Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw i helpu defnyddwyr plaladdwyr proffesiynol i gadw at y gyfraith.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2010
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Plaladdwyr: cod ymarfer , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Mae defnyddwyr proffesiynol yn cynnwys:

  • ffermwyr
  • rheolwyr plâu
  • coedwigwyr
  • tyfwyr llysiau

Defnyddir plaladdwyr, y’u gelwir hefyd yn gynhyrchion diogelu planhigion, i reoli plâu, chwyn ac afiechydon. Maent yn cynnwys:

  • pryfladdwyr
  • ffwngladdwyr
  • chwynladdwyr
  • molwsgladdwyr
  • rheolwyr tyfiant planhigion 

Mae’r cod hwn yn rhagddyddio Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Defnydd Cynaliadwy) 2012. Mae’n cynnwys rheolau ychwanegol ynghylch defnyddio cynhyrchion diogelu planhigion proffesiynol. Dylech ddarllen y canllawiau am y rheolau ychwanegol hyn (ar hse.gov.uk) hefyd.