Adroddiad cynnydd ar gynhwysiant digidol: tuag at Gymru ddigidol hyderus
Yr hyn rydym wedi'i wneud ers mis Rhagfyr 2020 i helpu mwy o bobl i ymgysylltu'n hyderus â thechnoleg ddigidol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Ers inni gyhoeddi Rhagolwg Cynhwysiant Digidol:tuag at Gymru ddigidol hyderus ym mis Rhagfyr 2020, pan oedd pandemig COVID-19 yn ei anterth, mae'r cynnydd wedi bod yn arafach na'r hyn a obeithiwyd. Mae'r cyfyngiadau wedi creu heriau sy'n parhau o ran cyrraedd cymunedau a grwpiau â blaenoriaeth sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol ac ymgysylltu â nhw, sy'n angen hollbwysig i gyflawni ein polisi. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflawni Cenhadaeth 2 o'n Strategaeth Ddigidol i Gymru, sef ein polisi cynhwysiant digidol a'n strategaeth bellach ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae'r Strategaeth Ddigidol i Gymru yn cyflawni ein hymrwymiad yn y Rhagolwg i ddatblygu Fframwaith newydd.
Bydd yr Adroddiad Cynnydd hwn yn amlinellu ein gwaith hyd yn hyn o ran bodloni'r blaenoriaethau a amlinellwyd yn Rhagolwg Cynhwysiant Digidol i fynd i'r afael ag allgáu digidol. Mae'r gwaith yn cynnwys enghreifftiau o ymyriadau i gyflawni'r polisi a'r rhaglen ym mhob un o'r 6 maes ffocws yn ein Rhagolwg, dros y 12 mis diwethaf ers ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2020. Rydym hefyd yn disgrifio'r heriau a wynebir wrth ddatblygu rhai meysydd ffocws a sut rydym wedi gwella ein dealltwriaeth o effaith allgáu digidol ar gymunedau yng Nghymru, er gwaethaf yr heriau.
Maes ffocws: 1
Byddwn yn ymgysylltu â chymunedau a sefydliadau er mwyn trafod, deall a datblygu ein hymyriadau polisi ar gyfer cynhwysiant digidol a sgiliau digidol sylfaenol yn y dyfodol.
Cynnydd
Mae'r pandemig wedi creu her unigryw ers cyhoeddi'r ‘Rhagolwg’. 0Nid ydym wedi llwyddo i ymgysylltu wyneb yn wyneb ar lefel gymunedol â'r rhai sydd wedi cael profiad o fod wedi'u hallgáu'n ddigidol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod angen parhau i drafod a deall y rhwystrau i fynd i'r afael ag allgáu digidol o hyd. Ystyriwyd sefydlu trefniadau ymgysylltu rhithwir a hwylusir, a fyddai'n dibynnu ar sefydliadau arweiniol yn dwyn pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol ynghyd, i gynnal y trafodaethau hyn â chymunedau. Fodd bynnag, nid yw'n ddelfrydol ymgysylltu â phobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol mewn lleoliadau nad ydynt yn rhai wyneb yn wyneb wrth geisio deall eu rhwystrau.
Rydym yn derbyn nad yw'r gwaith hwn wedi mynd rhagddo yn ôl y bwriad ond rydym yn dal yn ymrwymedig i ymgysylltu. Bydd hyn yn dibynnu ar y graddau y bydd cyfyngiadau sy'n ymwneud â'r pandemig yn parhau i gael eu llacio, a pha mor gyflym fydd hynny. Isod, rydym wedi amlinellu meysydd o waith a fydd yn helpu i gryfhau ein dealltwriaeth o'r rhwystrau a'r heriau yng Nghymru wrth fynd i'r afael ag allgáu digidol a sgiliau digidol sylfaenol.
Y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol i Gymru
Yn y Strategaeth Ddigidol i Gymru (Mawrth 2021) nodwyd yn glir ein hymrwymiad i ystyried safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol i Gymru. Byddai'r ‘Safon’ yn ystyried y math o ddyfais, cyflymder band eang a/neu ddata symudol sydd eu hangen (i lanlwytho a lawrlwytho) a'r pum sgìl digidol sylfaenol a gydnabyddir, sydd eu hangen o leiaf i fod wedi'ch cynnwys yn ddigidol yn y Gymru gyfoes. Er mwyn gosod llinell sylfaen, byddai'r ‘Safon’ yn ceisio barn sampl gynrychioliadol o'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol (y rhai sydd wedi cael profiad uniongyrchol) a dinasyddion sydd wedi'u cynnwys yn ddigidol o bob rhan o Gymru, ac o blith grwpiau â blaenoriaeth a gydnabyddir. Yna, byddai hyn yn cwmpasu ‘Safon’ benodedig gyda rhesymeg dros y ffordd orau o'i mesur e. e. yn ôl aelwyd neu ddinasyddion unigol ledled Cymru.
Ar ôl proses gaffael agored ar gyfer ‘cwmpasu safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol i Gymru’, dyfarnwyd contract i Brifysgol Lerpwl ar 10 Chwefror 2022.
Mapio Cynhwysiant Digidol
Yn y Strategaeth Ddigidol i Gymru, Cenhadaeth 2, amlinellir sut rydym yn gweithio'n agos gyda'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i wneud darn o ymchwil er mwyn deall y ddarpariaeth, y cymorth a'r cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd ledled Cymru ar gyfer cynhwysiant digidol (sgiliau digidol sylfaenol, dyfeisiau a chysylltedd). Bydd yr ymchwil hon yn ceisio mapio'r ddarpariaeth bresennol, ar lefel awdurdod lleol neu fwrdd iechyd, gan alluogi swyddogion i nodi bylchau posibl yn y cymorth sydd ar gael. Mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn gweithio gyda MapDataCymru i sicrhau y gall y gwaith hollbwysig hwn fod ar gael yn gyhoeddus a helpu sefydliadau i dargedu cymorth yn briodol.
Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant (CDC)
Ym mis Ebrill 2021, ar ôl gwerthusiad annibynnol Cam 1 o CDC gan OB3, cafodd canlyniadau cytundebol y rhaglen eu newid. Rydym wedi gweithio'n agos gyda CDC i ddatblygu rhaglen sy'n canolbwyntio ar effaith allgáu digidol mewn cymunedau yng Nghymru. Ers i'r contract ddechrau ym mis Gorffennaf 2019, mae CDC wedi ymgysylltu â mwy na 1,636 o sefydliadau, o bob sector, ledled Cymru. Drwy'r gwaith hwn ar lawr gwlad gyda'r sefydliadau hyn gallwn ddysgu o brofiadau a sicrhau bod ein polisi yn gefnogol. Mae'r diweddariadau rheolaidd a ddarperir gan y rhaglen yn dangos pa mor bellgyrhaeddol a thrawsbynciol fu gwaith CDC er mwyn gwella profiadau'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol neu y mae angen sgiliau digidol sylfaenol arnynt. Mae'r ddwy enghraifft ganlynol yn dangos y math o waith y mae CDC yn ei wneud ledled Cymru i gefnogi maes ffocws un:
- Y Gymraeg: Ym mis Medi 2021, cynhaliodd CDC ddigwyddiad ar-lein a oedd wedi'i anelu at sefydliadau sy'n canolbwyntio ar gefnogi'r Gymraeg, o elusennau dros Gymru gyfan (Merched y Wawr a Chymdeithas Eisteddfodau Cymru) i fentrau cymdeithasol bach sy'n cael eu rhedeg gan gymunedau (Tafarn y Plu, Llanystumdwy ac Antur Waunfawr). Y nod oedd trafod yr heriau i'r sefydliadau hynny, y Gymraeg a chymunedau yn yr oes ddigidol. Ar ôl y digwyddiad, cysylltodd CDC â phob un fu'n bresennol i ofyn iddynt gymryd rhan mewn rhwydwaith rheolaidd mewn cydweithrediad â Mentrau Iaith Cymru. Byddai trafodaethau'r Rhwydwaith yn canolbwyntio ar gynhwysiant digidol, technegol ddigidol ac arloesedd ac yn sicrhau cysondeb ag ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar effeithiau COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg (Gorffennaf 2021) er mwyn gwella sgiliau digidol sylfaenol ymhlith y grwpiau hynny.
Ffurfiwyd digwyddiad ‘Ymateb i’r Heriau’ gyda'r bwriad o rwydweithio, cefnogi, rhannu, dysgu, rhyngweithio a symud ymlaen er budd y Gymraeg, cynhwysiant digidol a thechnoleg. Mae 17 o sefydliadau wedi cofrestru i fod yn rhan o'r Rhwydwaith (gan gynnwys swyddog arweiniol o Lywodraeth Cymru ar gyfer strategaeth Cymraeg 2050) a chynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym mis Chwefror 2022. Rhoddodd S4C gyflwyniad a gynigiodd drosolwg o waith i ddatblygu strategaeth newydd a darlun o wylwyr a thueddiadau fel y maent yn ymwneud â llwyfannau gwahanol. Mae S4C wedi ymrwymo i ddod yn aelod o'r grŵp a chefnogi'r agenda cynhwysiant gyda'r bwriad o ddatblygu gweithgareddau penodol dros y flwyddyn i ddod.
- Llyfrgelloedd yng Nghymru: Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n arwain y gwaith ar wasanaethau llyfrgell a CDC ar gynllun i gynnig dull gweithredu cyson o uwchsgilio staff llyfrgell ledled Cymru. Cydnabu CDC fod angen asesu lefelau sgiliau digidol sylfaenol staff llyfrgell i ddechrau. Fel rhan o'r cynllun peilot, a gyflwynwyd gan CDC gyda llyfrgelloedd Gwynedd a Rhondda Cynon Taf, cynhaliwyd archwiliad o sgiliau digidol sylfaenol er mwyn nodi bylchau o ran sgiliau staff a gwirfoddolwyr. Ar sail yr ymatebion, datblygodd CDC raglen hyfforddiant chwe wythnos yn canolbwyntio ar hygyrchedd a diogelwch ar-lein. Amlinellir y cynllun hyfforddiant isod:
- Cynhwysiant digidol a gwasanaethau llyfrgell: ystyried yr adnoddau a'r cymorth sydd ar gael i helpu pobl i ymgysylltu ar-lein.
- Hygyrchedd: adnoddau digidol a lleoliadau i gefnogi defnyddwyr.
- Diogelwch ar-lein: cyngor a chymorth ar gael i gadw'n ddiogel ar-lein.
- Helpu pobl i ddefnyddio dyfeisiau gwahanol.
- Sgiliau Digidol Sylfaenol: cefnogi staff i fod yn ddigidol hyderus.
- Canolfannau Ar-lein i ddinasyddion: trosolwg o'r cyfleoedd y gall Canolfannau Ar-lein eu cynnig, gan gynnwys cymorth i ddinasyddion ddysgu sgiliau newydd.
Mae'r rhaglen hyfforddiant, a gyflwynir yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn cael ei gwerthuso ar hyn o bryd a bydd CDC yn helpu i nodi Hyrwyddwr Digidol ym mhob llyfrgell a all helpu aelodau o'r cyhoedd gyda'u sgiliau digidol sylfaenol a'u hyder. Rydym yn cydnabod y rôl hollbwysig y mae canolfannau cymunedol a llyfrgelloedd yn ei chwarae wrth gefnogi agenda cynhwysiant digidol. Drwy gydol y pandemig, mae cyfyngiadau wedi effeithio ar y lleoedd hyn, pan fu'n rhaid iddynt gau, cyfyngu ar eu horiau agor neu gyfyngu ar nifer y bobl oedd yn gallu ymweld â nhw. Mae dinasyddion, sy'n dibynnu ar fynediad i'r lleoliadau hyn i ddefnyddio dyfais neu i gael cysylltedd, yn wynebu heriau o hyd wrth gyflawni eu gweithgareddau o ddydd i ddydd yn ddigidol.
Maes ffocws: 2
Byddwn yn gwneud rhagor o waith ymchwil i ystyried sut y dylid rhoi ymyriadau presennol ac ymyriadau yn y dyfodol ar waith ym maes iechyd a gofal fel bod staff yn meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i sicrhau eu bod nhw, eu cleifion a phreswylwyr yn cael budd o dechnoleg ddigidol.
Cynnydd
Yn 2020, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adolygiad cwmpasu o dechnoleg ddigidol ac anghydraddoldebau iechyd. Atgyfnerthodd yr adolygiad ein dealltwriaeth o'r cysylltiad hollbwysig rhwng dinasyddion sy'n ddigidol hyderus a mynediad at iechyd a gofal. Felly, gwyddom fod angen dybryd o hyd inni ddeall lefelau sgiliau digidol sylfaenol staff yn y sector iechyd a gofal a mynd i'r afael â nhw er mwyn defnyddio'r ymyriadau digidol diweddaraf. Drwy'r rhaglen a gaffaelwyd gennym, CDC, rydym yn parhau i ymgysylltu â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ledled Cymru er mwyn sicrhau bod anghenion y rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol (staff a chleifion) yn rhan o'r ystyriaeth a'r drafodaeth pan gaiff gwasanaethau eu cynllunio.
Isod, rydym wedi rhoi rhai enghreifftiau o'r gwaith y mae CDC yn ei wneud i gefnogi'r agenda iechyd a gofal ledled Cymru.
Byrddau Iechyd
Mae CDC, fel rhan o'r contract, wedi cael ei chyfarwyddo i ymgysylltu â byrddau iechyd. Un o ganlyniadau'r pandemig yw'r angen a'r disgwyliad i lawer o gleifion a staff newid i ffordd ddigidol o gyflwyno a derbyn gwasanaethau iechyd a gofal ledled Cymru. Er bod y saith bwrdd iechyd yn ymwybodol o'r mater a'r heriau i'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, mae cynnydd wrth sicrhau cynhwysiant digidol wedi'i ymgorffori yn eu strategaeth ac mae'r broses gyflwyno yn amrywio ledled Cymru.
Un enghraifft o arfer orau yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) sydd wedi datblygu Strategaeth Ddigidol newydd, sef ‘Ein Dyfodol Digidol’. Mae ei strategaeth yn cynnwys dwy uchelgais sy'n gysylltiedig â'i weledigaeth (‘Profiad Cleifion a Gofalwyr wedi’u Galluogi’ a ‘Staff wedi eu Cysylltu’), ynghyd â 6 galluogwr a fydd yn ei helpu i wireddu'r uchelgeisiau hyn: Sylfeini Digidol Cryfach; Cynhwysiant Digidol; Partneriaethau Cryf; Gwybodaeth ar gyfer Gwella; Trefniadaeth Ddigidol a Chofleidio Arloesedd. Mae BIPBC yn gweithio gyda CDC i gyflwyno Rhaglen Sgiliau Digidol, lle y bydd CDC yn cynnal archwiliad pwrpasol o sgiliau digidol sylfaenol y staff yn ei gyfarwyddiaeth. Yna, bydd CDC yn creu nifer o gyfleoedd dysgu y cytunir arnynt, gyda chyfraniad grwpiau ffocws staff.
Mae Coleg Adfer a Lles Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIPCF) yn cael ei gefnogi gan CDC a bydd BIPCF yn dechrau ar ei daith ddigidol, yn recriwtio ac yn penodi Cymheiriaid Digidol a chydgynhyrchu/cyflwyno hyfforddiant â dyfeisiau a ddarperir gan CDC. Mae BIPCF wrthi'n rhoi ei Strategaeth Ddigidol ar waith. Bydd CDC yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu model o Hyrwyddwyr Digidol ym mhob rhan o'r Bwrdd Iechyd ac yn cefnogi'r broses o gyflwyno Cofnod Gofal Nyrsio Cymru. Bydd pob agwedd ar y gwaith hwn yn cefnogi ymrwymiad strategol BIPCF i ddysgu am gynhwysiant digidol a'i roi ar waith yn ei weithrediadau.
Er gwaethaf y llwyddiannau hyn, rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod cynhwysiant digidol wedi'i ymgorffori mewn strategaethau ac yn cael ei gyflwyno'n gyson, ym mhob un o'r byrddau iechyd.
Canllaw ar Gynhwysiant Digidol i Gartrefi Gofal
Gan adeiladu ar y gwaith yn ystod y pandemig i ddarparu dyfeisiau a chysylltedd i breswylwyr cartrefi gofal, datblygodd CDC Canllaw Arfer Da i Ddigidol ar gyfer Cartrefi Gofal sy'n anelu at roi'r wybodaeth sydd ei hangen ar gartrefi gofal i ddeall sut y gellir defnyddio technoleg ddigidol mewn cartrefi gofal. Datblygwyd y Canllaw ar ôl ystyried barn staff cartrefi gofal ac mae'n amlinellu'r rôl fuddiol y gall technoleg ddigidol ei chwarae i breswylwyr, er enghraifft: cynnal cydberthnasau; llonyddu; adloniant; gwelliannau posibl i iechyd corfforol; gwell llesiant a ffyrdd a chadw'n brysur. Mae'r canllaw yn cydnabod y buddiannau i'r staff ar ffurf hyfforddiant i'r rhai a hoffai wella eu sgiliau digidol sylfaenol, gan eu galluogi i helpu preswylwyr i ddefnyddio'r dechnoleg, a rhoi'r cyfle i ddod yn Hyrwyddwr Digidol yn eu cartref gofal.
Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae CDC wedi bod yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu cwrs e-ddysgu sydd â'r nod o roi hwb i hyder a gwella sgiliau digidol a dealltwriaeth o'r gweithlu gofal cymdeithasol. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda phobl sy'n defnyddio gwasanaethau a sefydliadau gofal a chymorth i arwain gwelliannau ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru. Mae'r cwrs e-ddysgu wedi'i rannu'n gategorïau a welir yn draddodiadol yn y sector gofal cymdeithasol o staff sy'n gofalu am bobl oedrannus mewn cartref gofal, i staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau crèche a chymorth plant. Bydd y modiwl yn cael ei osod ar lwyfan e-ddysgu Gofal Cymdeithasol Cymru, a fydd yn fodd i'w staff o fwy na 30,000 gael hyfforddiant drwy'r dull mewngofnodi arferol. Disgwylir i'r cwrs e-ddysgu gael ei lansio yn ystod gwanwyn 2022.
Cynnig Gofal Plant Digidol
Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu gwasanaeth digidol i Gymru gyfan ar gyfer y Cynnig Gofal Plant. Mae'r Cynnig yn anelu at wneud bywyd yn haws i rieni drwy gynnig cymorth gyda chostau gofal plant, lle y gallent hawlio 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos yng Nghymru, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae'r Cynnig eisoes wedi helpu rhieni o bob rhan o Gymru i ddychwelyd i'r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio'n fwy hyblyg. Ar hyn o bryd, disgwylir i'r gwasanaeth digidol fynd yn fyw yn ystod hydref 2022, a bydd CDC yn datblygu hyfforddiant i gefnogi sgiliau digidol sylfaenol darparwyr gofal plant Cymru, sef tua 2,200 ohonynt.
Bydd yr hyfforddiant wedi'i anelu at gefnogi darparwyr y bydd angen iddynt gofrestru'n ddigidol ond nad oes ganddynt y sgiliau digidol sylfaenol o bosibl i wneud hynny. Mae angen, fel gwasanaeth digidol, i sicrhau eu bod yn cael y cymorth i ddysgu'r sgiliau hollbwysig hyn, gan gynnwys sefydlu cyfeiriad e-bost a chreu cyfrif ar gyfer Porth y Llywodraeth. Ym mis Awst 2021, lansiodd CDC fideos canllaw cyflym a recordiwyd ymlaen llaw y gellir eu gweld drwy wefan CDC. Y nod yw rhoi cyfle i ddarparwyr gofal plant ddysgu'r sgiliau digidol sylfaenol a magu'r hyder angenrheidiol cyn bod y gwasanaeth yn mynd yn fyw.
Maes ffocws: 3
Byddwn yn gwella ein dealltwriaeth o oblygiadau allgáu digidol i gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethni.
Cynnydd
Fel y trafodir drwy'r adroddiad cynnydd cyfan, mae'r pandemig wedi cael effaith negyddol ar ymgysylltu wyneb yn wyneb mewn cymunedau ledled Cymru. Fodd bynnag, rydym yn benderfynol o hyd y dylem ehangu ein dealltwriaeth o'r rhwystrau a wynebir gan gymunedau ethnig lleiafrifol sy'n eu hatal rhag ymgysylltu'n ddigidol a sut y gallwn sicrhau bod cymorth ar gael iddynt oresgyn y rhwystrau hynny.
Social Change UK
A gomisiynwyd yn 2021 gan CDC i gynnal ymchwil ddirnad gyda dinasyddion o gymunedau ethnig lleiafrifol ledled Cymru, er mwyn deall y rhwystrau a wynebir ganddynt i ddod yn ddigidol hyderus a sut y gellir goresgyn y rhwystrau hyn. Hefyd, aeth ati i ymgysylltu â sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl o gymunedau ethnig lleiafrifol i fesur eu hymwybyddiaeth a'u dealltwriaeth o gynhwysiant digidol, sut maent yn helpu defnyddwyr gwasanaethau i fod ar-lein a beth yn rhagor y gellir ei wneud i gefnogi hyn Mae'r adroddiad llawn ‘Overcoming barriers to digital inclusion in ethnic minority communities’ ar gael ar gais gan CDC (digitalcommunities@wales.coop).
Mae'r argymhellion yn yr adroddiad wedi helpu CDC, gan weithio gyda Social Change UK, i roi strategaeth recriwtio ac ymgysylltu ar waith. Ei nod yw annog sefydliadau yng Nghymru i roi hyfforddiant a chymorth wyneb yn wyneb i gymunedau ethnig lleiafrifol nad ydynt yn meddu ar sgiliau digidol sylfaenol na'r hyder i ymgysylltu'n ddigidol. Er mwyn adeiladu ar yr adroddiad, mae CDC yn cynnal rhaglen beilot dros chwe mis ar y cyd â 10 sefydliad cefnogol, o'r enw Cymunedau Cysylltiedig Digidol. Mae'r rhaglen hon wedi'i hanelu at sefydliadau sy'n gweithio gyda chymunedau ethnig lleiafrifol er mwyn gwella sgiliau digidol sylfaenol staff, ond hefyd er mwyn rhoi cyfle i sefydliadau ddod ynghyd fel rhwydwaith i drafod cynhwysiant digidol. Fel rhan o raglen Cymunedau Cysylltiedig Digidol, bydd Social Change UK yn cynnal gwerthusiad a bydd CDC yn ystyried y canfyddiadau. Er mwyn cefnogi'r maes hwn ymhellach, gwnaeth CDC recriwtio a phenodi aelod newydd o'r tîm i rôl benodol Cydgysylltydd Cynhwysiant Digidol (i gymunedau ethnig lleiafrifol). Bydd y cydgysylltydd yn gyfrifol am roi hyfforddiant, darparu rhaglen Cymunedau Cysylltiedig Digidol ar y cyd a chefnogi'r rhaglen ehangach drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Maes ffocws: 4
Byddwn yn meithrin ein dealltwriaeth o oblygiadau ehangach posibl 'Tlodi Data' o ran yr agenda allgáu digidol.
Cynnydd
Nododd y Rhagolwg (Rhagfyr 2020) y cysyniad o ‘dlodi data’ sy'n dod i'r golwg. Mae hyn yn parhau i fod yn fwy amlwg o ganlyniad i'r pandemig. Mae wedi'i ddiffinio fel yr unigolion, yr aelwydydd neu'r cymunedau hynny na allant fforddio digon o ddata symudol neu fand eang preifat a diogel i ddiwallu eu hanghenion hanfodol. Mae ein gwaith yn y maes hwn yn amrywio ac yn aml mae wedi arwain at weithio gyda sefydliadau i'r DU gyfan sy'n ymchwilio i effeithiau tlodi data neu ddysgu ganddynt. Un enghraifft o'r gwaith ehangach hwn yw ymchwil ym mis Hydref 2020 ar y cyd gan Nesta (yr Alban) a'r Lab (Prifysgol Caerdydd) a arweiniodd at rai canlyniadau craff a diddorol i'n helpu i ddeall goblygiadau tlodi data a sut y gellir mynd i'r afael â nhw. Mae'r canfyddiadau yn seiliedig ar ymchwil a oedd yn cynnwys dros 2,000 o bobl yng Nghymru a'r Alban ac isod rydym wedi rhoi rhai o'r canfyddiadau allweddol ynglŷn â thlodi data sy'n benodol i Gymru.
- 14% o'r holl oedolion (18 oed ac yn hŷn)
- 15% o'r cymdogaethau mwyaf difreintiedig
- 12% o'r cymdogaethau mwyaf cyfoethog
- 9% o bobl lle mae incwm yr aelwyd yn £40,000 ac yn uwch
- 15% o aelwydydd â phlant
- 34% o aelwydydd â 3 phlentyn neu fwy
- 30% o bobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol
- 23% o bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor
Mae'r canfyddiadau yn dangos sut mae tlodi data yn rhychwantu mathau o gymdogaethau, gan effeithio ar rai difreintiedig a chyfoethog a deuir i'r casgliad bod angen atebion gwahanol i'r anghenion a'r amgylchiadau gwahanol sy'n gysylltiedig â thlodi data a nodwyd e. e. incwm isel ac anfforddiadwyedd. Mae'r canfyddiadau yn dangos y berthynas rhwng cynhwysiant digidol a thlodi data. Er bod yr olaf yn effeithio ar y rhai sy'n ymgysylltu'n ddigidol, gallai arwain at newid o'r rhai sydd wedi'u cynnwys i'r rhai sydd wedi'u hallgáu os na ddatblygwn ymyriadau i fynd i'r afael â'r amgylchiadau hyn. Tlodi Data yng Nghymru a'r Alban
Y Banc Data Cenedlaethol
Lansiwyd y fenter hon drwy gytundeb partneriaeth rhwng Good Things Foundation (GTF) a Virgin Media O2 ym mis Awst 2021. Ei nod yw rhoi data am ddim i grwpiau cymunedol i'w dosbarthu ledled y DU, gan gynnwys yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ddigidol. Cynhaliodd GTF raglen beilot gychwynnol dros dri mis gyda 10 grŵp cymunedol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Cymerodd CETMA (Ymgysylltu â’r Gymuned, Technoleg, y Cyfryngau a’r Celfyddydau) yn Llanelli ran ynddi. Mae CDC yn helpu i gynyddu nifer y Canolfannau Ar-lein sydd wedi'u cofrestru ledled Cymru, sef y model y bwriedir ei ddefnyddio i ehangu'r Banc Data. Mae Llywodraeth Cymru yn aelod o'r trafodaethau bord gron ynglŷn â'r Banc Data Cenedlaethol er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ymgysylltu a chael gweld yr hyn sy'n digwydd wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo. National Databank will tackle data poverty (goodthingsfoundation.org).
Y Lab Tlodi Data
Ym mis Ebrill 2021, lluniodd GTF bartneriaeth â Nominet i sefydlu'r Lab Tlodi Data gyda'r nod o ddwyn pobl, grwpiau a syniadau o bob rhan o'r DU ynghyd er mwyn helpu i roi terfyn ar dlodi data erbyn 2024. Bydd y Lab yn adeiladu ar ymchwil, syniadau a mentrau sydd eisoes ar waith yn y maes hwn ac yn cysylltu â nhw, ac yn cynnwys pobl â phrofiad uniongyrchol o dlodi wrth ddatblygu atebion effeithiol, cynaliadwy ac arloesol. Mae'r Lab yn adeiladu ar y gwaith gan Nominet a GTF i fynd i'r afael â'r rhaniad digidol a thlodi data drwy DevicesDotNow (apêl argyfwng mewn ymateb i COVID-19) a hefyd Reboot, sy'n helpu sefydliadau lleol ac ysgolion i gael gafael ar ddyfeisiau nad ydynt yn cael eu defnyddio mewn ffordd effeithlon a chosteffeithiol. Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i sicrhau bod CDC, drwy ei phartneriaeth â GTF, yn parhau i ymgysylltu â'r Lab Tlodi Data a bod yn ymwybodol o'i waith.
Everyone Connected
Lluniodd Nominet bartneriaeth â GTF ar y rhaglen Everyone Connected, a oedd â'r nod o helpu pobl yr oedd allgáu digidol a phandemig COVID-19 wedi effeithio'n fawr iawn ar eu bywydau. Drwy'r rhaglen, cafodd dros 12,000 o bobl dan anfantais ddyfais a chysylltedd, gan eu helpu i ddechrau mynd ar-lein drwy sicrhau eu bod yn cael yr adnoddau a'r hyfforddiant roedd eu hangen arnynt. Ar ôl i'r rhaglen ddod i ben, paratowyd dau adroddiad gan Gronfa'r Loteri a Good Things Foundation, a grynhowyd gennym isod:
- Crynodeb o Adroddiadau Cronfa'r Loteri a Good Things Foundation: Drwy Everyone Connected, canfuwyd y gallai partneriaid cymunedol, lle roedd eu hadeiladau wedi cau o ganlyniad i'r pandemig, adleoli i leoedd cymunedol amlddefnydd megis hybiau iechyd lleol. Arweiniodd hyn at nifer o fuddiannau i bartneriaid cymunedol, gan eu galluogi i atgyfeirio pobl rhwng gwasanaethau yn hawdd ac yn effeithlon. Roedd y rhai nad oedd dyfais ar gael iddynt yn cael un, ac roedd y rhai a gymerodd ran yn awyddus i gadw at y trefniadau atgyfeirio newydd hyn. At hynny, awgrymodd staff, gwirfoddolwyr a chynghorwyr a gymerodd ran yn y rhaglen fod gosod dyfeisiau yn barod i'w defnyddio yn hollbwysig ochr yn ochr â chymorth gyda sgiliau digidol sylfaenol. Cydnabuwyd bod y cymorth ychwanegol hwn yn gofyn am gryn dipyn o amser ac adnoddau gan bartneriaid cymunedol. Canfu'r rhaglen, wrth osod y dyfeisiau yn barod i'w defnyddio, y byddai pobl yn fwy agored i drafod eu hanghenion a'r heriau roeddent yn eu hwynebu. Canfu'r adroddiadau fod pobl yn dibynnu ar ddullliau digidol i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, yn enwedig yn ystod y cyfyngiadau symud a chyn hynny.
- Cymunedau Digidol Cymru:hyder digidol, iechyd a llesiant (CDC): Drwy CDC, rydym yn parhau i roi hyfforddiant sy'n canolbwyntio ar yr agenda ddigidol a chynhwysiant ariannol. Mae'n nodi meysydd lle mae angen cymorth, ac mae'n ceisio deall yr effaith y gall tlodi data ei chael ar gymunedau a dinasyddion yng Nghymru. Mewn blog diweddar, ystyrioddd CDC y cysylltiad rhwng caledi digidol a chaledi ariannol. Edrychodd ar ble mae pobl, sy'n wynebu anawsterau ariannol, yn aml yn cael eu hallgáu'n ddigidol o ganlyniad i hynny, heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain. Nododd sut mae'r sefyllfa hon yn achosi annhegwch i lawer o unigolion o gefndiroedd incwm isel ac mae'n canolbwyntio ar y 18% o bobl mewn tai cymdeithasol yng Nghymru nad oes ganddynt fynediad i'r rhyngrwyd, o gymharu â 6% yn y sector rhentu preifat. Mae'n nodi mai'r bobl fydd fwyaf tebygol o gael eu gadael ar ôl wrth i wasanaethau gael eu symud yn gynyddol i ddull digidol yn gyntaf yw'r rhai sydd mewn sefyllfa ariannol ansefydlog ac mewn tlodi data.
Maes ffocws: 5
Byddwn yn sicrhau y caiff hyder digidol (cymhelliant, mynediad a sgiliau) ei ymgorffori a'i gysoni â Strategaeth y Gwasanaeth Arian a Phensiynau.
Cynnydd
Ar 22 Chwefror 2022, cyhoeddodd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau ‘Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol - Cynllun Cyflenwi ar gyfer Cymru’. Fe'i datblygwyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac mae'n nodi bod cynhwysiant digidol a sgiliau digidol sylfaenol yn fuddiol i gynhwysiant a lles ariannol. Drwy'r Strategaeth a'r Cynllun Cyflenwi, rydym yn sicrhau y rhoddir pwyslais ar yr angen i helpu pobl i ddod yn ddigidol hyderus, a thrwy hynny gefnogi bwriad y Gwasanaeth Arian a Phensiynau i ddatblygu adnoddau digidol newydd i helpu pobl i gynilo neu ddysgu sut i wella eu cadernid ariannol. Mae hon o enghraifft dda o ble y gall digideiddio helpu cymdeithas i wella lles ariannol, cyhyd â bod dinasyddion yn cael cymorth ar hyd y daith.
Cydnabyddir bod angen gwneud rhagor o waith drwy'r sector ariannol cyfan er mwyn deall yn llawn yr effaith bosibl y gall newid tuag at sianeli ac atebion digidol ei chael ar ddinasyddion, a hefyd sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl na'i allgáu drwy wneud hynny. Atgyfnerthir hyn drwy gynllun cyflenwi'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau lle y cydnabyddir allgáu digidol fel un o chwe phrif rwystr sy'n effeithio ar lefelau cynilo hirdymor. Drwy sicrhau bod pob dinesydd yn ddigidol hyderus byddwn yn cael effaith gadarnhaol ar Gymru, lle y gall pob un edrych ymlaen at ddyfodol ariannol iach a chael cyfle i wneud y mwyaf o'i arian a'i bensiynau. Mae'r Strategaeth a'r Cynllun Cyflenwi yn cydnabod bod angen ymrwymiad traws-sector i helpu i sicrhau bod gan bawb y cymhelliant, yr hyder a'r sgiliau digidol sylfaenol sydd eu hangen i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth i ddewis sut i gymryd rhan yn ddigidol.
Yn ei Rhagair i'r Cynllun Cyflenwi, mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn datgan:
'Mae’r cynllun hwn yn darparu’r ysgogiad parhaus sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael â rhai o’r materion cyfiawnder cymdeithasol yr wyf yn poeni amdanynt fwyaf. Rwyf hefyd yn falch bod y cynllun cyflenwi hwn yn cydnabod y berthynas hanfodol rhwng cynhwysiant digidol ac ariannol yn ogystal â lles. Rhaid i ni sicrhau bod ein dinasyddion yn ddigidol hyderus wrth gyrchu gwasanaethau ar-lein ac nad yw unrhyw ddinesydd yn cael ei adael ar ôl. Edrychaf ymlaen at weld y bydd yn ein gyrru tuag at Gymru sy’n wydn yn ariannol, tecach a mwy llewyrchus'
Rhoddir isod enghraifft o ymyriad a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, gyda'r nod o gefnogi'r rhai sy'n wynebu allgáu digidol ac ariannol:
The Big Issue
Drwy drafodaeth rwydweithio mewn digwyddiad digidol cenedlaethol cyn y pandemig, cafodd swyddogion gyfle i drafod problemau allgáu ariannol a digidol i werthwyr The Big Issue. Roeddem yn awyddus i ystyried ffordd o sicrhau bod cymorth priodol ar waith, drwy'r Big Issue, i werthwyr ddod yn ddigidol hyderus a thrwy hynny, ddatblygu eu sgiliau ariannol. Tynnodd y pandemig sylw eto at yr effaith ar werthwyr nad oeddent yn meddu ar y sgiliau digidol sylfaenol yn sgil yr angen i newid i dalu'n ddigyswllt am wasanaethau a nwyddau ledled y DU – er enghraifft gwerthu cylchgrawn The Big Issue. Drwy weithio gyda'r Big Issue, rydym wedi ariannu swydd Cydgysylltydd Cynhwysiant Digidol ac Ariannol i Gymru, gyda'r nod y bydd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau y gall 80% o werthwyr yng Nghymru (mae cyfanswm o 207 ar hyn o bryd) dderbyn taliadau digyswllt. Mae blog gan The Big Issue ym mis Mai 2021 wedi helpu i ddangos ‘[how] going cashless has paid off’.
Ers dechrau yn ei swydd ym mis Awst 2021, mae'r cydgysylltydd eisoes wedi helpu 48 o werthwyr i dderbyn taliadau digyswllt; 16 o werthwyr i brynu a defnyddio ffôn clyfar ac 11 o werthwyr i gael gafael ar ddogfennau adnabod personol. Dyma'r swydd cydgysylltydd cynhwysiant digidol ac ariannol gyntaf i'r Big Issue yn y DU. Caiff ei heffaith ei monitro'n agos er mwyn ystyried a ddylid eu cyflwyno'n genedlaethol.
Maes ffocws: 6
Byddwn yn ystyried sut y gellir datblygu a darparu cymorth ar gyfer y sector tai cymdeithasol mewn modd cyson er mwyn sicrhau y gall preswylwyr fanteisio ar wasanaethau digidol, e. e. rhoi gwybod am ddiffygion eu tai, cadw trefn ar arian yn ddigidol, a chynnal cysylltiadau cymdeithasol â ffrindiau a theulu.
Cynnydd
Cyfyngedig fu ein hymgysylltu, fel swyddogion, â'r sector tai cymdeithasol. Drwy CDC rydym yn parhau i weithio gyda chymdeithasau tai ledled Cymru a rhoi cymorth iddynt, gan adeiladu ar y gydnabyddiaeth bod cyfran uchel o denantiaid tai cymdeithasol wedi'u hallgáu'n ddigidol (Arolwg Cenedlaethol Cymru, Ebrill - Mehefin 2021, 12%). Dim ond drwy ymgysylltu â'r cymdeithasau tai y byddwn yn meithrin ein dealltwriaeth o sut i roi cymorth cyson i oresgyn rhwystrau y gall y preswylwyr hynny eu hwynebu i ymgysylltu'n ddigidol. Mae'r enghreifftiau canlynol, er eu bod mewn ymateb i'r pandemig, yn helpu i ddangos yr amrywiaeth o ymyriadau y mae CDC yn eu cefnogi.
Cymdeithas Tai Newydd
Sy'n aelod allweddol o rwydwaith Cael y Fro Ar-lein, sydd wedi cefnogi ac wedi ysgogi'r awdurdod lleol i ddatblygu cynllun Benthyca Llechi'r Fro. O dan y cynllun hwn, gall dinasyddion gael benthyg llechen sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd, gan eu llyfrgell leol fel y byddent yn benthyca llyfr.
Mae Cymdeithas Tai Aelwyd
Sydd wedi'i lleoli yn y de, yn cyflwyno prosiect digidol sydd â'r nod o sicrhau y gall ei phreswylwyr gael gafael ar wasanaethau, rheoli eu hiechyd a'u llesiant a rhyngweithio'n gymdeithasol ar-lein. Nododd Aelwyd nad oedd llawer o'i phreswylwyr yn ddigidol hyderus ond eu bod yn awyddus i oresgyn y rhwystrau hyn. Gan weithio gyda CDC, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar fenthyca dyfeisiau i breswylwyr a rhoi hyfforddiant i ddysgu sgiliau digidol sylfaenol. Nodwyd 12 o breswylwyr i ddechrau a byddant yn cael eu hyfforddi i fod yn Hyrwyddwyr Digidol gyda'r nod o drosglwyddo eu gwybodaeth i eraill.
Mae Cymdeithas Tai First Choice (FCHA) yn darparu atebion llety i bobl sydd ag anableddau
Cyn-filwyr a phobl ag anghenion cymhleth ychwanegol yng Nghymru a Swydd Amwythig. Gan weithio gyda CDC, datblygodd FCHA ymyriad i gaffael a dosbarthu dyfeisiau i'w thenantiaid y nodwyd, drwy archwiliad o sgiliau digidol sylfaenol, eu bod wedi'u hallgáu'n ddigidol. Mae CDC wedi cefnogi'r broses o ddarparu dyfeisiau drwy roi hyfforddiant a chymorth, gyda'r nod o sicrhau bod tenantiaid yn deall y manteision y gall cynhwysiant digidol eu cynnig i bobl sydd â chyflyrau iechyd, anableddau corfforol neu ddysgu a phroblemau iechyd meddwl. Astudiaeth Achos Cymdeithas Tai First Choice.
Crynodeb
Er bod y wybodaeth a roddir uchod yn manylu ar y camau cadarnhaol a gymerwyd hyd yma i fynd i'r afael ag allgáu digidol yng Nghymru, mae angen gwneud rhagor. Yng Nghymru, rydym yn parhau i ddefnyddio Arolwg Cenedlaethol Cymru fel ein ffynhonnell gadarn o ddata. Mae Ebrill – Mehefin 2021 (Chwarter 1) yn nodi nad yw 7% o oedolion yng Nghymru (16 oed a throsodd) yn defnyddio'r rhyngrwyd eu hunain. Er bod hyn yn welliant o 3% ers mis Gorffennaf 2020, mae angen dybryd o hyd i ymdrin ymhellach ag anghydraddoldebau digidol.
Rydym yn dal yn ymrwymedig i ymgysylltu â'r rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o fod wedi'u hallgáu'n ddigidol. Pan fydd llacio ar gyfyngiadau'r pandemig yn caniatáu hynny, byddwn yn ymgymryd â rhywfaint o weithgarwch ymgysylltu ar lefel gymunedol. Mae'n hollbwysig casglu profiadau uniongyrchol o allgáu digidol gan y rhai yn ein grwpiau blaenoriaeth, gan gynnwys preswylwyr tai cymdeithasol, cymunedau ethnig lleiafrifol, pobl hŷn a phobl ag anableddau a chyflyrau iechyd.
Cydnabyddir bod cynhwysiant digidol yn her hollbwysig o ran cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau. Drwy'r Strategaeth Ddigidol i Gymru, un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu, byddwn yn parhau i weithio er mwyn sicrhau bod y camau a nodwyd yng nghynllun cyflawni'r Strategaeth Ddigidol yn cael eu cymryd. Bydd hyn yn helpu i gyflawni ein nod o roi'r ‘cymhelliant, y mynediad, y sgiliau a’r hyder i bobl ymgysylltu â byd cynyddol ddigidol, yn seiliedig ar eu hanghenion’.
Bydd ein gwaith yn cael ei atgyfnerthu unwaith eto drwy ein rhaglen cynhwysiant digidol ac iechyd gaffaeledig, Cymunedau Digidol Cymru: hyder digidol, iechyd a llesiant sydd wedi cael ei estyn am dair blynedd arall tan fis Mehefin 2025. Bydd y rhaglen gwerth £2 filiwn y flwyddyn, a ariennir ar y cyd gan Gyfiawnder Cymdeithasol ac Iechyd Llywodraeth Cymru, yn parhau i weithredu fel ffordd hollbwysig o ymgysylltu â'r sefydliadau sydd yn y sefyllfa orau i gyrraedd pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol.
Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid a sefydliadau ledled y DU a thu hwnt a dysgu ganddynt ar ffyrdd o gael effaith gadarnhaol a gwneud cynnydd wrth ymdrin â'r anghydraddoldebau digidol hanfodol.