Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Rwy’n gwneud y datganiad hwn o dan adran 15(4) o Ddeddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 ("y Ddeddf”).
Ar 1 Ebrill, cwblhaodd Gweinidogion Cymru y trydydd adolygiad o'r paratoadau ar gyfer cynnal pleidlais 2021 ar gyfer etholiad cyffredinol arferol y Senedd. Gallwn gadarnhau, at ddibenion yr adolygiad hwn, nad yw’r meini prawf a gyhoeddwyd gennym ar 5 Mawrth o dan adran 12 o'r Ddeddf (er mwyn penderfynu a yw'n angenrheidiol neu'n briodol gohirio'r bleidlais ar gyfer etholiad cyffredinol arferol 2021 y Senedd am resymau’n ymwneud â’r coronafeirws) wedi’u bodloni.
Mae'r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am statws y dangosyddion o dan y meini prawf cyhoeddedig ar adeg yr adolygiad.
Maen Prawf 1: Sefyllfa Iechyd y Cyhoedd (data'n gywir ar 26 Mawrth)
Dangosyddion allweddol:
Cyfradd yr achosion wedi’u cadarnhau.
Y gyfradd ar gyfer Cymru oedd 37.8 o achosion am bob 100,000 o bobl yn seiliedig ar ddata Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Capasiti ysbytai.
Ar 26 Mawrth, mae nifer y bobl yn yr ysbyty ag achos wedi’i gadarnhau o COVID-19 wedi lleihau, gyda chyfartaledd wythnosol o dros 168 o welyau mewn defnydd, sydd wedi gostwng 31% ers y cyfnod blaenorol. Mae’r nifer sydd mewn uned gofal dwys â COVID-19 yn lleihau, gyda chyfartaledd wythnosol o 23 o welyau mewn defnydd, sydd wedi gostwng 21% ers y cyfnod blaenorol. Mae nifer y bobl sy’n adfer o COVID-19 ar hyn o bryd yn parhau i leihau, ac ar 26 Mawrth, 469 oedd y nifer hwnnw, sydd wedi gostwng 15% ers y cyfnod 7 diwrnod blaenorol.
Adborth gan weithwyr iechyd proffesiynol lleol (gan gynnwys timau rheoli achos lluosog neu dimau rheoli brigiad).
Ni chafwyd unrhyw adborth a fyddai'n awgrymu bod cynnal yr etholiad yn risg annerbyniol.
Adborth gan arweinwyr awdurdodau lleol a phartneriaid lleol eraill.
Ni chafwyd unrhyw adborth a fyddai'n awgrymu bod cynnal yr etholiad yn risg annerbyniol.
Cyfraddau newid yn nangosyddion y Lefelau Rhybudd.
Roedd y dangosyddion Lefel Rhybudd yn sefydlog.
Cynnydd y rhaglen frechu.
Roedd y rhaglen frechu'n mynd rhagddi’n dda. Roedd 1,427,183 o unigolion wedi derbyn dos cyntaf o frechlyn COVID-19, tra bod 437,937 o unigolion wedi derbyn cwrs dau ddos y brechlyn COVID-19.
Achosion o amrywiolynnau sy'n peri pryder.
Nid ystyrid bod amrywiolynnau o bryder yn peri risg annerbyniol yng nghyd-destun cynnal yr etholiad.
Maen Prawf 2: Statws y Paratoadau ar gyfer yr Etholiad
Dangosyddion allweddol:
Cyngor gan Brif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru ynghylch effaith lledaeniad presennol y feirws ar y gallu i gynnal y bleidlais yn ddiogel.
Ar gyfer y trydydd adolygiad, gwahoddwyd y Prif Swyddog Meddygol i adrodd drwy eithriad drwy nodi unrhyw newidiadau i’r cyngor a ddarparwyd ar gyfer yr ail adolygiad o’r paratoadau.
Roedd y cyngor blaenorol yn nodi bod effaith y trosglwyddo yn debygol o gael llai o effaith pan fydd yr achosion o COVID-19 yn is. Ar y sail hon, roedd yr amcangyfrifon sydd wedi'u modelu felly'n argymell mai’r dyddiad a ffefrir ar gyfer yr etholiad oedd 6 Mai, yn hytrach na’r dyddiad enghreifftiol o 8 Gorffennaf. Y rheswm am hyn yw mai dyna’r dyddiad agosaf at y cyfnodau o gyfyngiadau sy’n lleihau lledaeniad y feirws ar hyn o bryd.
Nid oes unrhyw adborth wedi dod i law yn awgrymu bod unrhyw ddatblygiadau wedi bod a fyddai’n golygu bod angen newid y cyngor blaenorol.
Amseriad etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu.
Mae etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn dal i fod wedi’u trefnu ar gyfer 6 Mai.
Adborth gan Swyddogion Canlyniadau, y Comisiwn Etholiadol a rhanddeiliaid eraill, er enghraifft mewn perthynas â’r staff a’r lleoliadau a fydd ar gael neu'r gallu i brosesu pleidleisiau pleidleiswyr absennol.
Yn y trydydd adolygiad, rydym wedi gofyn i’r gymuned etholiadol adrodd inni drwy eithriad, er enghraifft os dylid tynnu sylw Gweinidogion Cymru at unrhyw faterion neu gasgliadau perthnasol newydd neu wahanol o ran cynnal yr etholiad mewn modd diogel ar 6 Mai.
Mewn adborth gan Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol, nid oedd unrhyw faterion newydd i’w codi na’u hadrodd, ond gwnaethant nodi bod nifer o risgiau a heriau gweithredol o ran logisteg yn berthnasol o hyd.
Ni chafwyd unrhyw adborth gan randdeiliaid eraill yn awgrymu bod unrhyw ddatblygiadau wedi bod a fyddai’n effeithio ar y gallu i gynnal y bleidlais yn ddiogel.
Gan nad yw'r meini prawf ar gyfer gohirio wedi'u bodloni, bydd y paratoadau llawn ar gyfer yr etholiad ar 6 Mai yn parhau.
Rydym yn parhau i gefnogi Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol wrth iddynt barhau â’r paratoadau i leihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â chynnal etholiad yn ystod pandemig, megis rhoi mesurau cadw pellter cymdeithasol a mesurau hylendid ar waith mewn gorsafoedd pleidleisio a lleoliadau cyfrif.
Yn yr adolygiad hwn, rydym wedi ystyried ein canllawiau ar etholiadau ymhellach, gan gynnwys y canllawiau penodol ar ymgyrchu mewn etholiadau. Bydd canfasio yn cael ei ganiatáu o 12 Ebrill ymlaen, gyda chyfyngiadau, ac mae’r rheoliadau a’r canllawiau wedi’u diweddaru yn unol â hynny.
Bydd y pedwerydd adolygiad, sef yr adolygiad terfynol, o baratoadau'r etholiadau wedi'i gwblhau erbyn 23 Ebrill. Mewn sefyllfa eithriadol, gallai'r Senedd wneud penderfyniad, yn amodol ar gytundeb 40 o’r 60 o Aelodau, i ohirio'r bleidlais ar unrhyw adeg hyd at ddiwrnod diddymu’r Senedd ar 29 Ebrill. Fodd bynnag, fel yr amlinellir yn y Datganiad Ysgrifenedig hwn, yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd ar gael, bwriad cadarn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw cynnal yr etholiad ar 6 Mai yn ôl y bwriad.