Absenoldeb oherwydd salwch y GIG: Ebrill i Fehefin 2021
Data ar gyfraddau absenoldeb salwch y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG ar gyfer Ebrill i Fehefin 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Dangosir gwybodaeth newydd ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021. Mae data ar gyfer mis Ionawr i fis Mawrth 2021 wedi'i ddiwygio.
Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19) presennol, mae gwybodaeth reoli ychwanegol a mwy amserol yn cael ei chasglu ar absenoldeb oherwydd salwch. Nid yw'n cael ei chasglu ar yr un sail â'r hyn a gyhoeddwyd yn y datganiad chwarterol hwn, ac felly bydd y ffigurau'n wahanol.
Mae’r wybodaeth reoli yn awgrymu bod cyfartaledd dyddiol o tua 900 (0.9%) o staff yn hunanynysu dros y chwarter yn dod i ben 30 Mehefin 2021, gyda’r ffigurau yn gostwng pob mis o gyfartaledd o tua 1,200 ym mis Ebrill i gyfartaledd o ychydig dros 700 yn ystod mis Mehefin. Cyhoeddir gwybodaeth ar coronafeirws a gweithgarwch a chapasiti'r GIG mewn diweddariad wythnosol.
Mae nifer o ffactorau sy’n gysylltiedig â COVID-19 wedi effeithio ar y data'r chwarter hwn:
- roedd cyngor gwarchod i’r rhai eithriadol o agored i niwed yn glinigol mewn lle drwy gydol y chwarter
- roedd brechlynnau ar gael i weithwyr gofal iechyd (ac eraill) o fis Rhagfyr 2020
- roedd yr ail uchafbwynt o ran achosion a gadarnhawyd ar ddechrau mis Ionawr 2021
Mae staff eithriadol o agored i niwed yn glinigol ar y rhestr gwarchod, ac felly nad ydynt yn y gwaith oherwydd hyn, yn cael eu cynnwys yn y cyfrif hunanynysu a gesglir yn y wybodaeth reoli. Yn yr ystadegau swyddogol hyn, nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu neu’n gwarchod yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl, ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr ystadegau absenoldeb oherwydd salwch chwarterol hyn. Dylid parhau i ystyried yr ystadegau swyddogol yn ffynhonnell awdurdodol data ar absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG yng Nghymru.
Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
Cyhoeddir y data sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn ar StatsCymru.
Prif bwyntiau
Y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch cyfartalog ar gyfer y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2021 oedd 5.7%. Roedd y cyfartaledd wedi bod yn cynyddu yn araf ers 2018 ond cynyddodd yn amlwg yn y chwarter a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2020. Arhosodd yn gymharol sefydlog am y chwarteri nesaf cyn gostwng yn y chwarter a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021.
Chwarter yn dod i ben 30 Mehefin 2021
- Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn 5.5%, i lawr 1.0 pwynt canran o gymharu â’r chwarter yn dod i ben 30 Mehefin 2020.
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf, 8.1%.
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf, 1.7%.
- Y grŵp staff â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf oedd y grŵp Ambiwlans, 8.8%.
- Y grŵp staff â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf oedd staff Meddygol a Deintyddol, 1.5%.
Mae’r canrannau yn y datganiad hwn wedi’u talgrynnu i’r 0.1 agosaf; cyfrifir newidiadau pwyntiau canran gan ddefnyddio’r rhifau heb eu talgrynnu.
Tueddiadau yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch
Absenoldeb oherwydd salwch ar StatsCymru
Mae absenoldeb oherwydd salwch yn dangos amrywiad tymhorol eang drwy gydol y flwyddyn gyda'r gyfradd yn is yn yr haf ac yn uwch yn y gaeaf. Er mwyn darparu gwybodaeth gliriach am newidiadau hirdymor i gyfradd absenoldeb oherwydd salwch dangosir cyfartaledd symudol 12 mis yn Siart 1. Mae’r siart yn dangos bod y cyfartaledd symudol 12 mis wedi parhau tua 6.0% dros y flwyddyn hyd at Ionawr 2021 ond ers hynny mae wedi dechrau gostwng.
Mae’r siart hefyd yn dangos mai cyfradd absenoldeb oherwydd salwch mis Ebrill 2020 yw’r gyfradd fisol uchaf a gofnodwyd (7.5%) wedi ei ddilyn gan fis Rhagfyr 2020 (7.1%). O ystyried yr amseriad mae hyn yn fwy na thebyg oherwydd COVID-19. Nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu, sy’n cynnwys staff sy’n gwarchod, yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr ystadegau hyn. Gellir dod o hyd i gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch misol yn ôl sefydliad a grŵp staff ar StatsCymru.
Absenoldeb oherwydd salwch yn ôl sefydliad y GIG
Canran a oedd yn absennol yn ôl sefydliad a dyddiad ar StatsCymru
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru oedd a’r gyfradd oherwydd salwch uchaf (8.1%) o holl sefydliadau’r GIG y chwarter yma, gyda’r gyfradd isaf yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (1.7%).
Cwm Taf Morgannwg oedd a’r gyfradd oherwydd salwch uchaf (6.4%) o’r holl fyrddau iechyd lleol (BILlau) ar gyfer y chwarter yn diweddu 30 Mehefin 2021, gyda’r gyfradd isaf yn Hywel Dda (4.9%).
O gymharu â’r un chwarter yn 2020, roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn uwch ym MILl Powys, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymddiriedolaethau GIG Felindre a’r Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ac yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Roedd yn is ym mhob sefydliad arall.
Mae data ar gyfer pob sefydliad ar gael ar StatsCymru.
Absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff
Canran a oedd yn absennol yn ôl grŵp staff a dyddiad ar StatsCymru
O’r chwe grŵp staff, y grŵp Ambiwlans oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf y chwarter yma (8.8%).
Staff Meddygol a Deintyddol oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf y chwarter yma (1.5%) fel sydd wedi bod yn wir ers dechrau casglu data yn 2009.
Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn uwch yn y grŵp staff Ambiwlans yn y chwarter yn diweddu 30 Mehefin 2021 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Bu lleihad yn y gyfradd ym mhob grŵp staff arall.
Mae data ar gyfer pob grŵp staff ar gael ar StatsCymru.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Diweddariad nesaf
16 Chwefror 2022
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Bethan Sherwood
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 6735
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 357/2021