Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud tuag at fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) mewn anifeiliaid yng Nghymru. 

Cafodd y Grŵp Cyflawni AMR Anifeiliaid a'r Amgylchedd ei sefydlu ac, wedi hynny, fe wnaeth y grŵp argymell cyhoeddi Cynllun Gweithredu AMR mewn Anifeiliaid a’r Amgylchedd. Dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd yng Nghymru (2019-2024). 

Helpodd y Grŵp Cyflawni a'r Cynllun Gweithredu i lunio ein dull gweithredu, gyda chyflawniadau'n cael eu rhannu mewn sawl adolygiad blynyddol. Rwyf bellach wedi cyhoeddi'r adolygiad diweddaraf ar wefan Llywodraeth Cymru, sy'n dod â'n tymor pum mlynedd cyntaf i ben wrth fynd i'r afael ag AMR. 

Rydym wedi cyflawni llawer, ond nid yw'r gwaith yn dod i ben yno. Mae AMR yn parhau i greu problemau i'r gymuned yn gyffredinol yn ogystal ag i geidwaid anifeiliaid a milfeddygon, ac mae'n parhau i fod yn gostus. 

Er mwyn adeiladu ar y cynnydd sydd wedi'i wneud yng Nghymru, rwyf wedi sefydlu Grŵp Iechyd AMR Anifeiliaid newydd i Gymru. Bydd y grŵp yn darparu cyngor ac arweiniad i gefnogi ein dull gweithredu, ac maen nhw wedi argymell Cynllun Rheoli AMR Anifeiliaid newydd i Gymru (2025–2029), sy'n cyd-fynd â Chynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU (2024-2029). 

O fewn Llywodraeth Cymru, bydd ymdrechion i fynd i'r afael ag AMR yn parhau i gymhwyso'r dull Iechyd Cyfunol, gan ddod ag iechyd y cyhoedd, iechyd anifeiliaid a'r amgylchedd ynghyd. Mae organebau gwrthiannol yn peri risgiau uniongyrchol i bobl ac anifeiliaid, a gallan nhw ledaenu trwy'r amgylchedd. Mae cymhwyso'r dull Iechyd Cyfunol yn elfen hanfodol wrth fynd i'r afael ag AMR. 

Fodd bynnag, nid oes modd i reolaethau AMR gael eu darparu gan y Llywodraeth yn unig. Mae angen i geidwaid anifeiliaid a milfeddygon weithio gyda'i gilydd a gweithio gyda ni i gyflawni dros Gymru.

I gefnogi ein cynlluniau, rwyf wedi dyfarnu £2 filiwn o gyllid i gonsortiwm Arwain DGC (Defnydd Gwrthfaicrobaidd Cyfrifol). Mae gan Arwain hanes o lwyddiant wrth ddarparu rheolaethau AMR a bydd y cam newydd hwn o'r rhaglen yn ein galluogi i barhau i leoli Cymru fel arweinydd byd-eang mewn ymdrechion sydd a'r nod o fynd i'r afael ag AMR. 

Bydd cam tri rhaglen Arwain yn parhau i ddarparu'r Rhwydwaith Hyrwyddwyr Presgripsiynu Milfeddygol llwyddiannus, sy'n cynrychioli 44 o filfeddygfeydd ledled Cymru. Bydd y prosiect yn parhau i gasglu data ynghylch defnydd gwrthficrobaidd (AMU) o o leiaf 4,500 o ffermydd yng Nghymru. Bydd monitro AMR mewn gwartheg a defaid drwy samplu ar ffermydd yn ein galluogi i ddeall datblygiad a lledaeniad AMR yn well mewn systemau ffermio yng Nghymru. Mae sawl elfen arall i'r rhaglen yn ogystal â rhai ffrydiau gwaith newydd cyffrous, fel academi AMR, a fydd yn darparu hyfforddiant a phrofiadau wedi'u targedu ynghylch AMR i filfeddygon, ffermwyr presennol a'n ffermwyr yn y dyfodol.

Mae ein nodau a'r rhaglen Arwain yn cynnwys sicrhau bod pob ceidwad anifeiliaid a'u milfeddygon yn cadw ein hanifeiliaid yn iach ac yn defnyddio gwrthfiotigau mewn modd cyfrifol, pan fo angen. Byddwn ni'n cyflawni hyn drwy weithio law yn llaw â'n partneriaid. Byddwn ni hefyd yn cael cymorth gan gynllun eang ac amrywiol i ymgysylltu â rhanddeiliaid i rannu ein dull gweithredu a chaniatáu i eraill ddysgu o'n profiad. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Arwain maes o law a byddwn i'n annog unrhyw un sydd â diddordeb i edrych arni.

Edrychaf ymlaen at weld llwyddiant parhaus yn ein hymdrechion ar y cyd i fynd i'r afael ag AMR wrth i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod gwrthfiotigau'n parhau i fod yn effeithiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.