Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 23 Gorffennaf 2018.

Cyfnod ymgynghori:
30 Ebrill 2018 i 23 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael.

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Hoffem glywed eich barn ynghylch newidiadau arfaethedig i'r modd y caiff gwaith datblygu'r seilwaith ei gymeradwyo, a hynny yn dilyn rhoi pwerau newydd i Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Cymru 2017.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae Deddf Cymru 2017 yn datganoli pwerau i Weinidogion Cymru o safbwynt:

  • cymeradwyo gorsafoedd cynhyrchu trydan hyd at 350MW, ar y tir ac ar y môr a llinellau trydan cysylltiedig uwchben, hyd at a chan gynnwys 132KV
  • newid cyfraith bresennol a chyflwyno cyfraith newydd ar gyfer rheoli harbyrau, adeiladu harbyrau newydd a chreu awdurdodau harbwr
  • trwyddedau morol
  • gwarchod natur morol ar y môr.

Hoffem annog gwaith cyflenwi seilwaith cynaliadwy a thwf 'gwyrdd', yn ogystal â sicrhau bod ein hymrwymiadau'n cael eu bodloni o safbwynt cynnwys y gymuned, amrywiaeth ynni, allyriadau carbon a diogelwch cyflenwadau.

Hoffem glywed eich barn ynghylch y canlynol:

  • ein cynigion ar gyfer sefydlu proses newydd o safbwynt cymeradwyo gwaith datblygu'r seilwaith yng Nghymru
  • trefniadau pontio hyd nes y bydd proses newydd o gymeradwyo gwaith datblygu'r seilwaith yn ei lle
  • diwygiadau i gamau prynu gorfodol yng Nghymru.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 734 KB

PDF
734 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.