Yn ei neges mae Mark Drakeford yn dweud:
Wrth i’r flwyddyn dynnu at ei therfyn, mae'n amser pan fyddwn ni i gyd yn adlewyrchu ar gyfnod a fu'n un eithriadol ac yn edrych ymlaen at yr hyn a fydd, gobeithio, yn flwyddyn well, iachach a diogelach.
Mae 2020 wedi bod yn un o'r blynyddoedd anoddaf rydym wedi'i hwynebu diolch i bandemig y coronafeirws.
Nid yw'r byd wedi gweld argyfwng iechyd cyhoeddus o'r math yma ers mwy na 100 mlynedd.
Mae wedi profi ein cryfder, ein gwydnwch a'n penderfyniad.
Mae degau ar filoedd o bobl wedi profi'r feirws yn uniongyrchol.
Mae ein bywydau ni i gyd wedi eu troi wyneb i waered.
Ac yn drist iawn, i lawer o deuluoedd, mae anwyliaid wedi cael eu colli i’r feirws creulon hwn, sy'n parhau â’i afael ar gymunedau ledled Cymru.
Rwyf am oedi am eiliad i adlewyrchu ar yr ymdrech enfawr ar y cyd rydym wedi'i gweld yma yng Nghymru yn 2020.
Mae teuluoedd a chymdogion wedi cefnogi ei gilydd.
Mae byddin fechan o wirfoddolwyr wedi siopa, mynd ar neges a chasglu meddyginiaethau i bobl a oedd yn gwarchod eu hunain ac yn agored i niwed.
Ac mae gweithwyr rheng flaen – o weithwyr siopau i'n Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'n gofalwyr – wedi ein gwneud yn falch iawn o'u hymrwymiad i gadw pawb mor ddiogel â phosibl.
Nawr, wrth i ni edrych ymlaen, mae'r Flwyddyn Newydd yn cynnig addewid o ddull gwahanol o ymdrin â'r feirws hwn.
Mewn blwyddyn dywyll, cafwyd adegau disglair o obaith – a dim yn fwy disglair na dyfodiad y brechlyn yn ystod wythnosau olaf y flwyddyn.
Yn ystod wythnosau cyntaf y Flwyddyn Newydd, bydd y bobl gyntaf i dderbyn y brechlyn yn cwblhau eu cwrs dau ddos.
A bydd mwy o glinigau'n agor gan fod yr ail frechlyn bellach wedi'i gymeradwyo, gan gyflymu'r broses o gyflwyno'r warchodaeth.
Bydd rhagor o heriau yn 2021 a bydd gan y feirws ragor o bethau annisgwyl i ni.
Ond byddwn gyda chi bob cam o'r ffordd.
A gyda'n gilydd, byddwn yn eich cadw'n ddiogel ac yn cadw Cymru'n ddiogel.
Diolch o galon i chi i gyd.