Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Rwy’n gwneud y datganiad hwn o dan adran 15(4) o Ddeddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 ("y Ddeddf”).
Ar 21 Ebrill, cwblhaodd Gweinidogion Cymru y pedwerydd adolygiad o'r paratoadau ar gyfer cynnal pleidlais 2021 ar gyfer etholiad cyffredinol arferol y Senedd. Gallwn gadarnhau, at ddibenion yr adolygiad hwn, nad yw’r meini prawf a gyhoeddwyd gennym ar 5 Mawrth o dan adran 12 o'r Ddeddf (er mwyn penderfynu a yw'n angenrheidiol neu'n briodol gohirio'r bleidlais ar gyfer etholiad cyffredinol arferol 2021 y Senedd am resymau’n ymwneud â’r coronafeirws) wedi’u bodloni.
Mae'r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am statws y dangosyddion o dan y meini prawf cyhoeddedig ar adeg yr adolygiad.
Maen Prawf 1: Sefyllfa Iechyd y Cyhoedd
Dangosyddion allweddol:
Cyfradd yr achosion wedi’u cadarnhau.
Roedd 17.6 o achosion fesul 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru ar gyfer y cyfnod 7 diwrnod a ddaeth i ben ar 6 Ebrill.
Capasiti ysbytai.
Ar 9 Ebrill, roedd cyfartaledd wythnosol y gwelyau llawn mewn ysbytai yn 98, sef gostyngiad o 21% ers y cyfnod blaenorol. Ar 31 Mawrth, roedd 15 o welyau yn cael eu defnyddio mewn unedau gofal dwys ar gyfartaledd, sef gostyngiad o 6% ers y cyfnod blaenorol.
Adborth gan weithwyr iechyd proffesiynol lleol (gan gynnwys timau rheoli achos lluosog neu dimau rheoli brigiad).
Ni chafwyd unrhyw adborth a fyddai'n awgrymu bod cynnal yr etholiad yn risg annerbyniol.
Adborth gan arweinwyr awdurdodau lleol a phartneriaid lleol eraill.
Ni chafwyd unrhyw adborth a fyddai'n awgrymu bod cynnal yr etholiad yn risg annerbyniol.
Cyfraddau newid yn nangosyddion y Lefelau Rhybudd.
Roedd y dangosyddion Lefel Rhybudd yn sefydlog.
Cynnydd y rhaglen frechu.
Ar 11 Ebrill 2021, roedd 1,572,752 o ddosau cyntaf o’r brechlyn COVID-19 wedi cael eu rhoi yng Nghymru. Roedd 525,177 o ail ddosau wedi cael eu rhoi.
Achosion o amrywiolynnau sy'n peri pryder.
Nid ystyrid bod amrywiolynnau o bryder yn peri risg annerbyniol yng nghyd-destun cynnal yr etholiad.
Maen Prawf 2: Statws y Paratoadau ar gyfer yr Etholiad
Dangosyddion allweddol:
Cyngor gan Brif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru ynghylch effaith lledaeniad presennol y feirws ar y gallu i gynnal y bleidlais yn ddiogel.
Ar gyfer y pedwerydd adolygiad, gwahoddwyd y Prif Swyddog Meddygol unwaith eto i adrodd drwy eithriad drwy nodi unrhyw newidiadau i’r cyngor a ddarparwyd ar gyfer y trydydd adolygiad o’r paratoadau.
Mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi cadarnhau nad oes unrhyw faterion newydd i’w codi ar hyn o bryd.
Amseriad etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu.
Mae etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn dal i fod wedi’u trefnu ar gyfer 6 Mai.
Adborth gan Swyddogion Canlyniadau, y Comisiwn Etholiadol a rhanddeiliaid eraill, er enghraifft mewn perthynas â’r staff a’r lleoliadau a fydd ar gael neu'r gallu i brosesu pleidleisiau pleidleiswyr absennol.
Yn y pedwerydd adolygiad, rydym wedi gofyn unwaith eto i’r gymuned etholiadol adrodd inni drwy eithriad, er enghraifft os dylid tynnu sylw Gweinidogion Cymru at unrhyw faterion neu gasgliadau perthnasol newydd neu wahanol o ran cynnal yr etholiad mewn modd diogel ar 6 Mai.
Mewn adborth gan Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol, a chynrychiolwyr yr Heddlu, nid oedd unrhyw faterion newydd i’w codi na’u hadrodd.
Ni chafwyd unrhyw adborth gan randdeiliaid eraill yn awgrymu bod unrhyw ddatblygiadau wedi bod a fyddai’n effeithio ar y gallu i gynnal y bleidlais yn ddiogel.
Gan nad yw'r meini prawf ar gyfer gohirio wedi'u bodloni, bydd y paratoadau llawn ar gyfer yr etholiad ar 6 Mai yn parhau.
Rydym yn parhau i gefnogi Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol wrth iddynt barhau â’r paratoadau i leihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â chynnal etholiad yn ystod pandemig, megis rhoi mesurau cadw pellter cymdeithasol a mesurau hylendid ar waith mewn gorsafoedd pleidleisio a lleoliadau cyfrif.
Yng ngoleuni’r newidiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020, rydym wedi ystyried ein canllawiau ar etholiadau ymhellach, gan gynnwys y canllawiau penodol ar ymgyrchu mewn etholiadau. Gan fod cyfarfodydd yn yr awyr agored o lai na 30 o bobl yn mynd i gael eu caniatáu o 26 Ebrill ymlaen, caniateir i stondinau stryd gael eu defnyddio fel gweithgarwch ymgyrchu, yn amodol ar gyfyngiadau. Mae’r rheoliadau a’r canllawiau wedi’u diweddaru yn unol â hynny.
Y pedwerydd adolygiad oedd yr asesiad olaf i fod yn ofynnol o dan Adran 15(4) o’r Ddeddf. Bydd Gweinidogion yn parhau i fonitro’r sefyllfa oherwydd, mewn sefyllfa eithriadol, gallai'r Senedd wneud penderfyniad, yn amodol ar gytundeb 40 o’r 60 o Aelodau, i ohirio'r bleidlais ar unrhyw adeg hyd at ddiwrnod diddymu’r Senedd ar 29 Ebrill. Fodd bynnag, fel yr amlinellir yn y Datganiad Ysgrifenedig hwn, yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd ar gael, bwriad cadarn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw cynnal yr etholiad ar 6 Mai yn ôl y bwriad.