Neidio i'r prif gynnwy

Bydd dysgwyr yng Nghymru sy'n astudio ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch sy’n cael eu cymeradwyo gan sefydliad Cymwysterau Cymru eleni yn derbyn graddau a bennir gan eu hysgol neu eu coleg, yn seiliedig ar waith maent wedi'i gwblhau yn ystod eu cwrs.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cadarnhawyd y penderfyniad polisi hwn gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams heddiw (dydd Mercher, Ionawr 20) yn dilyn tarfu pellach ar ddysgu wyneb yn wyneb sy’n cael ei achosi gan bandemig y coronafeirws.

Roedd y cyhoeddiad yn dilyn argymhellion gan y Grŵp cynghori dylunio a chyflwyno sy'n cynnwys penaethiaid ac arweinwyr colegau.

Sefydlwyd y grŵp ym mis Rhagfyr gan y Gweinidog i ‘gefnogi llesiant, tegwch a chynnydd’ i ddysgwyr sy'n sefyll arholiadau eleni.

Wrth siarad mewn fideo a ryddhawyd ar ei sianel Twitter, dywedodd y Gweinidog:

Mae'r sefyllfa sy'n gwaethygu gyda'r pandemig wedi golygu nad oes gennym ni ddewis ond ailedrych ar ein dull o sicrhau llesiant a hyder y cyhoedd yn ein system gymwysterau.

Mae'r cynigion rydym yn eu cyhoeddi heddiw yn ymddiried yng ngwybodaeth athrawon a darlithwyr am waith eu dysgwyr, yn ogystal â'u hymrwymiad i flaenoriaethu addysgu a dysgu yn yr amser sydd ar gael i gefnogi cynnydd dysgwyr.    

Mae addysgu cynnwys craidd ac agweddau pob cwrs yn parhau i fod yn flaenoriaeth lwyr i ddysgwyr mewn blynyddoedd arholiad, felly maent yn cael eu cefnogi i symud ymlaen gyda sicrwydd i'w camau nesaf, gyda hyder yn eu graddau.

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau addysg uwch i edrych ar sut gallwn gefnogi dysgwyr drwy'r cyfnod pontio hwn, a gallwn ddarparu pont i gyrsiau prifysgol.

Hoffwn ddiolch i bob dysgwr a gweithiwr addysg proffesiynol am eu hyblygrwydd parhaus a’u parodrwydd i addasu wrth ymateb i'r sefyllfa hynod anodd hon. Mae eu hymrwymiad parhaus yn wyneb adfyd i’w edmygu a hefyd eu cyfraniad unigol ac ar y cyd at yr ymdrech genedlaethol yn erbyn Covid-19.

Mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi manylion llawn mewn datganiad ysgrifenedig sydd ar gael yma.