhaid i Awdurdodau Lleol dalu gweithredwyr i redeg teithiau a llwybrau sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol, heb wybodaeth lawn am broffidioldeb llwybrau a heb y gallu i fanteisio i'r eithaf ar synergeddau ar draws gwasanaethau masnachol a gwasanaethau â chymhorthdal.
  • mae nifer y defnyddwyr ledled y wlad wedi bod yn dirywio yn y tymor hir, ac eithrio rhai eithriadau lleol.
  • cymorth cyhoeddus a roddir ar ffurf refeniw (ad-daliadau consesiynol, grantiau i weithredwyr gwasanaethau bysiau a chymorth ar gyfer gwasanaethau sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol) yn ogystal â mesurau cyfalaf, megis lonydd bysiau, cyfnewidfeydd, seilwaith ac mewn rhai achosion, fflyd.

Mae cyllid cyhoeddus ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru, hyd yn oed cyn pandemig COVID-19, wedi bod yn sylweddol, gan gynnwys dros £100 miliwn o gymorth uniongyrchol bob blwyddyn drwy'r Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau, ad-daliadau tocynnau consesiynol a gwasanaethau sy'n destun proses dendro leol. Mae hyn yn codi i dros £220 miliwn bob blwyddyn ar gyfer y system ehangach (gan gynnwys rhai gwasanaethau tacsis a thrafnidiaeth gymunedol) pan fyddwch yn ystyried gwasanaethau trafnidiaeth ychwanegol sy'n derbyn cymorth cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys trafnidiaeth iechyd nad yw'n frys, cludiant i'r ysgol, gwasanaeth bysiau TrawsCymru, grantiau bysiau ac ad-daliadau ar gyfer y Cynllun Pris Siwrnai Consesiynol Gorfodol. Fel y nodwyd uchod, mae hyn yn seiliedig ar amcangyfrifon cyn pandemig COVID-19, pan fu angen cyllid ychwanegol sylweddol i ddigolledu'r diwydiant am golli refeniw teithwyr.

Byddai'r ddeddfwriaeth bresennol, yn amodol ar Weinidogion Cymru yn cyflwyno'r darpariaethau deddfwriaethol perthnasol, yn caniatáu i Awdurdodau Lleol yng Nghymru ymrwymo i Gynlluniau Contractau Ansawdd (adrannau 124 i 134B o Ddeddf Trafnidiaeth 2000). Math o fasnachfreinio yw'r rhain sy'n galluogi Awdurdodau Lleol i bennu pa wasanaethau bysiau sydd i’w darparu mewn ardal, a rhoi contractau ar gyfer darparu'r gwasanaethau hynny.

Fodd bynnag, mae'r broses bresennol ar gyfer Cynlluniau Contractau Ansawdd yn rhy gymhleth ac yn defnyddio llawer o adnoddau. Dim ond unwaith y rhoddwyd cynnig ar ddefnyddio Cynllun Contractau Ansawdd yn Lloegr (Nexus Tyne a Wear) ac ni chynigiwyd gwneud hyn Nghymru o gwbl. Ni chafodd y cynllun hwn gymeradwyaeth gan y Bwrdd Cynllun Contractau Ansawdd perthnasol, dan arweiniad y Comisiynydd Traffig. Roedd y broses yn gostus, a chymerodd tua dwy flynedd. Mae hanes wedi dangos nad yw'r darpariaethau hyn yn ddigonol i gyflawni maint y newid mae angen inni ei weld wrth gynllunio a darparu ein systemau trafnidiaeth gyhoeddus, a bod angen newid deddfwriaethol i sicrhau'r ansawdd gwasanaeth sydd ei angen ar bobl, ac ar y cyflymder sydd ei angen i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. 

Mae'r tabl canlynol yn crynhoi'r heriau a'r problemau sy'n gysylltiedig a'r ffordd mae gwasanaethau bysiau'n cael eu darparu yng Nghymru ar hyn o bryd:

Crynodeb o'r heriau a'r problemau sy'n gysylltiedig a'r ffordd mae gwasanaethau bysiau'n cael eu darparu yng Nghymru ar hyn o bryd

Problemau sy'n gysylltiedig â dadreoleiddio:

  • diwydiant wedi'i ddadreoleiddio gyda dros 80 o weithredwyr bysiau yng Nghymru.
  • mae gweithredwyr lluosog yn arwain ag ddiffyg cydgysylltu, ar lefel leol a chenedlaethol – gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: lwybrau tocynnau (yn enwedig tocynnau nad ydynt yn aml-weithredwr); ac integreiddio â rhwydweithiau rheilffyrdd a theithio llesol. Mae hyn yn arwain at wasanaeth o safon is sy'n ddryslyd ac yn methu denu teithwyr.
  • diffyg grŵp llywio cyffredinol sydd â'r pŵer i gydgysylltu rhwng gwasanaethau ac â dulliau teithio eraill fel trenau.
  • nid yw llwybrau'n ymateb i anghenion teithwyr sy'n newid – o deithiau byr / teithio i'r siopau i deithiau hirach.
  • sefydlogrwydd cyfyngedig ar gyfer llwybrau a chyrchfannau yn y tymor hir.   
  • diffyg symlrwydd mewn perthynas â theithiau, rhifau bysiau, tocynnau, prisiau ac arwyddion.
  • cerbydau, seilwaith, gwybodaeth i deithwyr y mae eu safon yn amrywio.
  • anghysondeb o ran brandio a diffyg enw cyffredinol ar gyfer y rhwydwaith.
  • mae gwasanaethau ymylol yn newid rhwng gwasanaethau masnachol ac anfasnachol dros amser, gan wneud cynllunio rhwydwaith strategol yn anodd.

Materion eraill

  • gostyngiad yn nifer y teithwyr.
  • gweithlu sy'n heneiddio yn peri risg bosibl o ddiffyg gyrwyr medrus yn y dyfodol. 
  • mae lleihau gwasanaethau masnachol mewn rhai ardaloedd wedi arwain at fwy o bwysau ar Awdurdodau Lleol i gefnogi gwasanaethau sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol.
  • gwasanaethau gyda'r nos ac ar benwythnosau y mae angen cymhorthdal ychwanegol arnynt.
  • yr angen i bennu a chyflawni targedau datgarboneiddio.
  • allyriadau o fysiau diesel yn cyfrannu at ansawdd aer gwael, gyda’r angen i wella'r fflyd mewn modd cydgysylltiedig.
  • diffyg gwybodaeth i deithwyr mewn amser real mewn sawl ardal.
  • gwasanaethau bws sy'n methu â chyrraedd yn unol â'r amserlen oherwydd tagfeydd, a diffyg mesurau i roi blaenoriaeth i fysiau fel y gallant fynd heibio i dagfeydd.

Yn y pen draw, mae angen gwasanaethau ar bobl sy'n mynd â nhw i ble bynnag maent eisiau mynd, pryd maent eisiau mynd, ar fysiau sy'n ddiogel, yn lân, yn ddibynadwy, yn brydlon ac yn fforddiadwy.  Maent hefyd am teithio ar fysiau nad ydynt yn gwaethygu ansawdd aer lleol nac yn cynhyrchu allyriadau carbon sy'n cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd. Hoffem weld Cymru yn defnyddio bysiau allyriadau isel iawn cyn gynted ag y gellir gwneud hynny'n ymarferol.

Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r papur hwn yn nodi ffactorau llwyddiant sy'n allweddol ar gyfer system fysiau well, gan gynnwys:

  • rhwydweithiau ar gyfer ardal gyfan lle mae modd cyrraedd pob cyrchfan leol arwyddocaol
  • un system docynnau
  • rhwydwaith sy'n hawdd ei ddeall
  • un brand
  • trosglwyddiadau hawdd a dibynadwy
  • amseroedd teithio dibynadwy
  • bysiau hygyrch a chyfforddus
  • adborth gan y cyhoedd a gofal cwsmeriaid
  • diogelwch ac iechyd teithwyr
  • rhwydwaith effeithlon a fforddiadwyedd ariannol.

Mae teithwyr yn ganolog i'r cynigion a amlinellir yn y papur gwyn hwn. Rhaid i wasanaethau bysiau fod yn opsiwn hawdd ei ddefnyddio a deniadol i amrediad llawer mwy o bobl nag ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu gwelliannau i ble a phryd y mae bysiau'n rhedeg; lle pwrpasol ar y ffyrdd fel y gallant fynd heibio i dagfeydd; a gwelliannau i'r cerbydau eu hunain, i orsafoedd bysiau, i safleoedd bysiau, i wybodaeth ac i'r system docynnau.

Ein blaenoriaeth yw darparu'r gwasanaethau sydd eu heisiau ar bobl ac annog rhagor o bobl i ddefnyddio bysiau. Yn benodol, hoffem sicrhau bod gan yrwyr ceir opsiynau yn lle gyrru sy'n fforddiadwy, yn gyfleus, yn gyflym, yn ddiogel ac yn lân. 

Mae gwybodaeth glir, gyfredol o ansawdd uchel yn hanfodol er mwyn i bobl ddeall y gwasanaethau sydd ar gael iddynt. Mae disgwyliadau pobl o ran ansawdd y wybodaeth a ddylai fod ar gael yn uwch o lawer nag yr oeddent hyd yn oed ychydig o flynyddoedd yn ôl, ac mae defnyddwyr yn disgwyl gallu gwneud dewisiadau gwybodus yn seiliedig ar wybodaeth sy'n hawdd dod o hyd iddi.

Yn ogystal â gwelliannau i wybodaeth i deithwyr, rydym am weld gwelliannau sylfaenol i'r systemau tocynnau. Ar hyn o bryd, yn aml ni ellir trosglwyddo tocynnau rhwng gweithredwyr neu ddulliau trafnidiaeth, a chredwn fod hyn yn cyfyngu ar ba mor ddeniadol yw bysiau fel ffordd o deithio. Rhaid mynd i'r afael â'r broblem hon. Dylai pobl allu gwneud teithiau gyda dim ond un tocyn syml sy'n mynd â nhw i ble bynnag maent am fynd, ni waeth pa gyfuniad o wasanaethau mae angen iddynt eu defnyddio i gyrraedd pen eu taith.

Lleihau ein heffaith carbon

Mae'r argyfwng hinsawdd yn her fyd-eang sy'n gofyn am weithredu brys. Yn ôl Cymru Sero-net Cyllideb Garbon 2, os ydym am ymateb i'r argyfwng hinsawdd, rhaid i'r degawd hwn fod yn ddegawd o weithredu yng Nghymru, ac mae angen inni wneud mwy o gynnydd yn y deng mlynedd nesaf nag rydym wedi'i wneud yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Mae gan drafnidiaeth rôl bwysig i'w chwarae wrth helpu Cymru i sicrhau sero-net a chreu manteision ehangach mewn perthynas ag iechyd, ansawdd aer, hygyrchedd a'r economi.

Nid yw'r system drafnidiaeth gyhoeddus ddarniog bresennol yn darparu'r gwasanaethau gorau i deithwyr. Bydd galluogi pobl i newid o geir preifat i ddulliau teithio carbon is yn bwysig er mwyn bodloni ein cyllidebau carbon yn y tymor byr. Bydd hyn yn cael ei alluogi drwy ddatblygu system drafnidiaeth gyhoeddus integredig, aml-ddull, sy'n arwain at siwrneiau di-dor a diymdrech i deithwyr.

Wrth weithredu a gwneud newidiadau i drafnidiaeth, cydnabyddir bod rhaid i'r newid fod yn deg, i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ei ôl, a bod effeithiau'r newid yn cael eu rhannu'n deg. Er mwyn inni wireddu'r amcanion hyn, yna mae'r gallu i gynnig dewisiadau gwirioneddol i bobl, a pheidio ag anwybyddu'r rhai nad ydynt efallai'n gallu fforddio buddsoddi mewn car trydan, neu na allant yrru, yn hollbwysig. O ganlyniad, bydd pobl a'r newid i'r hinsawdd yn ganolog i'n system drafnidiaeth.

Mae nifer o ffyrdd o leihau effeithiau carbon o drafnidiaeth, gan gynnwys bysiau:

  • lleihau teithio
  • lleihau nifer y teithiau a wneir mewn car
  • hyrwyddo newid o geir i fysiau (a thrafnidiaeth gyhoeddus arall, cerdded a beicio) fel yr opsiwn arferol
  • cynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio pob bws
  • hyrwyddo newid i fysiau dim allyriadau carbon

Mae angen inni newid y ffordd rydym yn teithio drwy sicrhau bod rhagor o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn cerdded ac yn beicio yn hytrach na defnyddio ceir preifat. Yn seiliedig ar ein dadansoddiadau presennol, mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed i weld 45% o deithiau’n cael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus a thrwy gerdded a beicio erbyn 2040. Amcangyfrifir bod 32% o deithiau'n cael eu gwneud drwy'r dulliau hyn ar hyn o bryd (Mae’r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar Arolwg Teithio Cenedlaethol Lloegr, gyda’r data'n cael eu rhannu yn ôl categorïau gwledig-trefol, ac yn cael eu pwysoli i gyfateb i gyfran y bobl sy'n byw ym mhob categori gwledig-trefol yng Nghymru). Bydd gwella gwasanaethau bysiau yn hanfodol er mwyn annog pobl i wneud y newid hwn.

Yn ôl Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021, yn 2018 roedd trafnidiaeth gyhoeddus yn gyfrifol am 17% o allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru; roedd 62% yn dod o geir preifat; 19% o gerbydau nwyddau ysgafn (LGVs); ac 16% o fysiau a cherbydau nwyddau trwm (HGVs). Bydd newid o fflyd o fysiau sy'n defnyddio tanwydd ffosil i fflyd sy'n defnyddio trydan o fatri, neu drydan celloedd tanwydd (gan ddefnyddio hydrogen gwyrdd) yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon; a lleihau allyriadau llygryddion a all effeithio ar ansawdd aer lleol, gan niweidio iechyd y cyhoedd.

Byddwn yn annog pobl i newid i drafnidiaeth fwy cynaliadwy drwy ei gwneud yn fwy deniadol i bob rhan o'r gymdeithas (Un Rhwydwaith), gan fabwysiadu datblygiadau arloesol sy'n ei gwneud yn haws eu defnyddio (Un Amserlen) a'i gwneud yn fwy fforddiadwy (Un Tocyn).

Er nad yw'r mater hwn wedi’i gynnwys yn benodol yn ein deddfwriaeth arfaethedig, bydd angen inni weithio gyda'r diwydiant o fewn y system a reoleiddir a gynigir i sicrhau bod depos bysiau'n cael eu cynllunio a'u hadeiladu er mwyn gwefru bysiau trydan a llenwi bysiau hydrogen. Lle bynnag y bo hynny'n ymarferol, dylai depos, gorsafoedd bysiau a chysgodfannau ddefnyddio ynni'r haul neu'r gwynt (neu ynni adnewyddadwy arall) i gynhyrchu trydan ar gyfer goleuadau, gwres, arddangosfeydd electronig ac ati. 

Cwestiwn 1

A ydych yn cytuno bod angen newid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau bysiau i ddiwallu anghenion dinasyddion Cymru ac i ymateb i'r argyfwng hinsawdd?  Rhowch sgôr o 5 (cytuno'n gryf) i 1 (anghytuno'n gryf). Rhowch sylwadau.

Cynigion deddfwriaethol

Er mwyn cyflawni'r amcanion a nodwyd ar ddechrau'r papur hwn, mae angen inni newid y model gweithredu ar gyfer ein bysiau yng Nghymru. Mae hyn yn canolbwyntio ar yr angen i ddarparu system fysiau sy'n sicrhau'r manteision mwyaf posibl i'r cyhoedd. 

Rydym wedi ystyried amryw opsiynau ar gyfer newid, a amlinellir yn fanylach yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, gan gynnwys model Partneriaeth Well a gyflwynwyd yn Lloegr yn 2017, llinell sylfaen dim newid, ac effeithiau rhagor o newidiadau a buddsoddiadau sylweddol y tu hwnt i'r ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, mae'r trefniadau partneriaeth hyn yn wirfoddol ac, ar ôl pum mlynedd, dim ond o ganlyniad i'r penderfyniad i dynnu cyllid ar gyfer bysiau mewn ardaloedd nad oes ganddynt bartneriaeth o'r fath y disgwylir gweld cynnydd mewn Partneriaethau Gwell (Mae Strategaeth Genedlaethol Bus Back Better (2021) yr Adran Drafnidiaeth wedi dweud, o fis Ebrill 2022, y bydd rhaid i bob Awdurdod Trafnidiaeth Lleol fod â Phartneriaeth Well ar waith, neu fod yn dilyn y broses statudol i benderfynu a ddylent roi cynllun masnachfreinio ar waith, er mwyn cael mynediad at y ffrydiau newydd o gyllid sydd ar gael ar gyfer bysiau yn ôl disgresiwn). Yn hollbwysig, nid yw system o'r fath yn caniatáu inni, mewn modd cyflym a sicr,  ddarparu system 'Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn' ledled Cymru sy'n gweithio ochr yn ochr â threnau. Credwn, er mwyn gweithredu gyda'r cyflymder a'r sicrwydd sydd eu hangen er mwyn ymateb i'r argyfwng hinsawdd,  fod angen masnachfreinio'r rhwydweithiau bysiau yng Nghymru. Daeth yr asesiad hwnnw i'r casgliad, hyd yn oed os defnyddir amcangyfrif ceidwadol (h.y. uchel) o gost rhoi masnachfreinio ar waith ar lefel awdurdod lleol unigol, fod y manteision mae masnachfreinio’n eu darparu’n fwy na'r rhai a ddarperir naill ai drwy fodelau partneriaeth neu'r fframwaith deddfwriaethol presennol. Mae hefyd yn dangos, os gwneir buddsoddiadau ehangach sylweddol yn y system fysiau, fod masnachfreinio yn parhau i sicrhau rhagor o fanteision na phartneriaethau. 

Masnachfreinio

Mae masnachfreinio’n golygu y bydd Llywodraeth Leol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i gynllunio rhwydweithiau a gwasanaethau bysiau sy'n diwallu anghenion pobl a chymunedau orau o fewn y cyllid sydd ar gael. Mae'r awdurdod masnachfraint yn dewis y gwasanaethau a’r ffordd y byddant yn cael eu gweithredu, gan gynnwys llwybrau, safon cerbydau, amserlenni, prisiau tocynnau, brandio, gwybodaeth i deithwyr a thocynnau. Bydd gweithredwyr wedyn yn gwneud cais am gontractau i weithredu’r y gwasanaethau hyn, gan gystadlu mewn proses dendro i ddarparu'r gwasanaethau hynny mewn ffordd mor effeithlon ac effeithiol â phosibl, yn hytrach na chystadlu am deithwyr ar safleoedd bysiau. Wedyn, ni chaiff gweithredwyr eraill gofrestru llwybrau o fewn ardal y fasnachfraint. Bydd y raddfa y mae contractau yn cael eu gosod ar gyfer gwasanaethau yn cael ei phennu fesul achos – o lwybrau unigol i rwydweithiau lleol cyfan.

Efallai y bydd angen i wasanaethau masnachol gael eu trwyddedu yn ogystal â'r rhwydwaith sydd o dan gontract, yn enwedig er mwyn sicrhau cysylltiadau trawsffiniol â Lloegr wrth hefyd gynnal cysondeb â gwasanaethau eraill yng Nghymru. Bydd hyn yn caniatáu i'r system fasnachfreintiau gefnogi'r cysylltiadau allweddol hynny ar gyfer llawer o'n cymunedau, gan sicrhau bod rhwydweithiau trawsffiniol yn cael yr un lefel o gydgysylltu rhwng rhwydweithiau, amserlenni a thocynnau yng Nghymru, wrth bennu'r safonau ar gyfer dim ond y rhan o wasanaethau trawsffiniol sydd yng Nghymru, er mwyn peidio ag ymyrryd â threfniadau llywodraethu gwasanaethau bysiau yn Lloegr. I weithredwyr, byddai hyn yn golygu bod llwybrau trawsffiniol yn gweithredu yn yr un modd â'r system bresennol, ond byddent yn ddarostyngedig i safonau ychwanegol ar ochr Cymru, a byddai angen cymeradwyaeth arnynt i sicrhau eu bod o fudd i weddill y rhwydwaith. 

Er bod modelau eraill wedi cael eu rhoi ar waith mewn rhannau eraill o'r DU, ac wedi cael eu cynnig o'r blaen yng Nghymru, rhaid inni gydnabod maint yr her sy'n ein hwynebu. Dros yr 20 mlynedd diwethaf gwnaed ymdrechion sylweddol, o fewn ein fframwaith deddfwriaethol presennol a thrwy bartneriaethau statudol yn Lloegr, i wella gwasanaethau bysiau. Fodd bynnag, nid oes dim wedi dod yn agos at gyflawni maint y newid, yn sicr nid at gyflymder y newid sydd ei angen i ymateb i'r argyfwng hinsawdd.  Mae'r dadansoddiadau a amlinellir yn ein Hasesiad Effaith Rheoleiddiol drafft, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r papur hwn, yn tynnu sylw at yr angen am ryw fath o reolaeth gyffredinol i sicrhau rhwydwaith hawdd ei ddeall sydd wedi'i gynllunio'n dda; ar gyfer un system docynnau sy’n hawdd ei defnyddio; ac ar gyfer gwasanaethau dibynadwy sy'n rhannu'r un brand.

Elfen allweddol o'r dull hwn yw bod contractio gwasanaethau yn y ffordd hon yn caniatáu i'r sector cyhoeddus reoli refeniw tocynnau, talu ffi sefydlog i weithredwyr gyda chyfleoedd i gynnwys cymhellion i wobrwyo gwasanaethau o ansawdd uchel a dibynadwyedd, a chosbau am fethu bodloni safonau gwasanaeth penodol. Mae hyn yn golygu y gellir gwneud dewisiadau er budd y cyhoedd ynghylch a yw'n dal i fod yn werth chweil gweithredu llwybrau amhroffidiol, a sut i ailfuddsoddi incwm o lwybrau proffidiol i gefnogi'r gwasanaethau hynny sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol.

Er y gallai hyn gyfyngu ar yr elw mae gweithredwyr yn ei wneud o rai llwybrau a rhwydweithiau, mae hefyd yn sicrhau y gallant redeg gwasanaethau gydag incwm dibynadwy heb beri risg i refeniw os yw nifer y defnyddwyr yn gostwng o ganlyniad i ddirywiad economaidd neu ffactorau eraill. O dan system fasnachfreintiau, mae'r sector cyhoeddus yn ysgwyddo'r risg honno, ac yn ein galluogi i ddarparu'r rhwydwaith gorau y gallwn â'r cyllid sydd ar gael.

Y tu hwnt i newid deddfwriaethol, mae model contractio hefyd yn caniatáu inni bennu safonau gofynnol ar gyfer contractau. Gallai hyn fod yn berthnasol i wasanaethau ac i gyflogau ac amodau staff, yn unol â'n Contract Economaidd, gan sicrhau na cheir cystadleuaeth am wasanaethau ar draul cefnogi a thyfu'r proffesiwn gyrru bysiau.

Nid yw hyn yn golygu, yn enwedig ar y dechrau, y byddwn yn gallu fforddio gweithredu’r rhwydwaith delfrydol, ac y bydd pawb yn gallu cael yr hyn y maent am ei gael o'r system fysiau. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu rhwydwaith bysiau mor effeithiol a dibynadwy ag o bo modd, a chredwn fod y cynigion yn y papur hwn yn gosod y fframwaith inni wneud hynny. Ochr yn ochr â hyn, bydd angen inni barhau i weithio ar y system ehangach, gan gynnwys trafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw, i ddarparu opsiwn teithio dibynadwy a fforddiadwy i bawb yng Nghymru.

Bydd masnachfreinio yn ein galluogi i gynllunio a chontractio rhwydweithiau sy'n mynd â phobl i ble maent am fynd; bydd yn ein galluogi i gynllunio amserlenni dibynadwy, sy'n sefydlog yn y tymor hir, fel bod pobl yn gwybod pryd y gallant gael bws; a bydd yn caniatáu inni gyflwyno tocynnau aml-weithredwr syml, fel nad oes rhaid i bobl ddehongli cynigion gwahanol weithredwyr, ac nad oes angen iddynt brynu nifer o docynnau ar gyfer yr un daith, a gallant ganolbwyntio ar gyrraedd lle mae angen iddynt fynd. Y nod yw creu system fysiau y gall pobl ddibynnu arni i fynd â nhw lle bynnag mae angen iddynt fynd.

Fel y nodwyd uchod, bydd y gwelliannau allweddol hyn i wasanaethau, ynghyd ag eraill a nodir yn y papur hwn, yn gwneud gwasanaethau'n fwy effeithlon a deniadol, gan gynnig gwasanaeth llawer gwell i bobl sy'n dibynnu ar fysiau, ac annog a chefnogi pobl i symud o geir preifat i drafnidiaeth gyhoeddus – amcan allweddol a nodir yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a Chymru Sero-net i gyflawni ein targedau hinsawdd.  

Cwestiwn 2

A ydych yn cytuno bod angen masnachfreinio er mwyn sicrhau maint a chyflymder y newid i'r rhwydwaith bysiau sy'n ei angen yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd? Rhowch sgôr o 5 (cytuno'n gryf) i 1 (anghytuno'n gryf). Rhowch sylwadau.

Ymgorffori Gwybodaeth Leol ac Atebolrwydd Lleol 

Mae Llywodraeth Leol yn ganolog i'r system fysiau. Rydym yn dibynnu ar wybodaeth leol i nodi'r gwasanaethau sy'n hanfodol i gymunedau, ac mae Awdurdodau Lleol yn darparu gwasanaethau allweddol, gan gydgysylltu trafnidiaeth i ysgolion ac ar gyfer gofal. Mae sicrhau atebolrwydd lleol am nodi a blaenoriaethu'r gwasanaethau hynny yn amcan allweddol inni yn y broses hon.

Gwyddom hefyd nad yw teithiau pobl yn cael eu cyfyngu i ffiniau Awdurdodau Lleol, felly mae angen inni ddod o hyd i ffordd o ymgorffori'r wybodaeth a'r atebolrwydd hwnnw mewn system sy'n cydgysylltu gwasanaethau bysiau yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, a'u cysylltu ag opsiynau trafnidiaeth eraill fel trenau a theithio llesol, i ddatblygu'r rhwydwaith cywir ar gyfer Cymru gyfan.

Dyma un o rolau allweddol Cyd-bwyllgorau Corfforedig, sy’n adlewyrchu eu rôl wrth gynllunio trafnidiaeth, i lunio darlun rhanbarthol o'r rhwydwaith a sicrhau bod llwybrau a chymunedau rhyngranbarthol yn cael eu gwasanaethu cystal â'r rhai o fewn un awdurdod.

Cafodd Cyd-bwyllgorau Corfforedig eu sefydlu o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2020. Maent yn cyrff y mae eu haelodau yn cynnwys y prif cynghorau, wedi'u sefydlu yn ôl statud, ac maent yn gallu cyflogi staff yn uniongyrchol, cynnal asedau a rheoli cyllid.  Bwriad Cyd-bwyllgorau Corfforedig yw galluogi i swyddogaethau dethol gael eu cyflawni'n fwy effeithiol a strategol ar lefel ranbarthol, gan wneud defnydd mwy effeithlon o adnoddau gwerthfawr. Mae'r model wedi'i gynllunio i gynnig yr hyblygrwydd mwyaf posibl, gyda manylion yn cael eu datblygu drwy reoliadau a lunnir ar y cyd â llywodraeth leol.

Credwn mai'r ffordd orau o gyflawni'r math o gydgysylltu cenedlaethol a chynllunio rhwydwaith sydd ei angen, i sicrhau'r manteision gorau posibl i'r cyhoedd ledled Cymru, yw dod â'r arweinwyr rhanbarthol hynny ynghyd â Llywodraeth Cymru, gyda mewnbwn gan arbenigwyr, mewn bwrdd goruchwylio cenedlaethol a all gynnig arweiniad cyffredinol, gan ddod â phob lefel o'r system fysiau at ei gilydd i gyflawni'r amcan hwnnw.

O dan y model hwn, byddai Awdurdodau Lleol yn datblygu cynllun ar gyfer rhwydwaith bysiau sy'n diwallu anghenion eu cymunedau. Byddai Cyd-bwyllgorau Corfforedig wedyn yn gyfrifol am ddod â'r rhain at ei gilydd i gytuno ar gynllun rhanbarthol. Byddai Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda nhw, ar ran Llywodraeth Cymru, i gyfuno'r rhwydweithiau hyn yn gynllun cenedlaethol y byddai aelodau'r bwrdd goruchwylio yn ei adolygu a'r Gweinidogion yn cytuno arno. Ar bob un o'r camau hyn byddem yn disgwyl i Drafnidiaeth Cymru gynnig cymorth arbenigol ar gynllunio rhwydweithiau a gweithio gydag Awdurdodau Lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig i helpu i ddatblygu eu cynlluniau a sicrhau eu bod wedi'u hintegreiddio'n dda â gwasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru.

Ein cynnig presennol yw bod rhaid i'r bwrdd hwn gynnwys cynrychiolwyr o bob un o'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig, i fwydo eu persbectif rhanbarthol i'r cynllun cyffredinol a sicrhau cydgysylltu rhwng y rhanbarthau. Dylai hefyd gynnwys Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am y strategaeth drafnidiaeth genedlaethol, am lefelau ariannu cyffredinol, ac am wasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r Gororau drwy Drafnidiaeth Cymru.

Dylai'r cynllun terfynol hwnnw hefyd gael ei lywio gan farn arbenigwyr a barn y cyhoedd ar wasanaethau bysiau, er mwyn sicrhau ei fod yn ystyried amrywiaeth o safbwyntiau. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig bod hyn yn cynnwys cynrychiolydd gweithredwyr, cynrychiolydd staff, a chynrychiolydd defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus a fyddai'n aelodau o'r bwrdd hwnnw. Nid ydym yn bwriadu nodi'n benodol mewn deddfwriaeth sylfaenol pwy ddylai'r cynrychiolwyr hyn fod, ond byddwn yn disgwyl i'r bwrdd roi sylw i'w barn a chaniatáu, drwy reoliadau a chanllawiau, i ragor o fanylion gael eu nodi ar sut yn union y bydd y gynrychiolaeth honno'n gweithredu. Bydd hyn yn caniatáu i gynrychiolwyr ar y bwrdd adlewyrchu cyfansoddiad y diwydiant, y gweithlu a'r corff teithwyr yn briodol ar y pryd, heb rwymo bwrdd yn y dyfodol i fodel a gynlluniwyd ar gyfer y diwydiant fel y mae yn 2022.

Er mwyn gweithredu'r cynllun masnachfreinio cyffredinol yn effeithiol, rydym yn bwriadu datblygu canolfan ragoriaeth genedlaethol newydd ar gyfer masnachfreinio contractio drwy Drafnidiaeth Cymru, gan roi mynediad i bob rhan o Gymru at yr un adnoddau arbenigol i dendro a rheoli contractau masnachfraint o ansawdd uchel. Er mwyn sicrhau bod y cynllun contractio cenedlaethol hwn yn gweithredu'n effeithiol, rydym yn cynnig bod Llywodraeth Cymru yn meddu ar y pŵer i roi masnachfreintiau, fel y gall Trafnidiaeth Cymru weithio gyda Chyd-bwyllgorau Corfforedig ac Awdurdodau Lleol i'w cyflawni ar ran Llywodraeth Cymru. Byddai hyn yn rhoi'r fantais ychwanegol o alinio'r pwerau â gwasanaethau rheilffyrdd, gan ganiatáu inni, drwy Drafnidiaeth Cymru, wneud cynlluniau ar gyfer gwasanaethau, tocynnau a gwybodaeth am deithiau ar gyfer bysiau a threnau ochr yn ochr. Bydd hyn yn ein galluogi i osgoi dyblygu gwasanaethau bysiau a threnau sy’n derbyn cymhorthdal cyhoeddus lle bynnag y bo modd, a chanolbwyntio ar ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cyffredinol integredig gwell i bobl, gan gynnwys cryfhau'r achos dros fuddsoddi mewn gwasanaethau rheilffyrdd lle y gellir cynllunio rhwydweithiau bysiau i ategu yn hytrach na chystadlu â nhw. Mae hefyd yn galluogi cydgysylltu â gwasanaethau bws pellter hir TrawsCymru a gwasanaethau bws sy'n ymateb i'r galw Fflecsi, sy'n cael eu goruchwylio gan Drafnidiaeth Cymru ar ran Gweinidogion Cymru.

Fodd bynnag , er mwyn sicrhau mewnbwn lleol, byddai gan Weinidogion Cymru ddyletswydd statudol i ymgynghori ag aelodau'r bwrdd goruchwylio arfaethedig ar gynlluniau masnachfreinio, a byddai'n rhaid iddynt egluro ac adrodd ar unrhyw wyriadau oddi wrth eu hargymhellion.

Rydym hefyd yn cynnig caniatáu i Weinidogion Cymru ddirprwyo'r pŵer i roi masnachfreintiau. Nid ydym yn disgwyl gwneud hynny, ond mae hyn yn diogelu'r ddeddfwriaeth sylfaenol yn y dyfodol yn erbyn newidiadau nas cynlluniwyd i strwythurau cyflawni, fel y gellid dirprwyo pwerau i gorff cyflawni statudol, os ystyrir bod gwneud hynny'n briodol yn y dyfodol. Byddem yn ymgynghori ar unrhyw newidiadau eraill i gyfrifoldebau'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig i sicrhau eu bod yn adlewyrchu cyd-ddealltwriaeth o rôl briodol y Cyd-bwyllgorau Corfforedig.  

Er mwyn i'r model hwn weithio'n ymarferol, bydd angen i gynlluniau a ddatblygir ar bob lefel o'r system fod yn fforddiadwy o fewn model cyffredinol. Rydym yn cynnig creu dyletswydd i sicrhau bod fforddiadwyedd yn cael ei ystyried wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer rhwydweithiau, ar lefel ranbarthol a chenedlaethol. Byddai hyn yn adlewyrchu, er enghraifft, fodel tebyg a grëwyd yn y Ddeddf Rheilffyrdd ar gyfer gwelliannau seilwaith, sy'n creu dyletswydd i ystyried fforddiadwyedd a chyllid cynaliadwy. Yn ymarferol, bydd angen i Lywodraeth Cymru weithio gydag Awdurdodau Lleol drwy Gyd-bwyllgorau Corfforedig i drafod a chytuno ar becynnau ariannu y gallant eu defnyddio yn sail i'w cynlluniau, gan sicrhau y gellir gwneud penderfyniadau drwy'r system gyfan, er mwyn cyfrannu'r lefel gywir o fuddsoddi yn unol ag anghenion ardal, a manteisio i'r eithaf ar y buddsoddi hwnnw drwy gynllunio'r gwasanaethau bysiau gorau posibl o fewn y gyllideb sydd ar gael. Er nad yw hyn yn ofynnol o dan y ddeddfwriaeth, o dan fodel y Ddeddf Rheilffyrdd, mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn cyhoeddi Datganiad Aml-flwyddyn o'r Cronfeydd sydd ar gael i ddarparu sail ar gyfer cyflawni'r ddyletswydd hon.

O dan y setliad cyllid presennol o dan ddatganoli, ni allwn ddarparu'r math o sicrwydd hirdymor o ran cyllid y byddai system o'r fath yn ei gael yn ddelfrydol, ond byddwn yn gweithio gyda llywodraeth leol i ddatblygu pecyn cyllido dangosol y gallant ei ddefnyddio'n sail i'w gynlluniau, er mwyn sicrhau ein bod i gyd yn gweithio tuag at yr un amcanion ac yn cynllunio'r rhwydwaith bysiau gorau y gallwn ei gyflawni o fewn y gyllideb honno.

Byddai'r model hwn yn creu'r manteision canlynol ar gyfer pob lefel o'r system: 

Bydd gan deithwyr:

  • system fysiau newydd, lle mae Gweinidogion Cymru yn cael eu cefnogi gan grŵp llywio a all gydgysylltu cyrff cyflawni i weithredu 'Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn' a defnyddio buddsoddiadau yn y ffordd fwyaf effeithlon posibl i gynyddu a gwella eu gwasanaethau bws
  • llais teithwyr i fewnbynnu blaenoriaethau teithwyr ar y lefel uchaf fel rhan o arweiniad y bwrdd goruchwylio.

Bydd gan awdurdodau lleol, yn uniongyrchol a thrwy eu mewnbwn drwy eu Cyd-bwyllgorau Corfforedig:

  • y gallu i lunio cynlluniau rhwydwaith bysiau sy'n diwallu anghenion eu cymunedau orau.
  • llais sylweddol mewn penderfyniadau cenedlaethol ynghylch ffurf y system fasnachfreintiau a'r ffordd mae'n cael ei gweithredu.
  • trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda nhw, ar ran Gweinidogion Cymru, i helpu i gyflawni eu hanghenion a'u blaenoriaethau lleol-rhanbarthol, gan sicrhau bod adnoddau ac arbenigedd yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon posibl.
  • llais sylweddol mewn perthynas â dosbarthiad gwasanaethau a buddsoddiadau cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru ar draws blaenoriaethau'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig / Awdurdodau Lleol.

Bydd gan Lywodraeth Cymru:

  • system llywodraethu bysiau sy'n gallu cynllunio rhwydwaith bysiau sy'n addas i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ac sy'n gallu cyflawni amcanion amgylcheddol, economaidd a pholisi cymdeithasol ehangach gyda'r cyflymder mwyaf posibl am y gost isaf posibl
  • y gallu, drwy Drafnidiaeth Cymru, i gydgysylltu bysiau a threnau i greu 'Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn' sy'n integredig ac yn aml-ddull.

Bydd gan weithredwyr bysiau:

  • weledigaeth glir ar gyfer dyfodol y rhwydwaith bysiau yn dilyn pandemig COVID-19.
  • y cynnydd mwyaf posibl yn nifer y defnyddwyr ac ehangiad canlyniadol y diwydiant bysiau drwy wneud y rhwydwaith mor ddeniadol ag y bo modd fel 'Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn’.
  • cydweithio drwy sedd wrth ford uchaf bwrdd goruchwylio'r grŵp llywio ynghyd â rhannu arbenigedd ar lefel cynllunio rhwydwaith.
  • dileu risg ansicrwydd y farchnad drwy'r awdurdod masnachfraint drwy gontractau gros (h.y. bydd Gweinidogion Cymru yn cael y refeniw tocynnau a chyda hynny'r risg i refeniw).

Bydd gan gyflogeion cwmnïau bysiau:

  • drefniadau ar gyfer cydweithio drwy sedd gynrychioliadol wrth ford uchaf bwrdd goruchwylio'r grŵp llywio.
  • amddiffyniad gwell yn erbyn ras i'r gwaelod, lle mae’r awdurdod masnachfraint yn gallu pennu amodau cytundebol ar gyfer pob cystadleuaeth masnachfraint, yn unol â'n Contract Economaidd.

Mae'r model hwn yn sicrhau y gall awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd yn rhanbarthol drwy Gyd-bwyllgorau Corfforedig i gynllunio'r gwasanaethau sydd eu hangen ar eu cymunedau, ac yna cael dweud eu dweud mewn modd ystyrlon ynghylch y ffordd mae Gweinidogion Cymru yn cyfuno rhwydweithiau rhanbarthol yn system fysiau gyffredinol sydd â'r nod o sicrhau'r manteision mwyaf posibl i bobl yng Nghymru, gan fanteisio ar gontractau ag arbedion maint a sicrhau bod gan y wlad gyfan fynediad at yr un sgiliau ac arbenigedd. Mae hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio a chydlunio, gyda phob lefel o lywodraeth yng Nghymru yn gweithio gyda'i gilydd i wasanaethu ein cymunedau yn y ffordd orau posibl, yn unol â'r Ffyrdd o Weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. 

Cwestiwn 3

A ydych yn cytuno â'r model masnachfreinio a ffefrir gan Lywodraeth Cymru fel y’i disgrifir uchod? Rhowch sgôr o 5 (cytuno'n gryf) i 1 (anghytuno'n gryf). Rhowch sylwadau.

Cwestiwn 4

A ydych yn cytuno bod y model hwn yn darparu digon o fewnbwn lleol ar gyfer cynllunio rhwydweithiau bysiau lleol? Rhowch sgôr o 5 (cytuno'n gryf) i 1 (anghytuno'n gryf). Rhowch sylwadau.

Cwestiwn 5

A ydych yn cytuno bod angen i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ystyried a chydgysylltu cynlluniau rhwydwaith bysiau yn rhanbarthol, cyn eu cyfuno ar lefel genedlaethol? Rhowch sgôr o 5 (cytuno'n gryf) i 1 (anghytuno'n gryf). Rhowch sylwadau. 

Cwestiwn 6

A ydych yn cytuno bod gosod a rheoli contractau ar y lefel genedlaethol gan Lywodraeth Cymru drwy Drafnidiaeth Cymru yn cynnig y cyfle gorau i gyfuno arbenigedd masnachfreinio a sicrhau arbedion maint? Rhowch sgôr o 5 (cytuno'n gryf) i 1 (anghytuno'n gryf). Rhowch sylwadau.

Cwestiwn 7

A ydych yn cytuno â'r angen am ddyletswydd i sicrhau bod cynlluniau wedi'u cynllunio i fod yn fforddiadwy? Rhowch sgôr o 5 (cytuno'n gryf) i 1 (anghytuno'n gryf). Rhowch sylwadau

Gofynion, rheoliadau a chanllawiau ychwanegol

Bydd deddfwriaeth sylfaenol yn gosod y strwythurau ar gyfer masnachfreinio, ond bydd angen llawer o fanylion ychwanegol i sicrhau bod masnachfreinio’n cael ei weithredu mewn modd llwyddiannus. Bydd angen ymdrin â rhai o'r materion hyn yn y Bil, gan sicrhau bod pwerau masnachfreinio yn cael eu harfer i gefnogi twf hirdymor y diwydiant. Bydd angen amlinellu manylion eraill mewn rheoliadau a chanllawiau pellach i sicrhau bod masnachfreinio'n cael ei weithredu mewn modd llwyddiannus. Mae hyn yn cael ei amlinellu isod.

Ein nod yw sicrhau bod masnachfreinio mor effeithiol â phosibl wrth ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel, a datblygu a chynnal marchnad iach i ddarparu llwybrau bysiau. Mae hynny'n cynnwys defnyddio amrediad o fusnesau bach a chanolig a gweithredwyr trefol, yn ogystal â'r gweithredwyr masnachol mawr, a all wneud cais i weithredu contractau masnachfraint. Bydd y rhan fwyaf o hyn yn dibynnu ar y dull contractio, gan sicrhau bod cyfleoedd deniadol i bob math o weithredwyr gystadlu amdanynt. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol yn benodol o'r risg y mae masnachfreinio yn ei pheri i weithredwyr llai. Rydym yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru a gweithredwyr i ystyried sut i sicrhau y gallai bysiau dim allyriadau a chyfleusterau depo priodol fod ar gael i weithredwyr llai, er mwyn lleihau'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael mynediad i'r farchnad a'r risg o wneud cais am gontractau o ran cyfalaf. Rydym yn cynnig, wrth arfer pwerau masnachfreinio, y dylid cymryd pob cam posibl i geisio sicrhau y bydd cynlluniau masnachfreinio a'r mathau o gontractau a ddefnyddir i'w gweithredu yn rhoi cyfle cyfartal i weithredwyr bysiau bach a chanolig gystadlu â sefydliadau corfforaethol, ac y byddant yn cefnogi sector busnesau bach a chanolig iach. Rydym yn cynnig y dylai hyn gynnwys dyletswydd ddeddfwriaethol benodol i ystyried yr effeithiau ar fusnesau bach a chanolig wrth roi masnachfreintiau.

Mae modelau masnachfreinio eraill, megis yn y rheilffyrdd, yn cynnwys darpariaethau rhag ofn bod gweithredwr yn methu, i ganiatáu i Weithredwr Dewis Olaf (Mae Gweithredwr Dewis Olaf yn fusnes yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithredu masnachfraint os na all cwmni gweithredu wneud hynny mwyach) gamu i'r adwy a gweithredu gwasanaethau. Hyd yn oed cyn argyfwng pandemig COVID-19, roedd y pŵer hwn wedi cael ei ddefnyddio ar sawl achlysur i sicrhau bod trenau'n parhau i redeg ar ôl i weithredwr mewn anawsterau ariannol dynnu'n ôl o gontract masnachfraint. Rydym yn cynnig creu darpariaeth debyg, lle y gallai gweithredwr gwasanaethau cyhoeddus, a allai, er enghraifft, fod yn weithredwr trefol lleol neu Drafnidiaeth Cymru ar lefel genedlaethol, gamu i'r adwy pe bai masnachfraint yn methu a sicrhau bod bysiau'n parhau i redeg. 

Rydym hefyd yn cynnig rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a chanllawiau mewn perthynas â masnachfreinio, gan nodi amcanion allweddol sydd, yn ein barn ni, yn angenrheidiol ar gyfer masnachfreinio llwyddiannus ac i gefnogi twf hirdymor gwasanaethau bysiau a'r diwydiant bysiau, yn enwedig os bydd pwerau i roi masnachfreintiau'n cael eu dirprwyo yn y dyfodol. Rydym yn disgwyl i hyn gynnwys:

  • Rheoliadau mewn perthynas â dyddiadau cau ar gyfer paratoi cynlluniau'r llwybrau yn y rhwydwaith sydd i'w masnachfreinio, er mwyn sicrhau y gellir trosglwyddo yn gyflym i'r trefniadau newydd.
  • Canllawiau ar safonau ansawdd gofynnol ar gyfer gwasanaethau, wedi'u nodi yn fanwl mewn contractau.
  • Canllawiau ar y safonau disgwyliedig ar gyfer amlder gwasanaethau, wedi'u nodi'n fanwl mewn contractau.
  • Canllawiau ar gyfer trwyddedau neu ofynion eraill ar gyfer llwybrau sy'n croesi ffin ardal y fasnachfraint.
  • Gofynion datgarboneiddio, fel targedau ar gyfer datgarboneiddio bysiau,
  • Rheoliadau i sicrhau cysondeb o ran prisiau tocynnau a chydgysylltu
  • Rheoliadau ar ddarparu gwybodaeth glir, gyfredol o ansawdd uchel am wasanaethau bysiau, er mwyn sicrhau y gall teithwyr wneud dewisiadau hawdd a gwybodus am deithiau ac i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cynlluniau rhwydwaith.
  • Canllawiau ar sut y dylid paratoi cynlluniau rhwydwaith bysiau sydd i'w masnachfreinio, gan gynnwys cydgynhyrchu gyda gweithredwyr a chymunedau, ac ystyried polisïau ehangach fel cynllunio a theithio gan ddysgwyr. 
  • Canllawiau ar sut mae'r rhwydwaith bysiau yn integreiddio â dulliau trafnidiaeth eraill.
  • Mae'r canllawiau ar gyfer rhoi contractau masnachfraint yn cynnwys:
    • Sut mae strategaeth caffael contractau masnachfraint yn mynd i'r afael â pholisïau Llywodraeth Cymru fel cefnogi busnesau bach a chanolig a'r economi sylfaenol.
    • Telerau contract masnachfraint safonol, gan gynnwys telerau gofynnol ar gyfer tâl ac amodau staff, yn unol â'n Contract Economaidd.
    • Egwyddorion arfer da ar gyfer strategaeth caffael contractau.
    • Gofynion pontio ar gyfer symud rhwng contractau masnachfraint.

Bydd y canllawiau a'r rheoliadau hyn hefyd yn cynnig yr hyblygrwydd i ystyried y ffordd orau o roi masnachfreinio ar waith mewn gwahanol rannau o Gymru, gan sicrhau bod lefelau gwasanaeth priodol yn cael eu darparu mewn cymunedau gwledig ac mewn dinas-ranbarthau ac yn ystyried cyfansoddiad y diwydiant bysiau yn yr ardal o dan sylw.

Cwestiwn 8

A ydych yn cytuno bod y pwerau arfaethedig i wneud rheoliadau a chanllawiau yn addas i sicrhau bod masnachfreintiau'n cael eu rhoi mewn modd llwyddiannus a  chynaliadwy? Rhowch sgôr o 5 (cytuno'n gryf) i 1 (anghytuno'n gryf). Rhowch sylwadau.

Cwestiwn 9

A ydych yn cytuno â'r gofyniad arfaethedig i ystyried yr effaith ar weithredwyr bysiau bach a chanolig wrth roi masnachfreintiau? Rhowch sgôr o 5 (cytuno'n gryf) i 1 (anghytuno'n gryf). Rhowch sylwadau.

Cwestiwn 10

A ydych yn cytuno â manteision sefydlu mecanwaith i ganiatáu i Weithredwr Gwasanaethau Cyhoeddus Dewis Olaf sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i weithredu os bydd masnachfraint yn methu? Rhowch sgôr o 5 (cytuno'n gryf) i 1 (anghytuno'n gryf). Rhowch sylwadau.

Cludiant i'r ysgol

Nid yw'r ymgynghoriad papur gwyn hwn yn nodi unrhyw gynigion ar gyfer newidiadau i'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr, sy'n rheoli cludiant i'r ysgol a ddarperir gan Awdurdodau Lleol, ond ein bwriad yw bwrw ymlaen ag adolygiad llawn a fydd yn destun ymgynghoriad maes o law. O ganlyniad, nid ydym yn ceisio sylwadau ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd y gallu i lywio’r broses cynllunio rhwydweithiau'n caniatáu i Awdurdodau Lleol sicrhau bod gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a cludiant i'r ysgol yn alinio cystal ag y bo modd, lle bynnag y bo gwneud hynny'n briodol ac yn effeithlon, wrth gadw'r pŵer a'r cyfrifoldeb i ddarparu cludiant penodol o'r cartref i'r ysgol ar gyfer y disgyblion hynny sydd ei angen. 

Trefniadau pontio

Bydd angen rhoi trefniadau pontio ar waith i sicrhau bod gwasanaethau bysiau'n parhau, ac yn parhau i wella wrth i’r ddeddfwriaeth arfaethedig gael ei datblygu ac wrth i fasnachfreintiau gael eu paratoi a'u rhoi, gan leihau problemau i deithwyr cymaint ag y bo modd. Byddwn yn gweithio'n agos gyda gweithredwyr, Llywodraeth Leol a Thrafnidiaeth Cymru i sicrhau ein bod yn symud tuag at ein gweledigaeth a'n hamcanion yn ystod y cyfnod hwn, ac yn paratoi'r ffordd i bontio i system fasnachfreintiau o ansawdd uchel. Rydym yn rhagweld creu pŵer i Weinidogion wneud rheoliadau i wneud darpariaethau ar gyfer pontio'n ddidrafferth.

Efallai y bydd y rheoliadau a’r trefniadau pontio a fydd eu hangen yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): 

  • sicrhau bod awdurdodau a gweithredwyr yn cael eu hysbysu ac yn cael digon o rybudd am newidiadau  
  • sicrhau bod contractau presennol ar gyfer gwasanaethau’n cael eu cwblhau pan fydd angen, neu eu haddasu i gyd-fynd â'r trefniadau masnachfreinio lle bo hynny'n briodol 
  • lle yr effeithir ar aelodau tîm gwasanaethau presennol, dylent gael eu diogelu drwy drefniadau TUPE (Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth)) sy'n briodol i bob trefniant 

Cwestiwn 11

A ydych yn credu bod angen darpariaethau deddfwriaethol penodol pellach ar gyfer y cyfnod pontio nes i fasnachfreinio gael ei gyflwyno? Rhowch sylwadau.

Cwmnïau bysiau trefol

Weithiau, ychydig neu ddim cynigion y mae Awdurdodau Lleol yn eu derbyn i weithredu gwasanaethau bysiau, boed yn wasanaethau ysgol neu'n wasanaethau sydd eu hangen yn gymdeithasol dan gontract. Mae hyn yn golygu naill ai nad yw gwasanaethau'n rhedeg, neu eu bod yn talu gormod i weithredwr preifat lenwi'r bwlch hwnnw am na chaniateir iddynt weithredu'r gwasanaethau hynny eu hunain ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn.

Gwaethygwyd y broblem hon ymhellach gan bandemig COVID-19, lle roedd rhai gweithredwyr bysiau yn ystyried dod â gwasanaethau bws i ben ar rai llwybrau ac eraill wedi goroesi dim ond o ganlyniad i dderbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Amlygodd hyn y sefyllfa ansicr lle na fyddai'r Awdurdod Lleol yn gallu diogelu gwasanaethau yn eu cymunedau, pe bai cwmni bysiau'n methu. Ni chaniateir iddynt sefydlu cwmni bysiau trefol newydd i weithredu gwasanaethau'n uniongyrchol ac eithrio mewn amgylchiadau penodol iawn, ac nid oes ganddynt unrhyw ddewisiadau eraill os nad oes unrhyw gynigion i weithredu gwasanaethau dan gontract yn eu hardal, neu os mai cynigion anfforddiadwy yn unig a geir.

Mae Deddf Trafnidiaeth 1985 yn gwahardd Awdurdodau Lleol rhag rhedeg eu cwmnïau bysiau eu hunain, ac eithrio:

  • pan oedd yr awdurdod lleol eisoes yn gweithredu cwmni bysiau pan ddaeth y gwaharddiad i rym (Mae Bws Caerdydd a Bws Casnewydd yn gweithredu o dan yr esemptiad hwn)
  • pan fydd awdurdod yn gweithredu gwasanaeth bach yn unig ac mae wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru am esemptiad rhag y cyfyngiad cyffredinol; (Ar hyn o bryd nifer y cerbydau a ganiateir o dan yr esemptiad hwn yw deg)
  • mae gweithredwr bysiau wedi methu â gweithredu gwasanaeth yn unol â'r contract y cytunwyd arno o dan Gynllun Contractau Ansawdd neu gynllun masnachfreinio, ac mae'r Awdurdod Lleol wedi gorfod camu i mewn (Nid yw'r gyfraith sy'n caniatáu Cynlluniau Contract Ansawdd mewn grym yng Nghymru).

Rydym yn cynnig codi'r cyfyngiad hwnnw er mwyn sicrhau cydraddoldeb. Bydd hyn yn rhoi'r pŵer i Awdurdodau Lleol weithredu gwasanaethau naill ai'n fewnol neu drwy gwmni hyd braich fel rhan o'r rhwydwaith wedi'i fasnachfreinio.

Byddai cwmni bysiau hyd braich yn rheoli gwasanaethau fel sefydliad masnachol annibynnol gyda'i fwrdd rheoli ei hun. Prif gyfranddaliwr y cwmni fyddai'r Awdurdod Lleol, ond ni fyddai'n ymyrryd â gweithredu gwasanaethau o ddydd i ddydd.

Rydym hefyd yn cynnig caniatáu i Awdurdodau Lleol gaffael neu fuddsoddi mewn cwmnïau bysiau.

Yn ogystal â dileu rhwystr i fuddsoddiadau cyhoeddus, byddai hyn hefyd yn caniatáu uno dau gwmni bysiau trefol, a allai gynnig arbedion maint neu ganiatáu iddynt weithredu ar draws ardal ehangach. O dan y rheolau presennol, ni allai Awdurdodau Lleol sy'n berchen ar gwmni sy'n cael ei uno â chwmni arall barhau i fod yn gyfranddalwyr yn y cwmni, gan y byddai'n cyfrif fel buddsoddi mewn cwmni newydd. Mae hyn yn atal yn weithredol unrhyw gydweithio rhwng Awdurdodau Lleol ac yn atal ymdrechion i ddarparu gwasanaethau'n fwy effeithlon lle y gellir cynnig gwasanaethau ar lefel ranbarthol.

Yn olaf, ar hyn o bryd, nid yw cwmnïau bysiau trefol yn gallu codi arian, naill ai drwy fenthyca neu drwy werthu cyfranddaliadau cyfalaf. Mae hyn yn eu rhoi o dan anfantais pan fyddant yn cystadlu â chwmnïau masnachol, mater a amlygwyd yn blaen yn ystod pandemig COVID-19, ac mae'n atal buddsoddi mewn bysiau dim allyriadau. Rydym yn bwriadu llacio'r cyfyngiadau hynny i roi'r un hawliau i weithredwyr bysiau trefol i godi arian, i ryddhau buddsoddiadau yn y gwasanaethau bysiau lleol y maent yn eu gweithredu, ac i sicrhau nad oes unrhyw fanteision o dan y system fasnachfraint.

Yn ogystal, gallai gweithredu'r diwygiadau hyn hefyd greu opsiwn ar gyfer Gweithredwr Dewis Olaf, lle y gallai cwmni bysiau trefol, lle bo hynny'n ymarferol, weithredu mewn rhan wahanol o Gymru i ddarparu gwasanaethau bws rhwydwaith pe na bai unrhyw gynigwyr yn cyflwyno tendr am fasnachfraint, neu os bydd masnachfraint yn methu cyn diwedd cyfnod y contract.

Mae'r darpariaethau hyn wedi'u cynllunio i sicrhau sector bysiau iach a theg, lle mae pob rhan o'r system, boed yn weithredwyr trefol, bach neu sefydliadau corfforaethol, yn gallu cyfrannu cymaint â phosibl at rwydwaith sydd wedi'i gynllunio er lles y cyhoedd, yn ôl eu cryfderau.

Cwestiwn 12

A ydych yn cytuno y dylid caniatáu i Awdurdodau Lleol weithredu gwasanaethau bysiau'n uniongyrchol? Rhowch sgôr o 5 (cytuno'n gryf) i 1 (anghytuno'n gryf). Rhowch sylwadau.

Cwestiwn 13

A ydych yn cytuno y dylid caniatáu i Awdurdodau Lleol sefydlu cwmnïau hyd braich i weithredu gwasanaethau bysiau lleol? Rhowch sgôr o 5 (cytuno'n gryf) i 1 (anghytuno'n gryf). Rhowch sylwadau.

Cwestiwn 14

A ydych yn cytuno y dylid caniatáu i Awdurdodau Lleol gaffael neu fuddsoddi mewn cwmnïau bysiau? Rhowch sgôr o 5 (cytuno'n gryf) i 1 (anghytuno'n gryf). Rhowch sylwadau.

Cwestiwn 15

A ydych yn cytuno y dylid caniatáu i gwmnïau bysiau trefol godi arian drwy fenthyca neu werthu cyfranddaliadau? Rhowch sgôr o 5 (cytuno'n gryf) i 1 (anghytuno'n gryf). Rhowch sylwadau.

Cwestiwn 16

A oes unrhyw fesurau diogelu ychwanegol yr hoffech eu gweld sy'n berthnasol i arfer y pwerau hyn? Rhowch sylwadau. 

Cwestiwn 17

A oes unrhyw sylwadau pellach yr hoffech eu gwneud ar gynnwys y papur gwyn hwn? 

Asesiad effaith rheoleiddiol drafft

Rydym wedi cyhoeddi asesiad effaith rheoleiddiol drafft ochr yn ochr â'r papur hwn, sy'n ceisio asesu'r dystiolaeth ynghylch costau a manteision darparu rhwydweithiau bysiau o ansawdd uchel drwy fasnachfreinio, a chymharu hyn â Phartneriaethau Gwell (fel a gyflwynwyd yn Lloegr) a senario llinell sylfaen.

Mae'r senario ar gyfer masnachfreinio yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn seiliedig ar senario tybiannol lle nad yw mesurau anneddfwriaethol, fel gwelliannau i safleoedd bysiau, gorsafoedd bysiau, mesurau blaenoriaeth i fysiau, yn cael eu cynnwys gan nad yw'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol neu'n effeithio'n uniongyrchol arnynt – er mwyn gallu cyflwyno asesiad niwtral o gostau a manteision.

Fodd bynnag, ystyrir bod y cynigion deddfwriaethol yn fesurau galluogi, a fyddai'n rhoi gallu gwell i glymu manteision buddsoddiadau ehangach, a allai fod yn sylweddol, wrth fesurau, megis seilwaith ar y stryd neu mewn gorsafoedd bysiau, a mesurau blaenoriaeth i fysiau. Felly, mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft yn cynnwys ail senario lle mae buddsoddiadau y tu hwnt i newid deddfwriaethol, gyda’r nod o greu manteision sylweddol a chynnydd o ran nifer y teithwyr ar lefel uwch na'r cynigion deddfwriaethol eu hunain.

Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft yn ystyried cost model masnachfreinio lle mae pob Awdurdod Lleol yn gyfrifol am fasnachfreinio gwasanaethau yn eu hardal. Mae hyn yn rhoi amcangyfrif ceidwadol o gost adnoddau sy'n cynrychioli swyddogaethau a efelychir dros bob un o'r 22 Awdurdod Lleol. Mantais y model hwn yw ei fod yn rhoi cymhariaeth deg â model partneriaeth gwell amgen, ar sail y manteision y gallant eu cynnig i deithwyr, heb ystyried yr arbedion maint sydd ar gael drwy fasnachfreinio ar lefel genedlaethol. Mantais arall yw ei fod yn rhoi cymhariaeth o gostau nad yw'n rhagdybio canlyniadau'r papur gwyn hwn.

Er nad y model masnachfreinio lleol hwn yw'r dull polisi a ffefrir a amlinellir yn y papur hwn, sydd â'r nod a amlinellir uchod o amlinellu manteision ystyried cynlluniau rhwydwaith ar lefel ranbarthol, a chanolbwyntio sgiliau masnachfreinio ar lefel genedlaethol, mae wedi cael ei fabwysiadu yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft er mwyn sicrhau tegwch wrth gymharu'r gwahanol drefniadau ar gyfer llywodraethu bysiau. Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, bydd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r polisi fel y'i cyflwynir yn y bil arfaethedig.

Byddwn hefyd yn cynnal rhywfaint o ddadansoddi pellach cyn cyhoeddi'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol terfynol, gan gynnwys dadansoddi sensitifrwydd i brofi cadernid canlyniadau'r modelu i newidiadau mewn tybiaethau allweddol ac ystyriaeth bellach o effaith y cynigion ar y sector bysiau a chystadleuaeth yng Nghymru.

Byddem yn croesawu unrhyw sylwadau neu adborth ar y modelu sydd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft.

Cwestiwn 18

A oes gennych unrhyw sylwadau ar yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r papur hwn?

Cwestiwn 19

Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r cynigion yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.  

Pa effeithiau rydych chi’n credu y byddai?  Sut y gellid gynyddu effeithiau positif a lliniaru effeithiau negyddol?

Cwestiwn 20

Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut rydych chi’n credu y gallai'r cynigion gael ei lunio neu ei addasu er mwyn cael effeithiau positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a peidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 21

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi mynd i’r afael â nhw, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny.

Sut i ymateb

Byddwch cystal â chyflwyno'ch sylwadau erbyn 24 Mehefin 2022, yn un o'r ffyrdd canlynol:

Tîm Bil Bws
Ail Lawr Piler De B09
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch chi, ac i gael gweld y data hynny
  • i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu atal prosesu (mewn rhai amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn rhai amgylchiadau)
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gofnodi cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, rhowch wybod i ni.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru’n ei chadw a sut mae’n cael ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y Du ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.  Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn, ac a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â sut byddant yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus.  Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n ymdrin â’r materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw, neu sy'n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol.  Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghorol).  Dim ond o dan gontract y gwneir unrhyw waith o’r fath.  Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn pennu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, caiff enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb eu cyhoeddi gyda’r ymateb.  Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu golygu cyn eu cyhoeddi.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch fel arall yn cael eu cadw am dair blynedd fan bellaf.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif LlC: WG44838

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.