Beth i'w gynnwys mewn troedyn LLYW.CYMRU.
Cynnwys
Dyluniad y troedyn
Mae enghreifftiau o ddyluniad y troedyn ar gyfer cyfrifiadur bwrdd gwaith a dyfais symudol i’w gweld yn:
- Band Eang yng Nghymru (microwefan)
- Gwobrau Dewi Sant (microwefan)
- BydTermCymru (gwasanaeth)
Llinell gyntaf y troedyn
Gall llinell gyntaf y troedyn gynnwys y dolenni canlynol:
- ‘Ynghylch [gwasanaeth, offeryn neu ficrowefan LLYW.CYMRU]’ (dewisol)
- ‘Sut i ddefnyddio [gwasanaeth, offeryn neu ficrowefan LLYW.CYMRU]’ (dewisol)
- ‘Cysylltu â [enw’r endid y byddai’r defnyddiwr yn cysylltu ag ef]’ (dewisol)
Gallai dolenni eraill fod yn dderbyniol. Ebostiwch digital@llyw.cymru os bydd angen ichi gynnwys dolenni ychwanegol.
Ail linell y troedyn
Mae ail linell y troedyn yn cynnwys y dolenni canlynol:
- ‘Hygyrchedd’ (gorfodol)
- ‘Cwcis’ (gorfodol, os byddwch yn gosod cwcis)
- ‘Datganiad hawlfraint’ (gorfodol)
- ‘Preifatrwydd’
- ‘Telerau ac amodau’
Hygyrchedd
Rhaid ichi fod â thudalen datganiad hygyrchedd a chynnwys dolen ati yn y troedyn.
Rhaid i’r datganiad fod wedi’i we-letya ar eich gwasanaeth, eich offeryn neu’ch microwefan LLYW.CYMRU.
Ebostiwch ddat@llyw.cymru i gael templed ar gyfer datganiad hygyrchedd.
Cwcis
Os yw’ch gwasanaeth, eich offeryn neu’ch microwefan LLYW.CYMRU yn gosod cwcis angenrheidiol yn unig, rhaid ichi fod â thudalen polisi cwcis a chynnwys dolen ati yn y troedyn.
Gallwch ddod o hyd i gyngor ar gwcis cwbl angenrheidiol gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Gall eich gwasanaeth, eich offeryn neu’ch microwefan LLYW.CYMRU osod cwcis nad ydynt yn hollol angenrheidiol. Os felly, rhaid ichi fod â thudalen gosodiadau cwcis a chynnwys dolen ati yn y troedyn. Rhaid ichi hefyd fod â thudalen polisi cwcis a chynnwys dolen ati ar y dudalen gosodiadau cwcis.
Rhaid i dudalen gosodiadau cwcis fod wedi’i gwe-letya ar eich gwasanaeth, eich offeryn neu’ch microwefan LLYW.CYMRU.
Rhaid i’r polisi cwcis fod wedi’i we-letya ar eich gwasanaeth, eich offeryn neu’ch microwefan LLYW.CYMRU. Dylai’r polisi cwcis fod ar ei dudalen ei hun ac nid o fewn hysbysiad preifatrwydd.
Datganiad hawlfraint
Rhaid ichi gynnwys dolen at ddatganiad hawlfraint yn y troedyn.
Onid oes gan eich gwasanaeth neu’ch offeryn LLYW.CYMRU ddatganiad hawlfraint mwy penodol, rhaid i’r ddolen fod at ddatganiad hawlfraint cyffredinol LLYW.CYMRU.
Efallai y bydd angen ddatganiad hawlfraint mwy penodol ar gyfer eich gwasanaeth neu’ch offeryn LLYW.CYMRU. Os felly, dylai gael ei we-letya yng nghraidd LLYW.CYMRU, ger tudalen gychwynnol ar gyfer eich gwasanaeth neu’ch offeryn LLYW.CYMRU, a dylech gynnwys dolen ato.
Ebostiwch digital@llyw.cymru os bydd angen ichi we-letya datganiad hawlfraint yng nghraidd LLYW.CYMRU.
Ar gyfer microwefannau LLYW.CYMRU, rhaid ichi gynnwys dolen at ddatganiad hawlfraint yn y troedyn. Dylai gael ei we-letya yn y ficrowefan.
Preifatrwydd
Rhaid ichi ystyried goblygiadau’ch gwasanaeth, eich offeryn neu’ch microwefan o ran preifatrwydd, er enghraifft prosesu data.
Dylech ofyn am gyngor gan eich tîm cyfreithiol.
Efallai y bydd angen datganiad preifatrwydd ar gyfer eich gwasanaeth neu’ch offeryn LLYW.CYMRU. Os felly, dylai gael ei we-letya yng nghraidd LLYW.CYMRU, ger tudalen gychwynnol ar gyfer y gwasanaeth neu’r offeryn, a dylech gynnwys dolen ato yn y troedyn.
Ebostiwch digital@llyw.cymru os bydd angen ichi we-letya datganiad preifatrwydd yng nghraidd LLYW.CYMRU.
Ar gyfer microwefannau LLYW.CYMRU, os oes angen datganiad preifatrwydd arnoch, dylai gael ei we-letya yn y ficrowefan a dylech gynnwys dolen ato yn y troedyn.
Telerau ac amodau
Dylech ystyried a oes angen telerau ac amodau arnoch.
Dylech ofyn am gyngor gan eich tîm cyfreithiol.
Efallai y bydd angen telerau ac amodau ar gyfer eich gwasanaeth neu’ch offeryn LLYW.CYMRU. Os felly, dylent gael eu gwe-letya yng nghraidd LLYW.CYMRU, ger tudalen gychwynnol ar gyfer y gwasanaeth neu’r offeryn, a dylech gynnwys dolen atynt yn y troedyn.
Ebostiwch digital@llyw.cymru os bydd angen ichi we-letya telerau ac amodau yng nghraidd LLYW.CYMRU.
Ar gyfer microwefannau LLYW.CYMRU, os oes angen telerau ac amodau arnoch, dylent gael eu gwe-letya yn y ficrowefan a dylech gynnwys dolen atynt yn y troedyn.