Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi ysgrifennu llythyr agored at holl wladolion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru yn annog y bobl sydd heb wneud cais am statws preswylydd sefydlog eto i wneud hynny cyn y dyddiad cau ym mis Mehefin.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ers 2019, mae dinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU wedi gallu gwneud cais am statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog drwy Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE y Swyddfa Gartref, i’w galluogi i fod â’r un hawliau â dinasyddion Prydain, ar ôl mis Mehefin eleni.

Mae ffigurau diweddaraf y Swyddfa Gartref yn awgrymu bod y mwyafrif o’r bobl sydd angen gwneud cais wedi gwneud hynny, ond credir bod rhai grwpiau, a all gynnwys pobl agored i niwed neu’r henoed neu bobl sydd wedi byw yma ers blynyddoedd maith, nad ydynt yn ymwybodol bod angen iddynt wneud cais, neu sydd â phryderon am wneud cais.

Yn ei lythyr, a gyhoeddwyd heddiw mewn un ar ddeg o ieithoedd, dywedodd Mark Drakeford:

“Rwy’n ysgrifennu’r llythyr agored hwn i ddweud wrthych chi a’ch teuluoedd y bydd croeso ichi bob amser yma yng Nghymru.

“Mae eich cyfraniad i’n cymunedau, ein gwasanaethau cyhoeddus a’n busnesau yn amhrisiadwy. Rwy’n deall pa mor anodd y mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod i chi, gydag ansicrwydd Brexit, ac yn awr gyda phandemig parhaus sydd wedi gwneud ymdopi gyda sefyllfa anodd yn anoddach fyth.

“Hoffwn ichi wybod ein bod ni eisiau ichi aros yma, a pharhau i fwynhau’r rhyddid a’r hawliau y gall Cymru, fel gwlad groesawgar, eu cynnig ichi.

“Mae Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn ofynnol i holl breswylwyr yr Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir, a oedd yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020, i wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, i sicrhau y gallant barhau i fyw a gweithio yma. Nid yw hyn yn berthnasol i ddinasyddion Iwerddon.

“Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 30 Mehefin 2021. Mae’r dyddiad hwn yn prysur agosáu.

“Gwyddom nad yw rhai pobl wedi gwneud cais i’r cynllun eto. Gall fod sawl rheswm dros hyn. Efallai eich bod chi wedi dod i fyw i’r DU sawl blwyddyn yn ôl a heb sylweddoli bod angen ichi wneud cais. Efallai eich bod chi wedi cael plant ers ichi fod yn byw yma, ac nad oeddech chi’n sylweddoli bod angen ichi wneud cais ar eich cyfer chi eich hun a’ch plant. Efallai nad yw’n hawdd ichi gael mynediad at ffôn clyfar neu gyfrifiadur. Neu efallai eich bod yn teimlo wedi’ch llethu gan y broses neu’n bryderus nad oes gennych y gwaith papur cywir.

“Beth bynnag fo’ch sefyllfa, hoffai Llywodraeth Cymru helpu. Rydym wedi sicrhau cymorth arbenigol, annibynnol am ddim i’ch helpu drwy’r broses ymgeisio. Rydym yn gweithio gyda rhwydwaith o arbenigwyr cyfreithiol, Cyngor ar Bopeth, ac elusennau i wneud yn siŵr y gallwch droi at rywun i gael cymorth i wneud eich cais ac aros yma yng Nghymru.

“Rwy’n annog holl ddinasyddion yr UE nad ydynt wedi gwneud cais eto i ymweld â gwefan Paratoi Cymru lle cewch yr holl wybodaeth angenrheidiol.

“Rydym eisiau ichi aros yng Nghymru. Bydd croeso ichi yma bob amser.”