Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i dalu am sganwyr MRI newydd yn Ysbyty Singleton, Abertawe; Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan; ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i dalu am sganwyr MRI newydd yn Ysbyty Singleton, Abertawe; Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan; ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth. 

Bydd Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful hefyd yn cael cyllid er mwyn cael offer Fflwrosgopeg.

Disgwylir y bydd tri o'r pedwar cynllun wedi'u cwblhau yn 2019. Fodd bynnag nid ydym yn disgwyl y bydd y sganiwr MRI yn Ysbyty Bronglais wedi’i gwblhau nes 2020.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn offer sgrinio gwell drwy'r Rhaglen Ddelweddu Genedlaethol. Mae manteision y cynllun fel a ganlyn:

  • Mwy dibynadwy – gan felly leihau nifer y llawdriniaethau sy'n cael eu gohirio
  • Lleihau costau refeniw o redeg a chynnal a chadw hen offer; a
  • Delweddu gwell sy'n arwain at ddiagnosis cynharach, sy'n fwy cywir.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

"Bydd yr offer sganio newydd a gyhoeddwyd heddiw yn fwy dibynadwy, gan roi mwy o foddhad i'r cleifion a gohirio llai o lawdriniaethau. Mae technoleg well yn gweithio'n gynt hefyd sy'n golygu y bydd y byrddau iechyd yn gallu sganio rhagor o gleifion.

Mae hyn oll yn newyddion da i gleifion ac rwy'n falch y bydd y swm sylweddol o gyllid a gyhoeddwyd gennyf heddiw yn gwneud gwahaniaeth i wasanaethau iechyd ledled Cymru."