Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymgyrch bwerus wedi'i lansio ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth o reolaeth drwy orfodaeth mewn perthnasau ymysg pobl ifanc yn eu harddegau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n rhan o ymgyrch lwyddiannus Llywodraeth Cymru "Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn", ac yn defnyddio hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol i helpu pobl ifanc a'u rhieni i adnabod nodweddion rheolaeth drwy orfodaeth yn eu perthynas nhw neu ym mherthynas eu plentyn.

Yn aml, mae rheolaeth drwy orfodaeth yn fath cynnil a di-drais o gam-drin domestig, sy'n golygu y gall fod yn anodd ei adnabod. Gall y rheini sy'n dioddef ymddygiad o'r fath deimlo wedi'u bychanu ac wedi'u hynysu oddi wrth eu ffrindiau a'u teulu.

Mae dweud wrth rywun beth i'w wisgo, anfon negeseuon neu ffonio’n ddi-baid a gorfodi rhywun i dorri cysylltiad gyda ffrindiau a theulu yn enghreifftiau o reolaeth drwy orfodaeth.

Bydd yr hysbysebion yn cael eu dangos ar Facebook, Instagram a Spotify dros y mis nesaf ac yn targedu pobl ifanc 16 i 18 oed. Mae canllawiau ar gael i oedolion hefyd er mwyn iddynt ddysgu sut orau i gefnogi pobl ifanc y maent yn pryderu amdanynt.

Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn drosedd ers 2015, a chafodd 17,616 o achosion eu cofnodi gan yr Heddlu y llynedd ar draws Cymru a Lloegr.

Yn ôl arolwg diweddar gan yr ONS, roedd 9.6% o fenywod a 6.5% o ddynion 16 i 19 oed wedi profi cam-drin domestig mwy nag unwaith.

Fe wnaeth grŵp o bobl ifanc o gampws Coleg y Cymoedd yn y Rhondda helpu i lansio cam diweddaraf yr ymgyrch, gan sôn am brofiadau ymhlith eu ffrindiau.

Dywedodd Dan*, sy'n 16 oed:

Rwy'n gwybod am nifer o bobl sydd wedi gorfod delio â hyn. Dwi'n meddwl ei fod yn gyffredin iawn yn ein cenhedlaeth ni, yn enwedig oherwydd y cyfryngau cymdeithasol. Felly, mae'n hollbwysig mynd i'r afael ag ef mor gynnar â phosibl er mwyn rhoi stop arno.

Os ydych yn delio ag ef bob dydd, rydych yn dechrau teimlo nad yw'n gymaint o broblem ag ydyw mewn gwirionedd. Mae'n dipyn haws manipiwleiddio rhywun drwy negeseuon testun gan fod modd i bob un ddehongli beth mae rhywun yn ei ddweud yn wahanol.

Dywedodd Jamie*, sy'n 17 oed:

Nid yw pobl yn sylweddol mai dyma beth maent yn ei ddioddef. Gall chwalu hunanhyder rhywun a'u gwneud i deimlo nad oes modd iddynt ddianc. Mae'n dda o beth gallu codi ymwybyddiaeth er mwyn helpu pobl i sylweddoli 'o, mae hyn yn digwydd i fi'.

Mae'n gyffredin iawn ond efallai na fyddwch yn gallu ei weld. Os nad yw rhywun yn ymwybodol o'r sefyllfa, mae'n bosibl y bydd yn ceisio amddiffyn y person sy'n ei reoli. Dylech wybod eich gwerth ac nad yw hyn yn dderbyniol. Os yw hyn yn digwydd i chi, siaradwch â rhywun a allai eich helpu.

Dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip:

Mae'n bosibl nad yw pobl ifanc wedi cael digon o brofiad o berthynas iach i wybod beth sy'n ymddygiad arferol a beth sy'n anarferol, ac felly mae'n bwysig ein bod yn manteisio ar bob cyfle i siarad â nhw am beth sy'n dderbyniol ac yn annerbyniol.

Yn gynharach yr wythnos hon, nodwyd Diwrnod y Rhuban Gwyn a dechrau 16 diwrnod o weithredu yn erbyn camdriniaeth a thrais. Cefais gyfle i gwrdd â nifer o eiriolwyr ieuenctid sy'n gweithio'n galed ymysg eu cyfoedion i ledaenu'r neges na chaiff ymddygiad, iaith ac agweddau penodol eu goddef.

Rwy'n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn codi ymwybyddiaeth o'r ymddygiad gwenwynig hwn ac yn grymuso pobl ifanc i siarad yn ei erbyn.

Os ydych chi wedi dioddef rheolaeth drwy orfodaeth neu unrhyw fath o gam-drin domestig neu eisiau helpu rhywun rydych chi'n ei adnabod, ffoniwch linell gymorth am ddim a chyfrinachol Byw Heb Ofn, a ariennir Llywodraeth Cymru, ar 0808 8010 800 neu ewch i bywhebofn.llyw.cymru i anfon neges at gynghorydd 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. 

* mae enwau wedi cael eu newid