Neidio i'r prif gynnwy

Mae Clwb Allforio Bwyd a Diod Cymru, sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, wedi cyrraedd ac wedi rhagori ar ei garreg filltir o 100 aelod, yn dilyn cynnydd o 56 y cant mewn ceisiadau ers mis Mawrth 2020 a dechrau argyfwng COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r clwb allforio, a gafodd ei sefydlu yn 2016, yn dod â busnesau bwyd a diod ynghyd wrth iddynt geisio allforio rhagor o nwyddau a dod o hyd i farchnadoedd newydd.

Mae mwy na 30 o ddigwyddiadau ar-lein wedi cael eu cynnal drwy’r clwb allforio yn ystod y flwyddyn diwethaf, ac mae ymweliadau rhithwir wedi cael eu cynnal â 12 marchnad o amgylch y byd, gan gynnwys Singapôr, Awstralia, y Swistir a Chanada.

Y 100fed aelod i ymuno â’r clwb allforio oedd Tan y Castell yn Sir Benfro, sydd am rannu eu picau ar y maen â gweddill y byd. Dywedodd y perchennog, Paul Mear:

“Rydyn ni’n falch o fod yn un o’r poptai uchaf ei barch yng Nghymru. Rydyn ni’n gwerthu’r picau ar y maen mwyaf poblogaidd yng Nghymru – ac mae nifer o’n cynhyrchion wedi ennill gwobrau.

“Rydyn ni’n gweld picau ar y maen fel un o gyfrinachau mwyaf Cymru, cyfrinach mae angen ei rhannu â’r byd. Bydd bod yn rhan o’r clwb allforio, a gweithio gyda busnesau o’r un meddylfryd a derbyn cymorth gan Fwyd a Diod Cymru, yn ein helpu i wneud hyn.

Bydd aelodau o’r clwb allforio yn elwa ar y canlynol:

  • mynediad at linell cymorth technegol y clwb allforio
  • hyfforddiant un i un pwrpasol ar allforio
  • rhwydweithio gyda chymheiriaid ac arbenigwyr technegol
  • mynediad at gyngor arbenigol mewn meysydd fel arian, contractau rhyngwladol, eiddo deallusol, logisteg, morgludo o dogfennu
  • cydweithredu ag aelodau eraill o’r clwb ar gyfleoedd sydd o fudd i bawb
  • cyfleoedd rhwydweithio chwarterol i ddysgu mwy oddi wrth allforwyr profiadol
  • mynediad at amrediad eang o raglenni cymorth allforio

Mae Halen Môn hefyd yn aelod o Glwb Allforio Bwyd a Diod Cymru. Dywedodd y Cyfarwyddwr,  Alison Lea-Wilson:

“Rydyn ni wedi bod yn aelod o’r clwb allforio ers ei ddechrau, ac wedi cael y cymorth a’r arbenigedd a roddwyd gan y staff a busnesau’n amhrisiadwy.

“Yn ystod y flwyddyn diwethaf rydyn ni wedi atgyfnerthu ein sail gwsmeriaid drwy fanteisio ar bob cyfle i ymweld yn rhithwir â gwledydd mor amrywiol â Gwlad Belg a De Korea, Singapôr a’r Ffindir, i gyd drwy’r clwb allforio.

“Nid ar gyfer y rhai gwangalon neu’r rhai nad oes ganddynt ddigon o adnoddau mae allforio, ond mae’r cymorth a roddir gan y clwstwr allforio yn ei wneud yn brofiad pleserus a llwyddiannus.

Yn dilyn Tan y Castell mae dau fusnes arall wedi ymaelodi â’r clwb allforio, gyda Bragdy Sandstone yn Wrecsam a Bragdy Boss yn Abertawe yn ymuno, wrth iddynt geisio cynyddu eu gwerthiannau dramor.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:

“Mae’n newyddion gwych bod y clwb allforio nid yn unig wedi cyrraedd y garreg filltir o 100 aelod, ond wedi mynd heibio iddi.

“Mae COVID-19 ac ymadawiad y DU â’r UE wedi dangos bod angen i fusnesau bwyd a diod archwilio amrediad o sianeli a marchnadoedd i gynyddu eu cadernid, ac mae’r clwb allforio wedi bod yn hanfodol wrth helpu aelodau i oresgyn yr heriau hynny a cheisio cyfleoedd newydd.

“Mae’r ffaith bod nifer yr aelodau wedi cynyddu yn ystod blwyddyn sydd wedi bod yn hynod anodd yn dangos bod busnesau Cymru yn parhau i edrych tuag allan a’u bod yn awyddus i wneud busnes gyda gweddill y byd.

Mae’r clwb allforio yn rhan o Raglen Clystyrau Bwyd a Diod Cymru, gyda chlystyrau yn rhan allweddol o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu’r sector bwyd a diod yng Nghymru.