Bydd rheolau rhoi gwaed yng Nghymru yn caniatáu i ddynion hoyw a deurywiol i roi gwaed yn gynt o 2018, mae’r Gweinidog Iechyd Cyhoeddus Rebecca Evans wedi cyhoeddi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae'r rheolau presennol ar gyfer rhoi gwaed yn atal pobl sy'n cymryd rhan mewn rhai ymddygiadau rhywiol rhag rhoi gwaed am gyfnod o 12 mis. 

Bydd y cyfnod o oedi cyn y gellir rhoi gwaed yng Nghymru yn cael ei leihau gan Gwasanaeth Gwaed Cymru yn sgil y datblygiadau gwyddonol diweddaraf a'n dealltwriaeth well o'r profion a ddefnyddir.

Mae'r newidiadau i'r rheolau rhoi gwaed, a fydd yn cael ei gyflwyno gan y Gwasanaeth Gwaed Cymru yn gynnar yn 2018, yn golygu'r canlynol:

  • cyfnod oedi byrrach o 3 mis ar gyfer dynion sy'n cael rhyw gyda dynion (12 mis yw'r cyfnod oedi presennol)
  • cyfnod oedi o 3 mis ar gyfer gweithwyr rhyw masnachol (gwaharddiad llwyr ar hyn o bryd)
  • cyfnod oedi byrrach o 3 mis ar gyfer y rheini sy'n cael rhyw gyda phartner risg uchel (12 mis yw'r cyfnod oedi presennol)
  • cyfnod oedi byrrach o 3 mis ar gyfer y rheini sy'n cael rhyw gyda phartner sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol mewn ardaloedd lle mae HIV yn gyffredin (12 mis yw'r cyfnod oedi presennol).
Cafodd y newidiadau hyn eu hargymell yn dilyn adolygiad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau.  

Dywedodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans:

“Dw i am sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael y cyfle i roi gwaed er mwyn bodloni'r galw gan gleifion yng Nghymru. 

“Rydyn ni yma yng Nghymru a'r DU yn ffodus o gael un o'r cyflenwadau gwaed mwyaf diogel yn y byd. Diolch i'r datblygiadau mewn gwyddoniaeth feddygol, rydyn ni bellach yn deall yn well sut mae heintiau'n cael eu trosglwyddo drwy waed. 

“Bydd y newidiadau dw i'n eu cyhoeddi heddiw yn helpu i gadw rhoddwyr gwaed a'r cleifion sy'n derbyn eu gwaed yn ddiogel, gan sicrhau ar yr un pryd bod mwy o bobl yn cael y cyfle i roi gwaed.” 

Mae'r Gweinidog wedi gofyn i Wasanaeth Gwaed Cymru edrych ar sut y gellir cyflwyno'r newidiadau, gan gynnwys defnyddio asesiadau risg sydd wedi eu teilwra’n fwy personol i'r rhoddwr unigol.