Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ynghylch cymhwyso Treth Trafodiadau Tir mewn perthynas â phrydlesi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhowch adborth i ni ar y canllawiau hyn

Er mwyn ein helpu i wella'r canllawiau hyn, rhowch adborth i ni (mae’n cymryd 30 eiliad).

DTTT/4010 Cyflwyniad

Dylid nodi nad yw’r Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei chodi ar werth net presennol y rhenti sy'n daladwy yn sgil rhoi les breswyl; dim ond ar werth net presennol rhenti sy'n daladwy yn sgil rhoi lesoedd amhreswyl a chymysg y mae'r dreth yn daladwy. Mae rheolau arbennig yn berthnasol lle mae rhent a delir yn sgil rhoi les gymysg (les sy'n cynnwys eiddo preswyl ac amhreswyl). Gan hynny, ac eithrio lle nodwyd yn benodol, dylid darllen cyfeiriadau at les i olygu les ar gyfer eiddo amhreswyl.

Mae rheolau codi tâl penodol yn y Dreth Trafodiadau Tir sy'n ymwneud â lesoedd amhreswyl sy'n arwain, yn sgil rhoi les, at godi treth ar y rhent sy'n daladwy ac unrhyw gydnabyddiaeth ar wahân i rent (premiwm yn gyffredin). Yn achos aseinio les, yn gyffredinol, dim ond y gydnabyddiaeth a roddir i gaffael y les sy'n drethadwy. Mae hyn oherwydd y bydd y rhenti, ar y cyfan, wedi eu trethu’n barod (os ydynt yn uwch na’r band cyfradd 0% ar gyfer rhenti). Mae rheolau penodol yn berthnasol i godi tâl am aseinio fel pe bai'n achos o roi les.

Les yw:

  • buddiant neu hawl mewn tir neu dros dir am gyfnod o flynyddoedd, neu
  • unrhyw fuddiant neu hawl mewn tir neu dros dir y gellir ei derfynu drwy hysbysiad terfynu neu ar unwaith

Fodd bynnag, mae trwydded i feddiannu tir a thenantiaeth wrth ewyllys yn fuddiannau esempt, ac felly nid yw'n drethadwy o dan y Dreth Trafodiadau Tir.

DTTT/4020 Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi

(Rhan 5 Atodlen 6)

Treth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ar wahân i rent

(paragraff 33)

Mae symiau sy’n cael eu talu fel premiwm neu symiau eraill sy’n cael eu talu’n gydnabyddiaeth ar wahân i rent yn sgil rhoi neu aseinio les yn cael eu codi o dan y Dreth Trafodiadau Tir o dan y rheolau sy’n berthnasol i gydnabyddiaeth o’r fath.

Pan fydd les yn cael ei rhoi neu (pan fo’n briodol) pan fydd les yn cael ei haseinio ac yn cael ei thrin fel les sy’n cael ei rhoi, yn cynnwys cydnabyddiaeth ar wahân i rent a rhenti, mae’r dreth a gyfrifir o dan y rheolau perthnasol mewn cysylltiad â’r ddwy gydnabyddiaeth yn cael eu hadio i greu’r swm y mae’n ofynnol i’r trethdalwr roi cofnod hunanasesu ar ei gyfer. Dylid nodi, mewn rhai achosion, mae’r band cyfradd 0% ar gyfer cydnabyddiaeth ar wahân i rent yn cael ei dynnu o’r broses o gyfrifo’r dreth. 

Y dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent

(paragraff 29)

Cyfrifir swm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â rhent am les amhreswyl neu gymysg drwy ddefnyddio 3 cham:

  • cam 1 - cyfrifo gwerth net presennol y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnod y les
  • cam 2 - lluosi swm y rhent gwerth net presennol sydd ym mhob band treth â chyfradd y dreth ar gyfer y band hwnnw
  • cam 3 - adio’r symiau ar gyfer pob band treth i gael y cyfanswm sy’n ddyledus

Mae modd dod o hyd i’r dull o gyfrifo swm y gwerth net presennol ym mharagraff 31, Atodlen 6 DTTT ac ar gyfer y gyfradd disgownt amser ym mharagraff 32 yr atodlen honno. Mae rhagor o ganllawiau ar gyfrifo’r gwerth net presennol ar gael yn DTTT/4080.

Dylid nodi, mewn rhai achosion, mae’r band cyfradd 0% ar gyfer cydnabyddiaeth ar wahân i rent yn cael ei dynnu o’r broses o gyfrifo’r dreth.

Dylid cyfrifo’r gwerth net presennol ar sail cyfnod y les. Bydd y ffurflen ar-lein, y ffurflen bapur a’r gyfrifiannell treth yn gofyn i chi a ydych chi’n dymuno defnyddio dyddiad dod i rym y trafodiad neu ddyddiad cychwyn y les at ddibenion cyfrifo’r gwerth net presennol.

Fel rheol, bydd cyfnod y les yn cychwyn ar yr olaf o blith y canlynol:

  • dyddiad dechrau tymor y les (fel y nodir yn y les) neu
  • dyddiad rhoi’r les

Bydd angen i’r rhan fwyaf o lesoedd ddefnyddio dyddiad dod i rym y trafodiad i gyfrifo’r gwerth net presennol.  Fodd bynnag, mae rhai achosion lle mae’r ddeddfwriaeth yn nodi bod cyfnod y les yn cychwyn ar ddyddiad sy’n gynharach na dyddiad rhoi'r les. Y sefyllfaoedd mwyaf cyffredin o’r rhain yw lesoedd dal drosodd (DTTT/4060) a lle bo les yn parhau ar ôl cyfnod penodol a chaiff les newydd ei rhoi (DTTT/4030). Yn y math yma o drafodiadau, dylech felly gyfrifo’r gwerth net presennol gan ddefnyddio dyddiad cychwyn y les yn hytrach na’r dyddiad dod i rym.

Enghraifft 1

Rhoddir les i A Cyf am gyfnod o 10 mlynedd, heb bremiwm a rhenti gwerth net presennol o £100,000. Nid yw'r trafodiad yn gysylltiedig â'r un trafodiad arall. Mae'r swm hwnnw yn y band cyfradd 0%, ac felly'n £100,000 x 0% = £0.

Enghraifft 2

Rhoddir les i B Cyf am gyfnod o 10 mlynedd, heb bremiwm a rhenti gwerth net presennol o £500,000. Nid yw'r trafodiad yn gysylltiedig â'r un trafodiad arall. Swm y gwerth net presennol ym mand cyfradd 0% yw £225,000, a’r swm ym mand 1% yw £275,000. Gan hynny, y dreth sydd i'w chodi yw £275,000 x 1% = £2,750.

Enghraifft 3

Rhoddir les i C Cyf am gyfnod o 10 mlynedd, heb bremiwm a rhenti gwerth net presennol o £3,000,000. Nid yw'r trafodiad yn gysylltiedig â'r un trafodiad arall.  Swm y gwerth net presennol yn y band cyfradd 0% yw £225,000, y swm yn y band 1% yw £1,775,000 (gan fod y band ar gyfer rhenti dros £225,000 ond ddim mwy na £2,000,000), ac mae’r swm yn y band 2% yn £1,000,000 (y rhent nad yw mewn unrhyw fand arall hyd yma). Gan hynny, y dreth sydd i’w chodi yw £1,775,000 x 1% = £17,750, a £1,000,000 x 2% = £20,000. Gan hynny, cyfanswm y dreth sydd i’w godi yw £37,750.

Treth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ar wahân i rent: dim band 0% ar gyfer lesoedd amhreswyl

(paragraff 34) 

Pan fydd les wedi’i rhoi neu pan fydd yn cael ei thrin fel pe bai wedi cael ei rhoi, yn gydnabyddiaeth am rent, ac ar wahân i rent, os bydd swm y rhent blynyddol yn £9,000 neu’n fwy nid yw’r band 0% yn gydnabyddiaeth ar wahân i rent, yn berthnasol i'r premiwm ac ati.

Newidiodd trothwy’r rhent perthnasol ym mis Chwefror 2021.

Ar gyfer unrhyw drafodiad a gwblhawyd:

  • cyn 4 Chwefror 2021, y trothwy rhent perthnasol yw £9,000
  • ar neu ar ôl 4 Chwefror 2021, y trothwy rhent perthnasol yw £13,500

Enghraifft 1

Mae A Cyf yn caffael les am gyfnod o 10 mlynedd o dan y telerau canlynol; rhent blynyddol o £3,000 ynghyd â chydnabyddiaeth ar wahân i rent o £250,000. Gwerth net presennol y rhenti yw £24,955. Mae’r rhent blynyddol yn llai na’r swm o £13,500 felly nid yw’r rheol yn cael ei rhoi ar waith. Mae’r band cyfradd sero ar gyfer rhent a’r band cyfradd sero ar gyfer cydnabyddiaeth ar wahân i rent ar gael. Felly, gan fod y rhenti yn y band 0%, nid oes treth yn daladwy ar y rhan honno o’r gydnabyddiaeth. Mae’r gydnabyddiaeth ar wahân i rent yn swm sy’n fwy na’r band 0%. Mae’r dreth sy’n daladwy ar y rhan honno o’r gydnabyddiaeth yn £225,000 x 0% = £0 ynghyd â (£250,000-£225,000) x 1 % = £250. Felly, £250 yw’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n ddyledus.

Enghraifft 2

Mae B Cyf yn caffael les am gyfnod o 10 mlynedd o dan y telerau canlynol; rhent blynyddol o £15,000 ynghyd â chydnabyddiaeth ar wahân i rent o £250,000. Gwerth net presennol y rhenti yw £124,777. Mae’r rhent blynyddol yn hafal i’r swm o £13,500, neu’n fwy na hynny, felly mae’r rheol yn cael ei rhoi ar waith. Mae’r band 0% ar gyfer rhent ar gael ond nid yw’r band 0% ar gyfer cydnabyddiaeth ar wahân i rent ar gael. Mae’r rhenti yn y band 0%, felly nid oes treth yn daladwy ar y rhan honno o’r gydnabyddiaeth. Mae’r gydnabyddiaeth ar wahân i rent yn cael ei threthu fel pe bai’r band 1%, yn berthnasol i gydnabyddiaeth o ddim llai na £0 i ddim mwy na £250,000. Mae’r dreth sy’n daladwy ar y rhan honno o’r gydnabyddiaeth yn £250,000 x 1% = £2,500. Felly, £2,500 yw’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n ddyledus.

Enghraifft 3

Mae C Cyf yn caffael les am gyfnod o 10 mlynedd o dan y telerau canlynol; rhent blynyddol o £30,000 ynghyd â chydnabyddiaeth ar wahân i rent o £250,000. Gwerth net presennol y rhenti yw £249,554. Mae’r rhent blynyddol yn fwy na’r swm o £13,500 felly mae’r rheol yn cael ei rhoi ar waith. Mae’r band 0% ar gyfer rhent ar gael ond nid yw’r band 0% ar gyfer cydnabyddiaeth ar wahân i rent ar gael. Mae’r rhenti sy’n daladwy yn uwch na’r band 0%, felly bydd treth yn daladwy ar y rhan hon o’r gydnabyddiaeth. Y dreth ar y rhenti yw £225,000 x 0% = £0, ynghyd â (£249,498-£225,000) x 1% = £249.48. Mae’r gydnabyddiaeth ar wahân i rent yn cael ei threthu fel pe bai’r band 1%, yn berthnasol i gydnabyddiaeth o ddim llai na £0 i ddim mwy na £250,000. Mae’r dreth sy’n daladwy ar y rhan honno o’r gydnabyddiaeth yn £250,000 x 1% = £2,500. Felly, £2,749.48 (£249.48 + £2,500) yw’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n ddyledus.

Treth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ar wahân i rent: dim band 0% ar gyfer lesoedd cymysg

(paragraff 35)

Lle mae'r les ar gyfer eiddo preswyl ac amhreswyl, ac y rhoddir cydnabyddiaeth ar wahân i rent, caiff y les ei thrin fel pe bai'n ddwy les ar wahân ond eto’n gysylltiedig - y naill ar gyfer eiddo preswyl a’r llall ar gyfer eiddo amhreswyl.

Mae'n rhaid i'r rhent sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r eiddo preswyl ac amhreswyl gael ei ddosrannu, ar sail deg a rhesymol, i benderfynu a yw'r rhent y gellir ei phriodoli i'r eiddo amhreswyl yn fwy na £13,500. Dyma'r achos lle mynegir y rhent fel un ffigur, ond hefyd lle mae'r les yn pennu'r rhent sy'n daladwy ar gyfer yr holl fathau o eiddo. Mae hyn yn sicrhau bod sylwedd y trafodiad yn cael ei drethu'n gywir.

Fodd bynnag, dylid nodi, er mwyn cyfrifo'r dreth sy'n ddyledus, bod y swm cyfan o rent yn cael ei drin fel cydnabyddiaeth drethadwy oherwydd bod y les yn les gymysg yn rhinwedd y ffaith bod cysylltiad rhwng y ddwy les.

Enghraifft

Rhoddir les i Ms A am gyfnod o 10 mlynedd ar adeilad 2 lawr. Mae'r llawr uchaf yn un eiddo preswyl, ac mae'r llawr gwaelod yn siop. Y gydnabyddiaeth a roddir yn y les yw premiwm o £350,000 a rhent blynyddol o £35,000 y flwyddyn (gyda gwerth net presennol o £291,081). Nid yw'r les yn nodi'r rhaniad rhwng y gydnabyddiaeth a roddir ar gyfer rhan breswyl a rhan amhreswyl yr eiddo.

Mae'r rheolau yn mynnu bod y trafodiad yn cael ei rannu'n ddau drafodiad ar wahân ond cysylltiol; un ar gyfer yr eiddo preswyl ac un ar gyfer yr eiddo amhreswyl.

Y rhaniad teg a rhesymol rhwng y rhan breswyl a'r rhan amhreswyl yw 1/5 ar gyfer y rhan breswyl a 4/5 ar gyfer y rhan amhreswyl.

Y rhent blynyddol sydd i’w briodoli, wedi’i ddosrannu’n deg a rhesymol, ar gyfer y rhent amhreswyl yw £35,000 x 4/5 = £28,000. Mae hyn yn fwy na £13,500; felly, nid yw’r band 0% ar gael ar gyfer y gydnabyddiaeth ar wahân i rent, mewn cysylltiad â’r trafodiad amhreswyl.

Mae’r gydnabyddiaeth ar wahân i rent, mewn cysylltiad â’r trafodiad amhreswyl yn £350,000 x 4/5 = £280,000. Mae’r gydnabyddiaeth ar wahân i rent, mewn cysylltiad â’r trafodiad preswyl yn £350,000 X 1/5 = £70,000.

Mae’r rheolau trafodiadau cysylltiol ar gyfer cydnabyddiaeth ar wahân i rent yn berthnasol. Mae’r cyfraddau a'r bandiau amhreswyl yn berthnasol gan fod y trafodiad yn cynnwys eiddo preswyl ac amhreswyl.

Ymdrinnir â chyfanswm y dreth sy’n ddyledus ar y trafodiad preswyl o dan y rheol trafodiadau cysylltiol fel a ganlyn: Mae cyfanswm y gydnabyddiaeth ar wahân i rent yn £350,000. Mae’r band 0% ar gyfer cydnabyddiaeth ar wahân i rent ar gyfer eiddo amhreswyl yn berthnasol. Gan hynny, y dreth sy'n daladwy yw £225,000 x 0% = £0, ynghyd â (£350,000-£225,000) x 1 % = £1,250.  Y ffracsiwn perthnasol o’r rhaniad teg a rhesymol yw 1/5, felly mae’r Dreth Trafodiadau Tir mewn cysylltiad â’r eiddo preswyl yn £250 (£1,000 X 1/5 = £250).

Fodd bynnag, fel yr eglurwyd uchod, nid yw’r band 0% ar gyfer cydnabyddiaeth ar wahân i rent ar gael ar gyfer yr eiddo amhreswyl (gan fod y rhent, wedi’i ddosrannu’n deg ac yn rhesymol, yn hafal i £13,500 neu’n fwy na hynny). Mae cyfanswm y dreth sy’n ddyledus ar yr eiddo amhreswyl o dan y rheol trafodiadau cysylltiol yn £7,500 (£250,000 x 1% = £2,500 ynghyd â £350,000 - £250,000 x 5% = £5,000 sy’n gyfanswm o £7,500), 4/5 yw’r ffracsiwn perthnasol, sy’n golygu mai £2,000 (£7,500 X 4/5 = £6,000) yw’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer y trafodiad amhreswyl.

Nid yw’r gwerth net presennol yn cael ei ddosrannu rhwng y trafodiadau preswyl ac amhreswyl at ddibenion cyfrifo’r dreth sy’n ddyledus gan fod y trafodiad yn cael ei drin fel les gymysg. Gan hynny, mae'r Dreth Trafodiadau Tir sy'n ddyledus ar werth net presennol y rhenti, yn seiliedig ar y tabl amhreswyl a defnydd cymysg ar gyfer rhenti, yn £660.81 (£0 i £225,000 x 0% ynghyd â £225,000 i £391,081 x 1%).

Cyfanswm y dreth sy’n ddyledus ar y trafodiad hwn yw £6,910.81 (£250 + £6,000 + £660.81).

Y dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhent: trafodiadau cysylltiol

(paragraff 30)

Os yw'r les yn les amhreswyl neu’n les gymysg, ac yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, cyfrifir swm y dreth sydd i’w godi gan ddefnyddio'r camau a ganlyn:

  • cam 1 - cyfrifo cyfanswm gwerthoedd net presennol (‘CGNP’) y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnodau’r lesoedd cysylltiol
  • cam 2 - ar gyfer pob band sy’n gymwys i’r caffaeliad, lluosi hynny o’r CGNP sydd o fewn y band gyda’r gyfradd dreth ar gyfer y band hwnnw
  • cam 3 - cyfrifo cyfanswm y symiau sy’n deillio o gam 2.  Y canlyniad yw cyfanswm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â rhent ar gyfer y lesoedd cysylltiol
  • cam 4 - rhannu GNP y rhent  sy’n  daladwy  yn  ystod  cyfnod  y  les  o  dan  sylw  gyda’r CGNP
  • cam 5 - lluosi cyfanswm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â rhent gyda’r ffracsiwn sy’n deillio o gam 4

y canlyniad yw cyfanswm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â rhent ar gyfer y les o dan sylw.

Enghraifft

Rhoddir les i A Cyf ar eiddo amhreswyl gan B Cyf. Mae A Cyf yn nodi ei fod hefyd eisiau rhentu ail eiddo gan B Cyf. Mae ffeithiau penodol yr achos yn golygu bod y ddwy les yn cael eu cysylltu er eu bod wedi'u gwahanu gan amser, y ddau drafodiad wedi’i gwblhau ym mis Mawrth 2021. Y gwerth net presennol ar y les gyntaf yw £250,000 ac mae’r dreth sydd i'w chodi yn £250. Mae rhoi’r ail les yn drafodiad cysylltiol. Y gwerth net presennol ar gyfer yr ail les yw £300,000.

Gan ddilyn y camau uchod, y rhwymedigaeth ar gyfer treth yw:

  • cam 1 – CGNP yw £550,000
  • cam 2 – gan ddefnyddio’r cyfraddau a’r bandiau sydd mewn grym ar 22 Rhagfyr 2020, y rhwymedigaeth ar gyfer treth yw £0 i £225,000 x 0% = £0, ynghyd â, £225,000 i £550,000 x 1% = £3,250
  • cam 3 – mae cyfanswm y symiau yng ngham 2 yn £3,250
  • cam 4 – mae gwerth net presennol y les dan sylw (yr ail les) yn £300,000. Mae hyn yn cael ei rannu â’r CGNP.  Felly, 300000/550000 yw’r swm, sef ffracsiwn o 6/11
  • cam 5 – lluosi cyfanswm y dreth â’r ffracsiwn - £3,250 x 6/11 = £1,772.73

Dylai’r ffurflen dreth ar gyfer y les ddiweddaraf hunanasesu rhwymedigaeth o £1,772.73. Dylid anfon ffurflen dreth ychwanegol ar gyfer y les gynharach hefyd, a hynny erbyn dyddiad ffeilio’r les a roddwyd o’r newydd. Bydd yn rhaid defnyddio’r un dull cyfrifo ag uchod ar gyfer camau 1 i 3 ar y ffurflen dreth ychwanegol hon. Ond, bydd cam 4 yn defnyddio 250000/550000 i gael ffracsiwn o 5/11.

Bydd cam 5 yn pennu rhwymedigaeth o £1477.27. Gan fod cyfanswm o £250 wedi cael ei hunanasesu a’i dalu wrth ffeilio’r ffurflen dreth gyntaf ar gyfer y trafodiad hwn, bydd angen i’r ffurflen dreth ychwanegol hunanasesu’r £1227.72 o Dreth Trafodiadau Tir ychwanegol sydd nawr yn ddyledus ar gyfer y trafodiad hwnnw.

Lesoedd refersiynol

Mae les refersiynol yn les sy’n cael ei dyfarnu pan mae dyddiad dechrau’r les yn ddyddiad yn y dyfodol, h.y. tymor y les yn dechrau ar ôl y dyddiad pryd dyfarnwyd y les.

O dan yr amgylchiadau hyn, dyddiad gweithredol y trafodiad yw’r dyddiad dyfarnu’r les, ac nid y dyddiad pryd mae tymor y les yn dechrau.

Caiff y Gwerth Presennol Net (GPN) ei gyfrif ar sail y rhent sy’n daladwy yn ystod tymor y les, gyda’r dyddiad dechrau yr olaf o blith y ddau isod:

  • dyddiad dechrau tymor y les (fel y nodir yn y les) neu
  • dyddiad dyfarnu’r les

Enghraiff

Mae les refersiynol yn cael ei dyfarnu ar 1 Mehefin 2019 ac mae ei thymor yn dechrau ar, ac yn cynnwys, 1 Ionawr 2020 tan 31 Rhagfyr 2025. Gan fod y les wedi cael ei dyfarnu, nid yw hwn yn gytundeb i roi les. Dyddiad gweithredol y trafodiad yw’r dyddiad dyfarnu’r les (yn yr achos hwn, 1 Mehefin 2019). Caiff y Gwerth Presennol Net (GPN) ei gyfrif o ddyddiad dechrau’r les (yn yr achos hwn, 1 Ionawr 2020).

DTTT/4030 Hyd lesoedd a lesodd sy’n gorgyffwrdd: cyfnodau penodol, lesoedd sy’n parhau, rhoi les newydd a chyfnodau amhenodol

(Rhan 2 Atodlen 6)

Les cyfnod penodol

(paragraff 2 Atodlen 6)

Os yw'r les am gyfnod penodol, sydd â dyddiad cychwyn a therfyn wedi eu nodi (neu lle gellir sefydlu'r dyddiadau hynny), yna ni fydd unrhyw eitem ddigwyddiadol neu hawl a allai arwain at derfynu'r les cyn y dyddiad terfynu hwnnw, neu unrhyw hawl i adnewyddu'r les, yn cael ei hystyried wrth sefydlu'r tâl treth.

Gall les am dymor penodol gael ei mynegi naill ai fel 'o' ddyddiad neu 'o ddyddiad ac yn cynnwys y dyddiad hwnnw’. Gan hynny, mae les sydd am gyfnod o 10 mlynedd o 25 Mawrth 2020 yn dechrau ar 26 Mawrth 2020 ac yn dod i ben ar 25 Mawrth 2030. Ar y llaw arall, mae les am gyfnod o 10 mlynedd o 25 Mawrth 2020 ac yn cynnwys y dyddiad hwnnw yn dechrau ar 25 Mawrth 2020 ac yn dod i ben ar 24 Mawrth 2030.

Enghraifft

Rhoddir les i A Cyf am gyfnod o 10 mlynedd, o 1 Ionawr 2020 ymlaen gan gynnwys y dyddiad hwnnw. Mae gan y landlord B Cyf, hawl i derfynu’r les ar 31 Rhagfyr 2024 cyn belled â bod rhybudd yn cael ei roi cyn 30 Medi 2024. Er gwaethaf yr hawl hwn i derfynu’r les, caiff y les ei thrin fel un ar gyfer 10 mlynedd.

Lesoedd sy’n parhau ar ôl cyfnod penodol

(paragraff 3 Atodlen 6)

Ymdrinnir â lesoedd a roddir am gyfnod penodol ‘ac wedi hynny hyd y caiff ei phennu’ neu am gyfnod penodol a all barhau y tu hwnt i’r cyfnod penodol ‘yn sgil gweithredu’r gyfraith’ at ddibenion Treth Trafodiadau Tir fel pe bai ar gyfer y cyfnod penodol a nodir pan roddir y les. Mae lesoedd o’r fath yn cynnwys tenantiaethau busnes yn Rhan II o Ddeddf Landlord a Thenant 1954 (DLTh54) a fydd fel rheol yn parhau y tu hwnt i’r cyfnod contractiol, nes bydd yn cael ei therfynu neu nes bydd tenantiaeth newydd yn cael ei rhoi.
 
Ni fydd les yn parhau’n awtomatig y tu hwnt i’w chyfnod contractiol, er enghraifft, os yw tenantiaeth busnes yn cael ei chontractio allan o DLTh54 neu os bydd tenant busnes yn colli’r hawl i adnewyddu’r les. Mewn nifer o achosion, gall tenant sydd yn parhau i feddiannu ar ddiwedd cyfnod contractiol les o’r fath, fod yn tresmasu, yn benodol, neu gall fod tenantiaeth wrth ewyllys neu drwydded contractiol. Os bydd y tenant yn parhau i feddiannu yn yr amgylchiadau hyn, nid oes goblygiadau Treth Trafodiadau Tir, ac nid oes treth ychwanegol i’w chodi yn ystod y cyfnod pan fydd y trethdalwr yn parhau i feddiannu.

Fodd bynnag, mae goblygiadau Treth Trafodiadau Tir mewn achosion pan ymdrinnir â’r les fel pe bai’n parhau y tu hwnt i’w chyfnod contractiol a phan fydd rhent yn parhau i fod yn daladwy, er enghraifft:

  • mae tenantiaeth busnes yn Rhan II DLTh54 fel rheol yn parhau y tu hwnt i’w chyfnod contractiol nes bydd yn cael ei therfynu neu nes bydd tenantiaeth newydd yn cael ei rhoi
  • ar ddiwedd tenantiaeth busnes sydd o dan gontract o dan Ran II DLTh54, neu pan fydd yr hawl i adnewyddu yn cael ei cholli, gall les ymhlyg newydd godi
  • ar gyfer y rhan fwyaf o denantiaethau byrddaliadol preswyl a roddir am gyfnod penodol i ddechrau, mae tenantiaeth gyfnodol statudol yn dilyn diwedd y cyfnod contractiol

Ymdrinnir â’r lesoedd hyn at ddibenion Treth Trafodiadau Tir fel les sy’n para blwyddyn yn hwy na’r cyfnod gwreiddiol, heb ystyried unrhyw reol arall na gweithredu'r gyfraith, sy’n pennu y dylent gael eu hymestyn am gyfnod hwy neu gyfnod llai.

Felly, caiff lesoedd eu trin fel hyn:

  1. Parhau am hyd y cyfnod penodol gwreiddiol.
  2. Os yw’r les yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod penodol, caiff ei thrin fel les am gyfnod penodol sydd flwyddyn yn hwy na’r cyfnod penodol gwreiddiol.
  3. Os yw'r les yn parhau ar ôl yr estyniad hwn o flwyddyn, caiff ei thrin fel les wedi’i hymestyn am flwyddyn arall, ac yn y blaen, nes bydd les newydd yn cael ei rhoi neu nes caiff y les ei phennu.  
  4. Os yw'r les yn dod i ben yn ystod unrhyw ran o flwyddyn yn ystod y cyfnodau pellach a nodir ym mhwynt 2 a 3 uchod, caiff y les ei thrin fel un sy'n parhau tan y dyddiad terfynu hwnnw.

Os yw gwerth net presennol ychwanegol y les estynedig yn arwain at godi tâl neu dâl ychwanegol o dan y Dreth Trafodiadau Tir, mae angen ffurflen dreth neu ffurflen dreth ychwanegol. Rhaid cyflwyno’r ffurflen neu'r ffurflen ychwanegol o fewn 30 diwrnod i'r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod estynedig hwnnw. Mae'r rhwymedigaeth ar gyfer treth yn seiliedig ar y cyfraddau a'r bandiau sydd mewn grym ar y dyddiad y rhoddwyd y les yn y lle cyntaf (hynny yw, y dyddiad y mae’r trafodiad yn dod i rym)

Enghraifft

Rhoddwyd les am gyfnod o 5 mlynedd i A Cyf ar gyfer eiddo amhreswyl yn dechrau ar 1 Ionawr 2020.  Mae'r trafodiad yn hysbysadwy, ac mae ffurflen dreth yn cael ei chyflwyno. Mae A Cyf yn aros mewn meddiant ar ôl diwedd y cyfnod penodol a fynegwyd yn y les (31 Rhagfyr 2024). Ar 31 Rhagfyr 2025 mae A Cyf yn dal i fod mewn meddiant, ac erbyn hyn mae'n rhwym i anfon ffurflen dreth ychwanegol erbyn 30 Ionawr 2026, a bydd y dreth ychwanegol yn cael ei chyfrifo drwy drin y les fel pe bai'n un ar gyfer 6 blynedd yn wreiddiol, yn hytrach na'r 5 mlynedd wreiddiol. Mae canlyniad y cyfrifiad hwnnw yn cael ei ddidynnu o'r dreth a aseswyd yn wreiddiol i sefydlu'r swm ychwanegol sy'n daladwy. Mae A Cyf yn parhau i fod mewn meddiant ac yn dal i fod mewn meddiant ar 31 Rhagfyr 2026. Gan hynny, mae angen cyflwyno ffurflen dreth ychwanegol erbyn 30 Ionawr 2027 gyda'r dreth ychwanegol yn cael ei chyfrifo fel pe bai'r les yn les 7 mlynedd. Ar 30 Mehefin 2027, terfynir y les. Gan hynny, mae'n rhaid i A Cyf gyflwyno ffurflen dreth arall erbyn 30 Gorffennaf 2027 gyda'r dreth ychwanegol wedi ei chyfrifo fel pe bai'r les yn 7 mlynedd a 181 diwrnod o hyd (hynny yw, o 1 Ionawr 2020 i 30 Mehefin 2027).

Dylid nodi bod lesoedd am gyfnod penodol a ddechreuodd o dan Dreth Dir y Dreth Stamp yn parhau i fod yn drethadwy o dan Dreth Dir y Dreth Stamp pan fyddant yn parhau ar ddiwedd y cyfnod penodol hwnnw.

Lesoedd sy’n parhau ar ôl cyfnod penodol: rhoi les newydd

(paragraff 4 Atodlen 6)

Lle mae'r trethdalwr wedi parhau i fod mewn meddiant a bod y les yn cael ei thrin fel parhad ar ôl y cyfnod penodol ar gyfer blwyddyn, neu fwy na blwyddyn, yn hwy na'r cyfnod penodol gwreiddiol, ond:

  • yn ystod unrhyw gyfnod estynedig perthnasol o flwyddyn, mae les newydd ar gyfer yr un eiddo, neu’r un eiddo i raddau helaeth, yn cael ei rhoi i’r tenant
  • pan fo cyfnod y les newydd honno’n dechrau yn ystod y flwyddyn honno, a 
  • phan nad yw'r darpariaethau sy'n ymwneud â thenantiaid yn dal drosodd: ôl-ddyddio les newydd i flwyddyn flaenorol yn gymwys

yna ni chaiff y les ei thrin fel un sy'n parhau am y cyfnod estynedig hwnnw o flwyddyn (neu ran o'r un flwyddyn honno), ond yn hytrach caiff cyfnod y les newydd ei drin fel un sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl i'r cyfnod penodol gwreiddiol ddod i ben (neu unrhyw gyfnod estynedig o flwyddyn lawn fel bo'n briodol). Dyddiad dechrau’r les yw hwn.

Mae rhent sy'n daladwy o dan y les wreiddiol mewn cysylltiad â'r cyfnod hwnnw o flwyddyn (neu ran ohono) i'w drin fel rhent taladwy o dan y les newydd.

Enghraifft

Rhoddir les i A Cyf ar gyfer eiddo amhreswyl, o 1 Ebrill 2020 gan gynnwys y dyddiad hwnnw, am gyfnod o 3 blynedd am rent blynyddol o £120,000 (yn daladwy bob chwarter). Ar ddiwedd y cyfnod penodol hwnnw (31 Mawrth 2023) roedd A Cyf yn dal i fod mewn meddiant a pharhaodd i dalu'r un rhent i'w landlord. Ar 1 Ebrill 2024 mae A Cyf yn dal i fod mewn meddiant. Mae'n rhaid iddo gyflwyno ffurflen dreth ychwanegol i'r Awdurdod Cyllid erbyn 30 Ebrill 2024 i dalu'r dreth ychwanegol sy'n ddyledus ar yr hyn sydd bellach yn cael ei drin fel les 4 blynedd. Ar 1 Gorffennaf 2024, rhoddir les newydd o 3 blynedd i A Cyf, am rent blynyddol o £150,000, gan ei landlord sy'n dechrau ar 1 Gorffennaf 2024 ac yn cynnwys y dyddiad hwnnw. Gan fod y les newydd yn cael ei rhoi mewn blwyddyn lle mae'r les cyfnod penodol gwreiddiol yn cael ei thrin fel estyniad (ac nad yw'n cael ei ôl-ddyddio i flwyddyn flaenorol), tybir bod y les newydd wedi dechrau ar 1 Ebrill 2024 ac y daw i ben ar 30 Mehefin 2027. Gan hynny, rhoddir y les am 3 blynedd a 91 diwrnod. Y rhent ar gyfer blwyddyn gyntaf y les fydd £29,917 (rhent 91 diwrnod yr hen les, sef £120,000) ynghyd â £112,602 (274 diwrnod o rent blynyddol y les newydd, sef £150,000), sef cyfanswm o £142,519. Y rhenti ar gyfer yr ail a’r drydedd flwyddyn yw £150,000 yr un, a'r rhent am y tri mis olaf yw £37,397 (91/365x£150,000). Rhaid cyflwyno'r ffurflen dreth ar gyfer y les a roddwyd o’r newydd erbyn 31 Gorffennaf 2024 (hynny yw, 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn dod i rym - rhoi'r les).

Lesoedd am gyfnod amhenodol

(paragraff 5 Atodlen 6)

Caiff les am gyfnod amhenodol - hynny yw, unrhyw les lle na ellir canfod cyfnod y les drwy eiriad y les neu ddogfen atodol arall yn unig (ee tenantiaeth gyfnodol neu les am oes), ei thrin, pan gaiff ei rhoi yn y lle cyntaf, fel les am gyfnod penodol o flwyddyn. Os bydd y les yn parhau y tu hwnt i'r flwyddyn gyntaf, yna caiff ei thrin fel pe bai'n les am gyfnod penodol o ddwy flynedd. Os bydd yn parhau y tu hwnt i’r ail flwyddyn, caiff ei thrin fel pe bai’n les am gyfnod penodol o dair blynedd, ac ati.

Fodd bynnag, os nad yw’r les yn hysbysadwy yna ni fydd y rheolau uchod yn berthnasol nes bydd y les yn hysbysadwy (er enghraifft, os yw'r cyfnod wedi cyrraedd 7 mlynedd, neu os oes treth i’w chodi ar gyfradd o fwy na 0%, ac ati). Dylid nodi bod les am gyfnod amhenodol yn cael ei thrin, pan roddir y les, fel les am lai na 7 mlynedd.

Bydd rhwymedigaethau ffeilio’r trethdalwr yn dibynnu ar a yw rhoi'r les yn hysbysadwy, ynteu'n datblygu felly o ganlyniad i estyniadau dilynol blynyddol.

Os yw’r les sy’n cael ei rhoi am gyfnod amhenodol (sy'n cael ei thrin fel les am gyfnod penodol o flwyddyn) yn drafodiad hysbysadwy, yna mae'n rhaid i'r trethdalwr anfon ffurflen dreth at yr Awdurdod Cyllid cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod, sy'n dechrau gyda’r diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn dod i rym.  Pan fo estyniad ar les, yna mae rhwymedigaeth ar y trethdalwr i anfon y ffurflen dreth ychwanegol honno cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod, gan ddechrau gyda’r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod hwy y caiff y ffurflen ei thrin fel parhad.

Os daw'r trafodiad tir yn hysbysadwy dim ond oherwydd estyniad les am flwyddyn ryw dro’n ddiweddarach, yna mae'r rhwymedigaeth ffeilio yn codi ar y pwynt hwnnw.

Enghraifft 1

Rhoddir les i A Cyf am gyfnod amhenodol sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2020. Felly, mae’n hysbysadwy fod A Cyf o dan rwymedigaeth i ddychwelyd ffurflen dreth erbyn 31 Ionawr 2020. Mae’r les honno’n parhau am ail flwyddyn. Ar ddiwedd yr ail flwyddyn honno, mae’r trethdalwr o dan rwymedigaeth i ddychwelyd ffurflen dreth (a thalu’r drech ychwanegol sy’n ddyledus) erbyn 30 Ionawr 2022, hynny yw, cyn pen diwedd 30 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod penodol hwy o flwyddyn. Mae’r rheol hon yn berthnasol wedyn ar ddiwedd y drydedd flwyddyn, ac ati.

Enghraifft 2

Rhoddir les i B Cyf am gyfnod amhenodol sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2020.  Nid yw’n hysbysadwy ar y pwynt hwn oherwydd caiff y les ei thrin fel un ar gyfer cyfnod o lai na 7 mlynedd, ac nid oes treth yn daladwy. Mae’r les yn parhau, ond ar ddiwedd yr ail flwyddyn, mae’n parhau i beidio â bod yn hysbysadwy. Mae’r les yn parhau am drydedd flwyddyn ac ar ddiwedd y drydedd flwyddyn honno, mae’r les yn hysbysadwy, oherwydd mae treth i’w thalu ar sail gwerth net presennol tair blynedd o rent.  Gan hynny, mae'n rhaid i'r trethdalwr ddychwelyd ffurflen dreth, a thalu’r dreth sy'n ddyledus, erbyn 30 Ionawr 2023. Os bydd y les yn parhau am ragor o flynyddoedd, yna bydd rhwymedigaeth flynyddol i ddychwelyd ffurflen dreth yn codi.

Os caiff les ei thrin fel les am gyfnod penodol o ddwy flynedd neu ragor, a’i bod yn cael ei therfynu yn ystod y cyfnod estynedig; caiff y les ei thrin fel un sydd wedi’i hymestyn dim ond tan y dyddiad hwnnw, ac mae’r dyddiad terfynu hwnnw yn creu rhwymedigaeth ar y trethdalwr i ddychwelyd ffurflen dreth (os yw’r trafodiad tir yn hysbysadwy). Golyga hyn fod les sy’n cael ei rhoi am gyfnod amhenodol, yn cael ei thrin, pan gaiff ei rhoi, fel un sydd â chyfnod o un flwyddyn lawn o leiaf (ond gweler isod am achosion lle bydd y les yn cael ei therfynu yn ystod y flwyddyn gyntaf honno) ac wedi hynny bydd y trethdalwr yn cael ei asesu ar hyd gwirioneddol y cyfnod.

Enghraifft 3

Rhoddir les i C Cyf am gyfnod amhenodol sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2020. Mae’r les am swm blynyddol o rent, sef £100,000 ac nid oes cydnabyddiaeth ar wahân i rent. Nid yw’r trafodiad tir yn hysbysadwy ar y pwynt hwn, gan fod y cyfnod am lai na 7 mlynedd ac nid oes treth yn daladwy ac nid oes rhyddhad wedi’i hawlio. Mae’r les yn para am flwyddyn arall, ac mae bellach yn drafodiad hysbysadwy gan fod Treth Trafodiadau Tir yn daladwy ar werth 28net presennol dwy flynedd o rent. Mae'n rhaid i'r trethdalwr ddychwelyd y ffurflen dreth hon, a thalu’r dreth, erbyn 30 Ionawr 2022. Ar 30 Mehefin 2022, terfynir y les. Mae rhwymedigaeth ar y trethdalwr i ddychwelyd ffurflen dreth ar gyfer y cyfnod ychwanegol hwn o 6 mis a thalu’r dreth ychwanegol sy’n angenrheidiol erbyn 30 Gorffennaf 2022 (hynny yw, 30 diwrnod ar ôl i’r cyfnod estynedig ddod i ben).

Os bydd les am gyfnod amhenodol yn terfynu yn ystod y flwyddyn gyntaf, ac y byddai llai o dreth yn daladwy o ganlyniad i hynny, yna gall y trethdalwr ddiwygio’i ffurflen dreth yn ystod y cyfnod a roddir gan y system Casglu a Rheoli Trethi ar gyfer gwneud newidiadau o’r fath.

Enghraifft 4

Rhoddir les i D Cyf am gyfnod amhenodol sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2020. £366,000 yw’r rhent sy’n daladwy ar gyfer y flwyddyn gyntaf honno (hynny yw, £1,000 y diwrnod). Mae’r trafodiad tir yn hysbysadwy a rhaid i D Cyf ddychwelyd ffurflen dreth a thalu Treth Trafodiadau Tir ar sail gwerth net presennol £353,623 erbyn 31 Ionawr 2020. Ar 30 Medi 2020, terfynir y les. Caiff y trethdalwr ddiwygio ei ffurflen dreth erbyn 31 Ionawr 2021, i ddangos gwerth net presennol rent o £264,734 a hawlio’r dreth a ordalwyd yn ôl.

DTTT/4040 Lesoedd olynol

(paragraff 6 Atodlen 6)

Bydd cyfres o lesoedd yn bodoli’n aml rhwng yr un partïon; er enghraifft, pan fydd les fer yn cael ei hadnewyddu gan yr un tenant a landlord. Bydd les sy’n cael ei hadnewyddu’n cael ei thrin fel un sy’n gysylltiedig â’r les wreiddiol os, er enghraifft, oedd y rhent wedi’i bennu o dan delerau’r les wreiddiol, neu os y nodir ei fod yr un fath â’r hyn a oedd yn daladwy o dan y les wreiddiol.

Lesoedd cysylltiedig olynol

Pan fydd lesoedd ar gyfer yr un eiddo yn cael eu rhoi:

  • rhwng yr un partïon neu bartïon cysylltiedig
  • i ddod i rym, un yn syth ar ôl y llall
  • boed hynny ar yr un pryd neu beidio

mae’r rhain yn lesoedd cysylltiol olynol at ddibenion Treth Trafodiadau Tir, a chyfrifir y dreth fel pe bai’r gyfres o lesoedd cysylltiol yn un les. Cyfrifir Treth Trafodiadau Tir fel pe bai’r gyfres o lesoedd yn un les:

  • sy’n cael ei rhoi ar adeg rhoi’r les gyntaf yn y gyfres
  • am gyfnod sy’n cyfateb i gyfnodau’r holl lesoedd gyda’i gilydd yn y gyfres, ac
  • yn gydnabyddiaeth am y rhent sy’n daladwy o dan yr holl lesoedd yn y gyfres

Lesoedd olynol nad ydynt yn lesoedd cysylltiol olynol

Bydd cyfres o lesoedd yn bodoli’n aml rhwng yr un partïon; er enghraifft, pan fydd les fer yn cael ei hadnewyddu gan yr un tenant a landlord. Bydd les sy’n cael ei hadnewyddu’n cael ei thrin fel un sy’n gysylltiedig â’r les wreiddiol, er enghraifft, os oedd y rhent wedi’i bennu o dan delerau’r les wreiddiol, neu wedi’i nodi yr un fath â’r hyn a oedd yn daladwy o dan y les wreiddiol.

Ond, ni fydd y broses o adnewyddu les yn cael ei thrin fel un sy’n gysylltiedig â’r les wreiddiol o gwbl at ddibenion Treth Trafodiadau Tir os oes modd dangos (gyda’r dystiolaeth briodol) bod ei thelerau wedi cael eu trafod hyd braich, er enghraifft, os oedd y les wreiddiol neu gynharach:

  • wedi dod i ben yn naturiol
  • ddim yn cynnwys unrhyw hawl i’r naill barti na’r llall adnewyddu nac yn eu gorfodi i wneud hynny, a/neu
  • wedi cael ei hadnewyddu yn dilyn trafod telerau cwbl newydd, fel y byddai’n berthnasol i denant newydd

Enghraifft

Rhoddir les am gyfnod o 3 blynedd i A Cyf ar 1 Ionawr 2020 am rent o £70,000 y flwyddyn, ac mae’n cynnwys yn ei thelerau, yr hawl i adnewyddu'r les am yr un rhent pan ddaw i ben. Ni roddir cydnabyddiaeth ar wahân i rent. Ar 1 Ionawr 2023, rhoddir les newydd 3 blynedd ar yr un telerau, a rhwng yr un partïon. Mae’r rhain yn lesoedd olynol, a chyfrifir y Dreth Trafodiadau Tir fel pe bai’r gyfres o lesoedd yn un les:

  • sy’n cael ei rhoi ar adeg rhoi’r les gyntaf yn y gyfres (1 Ionawr 2020)
  • am gyfnod sy’n cyfateb i gyfnodau’r holl lesoedd gyda’i gilydd yn y gyfres (6 blynedd), ac
  • yn gydnabyddiaeth am y rhent sy’n daladwy o dan yr holl lesoedd yn y gyfres (£70,000 y flwyddyn)

Mae rhwymedigaethau ffeilio A Cyf yn cynnwys dychwelyd ffurflen dreth erbyn 31 Ionawr 2020, a gyfrifir ar werth net presennol o £210,000 ar gyfer les 3 blynedd, ac y bydd yn anfon ffurflen dreth ychwanegol erbyn 31 Ionawr 2023, a gyfrifir ar werth net presennol £420,000 ar gyfer les 6 blynedd. Dim ond y dreth ychwanegol fydd yn daladwy ar gyfer y ffurflen dreth ychwanegol.

Lesoedd cysylltiol nad ydynt yn lesoedd cysylltiol olynol

Diffinnir trafodiadau fel rhai ‘cysylltiol’ at ddibenion Treth Trafodiadau Tir os ydynt yn ffurfio:

  • un cynllun, trefniant, neu
  • gyfres o drafodiadau

rhwng yr un partïon (neu unigolion cysylltiedig).

Yn achos lesoedd, mae’r ffordd y caiff y dreth ei thrin yn wahanol, yn dibynnu ar a ydynt yn gysylltiedig drwy un cynllun neu drefniant neu gyfres o lesoedd (lesoedd cysylltiol ‘olynol’).

Caiff trafodiadau eu trin fel rhai cysylltiol at ddibenion Treth Trafodiadau Tir pan fydd, mewn gwirionedd, telerau lesoedd dau neu ragor o eiddo’n cael trafod fel un fargen rhwng yr un partïon neu bartïon cysylltiedig. Os nad yw’r darpariaethau arbennig ar gyfer lesoedd olynol yn berthnasol (gweler uchod), defnyddir rheolau arbennig i gyfrifo treth ar lesoedd cysylltiol.

Lesoedd cysylltiol: Cyfrifo’r rhwymedigaeth dreth

Pan fydd lesoedd yn gysylltiol at ddibenion Treth Trafodiadau Tir ond nad yw’r darpariaethau arbennig ar gyfer lesoedd olynol yn berthnasol (gweler uchod), yna caiff y rheolau ar gyfer cyfrifo Treth Trafodiadau Tir eu diwygio fel hyn:

  • Cyfrifo cyfanswm y dreth a fyddai’n cael ei godi ar y les gyntaf pe bai’r trafodiadau cysylltiol yn un trafodiad:
    • Cyfrifo gwerth net presennol (GNP) y les gyntaf (GNP1)
    • Cyfuno GNP1 â GNP yr ail les (GNP2) i gael cyfanswm gwerthoedd net presennol (CGNP) y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnod y ddwy les. Dyma’r gwerth rhenti perthnasol
    • Cyfrifo cyfanswm y dreth sydd i'w godi ar y CGNP gan ddefnyddio’r trothwy sy’n berthnasol ar ddyddiad rhoi’r les gyntaf
    • Cyfrifo elfen y cyfanswm hwn o dreth sy’n berthnasol i’r les gyntaf drwy ddefnyddio’r ffracsiwn: GNP1 ÷ CGNP gyda chyfanswm y dreth sydd i’w godi ar y CGNP
  • Cyfrifo cyfanswm y dreth a fyddai’n cael ei godi ar yr ail les pe bai’r trafodiadau cysylltiol yn un trafodiad:
    • Cyfrifo gwerth net presennol (GNP) yr ail les (GNP2)
    • Cyfuno GNP1 â GNP2 i gael CGNP y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnod y ddwy les. Dyma’r gwerth rhenti perthnasol
    • Cyfrifo cyfanswm y dreth sydd i’w godi ar y CGNP gan ddefnyddio’r trothwy sy’n berthnasol ar ddyddiad rhoi’r ail les
    • Cyfrifo elfen y cyfanswm hwn o dreth sy’n berthnasol i’r ail les drwy ddefnyddio’r ffracsiwn: GNP2 ÷ CGNP gyda chyfanswm y dreth sydd i’w godi ar y CGNP

Mae angen y ddau ddull ar wahân o gyfrifo treth er mwyn defnyddio cyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir a’r trothwyon sy’n briodol i bob les. Mae’r lesoedd yn gysylltiedig ac mae cyfanswm gwerthoedd net presennol y rhenti wedi’u cyfuno, at ddibenion defnyddio’r cyfraddau a’r trothwyon perthnasol yn deg ac yn gymesur. Pan fydd trydedd les cysylltiol ac ati, yna bydd y rheolau’n cael eu rhoi ar waith yn yr un modd ar gyfer y lesoedd hynny.

DTTT/4050 Rhent ar gyfer cyfnod o orgyffwrdd os rhoddir les bellach

(paragraff 7 Atodlen 6)

At ddibenion cyfrifo gwerth net presennol y rhenti o dan y les newydd, bydd unrhyw rent sy’n daladwy o dan y les newydd ar gyfer unrhyw gyfnod o fewn y cyfnod o orgyffwrdd yn cael ei ostwng yn ôl y rhent a fyddai wedi bod yn daladwy (ac sydd eisoes wedi cael ei ystyried at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, neu at ddibenion Treth Dir y Dreth Stamp lle mae rheolau trosiannol yn berthnasol) ar gyfer y cyfnod o orgyffwrdd. Dyma yw’r achos os:

  • bydd les yn cael ei hildio (neu’n cael ei thrin fel pe bai’n cael ei hildio) ac, yn gydnabyddiaeth ar gyfer hynny, bydd les newydd yn cael ei rhoi ar gyfer yr un eiddo, neu’r un eiddo i raddau helaeth
  • bydd tenant o dan les y mae Rhan 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954 yn berthnasol iddi yn gofyn am denantiaeth newydd, a gyflawnir wedi hynny
  • bydd prif les yn cael ei therfynu a les newydd yn cael ei rhoi i is-denant ar gyfer yr un eiddo neu’r un eiddo i raddau helaeth â’r hyn yr oedd gan yr is-denant yn flaenorol oherwydd gorchymyn llys neu hawl contractiol a oedd yn codi ar ôl i’r brif les gael ei therfynu
  • bydd gwarantwr ar ran tenant y mae ei les wedi cael ei therfynu, yn unol â’r warant, yn cael les ar gyfer yr un eiddo, neu’r un eiddo i raddau helaeth
  • bydd les adeilad sydd wedi’i hamrywio, er enghraifft, pan fydd lloriau ychwanegol wedi’u hychwanegu at adeilad ar yr hen les, fel bod yr amrywiad yn arwain at ildio ac ail roi’r les

Fodd bynnag, nid yw’r gostyngiad yn y rhenti sy’n daladwy oherwydd y rhyddhad gorgyffwrdd, o bosibl yn arwain at beidio â thalu unrhyw dreth ar gyfer y les newydd oherwydd y rheol arferol sef bod rhenti’n cael eu cyfrifo ar y swm uchaf o rent a delir mewn unrhyw gyfnod o 12 mis yn ystod y 5 mlynedd gyntaf. Mae hyn oherwydd, fel arall, y byddai’n bosibl rhoi les am 10 mlynedd, talu treth ar werth net presennol y rhenti, ac yna ildio ac ail roi’r les honno, er enghraifft, yn ystod blwyddyn 3, am gyfnod llawer hwy, ond am yr un rhent. Oherwydd y byddai rhyddhad gorgyffwrdd ar gael am 5 mlynedd gyntaf y les newydd (sydd i bob pwrpas yn golygu mai £0 y flwyddyn oedd y rhent yn daladwy yn ystod 5 mlynedd gyntaf y les newydd) y byddai’r rhent o £0 yn cael ei drin fel rhent ar gyfer cyfnod llawn y les newydd. Ond, nid yw’r rheolau’n caniatáu i hynny ddigwydd. Er bod rhyddhad gorgyffwrdd yn cael ei roi’n briodol ar gyfer y blynyddoedd sydd eisoes wedi cael eu hasesu ar gyfer Treth Trafodiadau Tir, bydd y blynyddoedd diweddarach, pan fydd rhent ‘newydd’ yn daladwy yn dal i olygu bod Treth Trafodiadau Tir yn berthnasol ar gyfer gwerth net presennol y rhenti.
   
Y cyfnod gorgyffwrdd yw’r cyfnod sy’n gyffredin i delerau’r les newydd a’r hen les. Dyma’r cyfnod o’r dyddiad y bydd y les newydd yn cael ei rhoi i’r dyddiad y byddai’r hen les wedi dod i ben (at ddibenion Treth Trafodiadau Tir) pe na bai wedi cael ei therfynu. Mae hyn yn cynnwys ymestyn cyfnodau lesoedd ar ôl diwedd cyfnod penodol, neu les amhenodol.

Y rhent a fyddai wedi bod yn daladwy o dan yr hen les yw’r rhent a gafodd ei ystyried wrth gyfrifo’r gwerth net presennol ar gyfer hunanasesu Treth Trafodiadau Tir wrth gaffael yr hen les.

Ni all rhyddhad gorgyffwrdd ostwng y rhent sy’n daladwy o dan y les newydd i swm negyddol. Mewn geiriau eraill, ni all swm y rhent sydd i'w ddefnyddio wrth gyfrifo gwerth net presennol ar gyfer unrhyw flwyddyn fod yn llai na dim.

Dylid nodi bod:

  • rhyddhad gorgyffwrdd ar gael pan oedd yr hen les yn ddarostyngedig i Dreth Dir y Dreth Stamp o dan y rheolau trosiannol neu’r Dreth Trafodiadau Tir. Os oedd yr hen les yn ddarostyngedig i dreth stamp, dylid cynnwys yr holl rent sy’n daladwy o dan y les newydd wrth gyfrifo’r gwerth net presennol ar gyfer y les newydd, heb ystyried unrhyw gyfnod o orgyffwrdd, oherwydd nad oes rhent wedi cael ei ystyried at ddibenion Treth Dir y Dreth Stamp na’r Dreth Trafodiadau Tir
  • nid oes unrhyw ryddhad gorgyffwrdd ar gael os oedd les yn ddarostyngedig i eithriad Treth Dir y Dreth Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir, neu os oedd rhyddhad wedi’i hawlio, a bod y les wedyn yn cael ei hildio a les newydd yn ei disodli, sy’n golygu nad yw’n bodloni’r amodau ar gyfer rhyddhad. Ni chafodd unrhyw rent ei ystyried wrth bennu swm y dreth a oedd yn ddyledus ar gyfer y les gyntaf, felly nid oes hawl i’r rhyddhad hwn
  • os yw’r rhent yn amrywiol yna ni fydd rhyddhad gorgyffwrdd yn cael ei ystyried a’r ‘rhent uchaf’ yw’r rhent sy’n cael ei bennu cyn unrhyw ostyngiad ar gyfer rhyddhad gorgyffwrdd

Enghraifft

Rhoddir les am gyfnod o 5 mlynedd i A Cyf ar gyfer eiddo amhreswyl ar 1 Ebrill 2020. Mae cyfnod y les yn para 5 mlynedd (31 Mawrth 2025 yw’r dyddiad terfynu contractiol). Mae A Cyf yn parhau i feddiannu pan ddaw y les i ben. Rhoddir les newydd ar 1 Hydref 2027 ar gyfer yr un eiddo am 5 mlynedd arall, a mynegir bod y cyfnod yn dechrau ar 1 Ebrill 2025. Mae’r holl amodau perthnasol yn cael eu bodloni: mae’r tenant wedi parhau i feddiannu ar ôl i’r les derfynu (31 Mawrth 2025), mae les newydd yn cael ei rhoi ar gyfer yr un eiddo, mae dyddiad ei rhoi (1 Hydref 2027) fwy na blwyddyn ar ôl y dyddiad terfynu contractiol a mynegir bod y les yn dechrau ar ddyddiad sydd rhwng y dyddiad terfynu contractiol a blwydd-ddydd diweddaraf y dyddiad hwnnw (31 Mawrth 2027).

Bydd A Cyf wedi cwblhau ei ffurflen dreth gyntaf ar gyfer rhoi’r hen les ar 1 Mai 2020 neu cyn hynny. Gan ei fod yn parhau i feddiannu’r eiddo ar ôl i’r les derfynu, bydd wedi dychwelyd ffurflen dreth ar gyfer y flwyddyn lawn gyntaf (1 Ebrill 2025 tan 31 Mawrth 2026) i nodi ei fod yn parhau i feddiannu’r eiddo ar 30 Ebrill 2026 neu cyn hynny. Bydd hefyd wedi gorfod dychwelyd ffurflen dreth ar gyfer ei ail flwyddyn lawn o feddiannu erbyn 30 Ebrill 2027. Mae’n rhaid dychwelyd y ddwy ffurflen hon yn unol â’r gofynion ar gyfer lesoedd sy’n parhau ar ôl cyfnod penodol. Nid oes angen cael ffurflen dreth o dan y lesoedd sy’n parhau ar ôl cyfnod penodol ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2027 i 1 Hydref 2027, gan nad yw’r rhent sy’n daladwy yn y cyfnod hwn wedi cael ei drethu eto, a bydd yn cael ei drethu yn y ffurflen dreth ar gyfer y les newydd. Bydd y ffurflen dreth ar gyfer y les newydd yn cynnwys y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2025 ac a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2030. Mae’r rhenti trethadwy a asesir ar gyfer y ddwy flynedd a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2027 yn cael ei tynnu o’r rhenti sy’n daladwy ar gyfer dwy flynedd y les newydd (cyn belled â nad yw hynny’n arwain at ffigur negyddol). Bydd y rhenti ar gyfer tair blynedd olaf y les newydd yn seiliedig ar y rhenti sy’n daladwy o dan delerau’r les newydd honno.

Ystyr ‘yr un eiddo i raddau helaeth’

Yn y pen draw, mae’r hyn sy’n gyfystyr â’r “un eiddo i raddau helaeth” yn dibynnu ar ffeithiau. Bwriad y rhyddhad gorgyffwrdd yw sicrhau nad yw’r trethdalwr yn talu treth ar yr un tir am yr un cyfnod ddwywaith.  Er enghraifft, byddai rhyddhad gorgyffwrdd yn berthnasol lle bo les ar gyfer hanner adeilad yn cael ei hildio a bod les newydd yn cael ei rhoi ar gyfer yr un adeilad cyfan.

Rhyddhad gorgyffwrdd: rhent a ystyrir

Beth sydd wedi’i gynnwys yn y term ‘rhent a ystyrir’ wrth gwblhau les ar ôl cyflawni'n sylweddol?

Mae Treth Trafodiadau Tir yn ddyledus ar gyflawni cytundeb yn sylweddol ar gyfer les, ar sail y rhenti ar gyfer y pum mlynedd gyntaf. Os bydd y rhent yn cynyddu ym mlwyddyn chwech, caiff ei anwybyddu wrth gyfrifo’r gwerth net presennol.

Pan roddir les yn dilyn hynny ar ôl cyflawni'n sylweddol, os na fu unrhyw newidiadau i delerau’r les (hynny yw, drwy amrywio ac ati), mae’r cynnydd yn y rhent ym mlwyddyn chwech wedi cael ei ystyried ar sail cyflawni'n sylweddol mewn cysylltiad â rhoi’r les.

Felly, os nad oes unrhyw newidiadau rhwng cyflawni’n sylweddol a chwblhau, ni fydd unrhyw Dreth Trafodiadau Tir ychwanegol i’w thalu.

Enghraifft 1

Rhoddir les i A Cyf ar 1 Ebrill 2020 am gyfnod o 25 mlynedd (yr ‘hen les’). Dyma delerau’r les:

  • y dyddiad dodi ben yw 31 Mawrth 2045
  • mae rhent o £144,000 y flwyddyn yn daladwy o dan yr hen les hon
  • nid oes cydnabyddiaeth ar wahân i rent
  • gwerth net presennol (GNP) yr hen les yw £2,373,337
  • mae Treth Trafodiadau Tir yn daladwy ar y ffigur GNP (yn ddarostyngedig i unrhyw fand cyfradd sero)

Mae’r hen les yn cael ei hildio ac mae les newydd yn cael ei rhoi ar 1 Ebrill 2024 am gyfnod o 150 o flynyddoedd. Mae telerau’r les newydd wedi cael eu hamrywio o’u cymharu â’r hen les, felly mae rhent o £110,000 y flwyddyn bellach yn daladwy. Unwaith eto, nid oes cydnabyddiaeth ar wahân i rent.

Caiff y dreth sy’n daladwy o dan y les newydd ei sefydlu, (gan ganiatáu ar gyfer rhyddhad gorgyffwrdd) fel hyn:

  1. Cyfrifir y cyfnod gorgyffwrdd - yn yr achos hwn, mae’n 21 o flynyddoedd, o 1 Ebrill 2024 tan 31 Mawrth 2041.
  2. Caiff y rhent blynyddol sy’n daladwy o dan y les newydd ei sefydlu - yn yr achos hwn, £110,000.
  3. Caiff y rhent sy’n daladwy o dan yr hen les ei sefydlu - yn yr achos hwn, £144,000. Dyma’r swm sydd wedi’i gynnwys yn y cyfrifiad gwerth net presennol cyntaf.
  4. Nid yw’r les newydd yn les gyda rhent amrywiol. Felly, mae’r rhent yn hysbys a dylai’r broses o gyfrifo’r gwerth net presennol ddefnyddio rhent o £0 ar gyfer blynyddoedd 1 i 21 yn gynwysedig (gan fod yr hen rent yn fwy na’r rent newydd, ond ni all y ffigur sydd i'w gynnwys yn y broses gyfrifo fod yn llai na £0) a rhent o £110,000 ar gyfer blynyddoedd 22 i 150 yn gynwysedig i roi gwerth net presennol o £1,508,038. Caiff y Dreth Trafodiadau Tir ychwanegol ei chyfrifo ar swm y gwerth net presennol hwnnw, gan ddefnyddio’r cyfraddau a’r trothwyon ar gyfer dyddiad rhoi’r les newydd.

Enghraifft 2

Rhoddir les i B Cyf ar 1 Ebrill 2020 am 25 mlynedd (yr ‘hen les’). Dyma delerau’r les

  • y dyddiad dodi ben yw 31 Mawrth 2045
  • mae rhent o £144,000 y flwyddyn yn daladwy o dan yr hen les hon
  • gwerth net presennol (GNP) yr hen les yw £2,373,337
  • nid oes cydnabyddiaeth ar wahân i rent
  • mae Treth Trafodiadau Tir yn daladwy ar y ffigur GNP (yn ddarostyngedig i unrhyw fand cyfradd sero)

Mae’r hen les yn cael ei hildio a les newydd yn cael ei rhoi ar 1 Ebrill 2024 am gyfnod o 150 o flynyddoedd. Mae telerau’r les newydd wedi cael eu hamrywio o’u cymharu â’r hen les, felly mae rhent o £175,000 y flwyddyn bellach yn daladwy. Unwaith eto, nid oes cydnabyddiaeth ar wahân i rent.

Caiff y dreth sy’n daladwy o dan y les newydd (gan ganiatáu ar gyfer y rhyddhad gorgyffwrdd) ei sefydlu fel hyn:

  1. Mae'r cyfnod gorgyffwrdd o 1 Ebrill 2024 tan 31 Mawrth 2045, sef, 21 o flynyddoedd.
  2. Y rhent sy’n daladwy o dan y les newydd yw £175,000.
  3. Y rhent sy’n daladwy o dan yr hen les yw £144,000. Dyma’r swm sydd wedi’i gynnwys yn y cyfrifiad gwerth net presennol cyntaf.
  4. Nid yw’r les newydd yn les gyda rhent amrywiol. Felly, dylai’r broses o gyfrifo’r gwerth net presennol ddefnyddio rhent o £31,000 ar gyfer blynyddoedd 1 i 21 yn gynwysedig (sef £175,000 y rhent newydd wedi tynnu £144,000 yr hen rent) a rhent o £175,000 ar gyfer blynyddoedd 22 i 150 yn gynwysedig i roi cyfanswm gwerth net presennol o £2,854,789. Caiff y Dreth Trafodiadau Tir ychwanegol ei chyfrifo ar swm y gwerth net presennol hwnnw, gan ddefnyddio’r cyfraddau a’r trothwyon ar gyfer dyddiad rhoi’r les newydd.

Enghraifft 3

Rhoddir les i C Cyf ar 1 Ebrill 2020 am gyfnod o 25 mlynedd (yr ‘hen les’).  Dyma delerau’r les:

  • y dyddiad dodi ben yw 31 Mawrth 2045
  • mae rhent o £144,000 y flwyddyn yn daladwy o dan yr hen les hon
  • gwerth net presennol (GNP) yr hen les yw £2,373,337
  • nid oes cydnabyddiaeth ar wahân i rent
  • mae Treth Trafodiadau Tir yn daladwy ar y ffigur GNP (yn ddarostyngedig i unrhyw fand cyfradd sero)

Mae’r hen les yn cael ei hildio ac mae les newydd yn cael ei rhoi ar Dydd Mawrth, 1 Hydref 2024 am gyfnod o 150 o flynyddoedd.  Mae telerau’r les newydd wedi cael eu hamrywio o’u cymharu â’r hen les, felly mae rhent o £110,000 y flwyddyn bellach yn daladwy. Unwaith eto, nid oes cydnabyddiaeth ar wahân i rent.

Caiff y dreth sy’n daladwy o dan y les newydd (gan ganiatáu ar gyfer y rhyddhad gorgyffwrdd) ei sefydlu fel hyn:

  • mae’r cyfnod gorgyffwrdd yn para o 1 Hydref 2024 tan 31 Mawrth 2045, sef 21 o flynyddoedd a chwe mis. 
  • y rhent sy’n daladwy o dan y les newydd yw £110,000.
  • y rhent sy’n daladwy o dan yr hen les yw £144,000. Dyma’r swm sydd wedi’i gynnwys wrth gyfrifo’r gwerth net presennol cyntaf.
  • nid yw’r les newydd yn les gyda rhent amrywiol. Felly, wrth gyfrifo’r gwerth net presennol, dylid defnyddio rhent o £0 ar gyfer blynyddoedd 1 i 20 yn gynwysedig (gan fod yr hen rent yn fwy na’r rhent newydd, ond ni all y ffigur sydd i’w gynnwys yn y cyfrifiad fod yn llai na £0), £55,000 ar gyfer blwyddyn 21 (gan fod chwe mis cyntaf y flwyddyn hon yn y cyfnod gorgyffwrdd, felly cyfrifir y rhyddhad gorgyffwrdd drwy gymharu ar sail misoedd neu ddiwrnodau. Yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn, mae’r hen rent yn fwy na’r rhent newydd. Ond ni all y ffigur sydd i'w gynnwys wrth gyfrifo fod yn llai na £0 ar gyfer y chwe mis hyn. Yn y chwe mis sy’n dilyn, y rhent sy’n daladwy o dan y les newydd yw £55,000 ac nid oes unrhyw orgyffwrdd. Felly, y rhent sydd i’w gynnwys wrth gyfrifo ar gyfer blwyddyn 21 y les newydd yw £0 + £55,000 = £55,000) a rhent o £110,000 ar gyfer blynyddoedd 22 i 150 yn gynwysedig i roi gwerth net presennol o £1,534,745. Caiff y Dreth Trafodiadau Tir ychwanegol ei chyfrifo ar swm y gwerth net presennol hwnnw, gan ddefnyddio’r cyfraddau a’r trothwyon ar gyfer dyddiad rhoi’r les newydd.

Enghraifft 4

Rhoddir les i D Cyf ar 1 Ebrill 2020 am gyfnod o 25 mlynedd (yr ‘hen les’). Dyma delerau’r les:

  • y dyddiad dodi ben yw 31 Mawrth 2045
  • mae rhent o £144,000 y flwyddyn yn daladwy o dan yr hen les hon
  • gwerth net presennol (GNP) yr hen les yw £2,373,337
  • nid oes cydnabyddiaeth ar wahân i rent
  • mae Treth Trafodiadau Tir yn daladwy ar y ffigur GNP (yn ddarostyngedig i unrhyw fand cyfradd sero)

Mae’r hen les yn cael ei hildio ac mae les newydd yn cael ei rhoi ar Dydd Mawrth, 1 Hydref 2024 am gyfnod o 150 o flynyddoedd. Mae telerau’r les newydd wedi cael eu hamrywio o’u cymharu â’r hen les, felly mae rhent o £175,000 y flwyddyn bellach yn daladwy. Unwaith eto, nid oes cydnabyddiaeth ar wahân i rent.

Caiff y dreth sy’n daladwy o dan y les newydd (gan ganiatáu ar gyfer y rhyddhad gorgyffwrdd) ei sefydlu fel hyn:

  1. Mae’r cyfnod gorgyffwrdd yn para o 1 Hydref 2024 tan 31 Mawrth 2045, sef 21 o flynyddoedd a chwe mis.
  2. Y rhent sy’n daladwy o dan y les newydd yw £175,000.
  3. Y rhent sy’n daladwy o dan yr hen les yw £144,000. Dyma’r swm sydd wedi’i gynnwys wrth gyfrifo’r gwerth net presennol cyntaf.
  4. Nid yw’r les newydd yn les gyda rhent amrywiol. Felly, wrth gyfrifo’r gwerth net presennol, dylid defnyddio rhent o £31,000 ar gyfer blynyddoedd 1 i 20 yn gynwysedig (sef y rhent newydd o £175,000 wedi tynnu'r hen rent sef £144,000), £103,000 ar gyfer blwyddyn 21 (gan fod chwe mis cyntaf y flwyddyn hon yn ystod y cyfnod gorgyffwrdd, felly cyfrifir y rhyddhad gorgyffwrdd drwy gymharu ar sail misoedd neu ddiwrnodau. Yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn hon, mae’r rhent newydd yn £87,500 wedi tynnu’r hen rent, sef £72,000 i roi cyfanswm o £15,500. Yn ystod y chwe mis sy’n dilyn, £87,500 (£175,000 / 12 mis X 6 mis) yw’r rhent sy’n daladwy o dan y les newydd, ac nid oes unrhyw orgyffwrdd. Felly, y rhent i’w gynnwys wrth gyfrifo ar gyfer blwyddyn 21 y les newydd yw £15,500 + £87,500 = £103,000 a rhent o £175,000 ar gyfer blynyddoedd 22 i 150 yn gynwysedig, i roi gwerth net presennol o £2,889,750. Caiff y Dreth Trafodiadau Tir ychwanegol ei chyfrifo ar swm y gwerth net presennol hwnnw, gan ddefnyddio’r cyfraddau a’r trothwyon ar gyfer dyddiad rhoi’r les newydd.

Enghraifft 5

Rhoddir les i E Cyf ar 1 Ebrill 2020 am gyfnod o 25 mlynedd (yr ‘hen les’). Dyma delerau’r les:

  • y dyddiad dodi ben yw 31 Mawrth 2045
  • mae rhent cychwynnol o £144,000 y flwyddyn yn daladwy o dan yr hen les hon
  • nid oes cydnabyddiaeth ar wahân i rent
  • mae’r les yn cynnwys darpariaeth ar gyfer adolygu’r rhent yn ôl rhent uwch y farchnad, neu rent sy’n daladwy ar adeg benodol, a bydd hynny’n dod i rym o 1 Ebrill 2025 a bob pumed blwydd-ddydd y dyddiad hwnnw wedyn

Mae’r hen les yn cael ei hildio ac mae les newydd yn cael ei rhoi ar 1 Ebrill 2024 am 150 o flynyddoedd. Mae telerau’r les newydd wedi’u hamrywio o’u cymharu â’r hen les, felly mae rhent o £110,000 y flwyddyn nawr yn daladwy; hefyd, nid oes darpariaeth ar gyfer adolygu rhent. Unwaith eto, nid oes cydnabyddiaeth ar wahân i rent.

Caiff y dreth sy’n daladwy o dan y les newydd (gan ganiatáu ar gyfer y rhyddhad gorgyffwrdd) ei sefydlu fel hyn:

  1. Gan fod y rhent yn cael ei adolygu ar ôl pum mlynedd, caiff ei anwybyddu at ddibenion cyfrifo’r gwerth net presennol.  Gwerth net presennol yr hen les yw £2,373,337.
  2. Mae'r cyfnod gorgyffwrdd o 1 Ebrill 2024 tan 31 Mawrth 2045, sef, 21 o flynyddoedd.
  3. Y rhent sy’n daladwy o dan y les newydd yw £110,000.
  4. Y rhent sy’n daladwy o dan yr hen les yw £144,000. Dyma’r swm sydd wedi’i gynnwys yn y cyfrifiad gwerth net presennol cyntaf.
  5. Nid yw’r les newydd yn les gyda rhent amrywiol. Felly, wrth gyfrifo’r gwerth net presennol, dylid defnyddio rhent o £0 ar gyfer blynyddoedd 1 i 21 yn gynwysedig (gan fod yr hen rent yn fwy na’r rhent newydd, ond na chaiff y ffigur sydd i’w gynnwys wrth gyfrifo fod yn llai na £0) a rhent o £110,000 ar gyfer blynyddoedd 22 i 150 yn gynwysedig i roi gwerth net presennol o £1,508,038. Caiff y Dreth Trafodiadau Tir ychwanegol ei chyfrifo ar swm y gwerth net presennol hwnnw, gan ddefnyddio’r cyfraddau a’r trothwyon ar gyfer dyddiad rhoi’r les newydd.

DTTT/4060 Tenant yn dal drosodd: ôl-ddyddio les newydd i flwyddyn flaenorol

(paragraff 8)

Mewn achosion:

  • pan fo tenant o dan les (‘yr hen les’) yn parhau i feddiannu ar ôl y dyddiad yr oedd y les yn terfynu (‘y dyddiad terfynu contractiol’)
  • pan roddir les i’r tenant ar gyfer yr un eiddo, neu’r un eiddo i raddau helaeth (“y les newydd”)
  • pan roddir y les newydd ar ddyddiad sydd fwy na blwyddyn ar ôl y dyddiad terfynu contractiol, a
  • phan fydd cyfnod y les newydd yn dechrau ar ddyddiad sydd o fewn cyfnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad terfynu contractiol, ac yn dod i ben â blwydd-ddydd diweddaraf y dyddiad hwnnw sydd cyn y dyddiad y rhoddir y les newydd. Mae’r cyfnod hwn yn darparu’r ‘blynyddoedd dal drosodd cyfan’

Ystyrir bod cyfnod y les newydd yn dechrau ar y dyddiad y mynegir yn y les (dyddiad cychwyn y les).

Yn yr achos hwn, pan fydd y ffurflen yn gofyn i chi roi dyddiad dod i rym y trafodiad, dyddiad dod i rym y les newydd fydd hwn.

Dywedir bod y rhent sy’n daladwy o dan y les newydd, mewn cysylltiad â’r cyfnod sy’n dechrau gyda dyddiad y les newydd yn dechrau ar y flwyddyn dal drosodd gyfan ddiwethaf ac yn dod i ben ar hynny, ac ymdrinnir â hyn drwy ostwng yn ôl swm y rhenti trethadwy a dalwyd yn ystod y cyfnod dal drosodd. Ond, ni all hynny greu ffigur rhent negyddol.
   
Caiff y denantiaeth dal drosodd ei thrin fel les cyfnod penodol gyda dyddiad terfynu a ddaw i ben ar ddiwedd y flwyddyn dal drosodd gyfan. Yn yr amgylchiadau hyn, mae tenantiaeth dal drosodd yn golygu: yr hen les os yw’n parhau y tu hwnt i’r dyddiad terfynu contractiol, neu, unrhyw denantiaeth arall ar gyfer yr un eiddo (neu’r un eiddo i raddau helaeth) lle mae’r tenant yn parhau i’w feddiannu ar ôl y dyddiad terfynu contractiol.

DTTT/4070 Rhent a chydnabyddiaeth arall - rheolau cydnabyddiaeth sy’n benodol i les

(Rhan 3 Atodlen 6)

Rhent

(paragraff 9 Atodlen 6)

Mae cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer les neu drafodiad trethadwy arall, sy’n cynnwys rhent yn llwyr neu’n rhannol, yn drethadwy o dan y Dreth Trafodiadau Tir.

Mae a yw cydnabyddiaeth ar ffurf rhent yn gwestiwn o ffaith. Mae modd trin cydnabyddiaeth ar ffurf rhent at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir hyd yn oed os yw’n cael ei disgrifio fel arall; er enghraifft, fel trwydded neu ffi mewn cytundeb ar gyfer les. I’r gwrthwyneb, mae modd neilltuo tâl gwasanaeth fel rhent yn y les, ond gan beidio â thrin y tâl hwnnw felly at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir.

Nid yw ‘rhent’ yn cynnwys y gydnabyddiaeth sy’n daladwy cyn y bydd les newydd yn cael ei rhoi. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, mae modd trethu taliadau o'r fath cyn rhoi’r les fel premiwm.

Nid yw rhent enwol yn gydnabyddiaeth drethadwy at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • os yw’n cael ei fynegi’n rhad neu debyg, neu
  • os yw ei werth net presennol (GNP) yn llai na £1.

Rhent: Yn cynnwys gwasanaethau, ac ati

Nid yw taliadau gwasanaeth y mae’n rhaid i denant eu talu i landlord yn gydnabyddiaeth drethadwy at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, ac maent wedi’u heithrio o’r broses o gyfrifo treth cyn belled â bod y tâl gwasanaeth wedi cael ei dalu naill ai:

  • yn y les neu fel ffigur ar wahân, neu
  • drwy ei fynegi yn y les fel rhan o daliad rhent cynhwysol ac wedi’i ddosrannu ar sail teg a rhesymol

Nid yw’r ffaith bod tâl gwasanaeth wedi’i neilltuo fel rhent yn y les yn golygu mai rhent ydyw at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir.

Pan fydd yn angenrheidiol dosrannu ffigur cynhwysol, rhaid i hyn fod ar sail deg a rhesymol, ac ni fydd o anghenraid yr un fath â’r dosraniad (os o gwbl) sydd wedi’i nodi yn nogfen y les.

Pan fydd un swm yn daladwy mewn cysylltiad â rhent, neu rhent a thaliadau gwasanaeth, a:

  • phan nad oes dosraniad rhwng y rhent a’r tâl gwasanaeth; a/neu
  • pan nad oes darpariaeth ar wahân ar gyfer y tâl gwasanaeth yn nhelerau’r les, yna bydd y swm yn cael ei drin yn gyfan gwbl fel rhent at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir

Taliadau gwasanaeth yw’r eitem fwyaf cyffredin o gydnabyddiaeth anhrethadwy ar gyfer les, ond mae’r driniaeth uchod yr un mor berthnasol i unrhyw gydnabyddiaeth anhrethadwy arall.

Enghraifft 1

Rhoddir les i A Cyf. Mae cyfnod y les yn para 4 blynedd gyda rhent o £10,000 yn daladwy bob chwarter. Mae’r landlord wedi cytuno y bydd hyn yn cynnwys tâl am wasanaethau, ond nid oes darpariaeth benodol ar gyfer hyn yn y les.

Nid yw’r ffaith bod tâl gwasanaeth wedi’i neilltuo fel rhent yn y les o anghenraid yn golygu mai rhent ydyw at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, nid oes darpariaeth wedi’i gwneud ar gyfer y tâl gwasanaeth hwn yn nhelerau’r les, naill ai fel ffigur ar wahân nac fel rhan o ffigur cynhwysol o rent sy’n cael ei ddosrannu.

Felly, ymdrinnir â’r £40,000 sef yr holl rent blynyddol, fel rhent.

Enghraifft 2

Rhoddir les i B Cyf. Mae cyfnod y les yn para am 4 blynedd, gyda rhent o £10,000 yn daladwy bob chwarter, yn cynnwys gwasanaethau.

Er y mynegir yn y les bod swm y rhent yn cynnwys gwasanaethau, nid oes dosraniad wedi’i wneud rhwng y ddwy elfen.

Nid oes angen gwneud dosraniad teg a rhesymol at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir yn y les ei hun. Mae’r landlord yn dweud wrth B Cyf fod y gwasanaethau y mae’n eu darparu’n costio £2,000 y chwarter. Felly mae’r dystiolaeth yn dangos mai £8,000 y chwarter ar gyfer rhent a £2,000 y chwarter ar gyfer gwasanaethau yw’r dosraniad teg a rhesymol. Dylai B Cyf gadw’r dystiolaeth y mae’r dosraniad yn seiliedig arni.

Felly, at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, y rhent blynyddol yw £32,000.

Enghraifft 3

Rhoddir les i C Cyf. Mae cyfnod y les yn para 4 blynedd, gyda rhent o £10,000 yn daladwy bob chwarter, yn cynnwys £2,500 ar gyfer gwasanaethau. Mae hyn yn cynrychioli swm teg ar gyfer gwasanaethau, oherwydd byddai rhent y farchnad ar gyfer eiddo tebyg heb wasanaethau yn £7,500 y chwarter.

Er bod y £10,000 cyfan bob chwarter wedi’i neilltuo fel rhent, mae swm penodol yn cael ei nodi yn y les ar gyfer gwasanaethau, ac mae’r dosraniad hwn wedi cael ei wneud ar sail deg a rhesymol.

Y rhent blynyddol at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir yw £30,000.

Enghraifft 4

Rhoddir les i D Cyf am gyfnod o 4 blynedd gyda rhent o £10,000 y chwarter. Mae telerau les yn nodi bod £6,000 y chwarter ar gyfer gwasanaethau. Fodd bynnag, byddai rhent y farchnad ar gyfer eiddo tebyg heb wasanaethau yn £8,000 y chwarter.

Er bod y rhent o £10,000 bob chwarter yn cael ei fynegi ar gyfer rhent a gwasanaethau, ac er bod dosraniad, nid yw hynny ar sail deg a rhesymol. Mewn achosion o’r fath, mae deddfwriaeth y Dreth Trafodiadau Tir yn darparu ar gyfer cyfrifo treth ar sail dosrannu teg a rhesymol.

Felly, at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, y rhent blynyddol yw £32,000.

DTTT/4080 Rhent ar gyfer cyfrifo gwerth net presennol

(paragraff 10)

Mae’r rhent a ddefnyddir i sefydlu gwerth net presennol (‘GNP’) y rhenti yn seiliedig ar 5 mlynedd gyntaf y les. Gellir defnyddio’r gyfrifiannell yn i gyfrifo gwerth net presennol.

Mae GNP yn swm sy'n seiliedig ar swm y rhent sy'n daladwy dros gyfnod y les, gyda rhai addasiadau, fel a ganlyn:

  • Caiff y rhent gwirioneddol sy'n daladwy am unrhyw "flwyddyn rhent" ei ostwng drwy rannu'r rhent sy'n daladwy gyda ffactor o (1 + y gyfradd disgownt amser) i bŵer y flwyddyn rhent (gweler paragraff 32 o Atodlen 6 DTTT (y gyfradd disgownt amser). Er enghraifft, y fformiwla i gyfrifo GNP ail flwyddyn les yw:

    rhent / (1 + cyfradd disgownt amser)2 = GNP

  • Os yw'r brydles yn hwy na 5 mlynedd, rhagdybir y bydd y rhent blynyddol ar gyfer y blynyddoedd ychwanegol hynny yn hafal i'r rhent uchaf sy'n daladwy mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis yn olynol yn ystod y 5 mlynedd gyntaf.

    Er enghraifft, pan fydd:

    • y rhent sy'n daladwy ym mlwyddyn rhent 7 les yn £70,000, ac mai’r
    • rhent uchaf sy'n daladwy mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis yn ystod pum mlynedd gyntaf y les honno yw £50,000.

     

    Y cyfrifiad ar gyfer seithfed blwyddyn cyfrifiad GNP yw:

    £50,000 / (1 + cyfradd disgownt amser)7 = GNP

Enghraifft 1

Rhoddir les i A Cyf am gyfnod o 10 mlynedd. Mae’r rhent blynyddol wedi’i bennu yn y les, ac nid oes unrhyw ddyddiadau adolygu ar gyfer y 3 blynedd gyntaf, sef £35,000 y flwyddyn, y 3 blynedd nesaf, sef rhent o £45,000 y flwyddyn, a’r rhent ar gyfer y 4 blynedd olaf, sef £55,000 y flwyddyn.

Wrth gyfrifo’r gwerth net presennol, ystyrir y 5 mlynedd gyntaf ar sail y gwir rent a dalwyd. Talodd A Cyf rhenti blynyddol o £35,000, £35,000, £35,000, £45,000 a £45,000. Y rhent uchaf mewn unrhyw gyfnod o 12 mis yn olynol yn ystod y 5 mlynedd gyntaf yw £45,000. Mae’r rhent ar gyfer gweddill cyfnod y les yn seiliedig ar y rhent blynyddol hwnnw, sef £45,000. Yn yr achos hwn, mae’r gwerth net presennol yn £346,230.

Enghraifft 2

Rhoddir les i B Cyf am gyfnod o 10 mlynedd. Mae’r rhent blynyddol wedi’i bennu yn y les, ac nid oes unrhyw ddyddiadau adolygu ar gyfer 2½ flynedd gyntaf, sef £40,000 y flwyddyn, y 12 mis nesaf am rent o £70,000 (mae digwyddiad chwaraeon pwysig yn cael ei gynnal), y 3½ blynedd nesaf am rent o £45,000 y flwyddyn a’r 3 blynedd olaf am rent o £50,000 y flwyddyn.

Wrth gyfrifo’r gwerth net presennol, ystyrir y 5 mlynedd gyntaf ar sail y gwir rent a dalwyd. Mae A Cyf wedi talu rhenti blynyddol o £40,000, £40,000, £55,000 ((£40,000/2)+(£70,000/2)), £57,500 ((£70,000/2)+(£45,000/2)) a £45,000. Y rhent uchaf mewn unrhyw gyfnod o 12 mis yn olynol yn ystod y 5 mlynedd gyntaf yw £70,000. Mae’r rhent ar gyfer gweddill cyfnod y les yn seiliedig ar y rhent blynyddol hwnnw, sef £70,000. Yn yr achos hwn, mae’r gwerth net presennol yn £479,700.

Enghraifft 3

Rhoddir les am gyfnod penodol o ddeng mlynedd. Mae'r ddogfen les yn rhagnodi'r rhent sy'n daladwy am bob un o'r "blynyddoedd rhent", fel a ganlyn:

Blwyddyn rhentRhent sy'n daladwy
Blwyddyn 1£5,000
Blwyddyn 2£6,000
Blwyddyn 3£7,000
Blwyddyn 4£8,000
Blwyddyn 5£9,000
Blwyddyn 6£10,000
Blwyddyn 7£11,000
Blwyddyn 8£12,000
Blwyddyn 9£13,000
Blwyddyn 10£14,000

Cyfrifir gwerth presennol net (GNP) y rhentiad dros y cyfnod hwn fel a ganlyn:

Blwyddyn rhentCyfrifadGwerth net presennol
Blwyddyn 15000/(1 + 0.035) £4,830.92
Blwyddyn 26000/[(1 + 0.035) x (1 + 0.035)]£5,601.06
Blwyddyn 37000/[(1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035)]£6,313.60
Blwyddyn 48000/[(1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035)]£6,971.54
Blwyddyn 59000/[(1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035)]£7,577.76
Blwyddyn 69000/[(1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035)]£7,321.51
Blwyddyn 79000/[(1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035)]£7,073.92
Blwyddyn 89000/[(1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035)]£6,834.70
Blwyddyn 99000/[(1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035)]£6,603.58
Blwyddyn 109000/[(1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035) x (1 + 0.035)]£6,380.27
 Cyfanswm£65,508.85

Y GNP yw cyfanswm y gwerthoedd a gyfrifwyd: £65,508.85; ac nid y £95,000 o rent sy’n daladwy yn unol â'r les.
At ddibenion cyfrifo GNP, defnyddir y ffigur o £9,000 ar gyfer blynyddoedd 6 i 10 yn gynwysedig, gan mai dyma'r rhent uchaf sy'n daladwy mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis yn olynol yn ystod y pum mlynedd gyntaf.

DTTT/4090 Rhent amrywiol ac ansicr: cyfrifo’r gwerth net presennol

(paragraff 10) 

Pan fydd y rhent yn ansicr, heb ei ganfod neu’n ddibynnol, mae’n rhaid i’r trethdalwr ddefnyddio tybiaethau neu amcangyfrifon rhesymol er mwyn pennu’r rhent at ddibenion cyfrifo. Bydd hyn yn cynnwys achosion pan nad oes modd meintioli’r amrywiad y darperir ar ei gyfer yn y les ar ddyddiad rhoi’r les; er enghraifft, pan fydd rhenti i'w hadolygu yn unol â rhenti’r farchnad neu ganlyniadau busnes yn y dyfodol. Mae rhenti o’r fath yn ansicr neu heb eu canfod.  Yn yr un modd, pan fydd y rhent yn gallu amrywio o ganlyniad i adolygu rhent yn ystod y 5 mlynedd gyntaf, bydd y rhenti’n cael eu trin fel rhai amrywiol.

Gall lesoedd hefyd ddarparu bod lefel y rhent sy’n daladwy yn dibynnu’n llwyr neu’n rhannol ar ganlyniad anhysbys, fel cael caniatâd cynllunio. Mae rhenti o’r fath yn rhai dibynnol. Pan fydd y rhent yn ddibynnol, cyfrifir y gwerth net presennol ar gyfer y pum mlynedd gyntaf ar y sail y bydd unrhyw swm dibynnol yn daladwy (neu na fydd yn peidio â bod yn daladwy).

Mae’r rheolau sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth ddibynnol, ansicr ac heb ei chanfod yr un mor berthnasol i renti. Hefyd, nid yw’n bosibl gwneud cais am ohirio talu’r Dreth Trafodiadau Tir mewn cysylltiad â rhent os yw rhywfaint o'r rhent yn ddibynnol neu heb ei ganfod, oherwydd mae rhent wedi’i eithrio’n benodol o’r broses o gyfrifo’r ‘swm y gellir ei ohirio’.

Pan fydd y rhent yn cael ei godi yn unol â’r mynegai prisiau manwerthu, neu fynegai arall, er mwyn cyfleu chwyddiant; caiff y cynnydd ansicr hwnnw ei anwybyddu at ddibenion sefydlu’r rhenti sy’n daladwy yn ystod pum mlynedd gyntaf cyfnod y les. Mewn achosion o’r fath, swm y rhent a fynegir yn y les yw’r rhent i’w ddefnyddio i gyfrifo’r gwerth net presennol. Ond, os bydd y cynnydd mewn rhent yn cael ei fynegi, er enghraifft fel mynegai prisiau manwerthu ynghyd â 2%, bydd y cynnydd hwnnw mewn rhent yn ei gyfanrwydd yn cael ei drin fel cynnydd ansicr a bydd addasiadau’n cael eu gwneud.

At ddibenion cyfrifo’r gwerth net presennol neu’r pum mlynedd gyntaf, dylid rhoi amcangyfrif rhesymol o’r symiau a fydd yn daladwy. Nid oes yn rhaid i hwn fod yn brisiad proffesiynol o anghenraid, ond mae’n rhaid cadw tystiolaeth o’r hyn a ddefnyddiwyd fel sail i’r amcangyfrif rhag ofn y ceir ymholiad.

Example 1

Rhoddir les i A Cyf am gyfnod o 7 mlynedd. Mae’r rhent ar gyfer y 3 blynedd gyntaf wedi’i bennu ar £50,000. Ceir adolygiad rhent ar ddiwedd blynyddoedd 3 a 6. Daw’r adolygiad rhent ym mlwyddyn 3 i ben ar 1 Awst (7 mis i flwyddyn 3). Daw i’r casgliad mai £60,000 fydd y rhent ar gyfer y tair blynedd sy’n arwain at yr adolygiad rhent nesaf ar ddiwedd blwyddyn 6. Bydd y trethdalwr wedi cyfrifo’r rhent sy’n daladwy o dan y les ar gyfer y 3 blynedd gyntaf, sef £50,000 y flwyddyn. Ar gyfer y 2 flynedd nesaf a gweddill cyfnod y les, byddant wedi defnyddio’r amcangyfrif gorau yn eu barn nhw (yn yr achos hwn, ar sail y ffeithiau, mae A Cyf yn ystyried y bydd y rhent yn codi i £57,000 yn ystod yr adolygiad rhent cyntaf). Felly, maent yn cyfrifo’r gwerth net presennol gan ddefnyddio 3 blynedd gyda rhent o £50,000 a dwy flynedd gyda rhent o £57,000 (gan ddefnyddio £57,000 i gyfrifo’r gwerth net presennol ar gyfer y blynyddoedd ar ôl blwyddyn 5). Yn yr achos hwn, mae’r gwerth net presennol yn £328,197.

Example 2

Mae B Cyf yn agor siop newydd, a rhoddwyd les iddo am gyfnod o 7 mlynedd. Mae’r les yn les ar sail trosiant, gyda’r rhenti’n cael eu mynegi fel 4% y cant o’r gwerthiant heb gynnwys TAW neu isafswm o £40,000 y flwyddyn. Mae’n rhaid talu’r gwir rent ar sail trosiant i’r landlord 3 mis ar ôl diwedd y flwyddyn (31 Rhagfyr). Mae B Cyf wedi rhagamcanu ei drosiant net ar gyfer y 5 mlynedd gyntaf fel £750,000, £900,000, £1,200,000, £1,300,000 a £1,300,000. Dylai’r ffurflen dreth ar gyfer rhoi’r les ddefnyddio’r ffigurau hyn ar gyfer rhent - £40,000 (oherwydd ei fod yn fwy na £750,000 x 4%), £40,000 (oherwydd ei fod yn fwy na £900,000 x 4%), £48,000 (£1,200,000 x 4%), £52,000 (£1,200,000 x 4%), a £52,000. £52,000 yw’r swm uchaf mewn unrhyw gyfnod o 12 mis yn olynol hefyd, a’r swm hwn a ddefnyddir i gyfrifo’r gwerth net presennol ar gyfer blynyddoedd 6 a 7. Yn yr achos hwn, mae’r gwerth net presennol yn £291,552.

Rhent amrywiol neu ansicr: Adolygiadau rhent

Pan fydd telerau les yn darparu ar gyfer adolygiad rhent yn ystod y pum mlynedd gyntaf, neu os yw’r rhent fel arall yn ansicr neu heb ei ganfod, mae’r rhent yn amrywiol ac yn ansicr ar ddyddiad rhoi’r les. At ddibenion cyfrifo’r gwerth net presennol ar gyfer y pum mlynedd gyntaf, dylid rhoi amcangyfrif rhesymol o’r swm sy’n daladwy. Nid oes yn rhaid i hwn fod yn brisiad proffesiynol o anghenraid, ond dylid cadw tystiolaeth o’r hyn a ddefnyddiwyd fel sail ar gyfer yr amcangyfrif rhag ofn y bydd gan yr Awdurdod Cyllid ymholiad.

Adolygiad Rhent Cyntaf yn chwarter olaf y bumed flwyddyn

(paragraff 11)

Ystyrir bod adolygiad rhent yn digwydd ar ôl diwedd pumed flwyddyn cyfnod y les, felly caiff ei ddiystyru at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir i bob pwrpas os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • dyma’r adolygiad cyntaf neu’r unig adolygiad
  • mae swm yr adolygiad yn ansicr ar ddyddiad rhoi’r les
  • mae dyddiad yr adolygiad bum mlynedd ar ôl dyddiad penodedig (er enghraifft, ‘dyddiad dechrau’ les cyn ei rhoi), ac
  • mae’r dyddiad penodedig o fewn 3 mis cyn dechrau cyfnod y les

Felly, bydd canlyniad yr adolygiad rhent cyntaf yn ystod cyfnod les yn cael ei ddiystyru os bydd yr adolygiad rhent hwnnw’n cael ei gynnal ar ddyddiad sydd 4 blynedd a 9 mis ar ôl dyddiad dechrau cyfnod y les.

Mae’r ddeddfwriaeth yn cyfeirio at ‘ddyddiad penodedig’, felly dim ond pan ddarperir ar gyfer yr adolygiad pum mlynedd yn nhelerau’r les y mae’r ddarpariaeth hon yn berthnasol.

Addasu pan bennir y rhent ar y dyddiad ailystyried

(paragraff 12)

Pan fydd y rhenti sy’n daladwy’n ddibynnol, yn ansicr neu heb eu canfod, a phan bennir dyddiad ailystyried, mae’n rhaid i’r trethdalwr bennu swm y rhent sy’n daladwy ar gyfer 5 mlynedd gyntaf y les. Y dyddiad ailystyried yw’r dyddiad ar ddiwedd pumed flwyddyn cyfnod y les, neu unrhyw ddyddiad cynharach pan fo swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les yn peidio â bod yn ansicr. Bydd hyn yn golygu y dylai fod angen i drethdalwr ddychwelyd un ffurflen dreth ychwanegol mewn cysylltiad â rhenti’r les.

Mewn cysylltiad â rhent dibynnol, bydd y rhent yn peidio â bod yn ansicr pan fydd y digwyddiad dibynnol yn digwydd, neu pan fydd yn amlwg na fydd yn digwydd.  Ar gyfer rhent ansicr neu heb ei ganfod, dyma pryd caiff y swm ei ganfod.

Tandaliad treth pan bennir rhent ar y dyddiad ailystyried

(paragraff 13)

Os, o ganlyniad i'r dyddiad ailystyried sy’n pennu'r rhenti sy’n daladwy yn ystod 5 mlynedd cyntaf cyfnod y les, y bydd hyn yn golygu y bydd y trafodiad tir yn dod yn hysbysadwy, neu fod angen talu Treth Trafodiadau Tir ychwanegol, bydd yn rhaid dychwelyd ffurflen dreth neu ffurflen dreth ychwanegol cyn diwedd y 30 diwrnod gan gychwyn gyda’r dyddiad ailystyried.  

Pan fydd y dyddiad ailystyried yn codi oherwydd bod y dyddiad yn disgyn ar ddiwedd pumed flwyddyn y les, bydd angen i’r trethdalwr ddychwelyd ffurflen dreth o fewn tri deg diwrnod o’r dyddiad hwnnw. Ond, ar bwynt fel hyn, er enghraifft ar gyfer les trosiant, mae’n bosib y bydd y rhenti’n parhau i fod yn ansicr. Mewn achos fel hyn, os bydd y trafodiad tir yn dod yn hysbysadwy neu fod angen talu treth ychwanegol, rhaid i’r trethdalwr ddal anfon ffurflen dreth cyn 30 diwrnod o ddiwedd pumed flwyddyn y les. Bydd yn rhaid i'r trethdalwr ddefnyddio ei grebwyll i lenwi’r ffurflen dreth honno, er enghraifft os yw’n gwybod beth yw rhenti’r 4 blynedd cyntaf ond nid y bumed, dylid dychwelyd y ffurflen dreth gan gynnwys y rhent gwirioneddol am y 4 blynedd hynny a’r amcangyfrif diweddaraf ar gyfer y bumed flwyddyn.

Ar ôl cyflwyno’r ffurflen dreth honno, mae gan y trethdalwr 12 mis o ddyddiad ffeilio'r ffurflen dreth i newid y ffurflen dreth i roi ffigur cywir ar gyfer y rhenti sy’n daladwy. Dylai newidiadau i’r ffurflen dreth gael eu gwneud yn unol â’r rheolau perthnasol. Diben y rheol hon yw sicrhau bod dyddiad penodedig ar gyfer pennu’r dreth derfynol i'w thalu ar y les.

Enghraifft

Mae'r ffeithiau’r un fath â’r rhai yn achos B Cyf wrth gyfrifo'r Gwerth Net Presennol lle mae'r rhenti’n ansicr. Mae B Cyf yn sefydlu ei drosiant erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn er mwyn iddo allu gwneud taliad cywiro i’w landlord. Y trosiant gwirioneddol am y 4 blynedd cyntaf, sy’n hysbys ar y dyddiad ar ddiwedd pumed flwyddyn cyfnod y les yw £825,000, £950,000, £1,250,000, a £1,400,000. Y rhenti gwirioneddol sy’n daladwy yw ffigurau rhent £40,000 (gan ei fod yn uwch na £825,000 x 4%), £40,000 (gan ei fod yn uwch na £950,000 x 4%), cynnydd i £50,000 (£1,250,000 x 4%), cynnydd i £56,000 (£1,400,000 x 4%). Nid yw trosiant blwyddyn 5 wedi'i bennu eto, felly rhaid i B Cyf ddefnyddio ei grebwyll i amcangyfrif hyn. Mae B Cyf, yn seiliedig ar y ffigurau sydd ar gael hyd yma am y bumed flwyddyn, yn credu y bydd y trosiant ychydig yn uwch ar £1,425,000 (rhent o £57,000). Felly, y Gwerth Net Presennol yw £309,049 gyda’r rhent ar gyfer y blynyddoedd ar ôl blwyddyn 5 yn seiliedig ar rent y blynyddoedd cynt (sydd hefyd y cyfnod uchaf o 12 mis yn olynol yn y 5 mlynedd cyntaf). Bydd ffurflen dreth yn cael ei hanfon erbyn y dyddiad ffeilio sy’n 30 diwrnod ar ôl y dyddiad ailystyried (yn yr achos hwn, 31 Rhagfyr 2024 yw’r dyddiad ailystyried, felly mae'r dyddiad ffeilio 30 diwrnod ar ôl y dyddiad hwnnw – 30 Ionawr 2025).

Erbyn 31 Mawrth 2015 bydd B Cyf yn sefydlu bod y rhenti yn y bumed yn is na’r disgwyl ar £1,390,000 (rhent o £55,600). Rhaid i B Cyf wneud newid i’r ffurflen dreth ychwanegol i adlewyrchu’r rhent gwirioneddol sy’n daladwy ym mlwyddyn 5. O ganlyniad, rhaid i’r rhent ar gyfer y blynyddoedd ar ôl blwyddyn 5 gael ei newid hefyd gan fod y rhent uchaf yn y 5 mlynedd cyntaf yn cael ei dalu’n awr ym mlwyddyn 4 yn hytrach na'r amcangyfrif blaenorol a ddefnyddiwyd ar gyfer blwyddyn 5. Felly, £308,072 yw’r Gwerth Net Presennol. Bydd ACC yn ad-dalu os bydd gormod o dreth wedi’i thalu.

Pe byddai’r rhenti’n cynyddu mwy na'r amcangyfrif ar gyfer blwyddyn 5, byddai angen newid y ffurflen dreth i adlewyrchu'r ffaith hon, a byddai’n rhaid i B Cyf dalu treth ychwanegol.

Gordaliad treth pan bennir rhent ar y dyddiad ailystyried

(paragraff 14)

Os, o ganlyniad i’r dyddiad ailystyried, fod llai o Dreth Trafodiadau Tir yn daladwy, gall y trethdalwr wneud newidiadau i’r ffurflen dreth lle y bo hynny’n bosib neu os na all wneud newidiadau i’r ffurflen dreth, gall wneud hawliad i ACC am ad-daliad o’r dreth sydd wedi'i gordalu.

Fel arfer, rhaid newid y ffurflen dreth o fewn 12 mis i ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth. Felly, mae’n rhaid newid o fewn 13 mis o’r dyddiad y rhoddwyd y les.

Mae'r rheolau sy’n berthnasol i'r dyddiad y bydd angen gwneud hawliad yn cael eu hymestyn ar gyfer hawliadau sy’n ymwneud â gordaliad lle mae’r rhent yn cael ei bennu ar ddyddiad ailystyried. Mae modd hawlio ad-daliad o fewn cyfnod y 4 blynedd ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth wreiddiol neu, os yw’n hwyrach, o fewn cyfnod o 12 mis yn cychwyn gyda’r dyddiad ailystyried. Os yw’r dyddiad ailystyried yn disgyn ar ddiwedd pumed flwyddyn cyfnod y les, bydd y rheol ddiwethaf yn berthnasol, ac mae hyn yn rhoi 12 mis o’r dyddiad ailystyried i’r trethdalwr hawlio ad-daliad. Ni fydd hawliadau a wneir ar ôl y cyfnod hwnnw’n cael eu had-dalu.

Example

Cafodd Y Cyf les 10 mlynedd ar 1 Ebrill 2025. Dychwelodd ei ffurflen dreth a defnyddio ei grebwyll i bennu’r rhent sy’n daladwy ar y dyddiad ffeilio sef 1 Mai 2025. Mae'r rhenti’n ansicr a dim ond ar ddiwedd 5 mlynedd cyntaf y les y bydd modd eu canfod. Felly, 31 Mawrth 2030 yw’r dyddiad ailystyried. Bydd Y Cyf yn sefydlu ei fod wedi goramcangyfrif y rhenti sy’n daladwy dros 5 mlynedd cyntaf cyfnod y les a bod ad-daliad yn ddyledus. Ni all newid y ffurflen dreth a wnaed ar 1 Mai 2025 gan fod y cyfnod o 12 mis ar gyfer gwneud hynny wedi mynd heibio. Rhaid iddo felly hawlio ad-daliad o’r Dreth Trafodiadau Tir gan ACC. Rhaid hawlio erbyn 1 Mai 2029 fan bellaf (4 blynedd o ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth sy’n berthnasol i'r hawliad) neu 31 Mawrth 2030 (12 mis ar ôl y dyddiad ailystyried). Os bydd Y Cyf yn hawlio erbyn 31 March 2031, bydd ACC yn ad-dalu (os bydd yn cytuno bod treth wedi'i gordalu). Os bydd yr hawliad cyntaf yn cael ei wneud ar ôl y dyddiad hwnnw, ni fydd yr ad-daliad yn cael ei wneud.

Premiwm - cydnabyddiaeth ar wahân i rent

Nid yw’r term ‘premiwm’ yn cael ei ddefnyddio yn neddfwriaeth y Dreth Trafodiadau Tir, er ei fod yn derm cyffredin ar gyfer cydnabyddiaeth a roddir ar gyfer les ond nad yw’n rhent. Yn hytrach, defnyddir yr ymadrodd ‘cydnabyddiaeth ar wahân i rent’ (er enghraifft, premiwm).

Bydd cydnabyddiaeth a roddir gan denant i landlord am roi les yn drethadwy o dan y Dreth Trafodiadau Tir fel premiwm, oni bai ei fod ar ffurf rhent (neu fel arall os yw’n esempt rhag treth).

Nid yw cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi les sydd mewn cysylltiad â chyfnod cyn rhoi’r les yn rhent at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, hyd yn oed os yw’n cael ei disgrifio felly, ac mae modd trethu’r gydnabyddiaeth hon fel cydnabyddiaeth ar wahân i rent.

Mae taliadau premiwm ar gyfer les yn cael eu codi o dan y Dreth Trafodiadau Tir yn yr un modd ag y mae cydnabyddiaeth drethadwy arall; er enghraifft, talu swm i gaffael buddiant mewn rhydd-ddaliad.

Pan fydd premiwm a rhent yn daladwy am roi les, bydd y dreth sy’n ddyledus ar gyfer dwy elfen y gydnabyddiaeth yn cael eu cyfrifo ar wahân, ac yna eu hadio i bennu cyfanswm y Dreth Trafodiadau Tir sy’n ddyledus. Dylid nodi y gall rheolau arbennig fod yn berthnasol pan fydd trethdalwr yn cael les sy’n cynnwys rhent a phremiwm. Os bydd y rheolau arbennig yn berthnasol, ni fydd gan y trethdalwr hawl i'r trothwy cyfradd sero am y swm a delir fel premiwm.

Premiymau gwrthol - nad ydynt yn gydnabyddiaethau trethadwy

(paragraff 15 Atodlen 6)

Diffinnir premiwm gwrthol fel hyn:

  • Premiwm y mae landlord yn ei dalu i denant mewn cysylltiad â rhoi les, neu
  • Bremiwm y mae’r aseiniwr yn ei dalu i’r aseinai mewn cysylltiad ag aseinio les, neu
  • Bremiwm y mae’r tenant yn ei dalu i’r landlord mewn cysylltiad ag ildio les

Nid yw taliadau o’r fath yn gydnabyddiaethau trethadwy at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir.

Rhwymedigaethau tenantiaid - nad ydynt yn gydnabyddiaethau trethadwy

(paragraff 16)

Pan roddir les newydd, nid yw’r canlynol yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy:

  • unrhyw ymgymeriad gan y tenant i atgyweirio, i gynnal a chadw neu i yswirio’r eiddo
  • unrhyw ymgymeriad gan y tenant i dalu unrhyw swm ar gyfer gwasanaethau, atgyweiriadau, cynnal a chadw neu yswiriant neu gostau rheoli’r landlord
  • unrhyw rwymedigaeth arall a gymerir gan y tenant nad yw’n effeithio ar y rhent y byddai tenant yn ei dalu ar y farchnad agored
  • unrhyw warant am dalu’r rhent neu gyflawni unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau eraill y tenant o dan y les
  • unrhyw rent penydiol, neu rent uwch o natur rhent penydiol, sy’n daladwy mewn cysylltiad â thorri unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau’r tenant o dan y les
  • tenant yn talu costau landlord o dan y darpariaethau statudol sy’n rheoli rhyddfreinio neu ymestyn lesoedd fflatiau a lesoedd hir tai, neu rwymedigaeth i dalu costau o'r fath
  • tenant yn talu costau rhesymol eraill y landlord wrth roi les, neu’n atodol i hynny, neu rwymedigaeth i dalu costau o'r fath
  • unrhyw rwymedigaeth arall o dan y les i drosglwyddo hawliau i daliadau a roddwyd i’r tenant o dan Gynllun Taliad Sengl (lesoedd amaethyddol) i’r landlord

Nid yw taliad gan denant wrth gyflawni unrhyw rai o’r rhwymedigaethau uchod yn gydnabyddiaeth drethadwy.

Nid yw’r taliadau uchod yn gydnabyddiaethau trethadwy hydd yn oed os ydynt yn cael eu neilltuo fel rhent o dan delerau’r les. Fodd bynnag, pan ddarperir ar gyfer un swm yn y les, i dalu (er enghraifft) am rent a thâl gwasanaeth, mae’n rhaid cyfrifo’r swm sydd wedi’i eithrio o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar sail dyraniad teg a rhesymol.

Yn yr un modd, wrth ildio les, nid yw taliad i ryddhau tenant o unrhyw rai o’r rhwymedigaethau uchod yn gydnabyddiaeth drethadwy. 

Ildio les bresennol am les newydd

(paragraff 17)

Pan roddir les yn gydnabyddiaeth am ildio les bresennol rhwng yr un tenant a landlord, nid yw rhoi’r les newydd ac ildio’r hen les yn gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y naill a’r llall, ac nid yw’r rheolau cyfnewid yn berthnasol.

Aseinio les: perchennog newydd yn ymgymryd â rhwymedigaethau

(paragraff 18)

Wrth aseinio les; nid yw’r ffaith bod y tenant newydd yn ysgwyddo’r rhwymedigaethau i dalu rhent neu i gyflawni neu gadw at unrhyw rai o’r ymgymeriadau o dan y les, yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.

Blaendal a benthyciad mewn cysylltiad â rhoi neu aseinio les

(paragraff 19)

Pan fo tenant (neu berson sy’n gysylltiedig â’r tenant) yn rhoi benthyciad neu’n talu blaendal i rywun (boed yn landlord neu’n drydydd parti), a bod ad-dalu hynny’n dibynnu ar unrhyw beth a wneir neu na wneir gan y tenant:

  • dylid trin swm y benthyciad neu’r blaendal fel cydnabyddiaeth ar wahân i rent (premiwm) gan y tenant am roi’r les;
  • ac eithrio pan nad yw swm y blaendal yn fwy na dwywaith yr uchafswm rhent perthnasol (y swm uchaf o rent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o 12 mis yn olynol yn ystod pum mlynedd gyntaf cyfnod y les); yn yr amgylchiadau hyn, bydd y benthyciad neu’r blaendal yn cael ei anwybyddu at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir

Mae’r un darpariaethau’n berthnasol i fenthyciadau a wneir neu flaendaliadau a dalwyd gan aseinai mewn cysylltiad ag aseinio les. Yn yr achos hwn, y swm uchaf o rent perthnasol yw’r swm uchaf o rent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o 12 mis yn olynol yn ystod pum mlynedd gyntaf y cyfnod sydd ar ôl ar gyfer y les, ar ddyddiad aseinio’r les.

Sefydlir y swm uchaf o rent perthnasol o ran rhoi ac aseinio les, heb gyfeirio at sefyllfaoedd lle bydd dwy les neu gyfnodau ffurflenni treth yn gorgyffwrdd, a rhoddir credyd i ostwng y gorgyffwrdd. Anwybyddir swm gostyngol y rhent o ganlyniad i’r credyd gorgyffwrdd a defnyddir y rhenti o dan delerau’r les i sefydlu’r swm uchaf o rent perthnasol.

DTTT/4100 Cytundebau ar gyfer les, aseiniadau ac amrywiadau

(Rhan 4 Atodlen 6)

Cytundeb ar gyfer les

(paragraff 20)

Yn aml, ceir cytundeb ar gyfer les cyn rhoi les. Er bod modd i hwn gael ei weithredu yn ôl y gyfraith fel les ecwitïol, at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, caiff ei drin fel contract nad yw’n drethadwy o dan y Dreth Trafodiadau Tir, os:

  • nad yw ymrwymo i gytundeb ar gyfer les ynddo’i hun yn drafodiad tir o dan reolau’r Dreth Trafodiadau Tir, neu
  • os nad yw’r cytundeb wedi ‘cyflawni’n sylweddol’ cyn bydd y les ei hun yn cael ei chwblhau, caiff y cytundeb ei drin fel rhan o’r un trafodiad â’r les a’r dyddiad dod i rym fydd dyddiad y les ei hun

Fodd bynnag, os bydd cytundeb ysgrifenedig wedi ‘cyflawni’n sylweddol’ cyn i les gael ei chwblhau, mae modd trin hynny fel rhoi ‘les dybiannol’ a’r dyddiad dod i rym fyddai’r dyddiad cyflawni’n sylweddol.

Y dyddiad y mae’r trafodiad yn dod i rym yn achos les dybiedig yw’r dyddiad y caiff y cytundeb ei gyflawni’n sylweddol. Caiff cytundeb ar gyfer les ei gwblhau drwy roi les sy’n cydymffurfio â’r cytundeb (dyma’r ‘les wirioneddol’).

Pan roddir les wirioneddol, caiff y les dybiannol ei thrin fel pe bai’n les sydd wedi cael ei rhoi ar y dyddiad cyflawni’n sylweddol; am gyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad hwnnw (dyddiad dechrau’r les), ac a ddaw i ben ar ddiwedd y les wirioneddol, ac yn gydnabyddiaeth am y rhent a dalwyd yn ystod y cyfnod (hwy) hwnnw.

Pan fydd yr amgylchiadau hyn yn codi, caiff rhoi’r les wirioneddol ei diystyru, ac eithrio mewn cysylltiad â’r gofyn am gyflwyno ffurflen dreth ychwanegol mewn cysylltiad â’r les dybiannol, o ganlyniad i les wirioneddol fod yn drafodiad cysylltiol yn ddiweddarach.

Caiff rhoi’r les dybiannol a rhoi’r les wirioneddol eu trin fel trafodiadau cysylltiol ym mhob achos. Pan fydd newid mewn tenantiaid rhwng y dyddiadau dod i rym ar gyfer y les dybiannol a’r les wirioneddol, y tenant o dan y les wirioneddol sy’n atebol am unrhyw Dreth Trafodiadau Tir neu Dreth Trafodiadau Tir ychwanegol sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r les dybiannol oherwydd y trafodiad cysylltiol, ac at y dibenion hyn, bydd y tenant o dan y les wirioneddol yn cael ei drin fel y prynwr o dan y les dybiannol.

Pan ymrwymir i gytundeb ar gyfer les a phan fydd y cytundeb hwnnw’n cyflawni’n sylweddol, ond cyn pen 12 mis i ddyddiad cyflawni’r cytundeb yn sylweddol, bod y cytundeb yn cael ei ddadwneud neu ei ddirymu, a bod y trethdalwr yn diwygio’r ffurflen dreth berthnasol, bydd yr Awdurdod Cyllid yn ad-dalu’r dreth.

Enghraifft 1

Mae A Cyf yn ymrwymo i gytundeb ar gyfer les gyda B Cyf. Mae’r tir yn dir amhreswyl ac mae’r cytundeb ar gyfer y les am gyfnod o 5 mlynedd o ddyddiad rhoi’r les mewn gwirionedd (nad yw’n hysbys ar hyn o bryd). Mae’r rhent yn £250,000 y flwyddyn. Ymrwymir i’r cytundeb ar gyfer les ar 1 Mawrth 2020, ac mae A Cyf yn talu’r rhent ar gyfer y chwarter cyntaf ar y dyddiad hwnnw, ar raddfa o £250,000 y flwyddyn, yn unol â’r cytundeb. Felly mae’r cytundeb ar gyfer les wedi’i gyflawni’n sylweddol ar y dyddiad hwnnw.

Yn y cytundeb ar gyfer les, gellir mynegi'r taliad hwn fel ffi drwydded sy'n daladwy am feddiannu yn ystod y cyfnod cyn dyddiad gwirioneddol cwblhau’r les. At ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, caiff hyn ei drin fel rhent sy'n daladwy dan les dybiannol.

Gan nad yw'r dyddiad y bydd y les yn dod i ben yn hysbys ar y pwynt cyflawni’n sylweddol (gan ei fod yn dibynnu ar pryd y rhoddir y les mewn gwirionedd), dylid trin y les dybiannol fel un amhenodol hyd nes y rhoddir y les wirioneddol. Pan gaiff ei rhoi am y tro cyntaf, dylid trin les am gyfnod amhenodol fel les am dymor penodol o un flwyddyn (gweler DTTT/4030). Yn yr enghraifft hon, gwerth presennol net rhent y les un flwyddyn hon yw £241,545, felly mae'n uwch na'r trothwy 0% amhreswyl o £225,000.

Mae’n rhaid i’r trethdalwr gyflwyno ffurflen dreth erbyn 31 Mawrth 2020 mewn cysylltiad â’r les dybiannol, gan ei fod yn drafodiad hysbysadwy.

Pan roddir y les mewn gwirionedd, bydd gofyn anfon ffurflen dreth arall ar gyfer y ffurflen dreth sy’n ymwneud â’r les dybiannol (gweler DTTT/6020). Er enghraifft, mae B Cyf yn rhoi’r les wirioneddol ar 1 Hydref 2021. Bydd angen cyflwyno’r ffurflen dreth ychwanegol erbyn 31 Hydref 2021, gan hunanasesu’r dreth sy’n ddyledus ar gyfer y les dybiannol hwy, sef 6.5 o flynyddoedd (sy’n cynnwys y cyfnod yr oedd y cytundeb ar gyfer y les yn weithredol, o 1 Mawrth 2020 tan 30 Medi 2021 a chyfnod y les o 1 Hydref 2021 tan 30 Medi 2026.

Enghraifft 2

Mae C Cyf yn ymrwymo i gytundeb ar gyfer les gyda D Cyf. Mae'r tir yn amhreswyl ac mae'r cytundeb ar gyfer tymor les o ddyddiad rhoi'r les a chan gynnwys y dyddiad hwnnw, tan 31 Mawrth 2030. Y rhent yw £100,000 y flwyddyn. Mae'r tenant yn cyflawni'r cytundeb yn sylweddol drwy gymryd meddiant o'r eiddo ar 1 Mawrth 2020 ac mae C Cyf yn talu rhent ei chwarter cyntaf ar y dyddiad hwnnw ar gyfradd o £100,000 y flwyddyn yn unol â'r cytundeb.

Yn y cytundeb ar gyfer les, gellir mynegi'r taliad hwn fel ffi drwydded sy'n daladwy am feddiannu yn ystod y cyfnod cyn dyddiad gwirioneddol cwblhau’r les. At ddibenion y Dreth Trafodion Tir, caiff hyn ei drin fel rhent sy'n daladwy dan les dybiannol.

Gan fod dyddiad dod i ben pendant i'r les ar y pwynt cyflawni’n sylweddol, mae'r les dybiannol am gyfnod penodol o 10 mlynedd ac 1 mis (o a chan gynnwys 1 Mawrth 2020 hyd 31 Mawrth 2030).

Gan fod y les hon am dymor o saith mlynedd neu fwy ac yn cael ei rhoi ar gyfer cydnabyddiaeth drethadwy, mae'r trafodiad yn hysbysadwy. Felly, rhaid hysbysu ACC o fewn 30 diwrnod i ddyddiad dod i rym y cyflawni’n sylweddol (1 Mawrth 2020 yn yr achos hwn).

Aseinio cytundeb ar gyfer les

(Paragraff 21)

Os bydd cytundeb ar gyfer les, neu fuddiant mewn cytundeb ar gyfer les, yn cael ei aseinio o un person i un arall, nid yw’r rheolau cyn-gwblhau yn atodlen 2 yn berthnasol.

Yn hytrach, os nad yw’r cytundeb wedi cael ei gyflawni’n sylweddol, bydd y rheolau sy’n ymwneud â chontractau a throsglwyddo yn berthnasol, fel pe bai’r cytundeb â’r aseinai yn hytrach na’r person gwreiddiol a ymrwymodd i’r cytundeb gwreiddiol ar gyfer y les, a bod y gydnabyddiaeth a roddir gan yr aseinai ar gyfer y cytundeb hwnnw yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth a roddir ganddo ar gyfer yr aseiniad.

Os yw’r cytundeb wedi cael ei gyflawni’n sylweddol, yna mae’r aseiniad yn drafodiad tir ar wahân, a dyddiad yr aseiniad yw’r dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw’n dod i rym.

Achosion pan gaiff aseinio les ei drin fel rhoi les

(paragraff 22)

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd aseinio les yn arwain at Dreth Trafodiadau Tir yn daladwy ar unrhyw gydnabyddiaeth ar wahân i rent, er enghraifft premiwm, ond nid ar y rhent sy’n daladwy o dan y les. Mae hyn oherwydd bod y rhenti hynny eisoes wedi cael eu trethu pan roddwyd y les i ddechrau. Mae’n rhaid trethu unrhyw dreth sy’n ddyledus yn y dyfodol, er enghraifft, pan fydd les yn cael ei hymestyn.

Pan roddwyd y les, os oedd y prynwr wedi hawlio rhyddhad o dan y canlynol:

  • rhyddhad gwerthu ac adles
  • rhyddhad bondiau buddsoddi cyllid arall
  • rhyddhad grŵp
  • rhyddhad atgyfansoddi a chaffael
  • ryddhad i elusennau, neu 
  • ryddhad ar gyfer caffaeliadau penodol sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus
  • Rhyddhad safleoedd treth arbennig

nid yw aseiniad cyntaf y les nad yw’n ddarostyngedig i hawlio rhyddhad sydd wedi’i restru uchod (neu nad yw wedi’i chaffael fel ymddiriedolwr noeth yr aseiniwr) yn cael ei drin fel pe bai’r les yn cael ei rhoi.

Tybir bod cyfnod y les sydd wedi’i roi am gyfnod sy’n cyfateb i’r cyfnod o’r les sydd heb ddod i ben pan gaiff ei aseinio i berson nad yw’n hawlio rhyddhad, a thybir ei bod wedi cael ei rhoi ar yr un telerau â’r les gyntaf a roddwyd.

Nid yw’r rheolau pan dybir bod les wedi’i rhoi yn berthnasol os bydd y rheolau tynnu rhyddhad yn cael eu rhoi ar waith o ganlyniad i ddigwyddiad datgymhwyso, a bod hynny’n berthnasol i’r trafodiad gwreiddiol o roi les, neu drafodiad dilynol o’r fath yr hawliwyd rhyddhad ar ei gyfer.

Aseinio les

(paragraff 23)

Pan gaiff les ei haseinio, y prynwr fydd yn ysgwyddo unrhyw rwymedigaethau Treth Trafodiadau Tir ar ôl y dyddiad hynny, a fyddai wedi bod yn gyfrifoldeb y gwerthwr ar y dyddiad yr oedd y trafodiad yn dod i rym neu cyn hynny.

Dyma’r rhwymedigaethau a all ddisgyn ar y prynwyr:

  • dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth pan fydd digwyddiad dibynnol yn cael ei ganfod
  • dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth neu ffurflen dreth ychwanegol o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarach
  • dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth neu ffurflen dreth ychwanegol pan fydd cyfnod penodol neu gyfnod amhenodol les yn parhau
  • dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth neu ffurflen dreth ychwanegol pan fydd tandaliad treth yn codi pan fydd rhent yn cael ei bennu ar ddyddiad ailystyried

Hefyd, bydd gan y prynwr hawl i hawlio pan fydd gordaliad treth yn codi o ganlyniad i rent yn cael ei bennu ar ddyddiad ailystyried.

Gostwng rhent neu leihau cyfnod neu amrywio’r les mewn ffordd arall

(paragraff 24)

Pan fydd les yn cael ei hamrywio fel bod swm y rhent sy’n daladwy’n gostwng, caiff yr amrywiad i'r les ei drin fel pe bai’r tenant yn caffael buddiant trethadwy ac mae unrhyw gydnabyddiaeth ariannol neu gyfwerth ariannol yn drethadwy o dan y Dreth Trafodiadau Tir.

Mewn cysylltiad ag unrhyw amrywiad arall, bydd unrhyw gydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol (ac eithrio cynnydd mewn rhent) a roddir gan y tenant ar gyfer amrywio yn cael ei ystyried fel pe bai'r tenant yn caffael buddiant trethadwy ac mae hynny’n drethadwy o dan y Dreth Trafodiadau Tir.

Caiff amrywiad i les sy’n lleihau cyfnod y les ei drin fel pe bai’r landlord yn caffael buddiant trethadwy. Os bydd y landlord yn talu arian neu gyfwerth ariannol i’r tenant am y cytundeb i leihau cyfnod y les, bydd y swm hwnnw’n agored i Dreth Trafodiadau Tir a rhaid dychwelyd ffurflen dreth i’r Awdurdod Cyllid os yw’n drafodiad hysbysadwy.

Trin cynnydd mewn rhent fel rhoi les newydd: amrywio les yn ystod y 5 mlynedd gyntaf

(paragraff 25)

Pan gaiff les ei hamrywio fel bod swm y rhent yn cynyddu o ddyddiad cyn diwedd pumed flwyddyn cyfnod y les, caiff yr amrywiad ei drin fel achos o roi les yn gydnabyddiaeth am y rhent ychwanegol sy’n daladwy.  Fodd bynnag, nid yw’r rheol hon yn berthnasol pan oedd yr amrywiad o ganlyniad i ddarpariaeth yn y les cyn ei hamrywio, neu amrywiadau’n codi mewn cysylltiad â rhai lesoedd amaethyddol.

DTTT/4110 Cyfrifo rhent perthnasol

Newidiodd trothwy’r rhent perthnasol ym mis Chwefror 2021.

Ar gyfer unrhyw drafodiad a gwblhawyd:

  • cyn 4 Chwefror 2021, y trothwy rhent perthnasol yw £9,000
  • ar neu ar ôl 4 Chwefror 2021, y trothwy rhent perthnasol yw £13,500

Y rhent perthnasol ydy’r rhent blynyddol uchaf yn ystod holl gyfnod y les. Os nad oes modd canfod y rhent ar gyfer holl gyfnod y les ar y dyddiad y mae'r trafodiad yn dod i rym, y rhent perthnasol ydy'r rhent blynyddol uchaf sy’n daladwy y mae modd ei ganfod. Pan fydd y les yn pennu rhent am gyfnodau ar wahân i gyfnodau blynyddol, y rhent perthnasol fydd y rhent uchaf mae modd ei ganfod ar gyfer unrhyw gyfnod o'r fath, wedi’i gyfartaleddu i ffigur blynyddol. Pan fydd y rhent yn ansicr, ond mae modd ei bennu drwy ddefnyddio amcangyfrif rhesymol, yna dylid ei ganfod drwy ddefnyddio amcangyfrif o’r fath. Yr eithriad i’r rheol hon yw, pan fydd ond disgwyl i’r rhent gynyddu yn unol â mynegai sydd wedi’i ddylunio i fynegi chwyddiant, mae modd anwybyddu'r ansicrwydd a seilio’r rhent perthnasol ar rent pendant hysbys. Pan fydd y rhent yn ansicr oherwydd byddai rhent ychwanegol yn ddyledus petai hapddigwyddiad a bennwyd yn digwydd, yna caiff y rhent ei ganfod ar y sail y bydd yr hapddigwyddiad yn digwydd.

Pan fydd sawl les mewn trafodiad cysylltiedig, dylid cyfrifo’r rhent perthnasol ar wahân ar gyfer pob un ohonyn nhw ac wedyn eu hadio at ei gilydd.

Enghraifft 1

Mae Cwmni A yn ymrwymo i gytundeb les 5 mlynedd. Mae’r rhent yn cael ei osod ar £7,000 cyson y flwyddyn. £7,000 ydy’r rhent perthnasol.

Enghraifft 2

Mae Cwmni B yn ymrwymo i gytundeb les 10 mlynedd. Mae’r rhent yn cael ei osod ar £8,900 cyson y flwyddyn. Mae adolygiad rhent ar ddiwedd y pumed flwyddyn. Y rhent perthnasol ydy’r rhent uchaf sy’n daladwy y mae modd ei ganfod (ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym); sef £8,900.

Enghraifft 3

Mae Cwmni C yn ymrwymo i gytundeb les 10 mlynedd. Mae’r rhent yn cael ei osod ar £7,000 cyson y flwyddyn am y pum mlynedd cyntaf, gan godi i £9,500 y flwyddyn ar ôl hynny. Y rhent perthnasol ydy’r rhent blynyddol uchaf y mae modd ei ganfod (ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym); sef £9,500.

Enghraifft 4

Mae Cwmni D yn ymrwymo i gytundeb les 15 mlynedd. Ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym does dim ond modd canfod gwerth y rhent mewn perthynas â'r flwyddyn gyntaf. Y rhent ar gyfer y mis cyntaf ydy £400, gan godi £50 y mis tan ddiwedd blwyddyn gyntaf tymor y les (£450 ar gyfer yr ail fis, £500 ar gyfer y trydydd ac ymlaen tan y 12fed mis, sydd wedi’i osod ar £950). Y swm uchaf mae modd ei ganfod o rent sy’n daladwy am unrhyw gyfnod yn ystod tymor y les ydy £950 y mis (ar gyfer y 12fed mis). Mae'r rhent perthnasol yn ffigur blynyddol ar sail y swm uchaf mae modd ei ganfod o rent sy’n daladwy (ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym), ac felly bydd yn £950 X 12 = £11,400.

Enghraifft 5

Mae Cwmni E yn ymrwymo i gytundeb les 5 mlynedd. Mae’r rhent wedi’i osod ar £12,000 am y 18 mis cyntaf a £15,000 ar gyfer yr ail gyfnod o 18 mis.  Nid oes modd canfod y rhent y tu hwnt i’r cyfnod cyntaf o dair blynedd ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym. Mae'r rhent perthnasol yn ffigur blynyddol ar sail y swm uchaf mae modd ei ganfod o rent sy’n daladwy (ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym), ac felly bydd yn £15,000/18 X 12 = £10,000.

Enghraifft 6

Mae Cwmni F yn ymrwymo i gytundeb les 12 mlynedd. Mae’r rhent yn cael ei osod ar £8,000 cyson y flwyddyn. Fodd bynnag, mae’r les yn darparu y bydd y rhent yn codi i £9,500 os bydd Banc Lloegr yn codi’r gyfradd llog i ffigur dros 3% unrhyw dro yn ystod tymor y les. Mae'r rhent perthnasol yn cael ei gyfrifo ar y sail y bydd yr hapddigwyddiad hwnnw’n digwydd. £9,500 ydy’r rhent perthnasol felly.