Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i dalu am sganwyr MRI newydd yn Ysbyty Singleton, Abertawe; Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan; ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i dalu am sganwyr MRI newydd yn Ysbyty Singleton, Abertawe; Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan; ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Bydd Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful hefyd yn cael cyllid er mwyn cael offer Fflwrosgopeg.
Disgwylir y bydd tri o'r pedwar cynllun wedi'u cwblhau yn 2019. Fodd bynnag nid ydym yn disgwyl y bydd y sganiwr MRI yn Ysbyty Bronglais wedi’i gwblhau nes 2020.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn offer sgrinio gwell drwy'r Rhaglen Ddelweddu Genedlaethol. Mae manteision y cynllun fel a ganlyn:
- Mwy dibynadwy – gan felly leihau nifer y llawdriniaethau sy'n cael eu gohirio
- Lleihau costau refeniw o redeg a chynnal a chadw hen offer; a
- Delweddu gwell sy'n arwain at ddiagnosis cynharach, sy'n fwy cywir.
"Bydd yr offer sganio newydd a gyhoeddwyd heddiw yn fwy dibynadwy, gan roi mwy o foddhad i'r cleifion a gohirio llai o lawdriniaethau. Mae technoleg well yn gweithio'n gynt hefyd sy'n golygu y bydd y byrddau iechyd yn gallu sganio rhagor o gleifion.
Mae hyn oll yn newyddion da i gleifion ac rwy'n falch y bydd y swm sylweddol o gyllid a gyhoeddwyd gennyf heddiw yn gwneud gwahaniaeth i wasanaethau iechyd ledled Cymru."