Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r canllawiau hyn yn rhoi cyngor i’r cyhoedd ac i’r gymuned etholiadol am yr etholiadau a fydd yn cael eu cynnal yn ystod 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gadael eich cartref i bleidleisio

Ydw i’n cael gadael fy nghartref i bleidleisio?

Ydych, er dylech chi ddim gadael eich cartref os yw’n ofynnol i chi hunan ynysu.

Mae gadael eich cartref i deithio i bleidleisio mewn etholiad yn “esgus rhesymol”. Pan fyddwch yn gadael eich cartref, dylech dreulio cyn lleied o amser â phosibl y tu allan i’r cartref a sicrhau eich bod yn dilyn yr holl gyngor cadw pellter cymdeithasol arall sy’n berthnasol i’r lefel rhybudd sydd mewn grym ar yr adeg honno. Rhaid ichi edrych ar y canllawiau diweddaraf bob amser i gadarnhau ar be lefel rhybudd yr ydyn ni a beth sy’n cael ei ganiatáu neu beidio.

Bydd. Byddai’r rheolau pleidleisio drwy ddirprwy yn caniatáu i bleidleiswyr sy’n dilyn canllawiau’r llywodraeth o ran hunanynysu wneud cais am bleidlais frys drwy ddirprwy, heb fod angen ardystiad meddygol (neu ddiwygio eu pleidlais drwy ddirprwy os yw’r unigolyn hwnnw’n dilyn canllawiau’r llywodraeth) hyd at y diwrnod pleidleisio. Mae rhagor o wybodaeth am bleidleisio drwy ddirprwy ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

A fydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar 6 Mai?

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal yr etholiad ar 6 Mai 2021 ac mae gwaith paratoi yn cael ei wneud i gynnal yr etholiad ar y dyddiad hwn.

Fodd bynnag, os bydd y pandemig yn fygythiad mor ddifrifol i iechyd y cyhoedd ac i gynnal yr etholiad na fydd hi’n ddiogel cynnal yr etholiad ar yr adeg honno, mae Ddeddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 yn darparu pŵer wrth gefn i ohirio’r etholiad am hyd at chwe mis. Dim ond gyda chytundeb dwy ran o dair o Aelodau’r Senedd y bydd penderfyniad o’r fath yn cael ei wneud.

Gorsafoedd pleidleisio

A fydd cyfyngiad ar nifer y bobl sy’n cael bod mewn gorsaf bleidleisio ar unrhyw un adeg?

Bydd. Bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol sy’n briodol i lefel y rhybudd ar waith, fel cadw pellter o 2m, systemau unffordd, rheoli ciwiau a defnyddio sgriniau diogelwch clir a fydd wedi cael eu dylunio i sicrhau bod yr holl randdeiliaid sy’n rhan o’r broses etholiadol yn ddiogel ac yn saff.

A fydd pleidleiswyr yn cael dod â’u beiros/pensiliau eu hunain i orsafoedd pleidleisio?

Byddan. Bydd pleidleiswyr yn cael eu hannog i ddod â'u beiros/pensiliau eu hunain gyda nhw i fwrw eu pleidlais. Fodd bynnag, bydd beiros/pensiliau hefyd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio a byddan nhw’n cael eu diheintio’n briodol.

Fydd yn rhaid imi wisgo gorchudd wyneb i bleidleisio?

Bydd. Rhaid gwisgo gorchudd wyneb mewn gorsaf bleidleisio, oni bai fod gennych chi reswm dilys dros gael eich eithrio. Bydd cyflenwad o orchuddion wyneb ar gael i unrhyw un sy’n mynd i’r orsaf bleidleisio heb un.

Pan fydda i’n pleidleisio, a fydd cofnodion yn cael eu cadw o staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr, o dan y drefn Profi, Olrhain a Diogelu?

Na fydd. Ni fydd Profi, Olrhain a Diogelu yn berthnasol wrth ddefnyddio gorsaf bleidleisio dim ond ar gyfer pleidleisio. Yn yr un modd â siopau, nid yw'n ofynnol yn gyffredinol i orsafoedd pleidleisio gasglu gwybodaeth gyswllt gan fod y pwyslais ar leoliadau risg uwch lle gall fod rhyngweithio agos rhwng staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr dros gyfnod hir o amser.

A fydd rheolau cadw pellter corfforol ar waith mewn gorsafoedd pleidleisio?

Byddant. Bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol sy’n briodol i lefel y rhybudd ar waith, fel systemau unffordd, rheoli ciwiau a defnyddio sgriniau diogelwch clir a fydd wedi cael eu dylunio i sicrhau bod yr holl randdeiliaid sy’n rhan o’r broses etholiadol yn ddiogel ac yn saff.

A yw hi’n briodol i’r rhifwyr gyflawni eu rôl mewn gorsafoedd pleidleisio o ystyried y cyfyngiadau COVID presennol?

Mae rhifwyr yn chwarae rhan hanfodol a phwysig mewn etholiadau. Ni ddylid cael mwy nag un rhifwr mewn gorsaf bleidleisio ar gyfer pob plaid wleidyddol ac ymgeisydd ar yr un pryd, ond os bydd mwy nag un fynedfa i orsaf bleidleisio, gallai fod yn briodol cael rhifwyr ym mhob mynedfa. Rhaid iddyn nhw ddilyn yr holl fesurau cadw pellter cymdeithasol angenrheidiol a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Swyddogion Canlyniadau neu Lywyddu.

A fydd yn rhaid dangos canlyniad prawf COVID negatif cyn cael mynd i orsaf bleidleisio?

Na fydd. Ni fydd yn rhaid i bleidleiswyr ddarparu tystiolaeth o brawf COVID negatif i fynd i orsaf bleidleisio. Fodd bynnag, dylech chi ac unrhyw un sy’n byw gyda chi aros gartref a hunanynysu yn unol â’r canllawiau os oes gennych chi unrhyw symptomau COVID, neu os ydych wedi cael canlyniad positif neu os dywedwyd wrthych am hunanynysu.

Byddwch yn torri'r gyfraith a gallech gael dirwy os na fyddwch yn aros gartref ac yn hunanynysu os ydych wedi profi'n bositif am COVID-19, neu os yw gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu y GIG wedi dweud wrthych am hunanynysu. Os na fyddwch yn gallu mynd i orsaf bleidleisio, byddwch yn dal i allu pleidleisio.

Ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol i weld y dewisiadau sydd ar gael cyn diwrnod yr etholiad ac ar y diwrnod ei hun.

A fydd staff etholiadol yn cael blaenoriaeth o ran cael brechiad?

Ddim ar hyn o bryd. Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi gosod y flaenoriaeth ar gyfer brechu ac rydym yn dilyn y canllawiau hyn. Bydd yr holl staff etholiadol sy’n cael eu gwahodd i gael y brechiad oherwydd eu bod yn perthyn i un o’r grwpiau blaenoriaeth cynharach yn cael eu hannog i fynd i’w hapwyntiad.

A fydd rhywun yn cael dod gyda fi i’r orsaf bleidleisio, er enghraifft os oes angen gofalwr arnaf?

Bydd, caiff gofalwr ddod gyda chi i’ch helpu i fwrw eich pleidlais yn yr orsaf bleidleisio neu dewch â rhywun dros 16 gyda chi ac sy’n gymwys i fwrw pleidlais yn yr etholiad hwnnw.  Gallwch hefyd ofyn i’r aelod o staff sy’n gyfrifol am yr orsaf bleidleisio eich helpu i farcio eich papur pleidleisio i fwrw eich pleidlais.

Pleidleiswyr a phleidleisio

Pa drefniadau sydd ar waith i sicrhau bod etholwyr sydd wedi cael eu cynghori i warchod yn ystod COVID-19 yn gallu pleidleisio?

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i sicrhau y bydd gorsafoedd pleidleisio yn amgylcheddau diogel o ran COVID. Fodd bynnag, mae gan unrhyw bleidleiswyr nad ydyn nhw’n teimlo’n gyfforddus yn pleidleisio’n bersonol yr opsiwn i wneud cais am bleidlais bost (dyddiad cau am 5pm ar 20 Ebrill 2021) neu bleidlais drwy ddirprwy (dyddiad cau 27 Ebrill 2021), lle bydd unigolyn yn enwebu rhywun mae’n ymddiried ynddo i bleidleisio ar ei ran. Mae darpariaeth wedi’i gwneud hefyd ar gyfer cais brys am ddirprwy, sydd wedi’i nodi isod. Os ydych chi’n meddwl y byddai’r naill opsiwn neu’r llall yn briodol i chi, dilynwch y dolenni uchod.

Beth os bydd gen i neu rywun sy’n byw gyda fi symptomau COVID-19 yn agos at ddiwrnod yr etholiad ac nad ydw i’n cael gadael fy nhŷ i bleidleisio? A fydd y rheolau pleidleisio drwy ddirprwy yn golygu bod y rheini sy’n aros am ganlyniad prawf neu sy’n cael canlyniad positif ar ddiwrnod yr etholiad yn cael pleidleisio drwy ddirprwy?

Bydd. Byddai’r rheolau pleidleisio drwy ddirprwy yn caniatáu i bleidleiswyr sy’n dilyn canllawiau’r llywodraeth o ran hunanynysu wneud cais am bleidlais frys drwy ddirprwy, heb fod angen ardystiad meddygol (neu ddiwygio eu pleidlais drwy ddirprwy os yw’r unigolyn hwnnw’n dilyn canllawiau’r llywodraeth) hyd at y diwrnod pleidleisio. Mae rhagor o wybodaeth am bleidleisio drwy ddirprwy ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

A fydd pleidleisiau post yn cael eu derbyn mewn gorsafoedd pleidleisio, ynteu a oes yn rhaid eu dychwelyd drwy’r gwasanaeth post i leihau ymweliad diangen â gorsaf bleidleisio?

Bydd, mae modd dychwelyd pleidleisiau post i orsaf bleidleisio yn eich etholaeth, ond os ydych yn defnyddio pleidlais bost rydym yn eich annog i’w dychwelyd mewn da bryd drwy’r Post Brenhinol.

Ydw i’n gallu pleidleisio ar-lein er mwyn osgoi mynd i orsaf bleidleisio?

Nac ydych, ond gallwch wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy os na allwch fynd i orsaf bleidleisio neu os nad ydych chi eisiau gwneud hynny. Bydd gorsafoedd pleidleisio yn ddiogel o ran COVID, a chyfrifoldeb y Swyddogion Canlyniadau fydd sicrhau hyn. Ond chi biau’r dewis.

Hoffwn wneud cais am bleidlais bost ond mae hynny’n golygu ei bod yn rhaid imi argraffu’r ffurflen ac nid oes gen i beiriant argraffu gartref. Ydw i’n gallu gwneud cais am bleidlais bost yn electronig?

Nac ydych, ond gallwch gysylltu â'r tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol a gofyn iddyn nhw bostio ffurflen gais atoch a thrafod yr opsiynau ar gyfer cyflwyno'r ffurflen. Dylech ganiatáu digon o amser i wneud hyn cyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, sef 5pm ar 20 Ebrill 2021.

Mae cyfeiriad gwefan a manylion cyswllt eich tîm gwasanaethau etholiadol ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Sut mae pleidlais drwy ddirprwy yn gweithio?

Mae pleidlais drwy ddirprwy yn golygu eich bod yn gofyn i rywun arall fwrw pleidlais ar eich rhan. Mae rhagor o fanylion am bleidleisio drwy ddirprwy ar gaelar wefan y Comisiwn Etholiadol. Rhaid gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy cyn 27 Ebrill 2021.

Os ydw i wedi dewis pleidleisio’n bersonol o’r blaen, ydw i’n cael newid fy meddwl a dewis cael pleidlais bost?

Ydych. Mae gwybodaeth am bleidlais bost, gan gynnwys manylion ynghylch sut mae cael Ffurflen Gais am Bleidlais Bost, ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Rhaid gwneud cais am bleidlais bost cyn 5pm ar 20 Ebrill.

Gan fod yr hawl i bleidleisio wedi cael ei estyn i fwy o bobl ar gyfer etholiad y Senedd, a fydda i’n cael pleidleisio os byddaf yn 16 oed ar ddiwrnod yr etholiad?

Byddwch, ond dim ond yn etholiad y Senedd (nid yn etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu nac mewn unrhyw is-etholiadau llywodraeth leol) ac mae’n rhaid ichi fod wedi cofrestru i bleidleisio o leiaf 12 diwrnod cyn diwrnod yr etholiad.

Beth mae estyn yr hawl i bleidleisio yn etholiad y Senedd ddinasyddion tramor cymwys yn ei olygu?

Mae dinesydd tramor cymwys yn golygu unrhyw un 16 oed neu hŷn sy’n byw yng Nghymru nad yw’n un o ddinasyddion y Gymanwlad nac yn un o ddinasyddion Gweriniaeth Iwerddon ac sydd wedi cael caniatâd, neu nad oes angen caniatâd arno, i aros, neu mae’n cael ei drin fel petai ganddo’r caniatâd i ddod i’r DU neu i aros yn y DU.

Ai dim ond yn yr orsaf bleidleisio sydd wedi’i nodi ar fy ngherdyn pleidleisio ydw i’n cael pleidleisio?

Ydych. Dim ond yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar eich cerdyn pleidleisio y bydd eich enw ar y Gofrestr Etholwyr. Os nad ydych chi’n siŵr lle dylech chi fynd i bleidleisio, holwch dîm etholiadol eich cyngor lleol. Mae manylion cyswllt eich tîm gwasanaethau etholiadol ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Ydw i’n cael teithio gyda phobl eraill i bleidleisio?

Cewch deithio gydag aelodau eich aelwyd a'r rheini rydych chi’n gofalu amdanyn nhw neu’r rheini sy’n gofalu amdanoch chi, ond o ran pobl nad ydych chi’n byw gyda nhw nac yn darparu gofal ar eu cyfer, rhaid ichi edrych ar y canllawiau diweddaraf bob amser i weld ar ba lefel rhybudd yr ydyn ni a beth sy’n cael ei ganiatáu neu beidio.

Pryd fydda i’n gallu cael gwybod canlyniad yr etholiad?

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i sicrhau y bydd lleoliadau cyfrif yn amgylcheddau diogel o ran COVID. Mae Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru wedi cytuno na fydd y cyfrif yn cael ei wneud dros nos. Bydd y prosesau dilysu a chyfrif yn galw am ragor o staff ac yn cymryd mwy o amser i’w cyflawni. Hefyd, bydd angen ystyried y lle sydd ar gael er mwyn i bawb allu cadw pellter cymdeithasol.

Pleidiau gwleidyddol, ymgyrchu ac ymgeiswyr

Ydy pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr neu ymgyrchwyr yn cael rhannu taflenni etholiadol?

Ydyn. Caniateir i bobl sy'n ymgymryd â gweithgareddau ymgyrchu etholiadol ("ymgyrchwyr") ddosbarthu taflenni i gartrefi preifat.

Dylid trefnu bod ymgyrchwyr yn casglu deunyddiau printiedig fesul un. Dylid osgoi gafael mewn deunyddiau cyhyd ag y bo modd.

Dylid cyfyngu nifer yr ymgyrchwyr sy'n gweithio gyda’i gilydd i gyn lleied â phosibl. Dylai ymgyrchwyr nad ydynt yn byw gyda'i gilydd gadw 2m ar wahân i'w gilydd ac ar wahân i bobl eraill nad ydynt yn rhan o’u haelwyd neu eu swigen gefnogaeth bob amser.

Dylid cadw nifer yr ymgyrchwyr sy'n gweithredu gyda'i gilydd mor sylfaenol â phosibl. Dylai ymgyrchwyr nad ydynt yn byw gyda'i gilydd gadw 2m ar wahân i'w gilydd, ac ar wahân i bobl eraill nad ydynt yn aelodau o’u haelwyd neu eu swigen gefnogaeth, bob amser.

Edrychwch ar y canllawiau ymgyrchu diweddaraf i gadarnhau beth sy'n cael ei ganiatáu neu beidio.

Ydy pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr neu ymgyrchwyr yn cael canfasio (curo ar ddrysau)?

Caniateir i ymgyrchwyr ganfasio etholwyr. Mae’n ofynnol i ymgyrchwyr sy'n canfasio gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws neu o’i ledaenu, ac i roi sylw i'r canllawiau ymgyrchu.

Edrychwch ar y canllawiau ymgyrchu diweddaraf i gadarnhau beth sy'n cael ei ganiatáu neu beidio.

Mae angen imi gael llofnodion i gefnogi fy enwebiad fel ymgeisydd ar gyfer etholiad. Ydw i’n cael cwrdd â phobl eraill i wneud hyn?

Ydych. Mae hyn yn rhwymedigaeth gyfreithiol at ddibenion y rheoliadau.

Wrth gasglu llofnodion ar gyfer papurau enwebu, rhaid cadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol. Dylai darpar ymgeiswyr ystyried defnyddio gwasanaethau post pan fydd hynny’n bosibl. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl, mae gadael eich cartref i gyflwyno ffurflenni enwebu yn bersonol i’r llofnodwyr yn esgus rhesymol. Dylai’r naill opsiwn a’r llall olygu bod modd rhoi llofnodion yn ddiogel ac ar adeg sy’n hwylus i’r unigolyn. Os oes cyfyngiadau ar waith sy’n eich atal rhag cwrdd â phobl o aelwydydd eraill dan do ni ddylech fynd i gartref rhywun i gasglu llofnod.

Mae’r gwefan y Comisiwn Etholiadol yn darparu canllawiau cynhwysfawr ar y broses enwebu, gan gynnwys y gofyniad ar gyfer tanysgrifwyr.

Rhaid ichi edrych ar y canllawiau diweddaraf bob amser i gadarnhau ar be lefel rhybudd yr ydyn ni a beth sy’n cael ei ganiatáu neu beidio.

Oes rhaid imi gyflwyno fy ffurflenni enwebu â llaw ar gyfer is-etholiad llywodraeth leol sydd wedi’i ohirio (neu arferol)?

Oes, mae’n ofyniad cyfreithiol eich bod yn cyflwyno eich ffurflenni enwebu’n bersonol os ydych chi’n dymuno sefyll fel ymgeisydd mewn is-etholiad llywodraeth leol sydd wedi’i ohirio (neu arferol).

O’r herwydd, mae hyn yn esgus rhesymol dros adael eich cartref. Wrth gyflwyno eich ffurflenni enwebu rhaid glynu wrth yr holl gyfyngiadau cyfreithiol sydd ar weithleoedd ac unigolion. Rhaid ichi ddilyn y rheolau cadw pellter cymdeithasol a rhaid ichi wisgo gorchudd wyneb pan fydd hynny’n angenrheidiol. Dylai'r Swyddog Canlyniadau archwilio’r ffurflenni enwebu cyn eu cyflwyno yn electronig pan fydd yn gallu gwneud hynny. Y dewis olaf fydd archwilio’r ffurflenni enwebu wyneb yn wyneb, a dim ond pan fydd hynny’n gwbl angenrheidiol y dylid gwneud hynny.

Rhaid ichi edrych ar y canllawiau diweddaraf bob amser i gadarnhau ar be lefel rhybudd yr ydyn ni a beth sy’n cael ei ganiatáu neu beidio.

A oes angen 10 llofnod o hyd i gefnogi enwebiad ar gyfer is-etholiad prif gyngor?

Mae’r gofyniad i gael 10 llofnod i gefnogi enwebiad ar gyfer swydd wag achlysurol prif gyngor yn dal mewn grym yng Nghymru. Mae’r rheoliadau sy’n gohirio is-etholiadau llywodraeth leol yn gwneud darpariaeth y dylid cynnal yr etholiadau hyn rhwng 1 Mawrth a 6 Mai 2021. Gan mwyaf mae'r is-etholiadau hyn yn cael eu cynnal ar lefel cyngor tref a chymuned gyda nifer llai o swyddi achlysurol prif gynghorau’n cael eu llenwi. Mae graddfa ddaearyddol yr is-etholiadau hyn yn fach ac ychydig iawn o awdurdodau sy’n cynnal mwy nag un is-etholiad ar yr un diwrnod.

Dylid casglu llofnodion yn ddiogel ac, yn ddelfrydol, gan ddefnyddio gwasanaethau post, a bydd angen i ymgeiswyr ystyried a oes digon o amser iddyn nhw wneud hynny drwy ddefnyddio gwasanaethau post. Os nad yw hyn yn bosibl, rhaid cadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol a dylid osgoi cyswllt corfforol uniongyrchol â llofnodwr. Dylai Swyddogion Canlyniadau ystyried y gofyniad hwn wrth bennu’r dyddiad ar gyfer is-etholiad llywodraeth leol.

A oes 10 llofnod o hyd ar gyfer swydd wag achlysurol mewn cyngor tref neu gymuned sydd i’w llenwi drwy etholiad?

Mae’r gofyniad i gael 10 llofnodwr i gefnogi is-etholiad o ganlyniad i swydd wag achlysurol ar lefel cyngor tref neu gymuned yn dal mewn grym yng Nghymru. Mae’r rheoliadau sy’n gohirio is-etholiadau llywodraeth leol yn gwneud darpariaeth y dylid cynnal yr etholiadau hyn rhwng 1 Mawrth a 6 Mai 2021. Bydd nifer fawr o swyddi gwag mewn cynghorau tref neu gymuned yn cael eu llenwi drwy’r broses cyfethol. Fodd bynnag, os bydd deg (neu fwy o etholwyr) wedi cefnogi llenwi’r swydd wag drwy etholiad, bydd hyn yn cael ei symud ymlaen i’r amserlen etholiadol fel y nodir gan y Swyddog Canlyniadau.

Pan fydd llofnodion yn cael eu casglu, rhaid gwneud hyn yn ddiogel ac o fewn y canllawiau iechyd cyhoeddus cyfredol. Yn ddelfrydol bydd llofnodion yn cael eu casglu drwy ddefnyddio gwasanaethau post, ond os nad yw hyn yn bosibl, rhaid cadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol a dylid osgoi cyswllt corfforol uniongyrchol â llofnodwr. Dylai Swyddogion Canlyniadau ystyried y gofyniad hwn wrth bennu’r dyddiad ar gyfer is-etholiad llywodraeth leol.