Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021
Ein strategaeth i lunio dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Croeso: Y Gweinidog
Gyda balchder rydym yn lansio Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021, a fydd yn llywio ein system drafnidiaeth yng Nghymru am yr 20 mlynedd nesaf.
Yng Nghymru, rydym yn llythrennol yn dilyn Llwybr Newydd, sef enw ein strategaeth newydd. Rydym wedi amlinellu ffordd newydd o feddwl sy'n sicrhau pobl a’r newid yn yr hinsawdd yn flaenoriaethau ac yn ganolog i’n system drafnidiaeth.
Dyma rywbeth mae'n rhaid i ni ei wneud. Yr argyfwng hinsawdd yw un o broblemau diffiniol mwyaf ein hoes. Os ydym am ddiogelu bywydau ein plant, mae angen inni sicrhau carbon sero-net erbyn 2050.
Ac er mwyn gwneud hynny, mae angen inni newid y ffordd rydym yn teithio. Mae angen inni leihau nifer y ceir ar ein ffyrdd, a sicrhau bod rhagor o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn cerdded neu’n beicio. Ond ni fyddwn yn sicrhau'r lefel honno o newid oni bai ein bod yn argyhoeddi pobl, yn gwrando ar ddefnyddwyr ac yn cynnwys pobl wrth gynllunio system drafnidiaeth sy'n gweithio i bawb.
Mae ein system drafnidiaeth yn un o'r asedau cenedlaethol pwysicaf sydd gennym. Mae'n cysylltu pobl â'i gilydd, yn rhwymo cymunedau â'i gilydd ac yn galluogi busnesau i ddatblygu ac ehangu. Mae'n un o’r arfau mwyaf pwerus a deinamig sydd gennym ar gyfer sicrhau cydlyniant cymunedol, cyfiawnder cymdeithasol a thwf economaidd cynhwysol.
Mae arnom angen system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon. Mae hyn yn golygu un sy'n dda ar gyfer pobl a chymunedau, yn dda ar gyfer yr amgylchedd, yn dda ar gyfer yr economi a lleoedd ac yn cefnogi diwylliant Cymru a’r Gymraeg.
Felly, sut rydym yn sicrhau bod hynny ddigwydd?
Yn gyntaf, mae angen i ni ddod â gwasanaethau i bobl er mwyn lleihau'r angen i deithio. Nid yw hyn yn golygu atal teithio'n gyfan gwbl. Mae’n golygu cynllunio ymlaen llaw i sicrhau cysylltiadau ffisegol a digidol gwell i ategu mynediad at wasanaethau mwy lleol, a rhagor o weithio gartref a gweithio o bell. Os yw rhagor o bobl yn gallu cwblhau eu teithiau bob dydd drwy gerdded a beicio, byddwn yn dibynnu llai ar geir.
Yn ail, mae angen i ni alluogi pobl a nwyddau i symud yn hawdd o ddrws i ddrws gan ddefnyddio trafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen inni fuddsoddi mewn gwasanaethau trafnidiaeth dibynadwy, effeithlon a fforddiadwy y mae pobl am eu defnyddio, yn gallu eu defnyddio ac yn eu defnyddio. Mae arnom angen hefyd y seilwaith trafnidiaeth i ategu'r gwasanaethau hynny. Byddwn yn sicrhau bod ein seilwaith trafnidiaeth yn ddiogel, yn hygyrch, yn cael ei gynnal a'i gadw'n dda ac wedi'i ddiogelu at y dyfodol, er mwyn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd.
A lle mae arnom angen seilwaith trafnidiaeth newydd, byddwn yn gweithredu mewn ffordd newydd. Byddwn yn defnyddio'r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy i roi blaenoriaeth i ateb y galw am deithio drwy gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus cyn ystyried cerbydau modur preifat.
Yn drydydd, mae angen i ni annog pobl i newid i drafnidiaeth fwy cynaliadwy. Os ydym am gyrraedd ein targedau mewn perthynas â’r newid yn yr hinsawdd, mae angen i bobl deithio mewn ffordd wahanol hefyd. Mae hynny'n golygu ei gwneud yn haws gwneud y peth iawn. Byddwn yn gwneud hyn drwy wneud trafnidiaeth gynaliadwy carbon isel yn fwy deniadol a mwy fforddiadwy, a thrwy fabwysiadu datblygiadau arloesol sy'n ei gwneud yn haws ei defnyddio.
Gyda'i gilydd, bydd y tair blaenoriaeth hyn yn gwella ein hiechyd, yn mynd i'r afael â thlodi ac yn agor ein system drafnidiaeth i bawb, yn enwedig y rheini nad oes ganddynt fynediad at gar a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig.
Yn allweddol i unrhyw strategaeth mae’r ffordd y bydd yn cael ei chyflawni. Bydd y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth, cynllun manwl sy’n cynnwys y pum mlynedd nesaf, a Chynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn teilwra'r gwaith o gyflawni’r strategaeth i anghenion pob rhan o Gymru. Bydd pedwar llwybr cyflawni trawsbynciol yn ein helpu i gyflawni ein hymrwymiadau ar ddatgarboneiddio, cydraddoldeb, cynllunio teithiau integredig a'n cynnig gwledig, gyda naw cynllun bach yn dangos sut y bydd pob dull teithio a sector yn cyflawni. Byddwn hefyd yn sicrhau ein bod ni a’n partneriaid yn atebol drwy fonitro'r strategaeth yn ei chyfanrwydd.
Llwybr Newydd yw dechrau’r daith – nid y diwedd. Mae'n pennu cyfeiriad hirdymor a thair blaenoriaeth frys ac uniongyrchol. Mae'n dangos lle rydym am fynd – a sut byddwn yn cyrraedd y fan honno.
Nid ein strategaeth ni yn unig yw hon. Hoffem ddiolch i'r unigolion a'r sefydliadau niferus a'n helpodd yn ystod y gwaith drafftio, ac sydd wedi rhoi o'u hamser i ymateb i'n hymgynghoriad. Mae eich adborth wedi ein herio ni, ond mae eich cefnogaeth gyffredinol yn nodi'n glir ein bod ar y trywydd cywir, y llwybr cywir.
Bydd Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 yn darparu system drafnidiaeth sy'n sicrhau Cymru well am flynyddoedd lawer.
Ken Skates AS Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Lee Waters AS Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Cyflwyniad
Llwybr Newydd: dyma ein strategaeth drafnidiaeth newydd.
Mae'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer sicrhau bod ein system drafnidiaeth yn gallu ein helpu i gyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Cymru, gan helpu i'n rhoi ni ar y llwybr tuag at greu cymdeithas fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrddach.
Gan ddefnyddio'r pum ffordd o weithio a amlinellir yn 'Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015' rydym wedi trafod yn helaeth â defnyddwyr trafnidiaeth, darparwyr gwasanaethau a phartneriaid allweddol i gyd-gynhyrchu'r cyfeiriad newydd hwn ar gyfer teithio.
Yn ogystal â phennu cyfeiriad strategol rydym wedi datblygu naw cynllun bach, gan esbonio sut y byddwn yn eu cyflawni ar gyfer gwahanol ddulliau teithio a sectorau. Ategir Llwybr Newydd hefyd gan adroddiad manylach ar Symudedd yng Nghymru, yr adroddiad Data a Thueddiadau Trafnidiaeth ac Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig.
Bydd yn ei gwneud yn ofynnol i lywodraethau, awdurdodau lleol, darparwyr trafnidiaeth (yn y sector masnachol a'r trydydd sector) a meysydd polisi eraill gydweithio i helpu i sicrhau bod trafnidiaeth yn cyfrannu at lesiant Cymru heddiw ac yn y dyfodol; i'n rhoi ni ar lwybr newydd.
Termau defnyddiol
Hygyrch
Gwasanaethau trafnidiaeth a seilwaith sy'n cwrdd â'r safonau polisi a rheoleiddio perthnasol ar gydraddoldeb, mynediad, hawliau dynol a'r Gymraeg, gan gydnabod model cymdeithasol anabledd.
Teithio Llesol
At ddibenion y ddogfen hon mae 'teithio llesol' yn cyfeirio at gerdded a beicio ar gyfer teithiau bob dydd – fel cyrraedd y gwaith, addysg neu wasanaethau.
Cyd-bwyllgorau corfforedig
Haen newydd o lywodraeth lleol fydd yn ymgymryd â chynllunio trafnidiaeth rhanbarthol yng Nghymru.
Datgarboneiddio
Y camau sydd eu hangen i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a symud tuag at economi carbon isel. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau allyriadau carbon sero-net erbyn 2050.
Trafnidiaeth sy’n seiliedig ar alw
Trafnidiaeth breifat neu rannol-gyhoeddus sy’n seiliedig ar alw yn hytrach nag amserlen benodedig. Mae enghreifftiau yng Nghymru yn cynnwys gwasanaethau fflecsi gan Drafnidiaeth Cymru.
Datganoli
Mae hyn yn rhoi'r pŵer i Gymru basio deddfwriaeth ac yn trosglwyddo rhai cyfrifoldebau gweinidogol i Gymru. Ym maes trafnidiaeth mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am y ffyrdd a bysiau. Nid yw meysydd eraill fel y rheilffyrdd a hedfanaeth wedi cael eu datganoli, ac mae Gweinidogion Cymru yn cydweithio â Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r rhain.
Cadernid ecosystemau
Gallu ecosystem gyfan i ymateb i bethau sy'n tarfu arni drwy wrthsefyll niwed ac ymadfer yn gyflym.
Deddf Cydraddoldeb
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun ar sail nodwedd warchodedig. Y naw nodwedd warchodedig yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
Y Pum ffordd o weithio
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn amlinellu pum ffordd o weithio y mae angen i gyrff cyhoeddus feddwl amdanynt er mwyn dangos eu bod wedi dilyn egwyddor datblygu cynaliadwy. Y pum ffordd o weithio yw hirdymor, atal, integreiddio cydweithio a chynnwys.
Cymru'r Dyfodol
Y Cynllun Cenedlaethol 2040. Mae'n nodi lle rydym yn credu y dylem geisio tyfu, a'r mathau o ddatblygiadau y bydd eu hangen arnom dros yr 20 mlynedd nesaf er mwyn ein helpu i fod yn gymdeithas gynaliadwy a ffyniannus.
Cerbydau nwyddau trwm
Term yr Undeb Ewropeaidd am gerbydau dros 3.5 tunnell – mae cerbydau masnachol ysgafn yn ysgafnach na hyn.
Awdurdodau Priffyrdd
Mae dyletswydd ar y rhain i fynnu a diogelu hawliau'r cyhoedd i ddefnyddio a mwynhau unrhyw briffordd y maent yn awdurdod ar ei chyfer. Fel yr Awdurdod Priffyrdd ar gyfer y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru, rhaid i Weinidogion Cymru eu cynnal a'u cadw ag arian cyhoeddus a chydymffurfio â rheoliadau eraill.
Cerbydau hydrogen
Mae’r rhain yn defnyddio trydan sy’n cael ei gynhyrchu drwy adwaith cemegol rhwng hydrogen ac ocsigen. Naill ai mae'r trydan yn pweru'r cerbyd, neu mae'n gwefru batri sy'n pweru'r cerbyd. Mae’r tanwydd hydrogen yn cael ei storio mewn tanc pwysedd uchel.
Seilwaith
Mae seilwaith trafnidiaeth yn cynnwys yr holl bethau sy'n galluogi gwasanaethau trafnidiaeth i weithredu – strydoedd a ffyrdd, rheilffyrdd, a rhwydweithiau teithio llesol fel llwybrau beicio a llwybrau troed. Mae hefyd yn cynnwys strwythurau cysylltiedig fel gorsafoedd, pontydd, argloddiau, meysydd parcio, arwyddion, signalau, safleoedd bysiau a chyfnewidfeydd trafnidiaeth – ynghyd ag ystad feddal, sef tir a mannau gwyrdd sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth. Mae porthladdoedd a harbwrs, meysydd awyr, a chyfleusterau cludo nwyddau a logisteg hefyd yn bwysig.
System Cynllunio Defnydd Tir
Y broses o reoleiddio tir er budd y cyhoedd yn ehangach, gan gynnwys canlyniadau cymdeithasol ac amgylcheddol.
Llwybr Newydd
Dyma deitl Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru 2021.
Micro-symudedd
Cerbydau bach ysgafn sy’n cael eu gyrru gan y defnyddwyr eu hunain ar lai na 25km yr awr. Gallant gynnwys beiciau neu sgwteri trydan.
Symudedd fel gwasanaeth
Newid o'r drefn lle mae pobl yn berchen ar eu cludiant eu hunain, i wasanaethau sy'n galluogi pobl i gynllunio gwahanol ddulliau teithio, eu trefnu, talu amdanynt a'u defnyddio.
Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth
Pan fydd y fersiwn derfynol o Lwybr Newydd wedi cael ei chyhoeddi, bydd Trafnidiaeth Cymru yn datblygu Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth a fydd yn amlinellu blaenoriaethau buddsoddi penodol.
Nodau llesiant cenedlaethol
Mae'r saith nod llesiant cenedlaethol un cael eu hamlinellu yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Dyma nhw: Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach, Cymru sy'n fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynus, Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu a Chymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.
Dangosyddion llesiant cenedlaethol
Mae 46 o ddangosyddion llesiant sy'n dangos cynnydd yn erbyn y saith nod llesiant cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru yn paratoi adroddiad ar y rhain bob blwyddyn.
Model Cymdeithasol o Anabledd
Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth pwysig rhwng nam ac anabledd. Mae’n cydnabod fod pobl sydd ag amhariadau yn anabl o ganlyniad i’r rhwystrau sy'n bodoli'n gyffredin mewn cymdeithas. Mae’r rhain yn cynnwys rhwystrau corfforol, agweddol, amgylcheddol, systemig, ieithyddol ac economaidd a all atal cynhwysiant a chyfranogiad pobl anabl o bob cefndir.
Cerbydau ysgafn preifat
Mae’r rhain yn cynnwys beiciau modur a cheir bychan sy’n effeithlon o ran ynni, faint o le maent yn ei gymryd ar y ffordd a faint o ddeunyddiau maent yn eu defnyddio.
Polisi Cynllunio Cymru 11
Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio. Fe'i hategir gan Cymru'r Dyfodol – y Cynllun Cenedlaethol 2040.
Cerbydau hurio preifat
Cerbydau fel minicabiau, rhai gwasanaethau cludiant i'r ysgol a chludiant i ganolfannau gofal dydd, a gwasanaethau chauffeur. Rhaid i siwrneiau gael eu trefnu ymlaen llaw drwy drefnydd trwyddedig cerbydau hurio preifat.
Nodweddion gwarchodedig
Yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010 mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn pobl ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Gelwir y rhain yn nodweddion gwarchodedig.
Cerbydau gwasanaethau cyhoeddus
Cerbydau sy'n cludo mwy nag wyth teithiwr am dâl neu ffi.
Cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol
Ar ôl i Lwybr Newydd gael ei chyhoeddi, bydd Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn paratoi Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Gwasanaethau trafnidiaeth sydd ar gael at ddefnydd y cyhoedd, fel arfer yn seiliedig ar lwybrau neu amserlenni penodedig ac am bris penodedig. Yng Nghymru, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cynnwys gwasanaethau bysiau a threnau.
Y Senedd
Y corff a etholir yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl.
Ystad feddal
Y mannau gwyrdd a thir sy'n gysylltiedig â seilwaith trafnidiaeth strategol – yn enwedig y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol. Gall gynnwys bioamrywiaeth.
Rhwydwaith Ffyrdd Strategol
Y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru.
Egwyddor datblygu cynaliadwy
O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, rhaid i gyrff cyhoeddus weithredu mewn ffordd sy’n sicrhau bod ein hanghenion heddiw yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Dulliau teithio cynaliadwy
Y rhai hynny sy'n cyfrannu at ddatgarboneiddio, gan gynnwys cerdded a beicio, trafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau di-allyriadau neu allyriadau isel.
Yr Hierarchaeth ar gyfer Cynllunio Trafnidiaeth Gynaliadwy
Mae hon yn llywio penderfyniadau ynghylch seilwaith newydd ac yn rhoi blaenoriaeth i gerdded a beicio a trafnidiaeth gyhoeddus, wedyn cerbydau allyriadau isel iawn neu gerbydau di-allyriadau ac yn olaf cerbydau preifat. Mae’n cael ei hamlinellu ym Mholisi Cynllunio Cymru 11.
Safonau tacsis a cherbydau hurio preifat
Mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn amgylcheddau risg uchel, ac felly maent yn ddarostyngedig i safonau trwyddedu statudol, yn enwedig ar gyfer plant ac oedolion agored i niwed. Llywodraeth y DU sy'n pennu ac yn gorfodi safonau trwyddedu statudol.
Trafnidiaeth Cymru
Y corff a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni blaenoriaethau trafnidiaeth yng Nghymru.
Dull teithio
Y ffordd mae teithwyr neu nwyddau’n cael eu cludo drwy'r awyr, ar ddŵr neu ar dir. Mae'r dulliau'n cynnwys cerdded, beicio, cerbydau – gan gynnwys beiciau modur, rheilffyrdd, llongau (morol), yr awyr (hedfanaeth). Mae nifer cynyddol o bobl yn gweld teithio fel rhywbeth sy’n cynnwys dulliau gwahanol (aml-ddull).
Y sector trafnidiaeth
Grwpiau o sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i symud pobl neu nwyddau yn y sector preifat, y sector cyhoeddus neu’r sector gwirfoddol.
Cerbydau allyriadau isel iawn
Cerbydau sy’n rhyddhau ychydig iawn o nwyon tŷ gwydr – yn dechnegol 75g/km CO2 neu lai. Gallant fod yn gerbydau trydan, hydrogen neu hybrid.
Parthau allyriadau isel iawn
Ardaloedd lle mae angen i gerbydau, gan gynnwys ceir, beiciau modur a faniau, fodloni safonau allyriadau isel iawn neu mae'n rhaid iddynt dalu i yrru o fewn y parth.
Masnachfraint Cymru a'r Gororau
Contract i weithredu gwasanaethau rheilffordd i deithwyr ar Reilffyrdd Cymru a'r Gororau, a weithredir ar hyn o bryd gan Drafnidiaeth Cymru.
Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru
Mae'r cynllun hwn yn gosod y cyd-destun ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru, gan gynnwys seilwaith trafnidiaeth.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
Deddfwriaeth sydd â’r nod o wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am y tymor hir, gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, atal problemau a gweithredu mewn modd mwy cyd-gysylltiedig.
Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG)
Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG), Fframwaith ar gyfer asesu effaith a manteision ymyriadau trafnidiaeth arfaethedig fel cynlluniau i uwchraddio ffyrdd. Mae'n gyson â'r saith nod llesiant cenedlaethol.
Ein Dyletswyddau
Y man cychwyn ar gyfer Llwybr Newydd fu ein dyletswydd ehangach fel Llywodraeth Cymru.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn pennu diben cyffredin, sy'n rhwymo mewn cyfraith, ar gyfer llywodraeth genedlaethol. Mae'n diffinio saith nod llesiant a phum ffordd o weithio i helpu gwasanaethau cyhoeddus i ddiwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Mae'r ddeddf yn cefnogi ein hymrwymiadau presennol fel y rhai i’r iaith Gymraeg, cydraddoldeb a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Datgarboneiddio
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth i gyrraedd y targed o garbon sero-net erbyn 2050, yn unol ag argymhellion Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd. Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen inni sicrhau gostyngiad o 63% erbyn 2030, a gostyngiad o 89% erbyn 2040. Rydym wedi cytuno i wneud y rhan fwyaf o’r gwaith sydd ei angen yn ystod y 15 mlynedd nesaf, er mwyn osgoi'r allyriadau cronnol o ganlyniad i weithredu’n hwyrach, ac i rannu neges gref am yr angen i weithredu heddiw yn hytrach na gadael y gwaith caled i eraill yfory.
Ein dyletswydd fel Awdurdod Priffyrdd
Mae'r rhwydwaith o ffyrdd a strydoedd yng Nghymru yn adnodd a rennir, a ddefnyddir yn bennaf gan geir, ond hefyd gan fysiau, trafnidiaeth gymunedol a cherbydau cludo nwyddau. Mae hefyd yn cefnogi cerdded a beicio. Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd statudol i gynnal y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980. Mae hyn yn cynnwys traffyrdd a'r rhan fwyaf o'r ffyrdd A yng Nghymru – mae awdurdodau lleol yn cynnal ac yn cadw ffyrdd eraill a’u cadw’n ddiogel, gan gynnwys rhai ffyrdd A, strydoedd lleol a lonydd gwledig.
Cydraddoldeb
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amlinellu dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, sy'n cynnwys gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol (nodweddion gwarchodedig). Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru yn dangos sut byddwn yn mynd i'r afael â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, ac mae’n ategu ein dyletswyddau ehangach, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â phobl ifanc. Mae prosesau polisi a deddfwriaethol ar wahân ar gyfer sicrhau'r hawl i gael gwasanaethau cyhoeddus yn ieithoedd swyddogol Cymru, sy'n cael eu datblygu drwy Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Gyda'i gilydd mae'r agendâu polisi cydraddoldeb a'r iaith Gymraeg yn ategu ac yn arwain ei gilydd.
Y Strategaeth Drafnidiaeth
Mae Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a chyhoeddi strategaeth yn amlinellu ei pholisïau a sut byddant yn cael eu rhoi ar waith. Mae’n cynnwys pob dull teithio ac mae’n nodi’n blaenoriaethau strategol ni a’r canlyniadau yr hoffem eu gweld, gan gysylltu â blaenoriaethau ehangach yn ogystal â chynlluniau ar lefel awdurdod lleol. Mae’r un Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn rheolaidd ac mae’n darparu ar gyfer ei diwygio o bryd i'w gilydd.
Datganoli
Mae datganoli’n rhoi'r pŵer i Gymru basio deddfwriaeth ac mae'n trosglwyddo rhai cyfrifoldebau gweinidogol i Gymru. Ym maes trafnidiaeth, mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am y ffyrdd a bysiau. Nid yw meysydd eraill fel rheilffyrdd, porthladdoedd a hedfanaeth wedi cael eu datganoli, ac mae Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Drafnidiaeth yn parhau i fod yn gyfrifol am y meysydd hyn. O dan Ddeddf Cymru 2017 rhoddwyd pwerau trafnidiaeth ychwanegol i Weinidogion Cymru gan gynnwys mewn perthynas â thacsis a cherbydau hurio preifat.
01. Gweledigaeth
System drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon.
Mae ‘Hygyrch’ yn golygu y gall cynifer o bobl ag y bo modd ei defnyddio, gan gynnwys pobl sydd â nodweddion gwarchodedig.
Mae ‘Cynaliadwy’ yn golygu system drafnidiaeth sy’n diwallu ein hanghenion heddiw heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Mae ‘Effeithlon’ yn golygu system drafnidiaeth sy’n mynd â phobl lle maent am fynd, pryd maent eisiau mynd, gan ddefnyddio adnoddau yn y ffordd orau posibl.
Mae ‘System Drafnidiaeth’ yn golygu seilwaith trafnidiaeth (fel llwybrau troed, llwybrau beicio, ffyrdd a rheilffyrdd yn ogystal â'r llu o strwythurau a systemau eraill sy'n eu hategu gan gynnwys seilwaith digidol), a gwasanaethau trafnidiaeth (fel bysiau a threnau, tacsis, hedfanaeth a thrafnidiaeth forol). Mae'r system ehangach yn cynnwys darparwyr trafnidiaeth masnachol a thrydydd sector. Mae hefyd yn cynnwys trefniadau llywodraethu – y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r polisïau sy'n rheoli'r rhain.
02. Ein Blaenoriaethau
Dyma ein tair prif flaenoriaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae rhagor o fanylion am y blaenoriaethau hyn yn y cynlluniau bach. Byddwn yn adolygu'r blaenoriaethau hyn wrth i amgylchiadau a thechnoleg newid.
Blaenoriaeth 1: Dod â gwasanaethau i bobl er mwyn lleihau’r angen i deithio
Byddwn yn cynllunio ymlaen llaw i sicrhau cysylltiadau ffisegol a digidol gwell, rhagor o wasanaethau lleol, rhagor o weithio gartref ac o bell a rhagor o deithio llesol, er mwyn lleihau'r angen i bobl ddefnyddio eu ceir bob dydd
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- cefnogi gweithio o bell fel y gall pobl weithio mewn swyddfa yn agos i’w cartref un diwrnod yr wythnos neu fwy, yn hytrach na chymudo pellteroedd hir, yn unol â tharged ehangach Llywodraeth Cymru i weld 30% o'r gweithlu yn gweithio o bell yn rheolaidd
- lleoli cyfleusterau addysg newydd fel addysg, iechyd a hamdden yn agos at lle mae pobl yn byw, ac i lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n bodoli eisoes a defnyddio dull Canol Trefi’n Gyntaf
- adeiladu gweithleoedd a chartrefi newydd yn agos at drafnidiaeth gyhoeddus a dylunio datblygiadau newydd i fod yn addas ar gyfer cerdded a beicio o'r dechrau un
- sicrhau dull cydgysylltiedig ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi mewn seilwaith ar draws Llywodraeth Cymru ac ar gyfer cynllunio rhanbarthol.
- defnyddio tir sy'n agos at ganolfannau trafnidiaeth yn y ffordd orau posibl, gan gynnwys gorsafoedd rheilffordd a phorthladdoedd, fel safleoedd ar gyfer buddsoddi a thwf
- gwella mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy ar gyfer cartrefi a busnesau.
- neilltuo tir ar gyfer canolfannau aml-ddull i drosglwyddo nwyddau o deithiau hir i faniau llai neu feiciau e-gargo ar gyfer milltiroedd olaf y daith, fel bod dosbarthu mewn ardaloedd trefol yn fwy effeithlon ac yn achosi llai o dagfeydd.
Blaenoriaeth 2: Galluogi pobl a nwyddau i symud yn hawdd o ddrws i ddrws gan ddefnyddio gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth sy’n hygyrch, cynaliadwy ac effeithlon
Byddwn yn annog pobl yn weithredol i gefnu ar geir preifat ar gyfer y rhan fwyaf o’u teithiau. Byddwn yn buddsoddi mewn gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth carbon isel, hygyrch, effeithlon a chynaliadwy sy'n galluogi rhagor o bobl i gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a defnyddio cerbydau allyriadau isel.
Gwasanaethau
Byddwn yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth dibynadwy, effeithlon, effeithiol a fforddiadwy y mae pobl am eu defnyddio, yn gallu eu defnyddio ac yn eu defnyddio. Byddwn yn gwneud y canlynol:
- gwella dibynadwyedd, diogelwch ac amlder gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, gan bennu safonau ar gyfer yr hyn y gall cymunedau ei ddisgwyl a gweithio tuag at y rhain dros amser
- ymestyn 'cyrhaeddiad' daearyddol trafnidiaeth gyhoeddus i bob cymuned, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru
- ei gwneud yn haws newid rhwng gwahanol fathau o drafnidiaeth gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol, tacsis ac opsiynau fel trafnidiaeth gymunedol fel y gall pobl fod yn fwy hyderus ynghylch gadael y car gartref
- sicrhau bod gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn cydymffurfio â'n gofynion cyfreithiol a pholisi ar hygyrchedd, gan gynnwys sicrhau bod gwasanaethau'n hygyrch yn gorfforol i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, a bod gyrwyr a staff yn sicrhau bod pawb yn teimlo bod croeso iddynt ai bod yn ddiogel
- gwneud prisiau, tocynnau ac amserlenni mor syml â phosibl, a sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn rhwydd ac yn hygyrch i bawb
- cynnwys defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn y gwaith o ddylunio gwasanaethau newydd
- adolygu ein cynlluniau teithio rhatach gorfodol a gwirfoddol i annog pobl i symud o geir i drafnidiaeth gyhoeddus.
Seilwaith
Byddwn yn darparu seilwaith trafnidiaeth diogel a hygyrch sy’n cael ei gynnal a’i gadw a’i reoli’n dda . Byddwn hefyd yn ei ddiogelu at y dyfodol i addasu i newid yn yr hinsawdd a hwyluso dewisiadau trafnidiaeth mwy cynaliadwy. Lle mae arnom angen seilwaith trafnidiaeth newydd, byddwn yn defnyddio'r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy ar gyfer Cynllunio i lywio penderfyniadau.
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- parhau i ddefnyddio’r seilwaith trafnidiaeth presennol yn y ffordd orau posibl drwy ei gynnal a’i gadw a'i reoli'n mewn modd effeithiol ac effeithlon
- addasu'r seilwaith presennol i’r newid yn yr hinsawdd drwy fynd i'r afael â phroblemau fel llifogydd
- uwchraddio ein seilwaith presennol i gyflawni ein ymrwymiadau cyfreithiol ar hygyrchedd a diogelwch ac i fynd i'r afael â materion fel tagfeydd, a newidiadau i safonau cerbydau
- addasu ein seilwaith i ategu dulliau teithio
- lle mae arnom angen seilwaith trafnidiaeth newydd, defnyddio'r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy i roi blaenoriaeth i ymyriadau sy'n ategu cerdded a beicio, trafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau allyriadau isel iawn, cyn ystyried cerbydau modur preifat eraill
- defnyddio egwyddorion dylunio cynhwysol mewn prosiectau seilwaith i wella hygyrchedd a diogelwch i bawb
- cefnogi arloesi digidol a datblygiadau arloesol eraill sy'n gwella’r ffordd mae asedau’n cael eu rheoli a’u cynnal a’u cadw ac yn lleihau tagfeydd
- archwilio gwelliannau seilwaith yn y dyfodol sy'n lleihau allyriadau carbon, gan gynnwys seilwaith ar gyfer tanwyddau newydd fel hydrogen, technoleg sy'n hwyluso gweithrediadau hedfan a chargo mwy cynaliadwy, ac arloesi deunyddiau sy'n estyn oes gwasanaeth, yn cyflymu’r broses adeiladu a chynnal a chadw ac yn lleihau effeithiau amgylcheddol.
Blaenoriaeth 3: Annog pobl i newid i drafnidiaeth fwy cynaliadwy
Byddwn yn annog pobl i newid eu hymddygiad teithio a defnyddio trafnidiaeth gynaliadwy carbon isel. Byddwn yn gwneud hyn drwy wneud trafnidiaeth gynaliadwy yn fwy deniadol a mwy fforddiadwy, a thrwy fabwysiadu datblygiadau arloesol sy'n ei gwneud yn haws ei defnyddio.
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- datblygu amrediad o brosiectau newid ymddygiad i annog pobl i wneud dewisiadau teithio doethach, i leihau tagfeydd a chynyddu'r defnydd o ddulliau teithio cynaliadwy
- trawsnewid profiad cwsmeriaid o drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys dibynadwyedd, prydlondeb a hyfforddiant i staff a gyrwyr, fel bod pobl yn fwy hyderus ynglŷn â defnyddio gwasanaethau
- symud i ffwrdd o berchnogaeth cerbydau unigol i ddulliau a rennir, gan gynnwys rhannu ceir, clybiau ceir, rhannu beiciau a symudedd fel gwasanaeth
- datblygu fframwaith ar gyfer codi tâl teg a chyfartal ar ddefnyddwyr ffyrdd yng Nghymru, ac archwilio datgymhellion eraill i atal pobl rhag defnyddio ceir, gan ystyried materion cydraddoldeb fel anghenion pobl mewn ardaloedd gwledig, pobl sydd â nodweddion gwarchodedig a phobl ar incwm isel
- defnyddio ffynonellau refeniw newydd i ariannu gwelliannau mawr i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a chyfleusterau teithio llesol
- lleihau cost teithio cynaliadwy drwy fentrau fel cynlluniau sgrapio ar gyfer cerbydau hŷn, grantiau tuag at gost beiciau trydan, a thrwy gynnig cynlluniau teithio rhatach ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf
- gwella'r broses o gynllunio a threfnu teithiau, datblygu tocynnau integredig, a gwella gwybodaeth amser real i deithwyr
- sicrhau cefnogaeth ar lefel leol drwy drafod â chymunedau i gynllunio ymyriadau trafnidiaeth sy'n diwallu anghenion ac amgylchiadau lleol
- defnyddio addysg, ymgyrchu, marchnata a dulliau eraill i drawsnewid agweddau tuag at gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.
03. Uchelgeisiau Llesiant
Mae ein blaenoriaethau tymor byr wedi'u cynllunio i gyfrannu at ein pedwar uchelgais llesiant hirdymor dros yr ugain mlynedd nesaf. Mae'r uchelgeisiau hyn yn dangos sut rydym am i drafnidiaeth gyfrannu at uchelgeisiau ehangach Llywodraeth Cymru ac at y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Yn dda ar gyfer pobl a chymunedau
System drafnidiaeth sy’n cyfrannu at Gymru fwy cyfartal a Chymru iachach, ac system mae pawb yn hyderus wrth ei defnyddio.
1.1 Cydraddoldeb
Byddwn yn gwneud trafnidiaeth yn fwy hygyrch a chynhwysol trwy anelu i gael gwared ar y rhwystrau corfforol, agweddol, amgylcheddol, systemig, ieithyddol ac economaidd sy'n atal pobl rhag defnyddio trafnidiaeth cynaliadwy
Byddwn yn anelu at gael gwared ar y rhwystrau corfforol, agweddol, amgylcheddol, systemig, ieithyddol ac economaidd sy'n atal pobl rhag defnyddio trafnidiaeth gynaliadwy, gan gynnwys cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Byddwn yn cael gwared ar y rhwystrau hyn trwy fodloni ein gofynion cyfreithiol, rheoliadol a pholisi ar hygyrchedd, drwy fabwysiadu’r arferion gorau ar gyfer dylunio cynhwysol a thrwy hyfforddiant staff a safonau gwasanaeth, yn unol â'n dyletswyddau cydraddoldeb, iaith a hawliau dynol, ein chwe Amcan ar gyfer Trafnidiaeth Gyhoeddus Hygyrch a Chynhwysol, ar blaenoriaethau a osodir yn Gweithredu ar Anabledd – hawl i fyw’n annibynnol fframwaith a chynllun gweithredu.
1.2 Iechyd
Byddwn yn gwella ansawdd aer ac yn lleihau’r sŵn yn yr amgylchedd sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth.
Llygredd aer, gan gynnwys CO2, NO2 a deunyddiau gronynnol, yw un o'n heriau iechyd mwyaf. Mae’n lleihau disgwyliad oes ac yn cael effaith andwyol ar ansawdd bywyd llawer o bobl. Byddwn yn gwella ansawdd aer drwy newid y dulliau trafnidiaeth rydym yn eu defnyddio, gan annog rhagor o deithio llesol a defnydd uwch o drafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau allyriadau isel iawn, a chreu cysylltiadau agosach rhwng cynllunio defnydd tir a thrafnidiaeth yn unol â'n hymrwymiadau yng Nghynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach.
Gall sŵn traffig effeithio ar ansawdd bywyd a chyfrannu at ganlyniadau iechyd gwaeth o golli clyw i glefyd cardio-fasgwlaidd. Byddwn yn lleihau desibelau ac yn creu seinweddau iachach; yn sicrhau y cedwir sŵn i lefelau derbyniol wrth ddylunio datblygiadau newydd; yn rhoi mesurau lleihau sŵn ar waith ar draffyrdd ac annog y defnydd o gerbydau tawelach: ac yn cynyddu teithio llesol yn unol â'r camau gweithredu yn ein Cynllun Gweithredu Sŵn a Seinwedd.
Byddwn hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr yn y sectorau iechyd i integreiddio’n well y gwaith o gynllunio iechyd a thrafnidiaeth.
Byddwn yn cyfrannu at lefelau uwch o weithgarwch corfforol drwy annog rhagor o bobl i gerdded a beicio.
Ar gyfer oedolion, mae gwneud y 150 munud o weithgarwch corfforol cymedrol i egnïol yr wythnos a argymhellir yn helpu i atal a rheoli dros 20 o gyflyrau cronig fel clefyd coronaidd y galon, strôc, diabetes math 2 a chanser, a gall gael effaith gadarnhaol sylweddol ar les pobl. Gall cerdded a beicio gyfrannu'n uniongyrchol at lefelau gweithgarwch.
Byddwn yn gwneud opsiynau trafnidiaeth iach yn fwy deniadol, fforddiadwy, amlwg a hygyrch drwy fuddsoddi mwy mewn beicio a cherdded, trafnidiaeth integredig – a chanolfannau trafnidiaeth a thrafnidiaeth gyhoeddus hygyrch. Byddwn yn defnyddio Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd, modelau cost lles cymdeithasol a dulliau cynllunio eraill i sicrhau bod iechyd yn cael ei ystyried wrth gynllunio trafnidiaeth yn unol â'n hymrwymiadau yn y strategaeth 'Pwysau Iach, Cymru Iach'.
1.3 Hyder a diogelwch
Rydym am i bawb deimlo’n hyderus ac yn ddiogel a theimlo croeso wrth iddynt ddefnyddio’r dull teithio maent wedi’i ddewis.
Er mwyn hybu hyder, byddwn yn gwella'r ffordd mae pobl yn derbyn gwybodaeth fel y gall pobl gynllunio teithiau'n hyderus. Byddwn yn defnyddio dulliau digidol sy'n nodi anghenion defnyddwyr trafnidiaeth er mwyn datblygu systemau sy'n gweithio i bawb. Byddwn yn gwella hyder drwy fynd i'r afael â diogelwch personol ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar gyfer teithio llesol ac ar y ffyrdd i bob defnyddiwr ffordd. Byddwn yn integreiddio ystyriaethau diogelwch ym mhob agwedd ar bolisi a chynllunio trafnidiaeth, gan gynnwys dylunio seilwaith cynhwysol. Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd trafnidiaeth wrth fynd i'r afael â'r uchelgeisiau yn y strategaeth Cymunedau Cysylltiedig, ein strategaeth ar gyfer mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, ac adeiladu cysylltiadau cymdeithasol cryfach – a Heneiddio'n Dda yng Nghymru, sy'n cydnabod pwysigrwydd creu Cymunedau sy'n Ystyriol o Oedran ac sy'n cynnwys trafnidiaeth fel un o 8 colofn cymuned sy'n ystyriol o oedran.
Yn dda ar gyfer yr amgylchedd
System drafnidiaeth sy’n lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn sylweddol, yn cynnal bioamrywiaeth ac yn gwella cydnerthedd ecosystemau, ac yn lleihau gwastraff.
2.1 Allyriadau nwyon tŷ gwydr
Byddwn yn lleihau’n sylweddol yr allyriadau nwyon tŷ gwydr o drafnidiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau allyriadau sero-net erbyn 2050. Yn 2018 roedd trafnidiaeth yn gyfrifol am 17% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru – gyda 62% yn dod o geir preifat, 19% o gerbydau nwyddau ysgafn ac 16% o fysiau a cherbydau nwyddau trwm. Mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi cynnig llwybr lleihau carbon ar gyfer trafnidiaeth wyneb sy'n golygu bod angen haneru allyriadau yn fras rhwng 2020 a 2030.
Byddwn yn sicrhau gostyngiad sylweddol mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr o drafnidiaeth drwy leihau'r galw, cefnogi gwasanaethau a seilwaith carbon isel a thrwy newid dulliau teithio’n unol ag argymhellion Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, ein hymrwymiadau i sero-net, a’r Cyllidebau Carbon pum mlynedd ar gyfer Cymru.
2.2 Bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau
Byddwn yn cynnal a gwella bioamrywiaeth ac yn cynyddu cydnerthedd ecosystemau drwy weithrediadau trafnidiaeth a phrosiectau seilwaith.
Yn unol â'n Polisi Adnoddau Naturiol, byddwn yn cynnal bioamrywiaeth ac yn cynyddu cydnerthedd ecosystemau drwy'r ffordd rydym ni a’n partneriaid yn rheoli’r ystad feddal sy'n gysylltiedig â rhwydweithiau trafnidiaeth, ac wrth gynllunio a darparu ymyriadau trafnidiaeth, gan gynnwys uwchraddio seilwaith a chynllunio seilwaith newydd. Byddwn hefyd yn sicrhau bod gweithrediadau trafnidiaeth bob dydd yn cynnal ac yn gwella bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau.
2.3 Gwastraff
Byddwn yn defnyddio seilwaith sydd eisoes yn bodoli mewn ffordd well i leihau’r gwastraff sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth.
Bydd defnyddio’r seilwaith trafnidiaeth sydd eisoes yn bodoli yn y ffordd orau posibl hefyd yn osgoi'r angen am seilwaith newydd ac felly'n helpu i gyflawni ein huchelgais i leihau ein gwastraff i 65% o'r gwastraff rydym yn ei gynhyrchu ar hyn o bryd fel y nodir yn y ddogfen Tuag at Ddyfodol Diwastraff.
Yn dda ar gyfer yr economi a lleoedd yng Nghymru
System drafnidiaeth sy'n cyfrannu at ein huchelgeisiau economaidd ehangach, yn helpu cymunedau lleol, yn ategu cadwyn gyflenwi fwy cynaliadwy, yn defnyddio'r datblygiadau arloesol diweddaraf ac yn sicrhau bod trafnidiaeth yn fforddiadwy.
3.1 Cymunedau cydlynus
Rydym eisiau system drafnidiaeth sy’n diwallu anghenion rhannau gwahanol Cymru, gan gynnwys ardaloedd gwledig.
Yn unol â'n hymrwymiadau yn y ddogfen Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040, byddwn yn defnyddio'r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy wrth gynllunio datblygiadau newydd, a byddwn yn defnyddio Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol i sicrhau bod atebion cynllunio a thrafnidiaeth yn cael eu teilwra i anghenion rhannau gwahanol Cymru, gan gynnwys Cymru wledig. Byddwn hefyd yn ystyried yr amgylchedd trefol ac adeiledig ehangach wrth ddatblygu seilwaith trafnidiaeth newydd, gan gynnwys mannau cyhoeddus, mannau agored a strydoedd gwyrdd.
3.2 Arloesi
Byddwn yn cefnogi datblygiadau arloesol gweithredol, technolegol a digidol sy’n galluogi ac yn annog rhagor o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy.
Byddwn yn cefnogi datblygiadau arloesol gweithredol sy'n golygu na fydd angen i bobl bob amser fod yn berchen ar gar. Mae'r rhain yn cynnwys trafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw, rhannu ceir, y syniad o 'symudedd fel gwasanaeth' a chyfleoedd i rannu ar gyfer cludo nwyddau a thrafnidiaeth arall. Rydym am i Gymru fod yn ganolfan ar gyfer technoleg arloesol fel dylunio a chynhyrchu technoleg hydrogen, trydan a hybrid sy'n lleihau allyriadau carbon o drafnidiaeth. Byddwn hefyd yn edrych tuag at y dyfodol ac ystyried mathau newydd o dechnoleg micro-symudedd, drôn a thechnoleg arall sy'n trawsnewid logisteg a’r ffordd mae nwyddau’n cael eu cludo. Byddwn hefyd yn croesawu datblygiadau digidol arloesol sy'n ein helpu ni i gydgysylltu gwasanaethau, yn helpu defnyddwyr i gynllunio teithiau'n well, ac yn helpu gweithredwyr i reoli eu fflydoedd a'u seilwaith.
3.3 Dosbarthu nwyddau
Byddwn yn gweithio gyda busnesau a Llywodraeth y DU i greu system fwy cynaliadwy ar gyfer dosbarthu nwyddau yng Nghymru.
Byddwn yn annog rhagor o symud nwyddau ar y rheilffyrdd ac yn cynllunio ar gyfer dyfodol cadwyn gyflenwi ar gyfer Cymru drwy ganolfannau logisteg, datblygiadau arloesol ac atebion trafnidiaeth a rennir yn unol â'n blaenoriaethau yng Nghynllun Morol Cymru a'n blaenoriaethau cynllunio yng Nghymru'r Dyfodol. Byddwn hefyd yn gweithio gyda'r sectorau ar atebion ar gyfer dosbarthu milltir olaf, i fynd i'r afael ag effaith y cynnydd enfawr mewn danfoniadau o’r fath.
3.4 Fforddiadwyedd
Byddwn yn gwneud opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy yn fwy fforddiadwy.
Yn unol â'n dyletswyddau i ystyried amddifadedd economaidd-gymdeithasol, byddwn yn ystyried fforddiadwyedd wrth gynllunio ymyriadau trafnidiaeth newydd. Byddwn yn ystyried gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy fforddiadwy i ragor o bobl. Byddwn yn cydnabod y ffaith y gall fod gan rai pobl – yn enwedig y rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig – lai o ddewisiadau trafnidiaeth ar gyfer symudedd annibynnol cost isel, felly, efallai y bydd angen inni ddarparu dewisiadau amgen fel cynlluniau ceir a rennir neu opsiynau eraill sy'n diwallu anghenion penodol y cymunedau hynny.
Yn dda ar gyfer diwylliant a’r Gymraeg
System drafnidiaeth sy'n cefnogi'r Gymraeg, yn galluogi rhagor o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy i gyrraedd gweithgareddau celfyddydol, chwaraeon a diwylliannol, ac yn diogelu ac yn gwella'r amgylchedd hanesyddol.
4.1 Y Gymraeg
Byddwn yn helpu’r Gymraeg i ffynnu.
Mae Mesur y Gymraeg 2011 yn pennu safonau cyfredol y mae'n rhaid i ni a chyrff cyhoeddus eraill eu bodloni, er y gall y rhain newid gydag amser. Yn ogystal, byddwn hefyd yn helpu i greu amgylchedd lle y gall y Gymraeg ffynnu, yn unol â Cymraeg 2050, drwy annog gweithredwyr masnachol a thrydydd sector i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ar wasanaethau ac yn y gweithle, mewn gwybodaeth am drafnidiaeth a gwasanaethau digidol. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau mynediad cyfartal at drafnidiaeth i addysg Gymraeg.
4.2 Y celfyddydau, chwaraeon a diwylliant
Gall rhagor o bobl fwynhau’r celfyddydau, chwaraeon a diwylliant naturiol a diwylliannol yng Nghymru gan ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy.
Byddwn yn cydgysylltu’r gwaith o gynllunio trafnidiaeth a digwyddiadau mawr yng Nghymru ac yn gweithio gyda Chroeso Cymru i hyrwyddo atyniadau treftadaeth drafnidiaeth yng Nghymru, gan gynnwys rheilffyrdd hanesyddol, camlesi a mentrau eraill yn unol â Croeso i Gymru: blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 2020 i 2025.
4.3 Yr amgylchedd hanesyddol
Byddwn yn diogelu ac yn gwella amgylchedd hanesyddol Cymru wrth gynnal ymyriadau trafnidiaeth.
Byddwn yn diogelu ac yn cynnal yr amgylchedd hanesyddol pan fyddwn yn rheoli a gweithredu asedau trafnidiaeth, ac yn sicrhau bod asedau hanesyddol yn cael eu nodi, eu diogelu a'u cynnal wrth gynnal ymyriadau trafnidiaeth, cynllunio trafnidiaeth a gwneud penderfyniadau, yn unol â'n polisïau cynllunio statudol a'n Blaenoriaethau ar gyfer Amgylchedd Hanesyddol.
04. Sut y byddwn yn gwneud hyn
Dyma’r ffordd y byddwn yn cyflawni’r ymrwymiadau yn Llwybr Newydd.
4.1 Buddsoddi mewn modd cyfrifol
Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i ariannu prosiectau a rhaglenni sy'n cyflawni'r uchelgeisiau a'r blaenoriaethau yn Llwybr Newydd.
Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r seilwaith trafnidiaeth presennol yn y ffordd orau posibl drwy ei gynnal a'i reoli'n dda. Byddwn yn buddsoddi mewn gwella diogelwch ar y ffyrdd, mynd i'r afael â thagfeydd a hefyd addasu seilwaith trafnidiaeth i hinsawdd sy'n newid a'i uwchraddio i ategu’r broses o newid i ddulliau teithio amgen.
Lle mae arnom angen seilwaith newydd, byddwn yn defnyddio'r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy. Bydd hyn yn rhoi blaenoriaeth i ymyriadau sy'n ategu teithio llesol, trafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau allyriadau isel iawn dros gerbydau modur preifat eraill.
Yn y tymor hwy, bydd ategu’r broses o newid i ddulliau trafnidiaeth amgen ar raddfa fawr yn golygu buddsoddiadau cyfalaf mawr a chymorth refeniw parhaus y tu hwnt i'r lefel bresennol. Byddwn yn sicrhau bod y gwariant cyfalaf mwy penodol ar brosiectau a rhaglenni trafnidiaeth sy'n ategu Llwybr Newydd yn cyd-fynd â'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.
Cynnal a chadw a rheoli
Er mwyn defnyddio’r seilwaith presennol yn y ffordd orau posibl, byddwn yn cynllunio’r gwaith o reoli asedau mewn modd mwy trwyadl fel yr ymdrinnir â mân broblemau cyn bod angen buddsoddiadau cyfalaf mawr arnynt. Am y gall cynnal a chadw asedau trafnidiaeth gael effaith gritigol ar wasanaethau trafnidiaeth megis rheilffyrdd a bysiau, ac ar dagfeydd ac oedi ar y ffyrdd, mae angen inni hefyd gydweithio i gynllunio a rheoli amseriad y gwaith o reoli asedau. Y nod cyffredinol yw atal gwaith cynnal a chadw rhag ôl-gronni a defnyddio’r seilwaith presennol yn well – gan chwilio am gyfleoedd i ailddyrannu lle ar y ffyrdd i ddulliau teithio cynaliadwy wrth inni wneud hynny. Byddwn hefyd yn cynllunio ymyriadau seilwaith newydd gan gynnwys ar gyfer cynnal a chadw – gan ystyried y cylch oes cyfan.
Cynlluniau grant trafnidiaeth a chaffael
Byddwn yn adolygu ein cynlluniau grant trafnidiaeth a'r ffordd rydym yn caffael, er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni'r uchelgeisiau a'r blaenoriaethau yn Llwybr Newydd. Byddwn hefyd yn gweithio ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod buddsoddiadau mewn trafnidiaeth yn gysylltiedig â blaenoriaethau buddsoddi ehangach y Llywodraeth, er enghraifft drwy ganolbwyntio buddsoddi economaidd ar ganolfannau a phyrth trafnidiaeth sy'n bodoli eisoes a chysylltu â meysydd eraill fel yr economi ymwelwyr.
Lle y bo hynny’n berthnasol byddwn hefyd yn cysylltu ein penderfyniadau ariannu a chaffael â safonau ansawdd gwasanaethau ac â materion fel gwaith teg.
Dylunio cynhwysol
Byddwn yn cydymffurfio â'r rheoliadau, polisïau a safonau perthnasol ar drafnidiaeth a hygyrchedd. Byddwn hefyd yn defnyddio egwyddorion dylunio cynhwysol i sicrhau bod gwasanaethau a seilwaith yn cael eu cynllunio ar gyfer pawb. Byddwn hefyd yn gofyn i ddylunwyr prosiectau ymgysylltu â phobl sydd wedi profi problemau mynediad yn uniongyrchol.
Cynyddu’r defnydd o’r Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG)
Bydd pob prosiect newydd yn cael ei ategu gan arfarniadau WelTAG, a fydd ar waith cyn rhoi cymeradwyaeth derfynol. WelTAG yw'r canllawiau gwerthuso rydym yn eu defnyddio i benderfynu a ddylai prosiectau newydd fynd rhagddynt. Byddwn yn parhau i adolygu WelTAG er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r nodau llesiant cenedlaethol ac yn gweithio'n effeithiol, ac yn ategu hyfforddiant yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector ar ddefnyddio WelTAG i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio yn unol â bwriad. Byddwn hefyd yn monitro prosiectau cyflawn i sicrhau eu bod wedi cyflawni'r manteision ehangach a amlinellir yn arfarniad WelTAG.
4.2 Cynlluniau cyflawni a gweithredu
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar y cynlluniau cyflawni canlynol i weithredu’r strategaeth hon.
Y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (CCCT)
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn datblygu Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth, cynllun manwl sy’n cynnwys pum mlynedd, sy'n amlinellu’r ymyriadau trafnidiaeth penodol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cynllun yn nodi prosiectau a rhaglenni penodol yn seiliedig ar y blaenoriaethau yn Llwybr Newydd, gan gynnwys cyflawni prosiectau sydd eisoes yn mynd rhagddynt. Bydd yr CCCT yn ategu’r gwaith o weithredu Cymru’r Dyfodol – Y Cynllun Cenedlaethol 2040 ac yn cyd-fynd â'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru – a bydd yn cael ei adolygu bob pum mlynedd. Bydd angen i’r CCCT ystyried symud pobl a nwyddau.
Datganiad o’r Cyllid sydd ar gael (SoFA)
Bydd yr CCCT yn seiliedig ar Ddatganiad o'r Cronfeydd sydd ar Gael yng ngoleuni Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant nesaf y DU. Bydd hwn yn rhoi rhagor o sicrwydd ynghylch y cyllid sydd ar gael yng nghyfnod y cynllun cyflawni. Bydd y datganiad yn nodi'r hyn y gellir ei wario ar wasanaethau trafnidiaeth, gwaith cynnal a chadw a phrosiectau, er nad oes modd gwneud ymrwymiad pum mlynedd absoliwt mewn perthynas â refeniw a chyfalaf oherwydd ein setliad cyllideb blynyddol ein hunain. Bydd yn darparu senarios cyllideb uchel, canolig ac isel a fydd yn caniatáu i Drafnidiaeth Cymru gynllunio ac ymateb yn effeithiol i amgylchiadau sy'n newid, gan ystyried yr ymrwymiadau presennol.
Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol
Bydd Cyd-bwyllgorau Corfforedig Rhanbarthol hefyd yn paratoi cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer trafnidiaeth yn eu hardal. Bydd y rhain yn cael eu llywio gan Lwybr Newydd a'u halinio â Cymru’r Dyfodol – y Cynllun Cenedlaethol 2040 a'r cynlluniau datblygu rhanbarthol sy'n dod i'r amlwg. Bydd Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cynnwys polisïau a'r cynllun cyflawni trafnidiaeth rhanbarthol ategol.
Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru (SEWTC)
Mae SEWTC, sy’n cael ei gadeirio gan yr Arglwydd Burns, wedi bod yn edrych ar atebion i dagfeydd ar yr M4 yn ne-ddwyrain Cymru. Mae canfyddiadau comisiwn Burns yn cyd-fynd â Llwybr Newydd a bydd yr ymyriadau a gynhigir yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth ac mewn Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol.
4.3 Llwybrau cyflawni trawsbynciol
Rydym wedi nodi pedwar maes allweddol sy'n hanfodol i Lwybr Newydd – datgarboneiddio, cydraddoldeb, cynllunio teithiau integredig a'r cynnig gwledig. Mae'r rhain yn rhychwantu gwahanol ddulliau a sectorau. Mae amrediad eang o ymrwymiadau i bob un o'r rhain yn Llwybr Newydd drwyddo draw.
Byddwn yn datblygu pedair llwybr cyflawni. Bydd pob llwybr yn rhestru'r ymrwymiadau penodol yn Llwybr Newydd ac yn mapio'r hyn mae angen ei wneud er mwyn eu cyflawni. Byddwn wedyn yn sefydlu gweithgor i oruchwylio’r gwaith o’u cyflawni, gan adrodd yn rheolaidd i'r Bwrdd Perfformiad Trafnidiaeth (gweler isod).
Y llwybr datgarboneiddio: bydd hwn yn nodi sut rydym yn troi polisi yn weithredu er mwyn lleihau nwyon tŷ gwydr o drafnidiaeth yn unol â chyllidebau carbon Cymru a'r targed ar gyfer sero-net erbyn 2050.
Y llwybr cydraddoldeb: bydd hwn yn mapio'r amryw ymrwymiadau i gydraddoldeb wrth ddylunio, hyfforddi a datblygu polisi, gan gyflwyno adroddiadau ar gyflawni i'r Bwrdd Perfformiad Trafnidiaeth er mwyn sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei integreiddio i gynlluniau trafnidiaeth ar y lefel uchaf, yn hytrach na cael ei ystyried yn fater ar wahân. Yn unol â'r pum ffordd o weithio, byddwn yn cynnwys pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o broblemau cydraddoldeb gan gynnwys Panel Cynghori Trafnidiaeth Cymru. Bydd gwaith y grŵp yn cynnwys pobl sydd â phob un o'r nodweddion gwarchodedig.
Y llwybr cynllunio teithiau integredig: mae newid dulliau teithio’n gofyn am ffordd gyfannol, integredig o gynllunio teithiau, gan weithio ar draws gwahanol ddulliau a sectorau i'w gwneud yn haws i bobl deithio o ddrws i ddrws gan ddefnyddio dulliau trafnidiaeth gynaliadwy. Bydd llwybr cynllunio teithiau integredig yn cynnwys amrediad cymhleth o faterion fel amserlennu, darparu gwybodaeth, cynllunio seilwaith a datblygu polisi. Unwaith eto, bydd grŵp penodol yn cydlynu hyn – gan weithio mewn partneriaeth ac adrodd i'r Bwrdd Perfformiad Trafnidiaeth.
Y llwybr gwledig: mae gwahaniaethau sylweddol rhwng gwasanaethau trafnidiaeth wledig yng Nghymru a'r hyn sydd ar gael mewn ardaloedd mwy trefol. Bydd ein Llwybr Gwledig yn monitro cynnydd ar yr ymrwymiadau gwledig yn Llwybr Newydd a'n cynnig gwledig, gan weithio'n agos gyda Chydbwyllgorau Corfforedig rhanbarthol, meysydd polisi eraill Llywodraeth Cymru ac ar draws pob un o'r dulliau a sectorau trafnidiaeth, ac adrodd i'r Bwrdd Perfformiad Trafnidiaeth.
4.4 Gweithio mewn partneriaeth
Bydd angen inni weithio mewn partneriaeth i roi Llwybr Newydd ar waith.
Byddwn yn gweithio'n effeithiol gyda Llywodraeth y DU ar gyfrifoldebau a rennir, gan bwyso i lais Cymru gael ei glywed mewn penderfyniadau critigol sy'n effeithio ar Gymru. Drwy gyfuniad o bwerau a gedwir yn ôl a phwerau datganoledig, rydym yn rhannu’r cyfrifoldeb am drafnidiaeth yng Nghymru â Llywodraeth y DU, sy'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o weithredu, rheoleiddio a buddsoddi yn y rheilffyrdd, hedfanaeth a phorthladdoedd. Mae polisïau eraill sy’n berthnasol i’r DU gyfan, gan gynnwys datgarboneiddio ac ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, hefyd yn llywio ein polisïau a’n dulliau gweithredu mewn perthynas â thrafnidiaeth. Byddwn yn gweithio’n enwedig gyda'r Adran Drafnidiaeth y D.U. a Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru i godi ymwybyddiaeth o faterion datganoledig ac i gyflawni amcanion ar y cyd.
Byddwn yn gweithio gyda'r Comisiynwyr yng Nghymru a'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i alinio’r gwaith o gyflawni Llwybr Newydd â blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru ar gydraddoldeb a seilwaith.
Mewn perthynas â diogelwch, byddwn yn atgyfnerthu'r berthynas a’r ymgysylltu rhwng y Comisiynydd Traffig, yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau a Llywodraeth Cymru i wella diogelwch ar draws y sectorau.
Yn unol â’r pum ffordd o weithio, byddwn yn gweithio ar draws Llywodraeth Cymru ym meysydd addysg, cynllunio, iechyd a meysydd polisi eraill i integreiddio ystyriaethau trafnidiaeth i benderfyniadau ehangach, gan fwydo i mewn i’r gwaith o ddatblygu polisïau, a dysgu o lwyddiannau a methiannau.
Rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn ei chwarae mewn trafnidiaeth. Byddwn yn cefnogi awdurdodau lleol i gynllunio a darparu gwasanaethau a rhwydweithiau trafnidiaeth yn eu hardaloedd lleol, gan gynnwys gwella gwasanaethau bysiau, cefnogi teithio llesol, adfer o COVID-19 a mentrau trafnidiaeth gymunedol.
Yn gysylltiedig â hyn byddwn yn gweithredu a chefnogi’r gwaith o gynllunio a darparu trafnidiaeth rhanbarthol effeithiol drwy Gydbwyllgorau Corfforedig, a fydd yn cael eu grymuso (a'u cefnogi) i gynllunio gwasanaethau ar lefel ranbarthol, yn unol â blaenoriaethau cynllunio rhanbarthol a lleol eraill.
Yn y dyfodol byddwn yn ehangu rôl Trafnidiaeth Cymru, partner cyflawni Llywodraeth Cymru. Eu rôl gychwynnol fu rheoli a chyflwyno'r fasnachfraint rheilffyrdd yng Nghymru, ond byddwn yn archwilio cyfleoedd i ehangu eu cylch gwaith i chwarae rhan yn y gwaith o ddarparu system drafnidiaeth integredig i bobl yng Nghymru.
Byddwn yn cynnwys defnyddwyr trafnidiaeth, drwy weithio gyda chynrychiolwyr grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig i gynghori ar bolisi lefel uchel ac ar weithredu’r strategaeth hon. Byddwn hefyd yn defnyddio dulliau digidol i ddefnyddio data ar ymddygiadau teithio yn well, ac i’w gwneud yn haws casglu adborth amser real gan bob defnyddiwr.
Yn olaf, byddwn yn atgyfnerthu ein hymgysylltu â gweithredwyr trafnidiaeth masnachol a thrydydd sector yng Nghymru i helpu busnesau i ffynnu, ar y cyd â rhannau eraill o Lywodraeth Cymru gan gynnwys Busnes Cymru.
4.5 Diweddaru ein polisïau a’n trefniadau llywodraethu
Byddwn yn diweddaru ein canllawiau a'n dogfennau polisi presennol i adlewyrchu'r uchelgeisiau a'r blaenoriaethau yn Llwybr Newydd.
Bydd hyn yn cynnwys diweddaru Nodyn Cyngor Technegol 18: Trafnidiaeth yn ogystal â'n canllawiau ar fioamrywiaeth, ein safonau cynnal a chadw cefnffyrdd a'n Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd. Byddwn hefyd yn adolygu ein dull ar gyfer ymdrin â therfynau cyflymder lleol.
Byddwn hefyd yn bwrw ymlaen â rhai o'n diwygiadau ehangach a gynlluniwyd i wella gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru, gan gynnwys cynigion i ddiwygio gwasanaethau bysiau a gwasanaethau tacsis a cherbydau hurio preifat, mesurau ymarferol i wella teithio llesol fel mynd i’r afael â pharcio ar y palmant a therfynau cyflymder, a chynigion ar gyfer datganoli rhagor o bwerau trafnidiaeth i Gymru.
Byddwn yn archwilio gwelliannau eraill i drefniadau llywodraethu fel Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Gweinidogion Cymru a'r Comisiynwyr Traffig, ac yn datblygu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol.
Yn ein diwygiadau rheoleiddiol a llywodraethu byddwn yn parhau i fod wedi ymrwymo i waith teg ac yn canolbwyntio ar ein huchelgeisiau llesiant ehangach.
4.6 Sgiliau a chapasiti
Er mwyn cyflawni Llwybr Newydd bydd angen inni gynyddu capasiti a sgiliau o fewn Llywodraeth Cymru, a chapasiti a sgiliau ein partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol a sefydliadau cyflawni. Mae heriau mawr o ran sicrhau arloesi ym maes trafnidiaeth a'r ffordd orau o fynd i’r afael â’r heriau hynny, gan gynnwys arloesi digidol. Bydd bwrw ymlaen â datgarboneiddio yn golygu heriau cyfreithiol, economaidd, technegol a chymdeithasol, tra bydd rheoli'r galw a darparu dull mwy cynhwysol o ymdrin â thrafnidiaeth ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, hefyd yn ei gwneud yn ofynnol inni newid y ffordd rydym yn meddwl.
05. Sicrhau ein bod ni a’n partneriaid yn atebol
Byddwn yn adrodd ar ein cynnydd yn erbyn Llwybr Newydd. Byddwn hefyd yn adolygu'r blaenoriaethau yn Llwybr Newydd a'r cynlluniau bach bob pum mlynedd i adlewyrchu amgylchiadau sy'n newid ac ymateb i heriau polisi mawr. O ystyried y pandemig a'r ansicrwydd ynghylch sut y bydd hyn yn effeithio ar batrymau teithio yn y tymor hir, bydd angen inni barhau i adolygu ein targedau a'n mesurau.
5.1 Fframwaith gwerthuso newydd
Byddwn yn sefydlu Bwrdd Perfformiad Trafnidiaeth i adolygu ein cynnydd cyffredinol ar Lwybr Newydd, a byddwn yn cynnwys rhanddeiliaid, gan gynnwys defnyddwyr, y sector masnachol a'r trydydd sector, awdurdodau lleol a grwpiau cydraddoldeb i gefnogi gwaith y Bwrdd.
Bydd y Bwrdd hefyd yn monitro'r cynlluniau ategol gan gynnwys y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth a'r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol. Bydd y Bwrdd yn adolygu gwaith Trafnidiaeth Cymru a phartneriaid eraill yng Nghymru, gan gynnwys yr Adran Drafnidiaeth a Network Rail.
5.2 Fframwaith gwerthuso newydd
Er mwyn adrodd ar Lwybr Newydd, byddwn yn ategu’r ystadegau’r presennol ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru â'r gallu i greu fframwaith gwerthuso newydd i olrhain y cynnydd wrth gyflawni ein huchelgeisiau a'n blaenoriaethau, yn ogystal â'r ymrwymiadau yn y cynlluniau bach a amlinellir yn y strategaeth hon. Bydd angen cynllunio'r fframwaith gwerthuso i fesur perfformiad ac adrodd yn flynyddol, er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth gref.
Bydd angen iddo gynnwys nifer o fesurau meintiol sy'n cwmpasu pob math o drafnidiaeth. Bydd y mesurau'n defnyddio amryfal ffynonellau data, gan gynnwys setiau data sefydledig a mentrau casglu data ac ymchwil newydd. Bydd y mesurau'n seiliedig ar amrediad o fetrigau ategol a fydd yn rhoi darlun ehangach o bob un, ac yn caniatáu dadansoddi pellach fesul dull teithio, gan ystyried demograffeg, ffactorau economaidd-gymdeithasol a daearyddiaeth lle bo modd.
Bydd angen inni hefyd ddefnyddio gwybodaeth a gesglir drwy fentrau eraill Llywodraeth Cymru, fel Arolwg Teithio Cenedlaethol newydd, a dadansoddi setiau data cyhoeddedig fel llif traffig ac amserlenni bysiau. Bydd angen inni hefyd ddeall sut a pham mae pobl yn gwneud dewisiadau ynghylch trafnidiaeth. Yn hytrach na chymryd yn ganiataol ein bod yn gwybod beth mae pobl ei eisiau, byddwn ni a'n partneriaid yn defnyddio arolygon a gwaith ymgysylltu uniongyrchol drwy'r Arolwg Teithio Cenedlaethol i ddeall y dewisiadau y mae pobl yn eu gwneud a'r ffactorau sy'n dylanwadu arnynt. Rydym wedi datblygu modelau trafnidiaeth rhanbarthol sy'n cynnwys Cymru gyfan a fydd yn atgyfnerthu ac yn gwella ein sail dystiolaeth bresennol ymhellach.
5.3 Newid dulliau teithio
Mae newid dulliau teithio’n ganolog i Lwybr Newydd. Mae hyn yn golygu bod cyfran y teithiau a wneir gan ddefnyddio dulliau cynaliadwy yn cynyddu a bod llai o deithiau'n cael eu gwneud mewn ceir preifat.
Mae'r Pwyllgor ar y Newid Hinsawdd wedi cynnig llwybr lleihau carbon ar gyfer Cymru sy'n golygu bod yn rhaid haneru allyriadau trafnidiaeth wyneb yn fras rhwng 2020 a 2030 o chwech i dair miliwn tunnell o CO2. Er ei bod yn bosibl mai cerbydau trydan fydd yn gwneud y cyfraniad mwyaf at leihau allyriadau, mae'n annhebygol y bydd hyn yn digwydd tan ddiwedd y 2020au ac o bosibl yn ddiweddarach. Felly, mae angen inni ystyried mesurau eraill.
Bydd lleihau carbon drwy ragor o bobl yn gweithio o bell yn helpu, ac mae Cymru wedi gosod targed o 30% o'r gweithlu’n gweithio o bell yn rheolaidd. Bydd ein blaenoriaeth ar gyfer lleihau'r galw yn helpu i gyflawni hyn.
Fodd bynnag, mae angen inni hefyd sicrhau newid dulliau teithio gyda rhagor o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio. Yn seiliedig ar ein dadansoddiadau presennol, rydym wedi gosod targed o wneud 45% o deithiau drwy trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio – erbyn 2040. Mae hyn yn gynnydd o 40% o’i gymharu â’r gyfran amcangyfrifedig o 32%.[1] Rydym hefyd wedi ymrwymo i barhau i adolygu hyn os yw'r dystiolaeth yn cyfiawnhau hynny. Bydd angen inni gynnwys mesurau o fewn ein fframwaith gwerthuso i olrhain cynnydd yn erbyn y targed hwn.
Amcangyfrif yn seiliedig ar Arolwg Teithio Cenedlaethol Lloegr, wedi'i ddadgyfuno yn ôl categori gwledig-trefol a'i bwysoli i gyfateb i gyfran y bobl sy'n byw ym mhob categori gwledig-trefol yng Nghymru.
5.4 Mesurau llesiant
Byddwn hefyd yn casglu data sydd eisoes yn bodoli a data o'r Arolwg Teithio Cenedlaethol newydd a ffynonellau eraill, gan gynnwys data ar effaith ein cyllid, i adrodd yn erbyn ein huchelgeisiau llesiant.
Yn dda ar gyfer pobl a chymunedau
Byddai hyn yn cynnwys mesurau sy'n ymwneud â chydraddoldeb fel y gallwn ddeall yn well brofiadau gwahanol grwpiau â nodweddion gwarchodedig o deithio a'u lefelau o foddhad.
O ran iechyd, byddwn yn parhau i fesur ansawdd aer a sŵn yn yr amgylchedd y gellir ei briodoli i drafnidiaeth. Er diogelwch, byddwn yn ystyried monitro pa mor ddiogel mae pobl yn teimlo wrth ddefnyddio gwahanol fathau o drafnidiaeth gyhoeddus, a yn ogystal â cherdded a beicio. Byddai hyn yn ategu'r data yr ydym eisoes yn eu casglu ar ddamweiniau, archwiliadau gorfodi ar gerbydau a chydymffurfio â therfynau cyflymder.
Yn dda ar gyfer yr amgylchedd
Byddwn yn parhau i asesu CO2 ac allyriadau eraill o wahanol fathau o drafnidiaeth, yn ogystal â thunelli o garbon a gynhyrchir gan wahanol ddulliau teithio fesul person fesul cilomedr a deithir. Bydd angen inni hefyd ystyried effaith trafnidiaeth ar fioamrywiaeth, cydnerthedd ecosystemau a gwastraff. Efallai y bydd angen i ni edrych yn fanylach hefyd ar gerrig milltir ar gyfer y pellter a deithir.
Yn dda ar gyfer yr economi a lleoedd yng Nghymru
Bydd hyn yn cynnwys ystyried i ba raddau y gall pobl gyrraedd y gwaith, hamdden, addysg a gwasanaethau drwy ddulliau teithio cynaliadwy, yn ogystal â materion fel fforddiadwyedd ac achosion tagfeydd.
Er mwyn deall pa mor dda rydym yn rheoli ac yn cynnal seilwaith mae angen data arnom ar gyflwr seilwaith trafnidiaeth, gan gynnwys nifer a difrifoldeb y diffygion a’r gwaith cynnal a chadw cysylltiedig sydd wedi ôl-gronni. Mae oedran cyfartalog ac effeithlonrwydd tanwydd cerbydau gwasanaeth, gan gynnwys fflydoedd o fysiau, tacsis a cherbydau hurio preifat a threnau, hefyd yn berthnasol.
Yn y dyfodol byddai'n ddefnyddiol deall y gweithlu trafnidiaeth yng Nghymru yn well, er ei fod yn anodd ei ddiffinio, o gofio y gallai hefyd gynnwys logisteg a rhannau o'r economi ymwelwyr. Mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi mae angen inni ddeall yn well y cynnydd o ran newid i gerbydau allyriadau isel neu cerbydau di-allyriadau a chael dealltwriaeth well o ddata ar gludo nwyddau a logisteg yn gyffredinol.
Yn dda ar gyfer diwylliant a’r Gymraeg
Bydd arnom angen data ar gyfraniad trafnidiaeth at ddiwylliant a'r iaith Gymraeg, a gwybodaeth well am ddiogelu asedau treftadaeth a'u lleoliadau wrth reoli asedau ac ymyriadau trafnidiaeth.
5.5 Dulliau a sectorau teithio
Bydd angen i ni hefyd barhau i gasglu data ar bob un o'r dulliau teithio a'r sectorau a datblygu mesurau newydd i sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd ar ein hymrwymiadau ehangach.
Er enghraifft, bydd angen inni olrhain twf teithio llesol fel rhan o’n targed i gynyddu ei gyfran o gymharu â dulliau teithio eraill. Hefyd bydd angen rhagor o ymchwil i ddeall yr hyn sy’n rhwystro pobl nad ydynt yn cerdded nac yn beicio ar hyn o bryd ar gyfer teithiau bob dydd rhag defnyddio dulliau teithio llesol, gan gynnwys pobl sydd â nodweddion gwarchodedig.
Ar gyfer bysiau a rheilffyrdd, byddwn yn parhau i gasglu data mwy penodol ar brydlondeb, defnydd, dibynadwyedd, diogelwch a darparu gwasanaethau yn ogystal â rhwystrau rhag eu defnyddio. Bydd angen inni hefyd olrhain ein cynnydd tuag at fysiau a cherbydau trwyddedig allyriadau is, a datgarboneiddio’r rheilffyrdd.
Ar gyfer ffyrdd byddwn yn parhau i gasglu data ar ddiogelwch ar y ffyrdd, dibynadwyedd teithiau, lefelau traffig, dosbarth cerbyd a math o danwydd yn ogystal â mesur y dangosyddion perfformiad a sefydlwyd yn yr astudiaethau peilot 20mya yn y tymor hir. Yn y dyfodol, bydd angen data gwell arnom ar ddefnyddio beiciau a deall symudiadau ac ymddygiadau cerddwyr yn well. Bydd angen i ni hefyd ddeall effeithiau gweithredu, cynnal a chadw a gwella'r rhwydwaith ffyrdd ar garbon, a chynnydd o ran lleihau’r gwaith cynnal a chadw sydd wedi ôl-gronni i lefelau cynaliadwy.
Yn bwysig, bydd angen i ni ddeall effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ein buddsoddiadau ar gyfer pob dull.
06. Y pum ffordd o weithio
Er mwyn cyflawni hyn i gyd bydd angen inni feddwl a gweithio mewn ffordd wahanol. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddefnyddio’r pum ffordd o weithio a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
6.1 Cynnwys
Byddwn yn cynnwys pobl yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau trafnidiaeth. Mae hyn yn hanfodol i'n huchelgais i oresgyn y rhwystrau sy'n atal pobl rhag manteisio i’r eithaf ar drafnidiaeth. Byddwn yn gofyn i bobl sydd â nodweddion gwarchodedig a siaradwyr Cymraeg roi cyngor ar bolisïau a rhaglenni, wrth iddynt gael eu datblygu, eu gweithredu a'u gwerthuso. Mae angen inni hefyd ymgysylltu â phobl nad ydynt yn defnyddio trafnidiaeth gynaliadwy nawr, er mwyn deall yn well y rhwystrau y maent yn eu hwynebu, a'r ffordd orau o'u hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy.
6.2 Cydweithio
Mae Pennod Pedwar yn dangos sut y byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth y DU, y Comisiynwyr yng Nghymru a'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol, Awdurdodau Lleol Cymru a'r Cydbwyllgorau Corfforedig newydd, Trafnidiaeth Cymru a darparwyr trafnidiaeth i gyflawni'r ymrwymiadau yn Llwybr Newydd.
Byddwn hefyd yn cydweithio â meysydd polisi eraill gan gynnwys cynllunio, yr economi, iechyd, cydraddoldeb, datgarboneiddio, yr amgylchedd, diwylliant a'r Gymraeg er mwyn cysoni ein dull gweithredu ar gyfer trafnidiaeth â nodau ehangach, a sicrhau nad ydym yn gweithio ar wahân.
6.3 Atal
Nod Llwybr Newydd yw atal problemau rhag digwydd neu waethygu. Mae hyn yn cynnwys problemau sy'n gysylltiedig â chydraddoldeb, iechyd a newid yn yr hinsawdd. Mae ein pedwar uchelgais llesiant yn dangos sut y byddwn yn mynd i'r afael â heriau hirdymor mawr i’n cymdeithas, gan gynnwys cydraddoldeb ac iechyd, yr amgylchedd, yr economi a lleoedd, a diwylliant a’r Gymraeg. Byddwn yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r problemau hynny drwy'r blaenoriaethau pum mlynedd sy'n dilyn, yn ogystal â thrwy fesur cynnydd, drwy ein cynlluniau cyflawni a'r cynlluniau bach ar gyfer pob dull teithio a sector.
6.4 Integreiddio
Byddwn yn ymdrin â pholisïau a rhaglenni trafnidiaeth strategol mewn ffordd integredig, gan sicrhau ein bod yn ystyried pob un o'r saith nod llesiant cenedlaethol. Er enghraifft, byddwn yn sicrhau bod ein polisïau ar ddatgarboneiddio hefyd yn mynd i'r afael â materion fel cydraddoldeb ac iechyd. Byddwn hefyd yn defnyddio WelTAG i sicrhau bod penderfyniadau buddsoddi mewn trafnidiaeth unigol yn ystyried nodau llesiant. Byddwn hefyd yn cydnabod pwysigrwydd integreiddio rhwng dulliau trafnidiaeth, drwy ein Llwybr Integredig ar gyfer Cynllunio Teithiau.
6.5 Hirdymor
Mae Llwybr Newydd yn defnyddio dull hirdymor o weithredu drwy bennu uchelgeisiau llesiant 20 mlynedd a thrwy archwilio targedau a mesurau a fydd yn helpu i olrhain ein cyfraniad at y rheini. Rydym hefyd yn cydnabod y gallai cymryd golwg hirdymor olygu addasu ein polisïau a'n dulliau gweithredu er mwyn cyflawni'r uchelgeisiau hynny. Felly, yr ydym wedi pennu blaenoriaethau pum mlynedd y byddwn yn parhau i'w hadolygu. Mae angen inni weithredu nawr i adeiladu ar y cyfle a grëwyd gan COVID-19 i feddwl yn wahanol am sut rydym yn gweithio a lle rydym yn gweithio. Mae hefyd wedi dangos i ni, waeth pa mor dda rydym yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, y gellir disgwyl digwyddiadau a fydd yn ein bwrw ni oddi ar ein hechel.
07. Cynlluniau bach
Mae'r cynlluniau bach hyn yn dangos sut y bydd sectorau a dulliau teithio unigol yn cyflawni'r blaenoriaethau yn Llwybr Newydd. Nid ydynt yn disodli'r angen am strategaethau mwy cynhwysfawr ar gyfer sectorau a dulliau teithio, yn enwedig mewn meysydd sy'n newid yn gyflym fel hedfanaeth, logisteg a chludo nwyddau.
Ymdriniaeth integredig i drafnidiaeth
Er ein bod wedi nodi cynlluniau bach unigol, byddwn yn parhau i ymdrin â thrafnidiaeth mewn ffordd integredig drwy ein pedwar llwybr:
- datgarboneiddio
- cydraddoldeb
- cynlluniau teithiau integredig, a
- trafnidiaeth wledig.
Bydd y llwybrau hyn yn sicrhau ein bod yn gweithio ar draws pob dull teithio a sector ar faterion allweddol i gyflawni ymrwymiadau ehangach.
Bydd Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth hefyd yn cynnwys mwy nag un dull teithio neu sector.
7.1 Teithio llesol
Gweledigaeth
Yn unol â Deddf Teithio Llesol (Cymru) rydym am i gerdded a beicio ddod y dewis arferol ar gyfer teithiau byrrach, am fod teithio llesol yn well ar gyfer hiechyd, ein hamgylchedd a'r economi
Blaenoriaethau
Yn ystod y pum mlynedd nesaf byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i wneud y canlynol:
- gweithio’n barhaus i ddatblygu rhwydwaith o lwybrau lleol ar gyfer cerdded a beicio, i gysylltu pobl â'r lleoedd y maent yn teithio iddynt ar gyfer teithiau bob dydd
- adnewyddu'r cynlluniau ar gyfer Rhwydweithiau Teithio Llesol Integredig bob tair blynedd, yn seiliedig ar ymgynghori helaeth gyda phwyslais arbennig ar bobl nad ydynt yn cerdded nac yn beicio ar gyfer teithiau lleol ar hyn o bryd
- gynnwys cyfleusterau addysg ar Fapiau Rhwydwaith, gan gynnwys addysg cyfrwng Cymraeg
- hyfforddi a datblygu gweithwyr proffesiynol yn yr arferion gorau a’r arweiniad ar gyfer cynllunio teithio llesol, i sicrhau bod seilwaith o ansawdd uchel yn cael ei roi ar waith
- datblygu pecyn o fesurau newid ymddygiad 'meddal', fel ceisio sicrhau bod hyfforddiant beicio a chynlluniau teithio ar gael i bawb, i ategu’r buddsoddi mewn seilwaith caled
- sefydlu fframwaith polisi sy'n sicrhau bod pob datblygiad newydd, gan gynnwys ysgolion a chyfleusterau iechyd newydd, yn darparu ar gyfer cerdded a beicio o'r cychwyn cyntaf
- annog pob ysgol i sicrhau bod cynllun teithio llesol ar waith a mabwysiadu camau gweithredu i arafu traffig ac ehangu palmentydd o amgylch ysgolion
- gwella’r ddarpariaeth teithio llesol ar gyfer addysg a gweithio gydag ysgolion, rhieni ac eraill i newid ymddygiad
- newid y terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya mewn ardaloedd adeiledig er mwyn lleihau anafiadau a marwolaethau sy'n gysylltiedig â thraffig a gwneud cerdded a beicio'n fwy diogel ac yn fwy deniadol
- cefnogi llwybrau beicio mwy diogel a gwell a rhagor o le ar gyfer cerdded a beicio drwy gau ffyrdd i gerbydau, rhagor o gyfleusterau i gerddwyr, a chymorth ar gyfer hyfforddiant beicio a chynlluniau diogelwch ar gyfer pob defnyddiwr ffordd
- cyflwyno cynlluniau peilot i wneud defnyddio beiciau a gynorthwyir yn drydanol (e-feiciau) a beiciau e-gargo yn opsiwn fforddiadwy i ragor o unigolion a busnesau
- gweithio gyda phartneriaid ar raglenni newid ymddygiad i annog pobl i fanteisio ar deithio iach a llesol drwy, er enghraifft, gynlluniau yn y gweithle, gan gynnwys darparu cyfleusterau fel mannau parcio beiciau
- gweithio gyda phartneriaid yn y DU ar fframwaith rheoleiddio ar gyfer dulliau micro-symudedd fel e-sgwteri
- rheoli a gwerthuso'r Gronfa Teithio Llesol sy'n helpu awdurdodau lleol i ddatblygu a chyflawni cynlluniau teithio llesol, gan gynnwys rhannu’r arferion gorau a chydweithio rhanbarthol
- gweithio tuag at 'Feicio Diogel o Bentref i Dref', gan ddarparu mynediad beicio i'r dref agosaf ar gyfer pentrefi, a chreu coridorau teithio llesol both ac adain sy'n cysylltu trefi marchnad a chanolfannau lleol arwyddocaol eraill â phentrefi cyfagos a datblygiadau anghysbell.
Uchelgeisiau llesiant
Erbyn 2040 bydd teithio llesol wedi darparu manteision llesiant sylweddol oherwydd y canlynol:
Pobl a chymunedau
- mae teithio llesol yn fwy cynhwysol
- mae lefelau gweithgarwch cyffredinol wedi cynyddu oherwydd bod rhagor o bobl yn cerdded ac yn beicio
- mae cerdded a beicio yn fwy diogel i bawb
Yr amgylchedd
- mae llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr ac mae ansawdd aer wedi gwella am fod rhagor o bobl yn defnyddio dulliau teithio llesol yn lle’r car
- mae bioamrywiaeth mewn cyflwr gwell, ac mae ecosystemau'n fwy cydnerth ar rwydweithiau teithio llesol presennol ac yn cael eu hystyried wrth ddylunio seilwaith teithio llesol newydd
- mae rhwydweithiau teithio llesol yn cael eu cynnal a’u cadw a'u rheoli'n dda, a'u huwchraddio i ddelio ag effaith newid yn yr hinsawdd
Lleoedd a’r economi
- mae rhagor o bobl yn defnyddio teithio llesol i gyrraedd y gwaith
- mae datblygiadau arloesol wedi annog pobl i fanteisio ar deithio llesol gan gynnwys cynlluniau e-feic ac e-gargo
- mae economi teithio llesol ffyniannus
- mae'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol mewn cyflwr da er mwyn cefnogi'r economi ymwelwyr
Diwylliant a’r Gymraeg
- mae hen reilffyrdd a seilwaith trafnidiaeth segur arall yn cael eu diogelu i'w hailddefnyddio neu eu troi yn llwybrau beicio, llwybrau troed neu droedffyrdd
- gall rhagor o bobl ddefnyddio cerdded a beicio i fwynhau safleoedd a henebion hanesyddol, parciau a thirweddau cenedlaethol ac ardaloedd arfordirol Cymru
Y pum ffordd o weithio
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- cynnwys pobl yn y gwaith o gynllunio rhwydweithiau teithio llesol newydd a helpu awdurdodau lleol i gyrraedd y rhai nad ydynt yn teithio’n llesol ar hyn o bryd
- sicrhau bod polisïau teithio llesol a dyluniad seilwaith teithio llesol newydd yn ystyried cydraddoldeb
- disodli ceir â dulliau teithio llesol i fynd i'r afael â newid hirdymor yn yr hinsawdd fel rhan o'n targedau ehangach ar gyfer rhannu dulliau teithio
- cydweithio â chydweithwyr yn y sectorau cynllunio, yr amgylchedd adeiledig, iechyd, yr amgylchedd ac addysg i gynyddu lefelau teithio llesol
- monitro ac adolygu ein blaenoriaethau yn ogystal â chyfraniad teithio llesol at Lwybr Newydd yn ei chyfanrwydd.
7.2 Bysiau
Gweledigaeth
Rhwydwaith sefydlog a chydlynol o wasanaethau bysiau sydd wedi'u hintegreiddio'n llawn â mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus, sy'n ddibynadwy, yn fforddiadwy, yn hyblyg, yn hawdd eu defnyddio, yn garbon isel ac sy'n annog rhagor o bobl i ddefnyddio'r bws yn hytrach na'u ceir.
Blaenoriaethau
Yn ystod y pum mlynedd nesaf byddwn yn gwneud y canlynol:
- cefnogi gwasanaethau bysiau fforddiadwy, rheolaidd, dibynadwy a phrydlon mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, y sector masnachol a'r trydydd sector
- mynd i'r afael â thagfeydd a buddsoddi mewn gorsafoedd ac arosfannau bysiau i gyflymu teithiau a gwella profiadau teithwyr
- estyn cyrhaeddiad gwasanaethau bysiau yng Nghymru
- pennu safonau fel bod teithwyr yn gwybod yr hyn y gallant ei ddisgwyl gan wasanaethau bysiau yng Nghymru
- parhau i wella gwasanaethau bysiau ar gyfer addysg gan gynnwys addysg cyfrwng Cymraeg
- cadw gyrwyr a theithwyr yn ddiogel drwy sicrhau mynediad at dechnoleg talu digyffwrdd, sgriniau a mesurau eraill sydd eu hangen i gynnal iechyd y cyhoedd
- rheoli addasiadau ôl-COVID-19 i wasanaethau bysiau i adlewyrchu anghenion newidiol y cyhoedd wrth iddynt deithio
- darparu gwasanaethau bysiau arloesol, mwy hyblyg, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, y sector masnachol a'r trydydd sector
- cyflwyno'r dechnoleg a'r seilwaith sydd eu hangen ar gyfer bysiau allyriadau isel iawn
- datblygu ein deddfwriaeth bysiau newydd sy'n rhoi rhagor o reolaeth i'r sector cyhoeddus dros wasanaethau bysiau lleol
- gwella amodau gwaith ac atyniad y diwydiant i yrwyr bysiau
- sicrhau bod hyfforddiant ar waith i helpu gyrwyr bysiau i ddeall yn well y sbectrwm o anableddau nad ydynt bob amser yn gorfforol, a diweddaru'r hyfforddiant hwnnw
- cefnogi'r Comisiynydd Traffig i weithredu system orfodi effeithiol sy'n helpu i wella dibynadwyedd ac amseroedd teithio
- paratoi safonau'r Gymraeg ar gyfer y rhai sy'n darparu gwasanaethau bysiau yng Nghymru
- gweithio gyda darparwyr bysiau i helpu i gyflawni'r blaenoriaethau hyn ac i ddenu cwmnïau bysiau i fuddsoddi yn eu gwasanaethau yng Nghymru, gyda llygad ar y tymor hwy.
Uchelgeisiau llesiant
Erbyn 2040 byddwn yn sicrhau manteision llesiant sylweddol drwy wasanaethau bysiau oherwydd y canlynol:
Pobl a chymunedau
- mae rhwydwaith cyflymach a mwy dibynadwy o lwybrau a gwasanaethau bysiau’n golygu na fydd pobl yn colli mynediad at wasanaethau iechyd, addysg, cyfleoedd gwaith a chysylltiadau cymdeithasol dim ond oherwydd yr ardal maent yn byw ynddi
- mae gwasanaethau a chyfleusterau bysiau yn hygyrch, deniadol a diogel i bawb
Yr amgylchedd
- mae rhagor o bobl yn defnyddio bysiau yn lle ceir
- bydd pob bws yn gerbyd di-allyriadau
Yr economi a lleoedd
- mae gwasanaethau bysiau hyblyg a dibynadwy o ansawdd uchel, wedi’u hintegreiddio â gwasanaethau eraill, yn cludo pobl i lle maent am fynd, pan fyddant am fynd
- mae Cymru yn ganolfan dechnoleg arloesol a helpodd i leihau allyriadau o fysiau
- mae penderfyniadau am ddatblygiadau newydd yn ystyried argaeledd gwasanaethau bysiau
- mae penderfyniadau strategol gwell ynghylch gwasanaethau bysiau ar lefel genedlaethol a lefel ranbarthol yn sicrhau bod cyllid y llywodraeth yn cefnogi’r gwasanaethau y mae pobl am eu defnyddio
- mae gwybodaeth amser real well a system docynnau integredig, glyfar yn helpu pobl i deithio'n hyderus gan ddefnyddio gwahanol fathau o drafnidiaeth ar yr adeg orau ac am y gost orau
Diwylliant a’r Gymraeg
- mae rhagor o siaradwyr Cymraeg yn gallu defnyddio gwasanaethau bysiau’n hyderus gan ddefnyddio’r iaith o’u dewis
- mae bysiau’n opsiwn da ar gyfer cyrraedd digwyddiadau celfyddydol a chwaraeon mawr, ac ar gyfer mwynhau treftadaeth naturiol a diwylliannol Cymru
Y pum ffordd o weithio
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- cynnwys pobl yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau, drwy Banel Cynghori Trafnidiaeth Cymru
- integreiddio ystyriaethau cydraddoldeb drwy gynllunio gwasanaethau bysiau a dylunio seilwaith mewn modd cynhwysol
- mynd i'r afael â datgarboneiddio drwy fflydoedd bysiau allyriadau isel iawn a defnyddio'r hierarchaeth fuddsoddi i flaenoriaethu bysiau fel rhan o seilwaith trafnidiaeth newydd
- cydweithio ag awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau i ddarparu gwasanaethau bysiau dibynadwy, a gweithio gyda meysydd cynllunio, iechyd ac addysg i sicrhau bod argaeledd gwasanaethau bysiau yn ystyriaeth allweddol ar gyfer datblygiadau newydd
- monitro ein blaenoriaethau pum mlynedd a'u hadolygu yn ôl y angen, ynghyd â chyfraniad hirdymor bysiau at Lwybr Newydd yn ei chyfanrwydd.
7.3 Trenau
Gweledigaeth
Rydym am sicrhau’r gwasanaethau rheilffyrdd ar gyfer teithwyr ac ar gyfer cludo nwyddau sydd eu hangen ar bobl a busnesau yng Nghymru, er mwyn ategu yn well ein huchelgeisiau llesiant ehangach.
Blaenoriaethau
Yn ystod y pum mlynedd nesaf byddwn yn gwneud y canlynol:
- cyflwyno ein systemau Metro trafnidiaeth gyhoeddus i bob rhan o Gymru i wella gwasanaethau ac integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus arall a theithio llesol yn well â'r system reilffyrdd
- gwneud gwasanaethau rheilffyrdd yn fwy deniadol a gwella profiadau cwsmeriaid
- gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu'r elfen rheilffyrdd fel rhan o'r ateb ehangach i dagfeydd ar yr M4
- gweithio gyda Network Rail a Llywodraeth y DU i wella y seilwaith rheilffyrdd ledled Cymru, gan gynnwys trydaneiddio rheilffyrdd ledled Cymru, gwneud gwelliannau ac estyniadau i'r rhwydwaith, datblygu gorsafoedd newydd ac ailagor gorsafoedd yng Nghymru
- cefnogi partneriaethau rheilffyrdd cymunedol fel rhan o'n gwaith ymgysylltu ehangach â chymunedau a'n cefnogaeth i'r trydydd sector
- cynnal a chadw a rheoli'r seilwaith presennol o dan reolaeth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys uwchraddio gorsafoedd presennol a gwella gallu seilwaith rheilffyrdd i wrthsefyll llifogydd a thywydd eithafol
- recriwtio rhagor o staff dwyieithog a rhoi cyfleoedd i staff presennol ddysgu Cymraeg a defnyddio'r Gymraeg
- pwyso am lais cryfach mewn penderfyniadau buddsoddi mewn rheilffyrdd sy'n effeithio ar Gymru, ac yn y pen draw am ddatganoli gwasanaethau rheilffyrdd a seilwaith i Gymru yn llawn, ynghyd â setliad ariannol teg.
Uchelgeisiau llesiant
Erbyn 2040 byddwn wedi cyfrannu at ein uchelgeisiau llesiant oherwydd y canlynol:
Pobl a chymunedau
- mae trenau a gorsafoedd yn fwy hygyrch, mae gwasanaethau'n fwy fforddiadwy ac mae pawb yn teimlo croeso wrth ddefnyddio gwasanaethau rheilffordd
- mae teithio ar y rheilffyrdd yn ddiogel i bob defnyddiwr
- mae partneriaethau rheilffyrdd cymunedol yn helpu i ennyn diddordeb rhagor o bobl a chymunedau yn y rheilffyrdd
Yr amgylchedd
- bydd yr holl drenau yng Nghymru yn newid i drenau allyriadau isel ac yn y pen draw i drenau di-allyriadau
- bydd y rheilffyrdd yn cyfrannu at ein targed ar gyfer newid dulliau teithio oherwydd bod rhagor o bobl yn defnyddio’r trên yn lle eu ceir, mae teithiau i orsafoedd ac yn ôl yn cael eu gwneud drwy ddulliau mwy cynaliadwy ac mae rhagor o nwyddau’n cael eu symud ar y rheilffyrdd, gan osgoi milltiroedd lorïau sy'n cael effaith drom ar yr amgylchedd
- rydym wedi gwella perfformiad ynni gorsafoedd a seilwaith Rheilffyrdd Caerdydd a’r Cymoedd
- rydym wedi cynnal bioamrywiaeth ac wedi gwella cydnerthedd ecosystemau wrth reoli ystad feddal y rheilffyrdd o ddydd i ddydd ac wrth wneud gwelliannau i'r rheilffyrdd yn y dyfodol
Yr economi a lleoedd
- mae rhagor o wasanaethau rheilffordd ac mae nifer y teithwyr wedi cynyddu, gan wneud gwasanaethau'n fwy hyfyw
- mae gorsafoedd rheilffordd newydd a’r rhai sydd eisoes yn bodoli yn ganolfannau ar gyfer buddsoddi economaidd a thwf
- mae arloesi digidol yn gwneud teithio ar y rheilffyrdd yn haws, gan gynnwys tocynnau integredig a gwybodaeth amser real gwell i deithwyr
- mae atyniadau rheilffyrdd hanesyddol yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi ymwelwyr ehangach Cymru
Diwylliant a’r Gymraeg
- Gall siaradwyr Cymraeg ddefnyddio gwasanaethau trên yn hyderus gan ddefnyddio’r iaith o’u dewis
- gall rhagor o bobl ddefnyddio'r rheilffyrdd i gyrraedd digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol mawr
- mae asedau'r amgylchedd hanesyddol wedi cael eu diogelu a'u cynnal a’u cadw wrth wneud gwelliannau a datblygu’r rheilffyrdd
Y pum ffordd o weithio
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- cynnwys pobl, gan gynnwys y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, wrth gynllunio a darparu gwasanaethau drwy Banel Cynghori Trafnidiaeth Cymru, a hefyd gynnwys cymunedau wrth ddatblygu cynlluniau rheilffyrdd cymunedol newydd
- cynllunio a darparu gwasanaethau rheilffyrdd a seilwaith mewn ffordd integredig
- mynd i'r afael â materion hirdymor fel datgarboneiddio drwy drydaneiddio ein fflyd rheilffyrdd ac archwilio i ddefnyddio hydrogen
- cydweithio â chydweithwyr ym maes cynllunio, iechyd ac addysg i leoli datblygiadau newydd o amgylch gorsafoedd rheilffordd presennol
- monitro ein blaenoriaethau pum mlynedd a'u hadolygu yn ôl yr angen, ynghyd â chyfraniad y rheilffyrdd at Lwybr Newydd yn ei chyfanrwydd.
7.4 Ffyrdd, Strydoedd a Pharcio
Gweledigaeth
Byddwn yn sicrhau bod ein ffyrdd a'n strydoedd yn ddiogel, yn cael eu cynnal a'u cadw a’u rheoli’n dda ar gyfer pob defnyddiwr ffordd, a hefyd yn cefnogi opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy gan gynnwys teithio llesol a rhagor o drafnidiaeth gyhoeddus.
Blaenoriaethau
Yn ystod y pum mlynedd nesaf byddwn yn gwneud y canlynol:
- cynnal a gweithredu'r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol mewn ffordd sy'n bodloni ein rhwymedigaethau statudol, yn lleihau effeithiau amgylcheddol andwyol, yn hyrwyddo teithio llesol, yn cynnal ac yn creu swyddi yng Nghymru ac yn lleihau'r gwaith cynnal a chadw sydd wedi ôl-gronni
- cyflwyno terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol newydd o 20mya mewn ardaloedd preswyl a mynd i’r afael â pharcio ar y palmant
- sicrhau bod traffig yn parhau i symud drwy ddelio'n gyflym â digwyddiadau a thrwy gynllunio gwaith cynnal a chadw yn effeithlon ymlaen llaw er mwyn osgoi aflonyddu
- cyflwyno strategaeth ar gyfer codi tâl teg ar ddefnyddwyr ffyrdd yng Nghymru fel rhan o becyn ehangach o fesurau i wella dewisiadau teithio
- uwchraddio, gwella a diogelu ein rhwydwaith ffyrdd at y dyfodol, mynd i'r afael â mannau lle mae tagfeydd yn debygol a buddsoddi mewn cynlluniau sy'n cefnogi diogelwch ar y ffyrdd, dibynadwyedd teithiau, cydnerthedd, newid dulliau teithio a beiciau trydan, beiciau modur a gwefru cerbydau
- gwella'r ffordd mae asedau seilwaith ffyrdd yn cael eu rheoli er mwyn lleihau'r gwaith cynnal a chadw sy’n ôl-gronni; gweithredu'n fwy effeithlon; rhyddhau cyllid ar gyfer gwelliannau; cynnal a gwella bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau; a diogelu asedau amgylchedd hanesyddol ar ystad feddal
- gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i reoli effaith newid yn yr hinsawdd ar seilwaith ffyrdd drwy wella draeniau dŵr wyneb, rheoli peryglon llifogydd a sicrhau nad yw datblygiadau newydd yn creu gollyngiadau niweidiol o ddŵr wyneb
- cefnogi awdurdodau lleol i reoli a chynnal a chadw ffyrdd lleol, a'u helpu i fabwysiadu ffyrdd heb eu mabwysiadu a sicrhau bod datblygiadau preswyl newydd yn bodloni safonau cyffredin
- datblygu polisïau ar barcio ar gyfer pob math o gerbyd i ysgogi newid i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, gan ystyried cydraddoldeb
- gwella’r System Drafnidiaeth Ddeallus i wella gwybodaeth amser real a gwybodaeth o ffynonellau agored ar gyfer defnyddwyr a datblygwyr
- pennu targed i leihau'r gwaith cynnal a chadw sydd wedi ôl-gronni i lefelau cynaliadwy erbyn 2030
- gweithio gyda Llywodraeth y DU i ymgorffori cyfarwyddebau presennol yr Undeb Ewropeaidd yng nghyfraith y DU lle y maent o fudd i drafnidiaeth yng Nghymru
- diweddaru ein Strategaeth Rheoli Asedau, ein Strategaeth Gaffael, y Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd, y ffordd rydym yn ymdrin â bioamrywiaeth a safonau cynnal a chadw cefnffyrdd i Gymru, a'n dull o ymdrin â therfynau cyflymder lleol yn ogystal â symleiddio'r ffordd y mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn cael eu gwneud
- rhoi ein Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan ar waith ac annog y defnydd o feiciau modur a cherbydau ysgafn wedi'u pweru yn hytrach na cheir lle nad oes dewisiadau trafnidiaeth eraill.
Uchelgeisiau llesiant
Erbyn 2040 bydd ein dull ar gyfer ymdrin â ffyrdd, strydoedd a pharcio wedi gwneud cyfraniad sylweddol at lesiant oherwydd y canlynol:
Bobl a chymunedau
- mae terfynau cyflymder cenedlaethol 20mya a mynd i’r afael â pharcio ar y palmant mewn ardaloedd preswyl wedi gwneud strydoedd yn fwy diogel i bawb
- mae'r rhwydwaith ffyrdd yn rhoi blaenoriaeth uwch i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, gan gynnwys lonydd beicio a throedffyrdd
- mae ffyrdd a strydoedd yn fwy diogel i bob defnyddiwr ac mae llai o bobl yn marw neu’n cael eu hanafu’n ddifrifol wrth eu defnyddio
Yr amgylchedd
- mae llai o deithiau mewn ceir a cherbydau preifat wedi arwain at ansawdd aer gwell ac yn cyfrannu at ddatgarboneiddio
- mae cyfleusterau gwefru cerbydau/beiciau trydan ar gael yn rhwydd ledled Gymru
- mae codi tâl teg a chyfartal am ddefnyddio’r ffyrdd wedi lleihau allyriadau
- mae technoleg rheoleiddio cyflymder traffig hefyd wedi lleihau allyriadau
- rydym wedi cynnal bioamrywiaeth ac wedi gwella cydnerthedd ecosystemau ar ystad feddal ac wrth gynllunio gwelliannau i’r ffyrdd yn y dyfodol
- mae gweithrediadau a gwaith cynnal a chadw ar y ffyrdd yn defnyddio llai o ynni, yn cynhyrchu llai o wastraff ac yn defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu os oes modd
Yr economi a lleoedd
- mae strydoedd trefol tawelach yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at greu lleoedd mewn trefi a dinasoedd
- mae ffyrdd llai prysur yn gwneud symud i Gymru yn opsiwn deniadol i fusnesau ac yn cefnogi cadwyn gyflenwi Cymru
- mae technoleg newydd neu gerbydau dan reolaeth awtomatig yn cael eu defnyddio, fel Cerbydau Cysylltiedig ac Awtonomaidd a Systemau Rheoli Cyflymder Deallus, a Systemau Trafnidiaeth Deallus
- mae llai o bobl yn byw ar ffyrdd heb eu mabwysiadu nad ydynt yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda
- rydym wedi sicrhau'r lleoliadau gorau posibl ar gyfer parcio ac yn rheoli parcio'n effeithiol
Diwylliant a’r Gymraeg
- rydym yn cynllunio ac yn rheoli'r defnydd o ffyrdd a thagfeydd mewn digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon mawr yng Nghymru ac o'u cwmpas
- diogelir yr amgylchedd hanesyddol mewn prosiectau ffyrdd ac wrth uwchraddio’r ffyrdd a rheoli ystad feddal
- rydym wedi lleihau effaith ceir ar Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol drwy hyrwyddo gwell cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus lleol a chyflwyno darpariaeth parcio a theithio
Y pum ffordd o weithio
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- cynnwys pobl wrth gynllunio’r gwaith o uwchraddio ffyrdd drwy WelTAG a hefyd ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar waith cynnal a chadw
- gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi mewn ffordd integredig, dan arweiniad arfarniadau WelTAG a'r blaenoriaethau yn Llwybr Newydd
- atal problemau yn y dyfodol drwy leihau tagfeydd er mwyn sbarduno newid i deithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus
- cydweithio â chydweithwyr ym maes cynllunio, iechyd ac addysg i sicrhau bod datblygiadau newydd yn rhoi blaenoriaeth i gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus
- monitro ein blaenoriaethau pum mlynedd a'u hadolygu yn ôl yr angen, ynghyd â chyfraniad ffyrdd, strydoedd a pharcio at Lwybr Newydd.
7.5 Y trydydd sector
Mae'r trydydd sector yn cynnwys cynlluniau trafnidiaeth gymunedol, partneriaethau rheilffyrdd cymunedol, gwasanaethau rheilffyrdd treftadaeth a sefydliadau eraill yn y trydydd sector sy’n darparu trafnidiaeth.
Gweledigaeth
Mae trydydd sector ffyniannus a hyfyw yn diwallu anghenion cymunedau lleol ac yn sicrhau manteision cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ehangach.
Blaenoriaethau
Yn ystod y pum mlynedd nesaf byddwn yn gwneud y canlynol:
- sicrhau bod darparu trafnidiaeth gymunedol yn cael ei gynnwys mewn cynlluniau teithio ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth, iechyd neu addysg presennol a newydd
- gefnogi gweithredwyr presennol a chynyddu’r amrediad o wasanaethau, gan ymateb i anghenion cymunedol
- datblygu gwasanaethau sy’n cynnig opsiwn amgen i geir preifat fel clybiau ceir
- integreiddio gwasanaethau'r trydydd sector yn well i bolisïau, cynlluniau a darpariaeth trafnidiaeth ehangach
- cyflwyno Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a'r Trydydd Sector
- gweithio gyda'r Comisiynydd Traffig i sicrhau bod y rheoliadau’n cefnogi gyrwyr gwirfoddol a gweithrediadau cymunedol
- ymgorffori gwybodaeth am wasanaethau trafnidiaeth cymunedol a thrydydd sector mewn apiau trafnidiaeth newydd a mentrau cynllunio teithiau eraill
- gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru, Croeso Cymru ac eraill i hyrwyddo partneriaethau rheilffyrdd hanesyddol a rheilffyrdd cymunedol
- darparu mentora, cymorth a hyfforddiant gan gymheiriaid ar gyfer gwirfoddolwr
- gweithio i ddeall cwmpas, problemau a chyfraniad y trydydd sector yn well ac archwilio'r syniad o lefel ofynnol o ddarpariaeth ar gyfer teithiau llinell fywyd wrth edrych ar dargedau ar gyfer y dyfodol.
Y cyfraniad at lesiant
Erbyn 2040 bydd y trydydd sector wedi gwneud cyfraniad sylweddol at ein huchelgeisiau llesiant oherwydd y canlynol:
Pobl y chymunedau
- mae rhagor o wasanaethau llinell fywyd i bobl na fyddent fel arall yn gallu cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus gonfensiynol
- rydym wedi lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd
- mae mynediad gwell at wasanaethau iechyd ac addysg, a diogelu effeithiol
- mae mynediad gwell at barciau cenedlaethol a gweithgareddau hamdden awyr agored
- mae gennym rwydwaith o wirfoddolwyr gweithgar a ymrwymedig
Yr amgylchedd
- mae llai o allyriadau carbon am fod rhagor o bobl yn teithio gyda’i gilydd
- mae trafnidiaeth gymunedol wedi manteisio mwy ar dechnolegau cerbydau amgen
Yr economi a lleoedd
- gall amrediad ehangach o bobl gael mynediad at wasanaethau manwerthu, iechyd, addysg, gwaith a hamdden a’r gwasanaethau eraill sydd eu hangen arnynt
- rydym yn darparu gwasanaethau i bobl mewn ardaloedd gwledig lle nad yw gwasanaethau eraill yn mynd yn aml
- rydym wedi rhoi hwb i'r economi ymwelwyr a swyddi gwledig drwy wasanaethau trydydd sector gan gynnwys rheilffyrdd hanesyddol
- mae modelau darparu gwasanaethau mwy arloesol ar waith gan gynnwys trafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw
Diwylliant a’r Gymraeg
- mae rhagor o wasanaethau trafnidiaeth ar gyfer grwpiau ffydd a grwpiau diwylliannol, a mynediad gwell at ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliannol
- Mae treftadaeth drafnidiaeth gyfoethog Cymru wedi cael ei diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
- mae rhagor o wasanaethau a chyfleoedd gwell ar gyfer gwirfoddoli o fewn cymunedau gwledig a Chymraeg eu hiaith
Pum ffordd o weithio
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- ymgysylltu'n weithredol â'r gymuned, defnyddwyr a sefydliadau yn y trydydd sector wrth ddylunio, cynllunio a darparu gwasanaethau trydydd sector
- integreiddio materion fel cydraddoldeb a datgarboneiddio wrth gynllunio ar gyfer gwasanaethau trydydd sector
- cyfrannu at ddatgarboneiddio ar draws gwasanaethau trydydd sector
- cydweithio ag awdurdodau lleol i nodi bylchau yn y ddarpariaeth, ymgymryd â chynllunio ar y cyd a datblygu’r sector drwy grantiau lleol a helpu i gysylltu'r sector ag agendâu polisi ehangach fel iechyd, addysg a'r economi ymwelwyr
- monitro ein blaenoriaethau pum mlynedd a'u hadolygu yn ôl yr angen, ynghyd â chyfraniad y trydydd sector at Lwybr Newydd yn ei chyfanrwydd.
7.6 Tacsis a cherbydau hurio preifat
Gweledigaeth
Rydym eisiau system trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat sy'n addas ar gyfer Cymru fodern, sy'n hyrwyddo diogelwch i deithwyr a gyrwyr, yn cyfrannu at amgylchedd glanach, yn gwella profiad y cwsmer, ac yn hygyrch i bawb.
Blaenoriaethau
Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn gwneud y canlynol:
- datblygu safonau cenedlaethol ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru sy'n ymdrin â materion fel addasrwydd ymgeiswyr/deiliaid trwyddedau, mesurau diogelwch cerbydau, gwirio cerbydau, cadw cofnodion o deithiau, a hyfforddiant gyrwyr a gweithredwyr
- sicrhau bod gan reoleiddwyr y pwerau angenrheidiol i gymryd camau gorfodi effeithiol
- creu a chynnal cronfa genedlaethol ar gyfer data trwyddedu a chofrestr gyhoeddus i sicrhau cysondeb a hyrwyddo diogelwch y cyhoedd
- gan weithio gydag awdurdodau lleol, y sector, yr Adran Drafnidiaeth a defnyddwyr, diwygio'r system drwyddedu i greu dull cyson sy'n hyrwyddo diogelwch ac sy'n llai dryslyd i gwsmeriaid
- gweithio gyda'r sector i sicrhau bod pob tacsi a cherbyd hurio preifat yn gerbyd di-allyriadau
- gwneud yn siŵr bod y seilwaith gofynnol ar waith i newid i dacsis di-allyriadau.
Uchelgeisiau llesiant
Erbyn 2040 bydd tacsis a cherbydau hurio preifat eisoes wedi gwneud cyfraniad sylweddol at ein uchelgeisiau llesiant oherwydd y canlynol:
Pobl a chymunedau
- ni waeth ble mae cwsmeriaid yn byw yng Nghymru, maent yn derbyn lefel dda o wasanaethau tacsis neu gerbydau hurio preifat, diogel, sydd ar gael yn rhwydd, a gyrwyr addas sy'n darparu gwasanaeth cwsmeriaid da
Yr amgylchedd
- mae llai o angen am geir preifat a rhagor o gerbydau hurio preifat yn cael eu defnyddio
- Mae pob tacsi a cherbyd hurio preifat yn gerbyd di-allyriadau
Yr economi a lleoedd
- mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn galluogi rhagor o bobl i gyrraedd y gwaith, gwasanaethau, hamdden ac addysg drwy ategu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus
- mae sector tacsis a cherbydau hurio preifat proffesiynol ffyniannus yng Nghymru yn elwa ar ddull cyson o ymdrin â safonau trwyddedu a safonau uchel o ran hyfforddiant gyrwyr a gwasanaeth cwsmeriaid
Diwylliant a’r Gymraeg
- mae gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat yn gweithredu fel llysgenhadon pwysig i Gymru sydd â rôl allweddol wrth gyflwyno ymwelwyr i Gymru
- mae rhagor o yrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat yn gallu cyfarch teithwyr yn hyderus yn Gymraeg
Pum ffordd o weithio
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- cynnwys y diwydiant, awdurdodau trwyddedu a defnyddwyr wrth ddatblygu rheoliadau yn y dyfodol, drwy weithio gyda grwpiau rhanddeiliaid allanol ac ymgynghori â'r cyhoedd
- integreiddio tacsis a cherbydau hurio preifat â mathau eraill o drafnidiaeth, yn enwedig fel ateb i drafnidiaeth gyhoeddus milltir olaf a milltir gyntaf
- mynd i'r afael â phroblemau hirdymor fel datgarboneiddio drwy sicrhau bod cerbydau di-allyriadau yn cael eu defnyddio drwy gynlluniau cymhelliant
- cydweithio â phartneriaid gan gynnwys yr Adran Drafnidiaeth a'r diwydiant
- monitro ein blaenoriaethau pum mlynedd a'u hadolygu yn ôl yr angen, ynghyd â chyfraniad tacsis a cherbydau hurio preifat at Lwybr Newydd.
7.7 Cludo nwyddau a logisteg
Gweledigaeth
Rhwydwaith cystadleuol, ymatebol a chydnerth o wasanaethau dosbarthu nwyddau a logisteg ledled Cymru sy'n cyfrannu at ein huchelgeisiau llesiant ehangach.
Blaenoriaethau
Yn ystod y pum mlynedd nesaf byddwn yn gwneud y canlynol:
- integreiddio darpariaeth cludo nwyddau a logisteg i ddatblygiadau newydd, cynllunio morol, cynllunio parthau diwydiannol ac adfywio – a chydleoli gweithgynhyrchu, ynni, hamdden a thwristiaeth â phorthladdoedd a chanolfannau cludo nwyddau
- datblygu ymateb polisi i'r twf sylweddol ym maes cludo milltir olaf a chludo ar wib, gan ddeall y ffordd orau o reoli hyn ochr yn ochr â'n huchelgeisiau i leihau tagfeydd a mynd i'r afael â datgarboneiddio
- hyrwyddo pwysigrwydd cludo nwyddau a logisteg a'r cyfraniad maent yn ei wneud at lesiant Cymru
- cefnogi sgiliau a chadw swyddi yn y sectorau cludo nwyddau a logisteg
- gweithio gyda llywodraeth y DU, y sector a phartneriaid eraill ar Gynllun Logisteg a Chludo Nwyddau ar gyfer Cymru
- gweithio gyda'r Comisiynydd Traffig a gweithredwyr y sector i wella dealltwriaeth o faterion diogelwch a chydymffurfiaeth
- cefnogi ymyriadau sy'n symud cludo nwyddau o drafnidiaeth ffyrdd i drafnidiaeth rheilffyrdd a dŵr, a datblygiadau arloesol yn y dyfodol a fydd yn gwneud y sector yn fwy cynaliadwy
- gweithio gyda'r sectorau i ddeall yn well y rhyngweithio cymhleth rhwng cludo nwyddau, logisteg a'r rhwydwaith ehangach, a gosod targedau ystyrlon ar gyfer datgarboneiddio
- gweithio gyda'r sector i harneisio gwelliannau i dechnoleg er mwyn symud nwyddau'n fwy effeithlon
Uchelgeisiau llesiant
Erbyn 2040 bydd y sectorau cludo nwyddau a logisteg wedi gwneud cyfraniad sylweddol at lesiant yng Nghymru oherwydd y canlynol:
Pobl a chymunedau
- gall pobl mewn ardaloedd gwledig a threfol ledled Cymru gael gafael ar y nwyddau a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt drwy gadwyn gyflenwi effeithiol
- mae'r rhwydweithiau sy'n symud nwyddau a phobl yn ddiogel ar gyfer y ddau weithgaredd heb beryglu cysylltedd neu allu
Yr amgylchedd
- mae llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr, mae ansawdd aer yn well ac mae llai o sŵn yn yr amgylchedd o gludo nwyddau a logisteg
- mae nwyddau'n cael eu symud yn fwy cynaliadwy drwy ganolfannau aml-ddull a logisteg a rennir
- mae datblygiadau arloesol wedi helpu i greu rhwydweithiau logisteg carbon isel, gan gynnwys mesurau rheoli galw i ddylanwadu ar ymddygiad defnyddwyr
Yr economi a lleoedd
- mae rhwydwaith cludo nwyddau a logisteg o safon uchel yn cefnogi busnesau presennol ac yn hwyluso buddsoddiadau a swyddi newydd
- mae cludo nwyddau a logisteg wedi cael eu hintegreiddio i bolisi trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir ehangach ar lefel leol, lefel ranbarthol a lefel genedlaethol
- mae gan Gymru y seilwaith, y gallu a'r capasiti i gefnogi sector cludo nwyddau a logisteg mwy cynaliadwy sy’n cynnwys modelau busnes arloesol sy'n annog twf masnachol ochr yn ochr â datgarboneiddio
Diwylliant a’r Gymraeg
- mae sector brodorol ffyniannus ar gyfer rheoli’r gadwyn gyflenwi, gyda gweithlu medrus ac amrywiol, yn helpu i gynnal cymunedau lleol, gan gynnwys cymunedau Cymraeg eu hiaith
Y pum ffordd o weithio
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- cynnwys diwydiant a gweithredwyr a defnyddwyr rhwydweithiau cludo nwyddau a logisteg wrth weithredu ein dull o ymdrin â chludo nwyddau a logisteg
- integreiddio'r angen i symud cludo nwyddau i gynlluniau trafnidiaeth ehangach ar gyfer ffyrdd, rheilffyrdd, porthladdoedd, hedfanaeth a theithio llesol er mwyn osgoi effeithiau anfwriadol a allai amharu ar symud nwyddau'n effeithlon
- lleihau effaith amgylcheddol hirdymor symud nwyddau ledled Cymru
- cydweithio ar draws y Llywodraeth i adlewyrchu rôl cludo nwyddau a logisteg mewn meysydd polisi eraill gan gynnwys datgarboneiddio, twf economaidd rhanbarthol, cynllunio parthau tai/diwydiannol, ynni a chynllunio defnyddio’r tir/y môr.
- monitro ein blaenoriaethau pum mlynedd a'u hadolygu yn ôl yr angen, ynghyd â chyfraniad cludo nwyddau a logisteg at Lwybr Newydd yn ei chyfanrwydd.
7.8 Porthladdoedd a thrafnidiaeth forol
Gweledigaeth
Byddwn yn mabwysiadu dull mwy strategol o ymdrin â phorthladdoedd Cymru a safleoedd datblygu cyfagos, gan gydnabod eu rôl fel catalydd ar gyfer cydleoli gweithgynhyrchu, ynni, hamdden, dosbarthu a thwristiaeth.
Blaenoriaethau
Yn ystod y pum mlynedd nesaf byddwn yn gwneud y canlynol:
- buddsoddi mewn prosiectau sy'n sicrhau seilwaith porthladdoedd mwy cynaliadwy ac sy'n cyfrannu at ddatgarboneiddio yn y sector, gan gynnwys ystyried ymhellach yr effeithiau amgylcheddol cadarnhaol y gallai newid i ddefnyddio llongau arfordirol eu hategu
- gweithio gyda Grŵp Porthladdoedd Cymru a phartneriaid eraill ar Strategaeth Porthladdoedd a Môr ar gyfer Cymru, sy'n adlewyrchu heriau a chyfleoedd y cyd-destun newydd y mae'n rhaid i borthladdoedd – a'r busnesau sy'n ddibynnol arnynt – weithredu ynddo o ganlyniad i ymadael â’r UE
- gweithio gyda phorthladdoedd yng Nghymru i nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu economaidd yn y dyfodol, fel ynni adnewyddadwy ar y môr a datblygiadau arloesol ar gyfer datgarboneiddio
- cydnabod bod porthladdoedd a thrafnidiaeth forol yn ffactor allweddol wrth lunio bolisi ehangach ar gludo nwyddau a logisteg
- adolygu cyfyngiadau a chyfleoedd y system gynllunio mewn perthynas â phorthladdoedd, gan geisio lleihau rhwystrau i fuddsoddi, cynyddu effeithlonrwydd a hwyluso cydleoli ac integreiddio gweithgareddau yn well wrth gynnal safonau uchel ar gyfer cynaliadwyedd ar yr un pryd
- gweithio gyda Llywodraeth y DU ac eraill sy’n gwneud penderfyniadau ar amcanion a rennir ar gyfer porthladdoedd
- datblygu dealltwriaeth well o risgiau a chyfleoedd drwy drafod â’r diwydiant yn rheolaidd ac yn barhaus
- cefnogi cyfraniad ein porthladdoedd at yr economi ymwelwyr ledled Cymru.
Uchelgeisiau llesiant
Erbyn 2040 bydd porthladdoedd a harbwrs wedi gwneud cyfraniad sylweddol at ein huchelgeisiau llesiant oherwydd y canlynol:
Pobl a chymunedau
- mae porthladdoedd a harbwrs yn cynyddu lefelau gweithgarwch yng Nghymru drwy gefnogi hamdden a theithio llesol, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer hwylio, rhwyfo a chwaraeon
Yr amgylchedd
- mae trafnidiaeth forol yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn cefnogi rhwydweithiau logisteg carbon isel yng Nghymru
- mae gweithredu a datblygu porthladdoedd a harbwrs mewn modd effeithlon yn cefnogi cadwraeth forol a'r amgylchedd morol
Yr economi a lleoedd
- mae porthladdoedd a harbwrs yn arwain adferiad morol gwyrdd ledled Cymru, gan gynnwys prosiectau ynni adnewyddadwy, datgarboneiddio diwydiant ac ynni adnewyddadwy ar y môr
- mae porthladdoedd Cymru yn gweithredu fel pyrth rhyngwladol, gan gynyddu cyfleoedd masnach a mewnfuddsoddi yng Nghymru
- mae porthladdoedd a harbwrs yn ganolbwynt ar gyfer buddsoddi, creu swyddi lleol a darparu gwasanaethau lleol, a sicrhau manteision i economi ehangach Cymru
Ddiwylliant a’r Gymraeg
- mae siaradwyr Cymraeg yn gallu teithio gan ddefnyddio'r iaith o'u dewis
- mae asedau'r amgylchedd hanesyddol, gan gynnwys hanes morwrol cyfoethog Cymru, yn cael eu diogelu a'u cynnal wrth weithredu a datblygu porthladdoedd a harbwrs
Y pum ffordd o weithio
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- integreiddio porthladdoedd a thrafnidiaeth forol i gynlluniau a datblygiadau trafnidiaeth ehangach
- atal a lliniaru effeithiau ar yr amgylchedd sy'n deillio o borthladdoedd a thrafnidiaeth forol
- cydweithio â meysydd datblygu economaidd, ynni gwyrdd, hamdden a thwristiaeth i fanteisio i'r eithaf ar y rôl y gall porthladdoedd a thrafnidiaeth forol ei chwarae wrth gyflawni amcanion ehangach
- monitro ein blaenoriaethau pum mlynedd a'u hadolygu yn ôl yr angen, ynghyd â chyfraniad porthladdoedd a thrafnidiaeth forol at Lwybr Newydd yn ei chyfanrwydd.
7.9 Hedfanaeth
Gweledigaeth
Rydym wedi ymrwymo i gynnal capasiti hedfanaeth yng Nghymru, oherwydd y manteision mae’n eu rhoi i economi Cymru yn ei chyfanrwydd, wrth gydnabod yr heriau y mae hyn yn eu creu o ran cyrraedd ein targedau ar gyfer datgarboneiddio.
Blaenoriaethau
Yn ystod y pum mlynedd nesaf byddwn yn gwneud y canlynol:
- datblygu Maes Awyr Caerdydd i ddenu teithwyr o Gymru i gychwyn eu taith hedfan yn agosach i'w cartrefi
- gweithio gyda Llywodraeth y DU a Menter Jet Zero, yn ogystal â Maes Awyr Caerdydd, i leihau effeithiau amgylcheddol
- cefnogi Maes Awyr Caerdydd i adfer o'r effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ar y busnes a'r diwydiant ehangach
- ymgysylltu â meysydd awyr y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill i wella cysylltiadau rhanbarthol â Chymru fel rhan o'r broses cynllunio rhanbarthol
- parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i addasu polisïau hedfanaeth y DU gyfan yn benodol ar gyfer Cymru, gan gynnwys parhau i geisio datganoli'r Doll Teithwyr Awyr (APD) i Gymru a thrwy gyflwyno gwasanaethau awyr newydd o dan y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus (PSO)
- parhau i archwilio cyfleoedd i gysylltu Caerdydd a Chymru yn well â gweddill y DU ac Ewrop.
Uchelgeisiau llesiant
Erbyn 2040 bydd hedfanaeth yn cyfrannu at lesiant yng Nghymru oherwydd y canlynol:
Pobl a chymunedau
- mae Maes Awyr Caerdydd yn hygyrch ac mae gan staff y sgiliau a'r hyfforddiant i sicrhau bod pawb yn teimlo croeso a’u bod yn cael eu cefnogi lle y bo hynny’n briodol
Yr amgylchedd
- mae llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr o awyrennau yng Nghymru
- mae gan Faes Awyr Caerdydd strategaeth ddatgarboneiddio gadarn, sy'n cyflawni mesurau fel cynhyrchu ynni ar y safle, allforio ynni ac adeiladau carbon niwtral
Yr economi a lleoedd
- mae cymunedau ledled Cymru, gan gynnwys cymunedau gwledig, yn elwa ar gysylltiadau lleol a rhyngwladol gwell, mwy diogel
- mae cysylltiadau da yn golygu bod busnesau'n hyderus ynghylch symud i Gymru ac aros yng Nghymru, ac mae busnesau Cymru yn cyrraedd marchnadoedd newydd
- mae'r gadwyn gyflenwi hedfanaeth a hedfanaeth yn gyffredinol yn sicrhau manteision ar gyfer ardaloedd dan anfantais economaidd sydd wedi dioddef yn y gorffennol oherwydd diffyg swyddi o safon
- mae Cymru'n ganolfan ar gyfer sgiliau cynnal a chadw awyrennau a pheirianneg awyrennau, sy'n amlwg yn y gwaith cenedlaethol a rhyngwladol o ddarparu gwasanaethau Cynnal a Chadw, Atgyweirio ac Ailwampio (MRO)
- rydym wedi helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr rhyngwladol â Chymru a theithwyr busnes gan ddiogelu swyddi yn yr economi ymwelwyr ledled Cymru
Diwylliant a’r Gymraeg
- bydd rhagor o ymwelwyr rhyngwladol yn darganfod ac yn mwynhau ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a'n hiaith
- bydd rhagor o siaradwyr Cymraeg yn gallu teithio gan ddefnyddio'r Gymraeg
Y pum ffordd o weithio
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- cynnwys defnyddwyr gan gynnwys pobl sydd â nodweddion gwarchodedig wrth ddylunio ac uwchraddio cyfleusterau i deithwyr
- ystyried hedfanaeth mewn modd integredig, gan gydnabod y cysylltiadau rhwng hedfanaeth a datblygu rhanbarthol a chenedlaethol yng Nghymru
- cydweithio ag eraill gan gynnwys y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ac awdurdodau lleol i ddeall rôl hedfanaeth mewn meysydd polisi strategol eraill
- gweithio gyda llywodraeth y DU i leihau allyriadau o awyrennau yng Nghymru
- monitro ein blaenoriaethau pum mlynedd a'u hadolygu yn ôl yr angen, ynghyd â chyfraniad hedfanaeth at Lwybr Newydd yn ei chyfanrwydd.