Mae cytundeb wedi’i lunio i ddileu ffioedd claddu ac amlosgi ar gyfer plant drwy Gymru gyfan. Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn cyhoeddi hynny yn Seminar Hydref Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda llywodraeth leol i roi'r gorau i godi tâl am gladdu plant, gan sicrhau ffordd o weithredu sy’n glir, yn deg ac yn gyson ar draws Cymru.
I helpu awdurdodau lleol i wneud y cam hwn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £1.5 miliwn rhwng nawr ac 2020. Bydd y cyllid hwn hefyd ar gael i ddarparwyr mynwentydd ac amlosgfeydd yng Nghymru, sy'n cytuno i beidio â chodi tâl dan yr amgylchiadau hyn.
Daw'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i rym ar unwaith, ac mae'r Prif Weinidog yn annog cynghorau i roi'r cytundeb ar waith cyn gynted â phosibl.
Yn ôl y Prif Weinidog:
"Rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi teuluoedd sydd wedi colli plentyn. Rwy'n falch ein bod yn gallu gweithio gydag awdurdodau lleol i leddfu rhywfaint o'r pwysau sydd ar ysgwyddau rhieni sy'n galaru yn ystod cyfnod hynod dorcalonnus.
"Bydd y cyhoeddiad heddiw hefyd yn rhoi diwedd ar yr annhegwch a achosir wrth godi gwahanol ffioedd ar draws Cymru, ac rwy'n ddiolchgar i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru am eu cefnogaeth."
Dywedodd Mr Lyn Cadwallader, Prif Weithredwr Un Llais Cymru
"Rydyn ni wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i weithredu'r polisi pwysig hwn gan y Llywodraeth - pan gynhalion ni arolwg gyda'r sector cynghorau tref a chymuned, cafwyd cefnogaeth enfawr i ddileu ffioedd am gladdu plant.
"Mae'n anodd dychmygu pa mor anodd ydyw i deuluoedd sy'n galaru i ymdopi ag amgylchiadau mor drist. Gobeithio y bydd y newid hwn yn lleddfu unrhyw bwysau diangen, ac yn helpu rhywfaint ar y teuluoedd hynny sy'n galaru."
Dywedodd Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Debbie Wilcox:
“Mae llywodraeth leol yn falch iawn o allu helpu i gefnogi teuluoedd sy’n mynd drwy gyfnod anoddaf eu bywydau. Mae colli plentyn yn brofiad dirdynnol ac yn drawma y bydd y teuluoedd yn byw gydag ef am weddill eu hoes. Ry’n ni’n falch o allu gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod tegwch a chysondeb ym mhob rhan o Gymru yn hyn o beth.”