Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, fod mwy na 93% o fusnesau fferm wedi cael taliadau llawn neu olaf Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 2021 heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae hyn yn fwy na’r nifer a wnaed yn gynnar yng nghyfnod talu y llynedd ac mae’n golygu bod £227miliwn wedi’i dalu i gyfrifon banciau mwy na 15,000 o ffermwyr ledled Cymru. Mae hyn cynnwys £159miliwn a dalwyd eisoes fel Rhagdaliadau BPS ar 15 Hydref.

Gwnaeth y newidiadau i’r ddeddfwriaeth ar ddechrau’r flwyddyn symleiddio gofynion BPS ar gyfer 2021. Arweiniodd hyn at gais mwy syml i ffermwyr a galluogodd i Ragdaliadau BPS cael eu gwneud ym mis Hydref.

Mae taliadau Llawn ac Olaf BPS 2021 wedi cael eu gwneud heddiw fel y cytunwyd â chynrychiolwyr y diwydiant.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig:

Rwy’n falch ein bod wedi gwneud nifer da o daliadau BPS ar ddechrau’r cyfnod talu, sy’n fwy na’r hyn a wnaed y llynedd. Cyflawnwyd hyn wrth i ni gyd barhau i weithredu dan amgylchiadau heriol andemig Covid-19.

Hoffwn ddiolch i bawb, gan gynnwys y rhai hynny yn y sector sydd wedi gweithio gyda ni i gyflwyno BPS symlach. Mae hyn wedi helpu i sicrhau bod ffermwyr wedi cael eu taliadau yn brydlon.

Mae fy swyddogion bellach yn gweithio’n galed i brosesu hawliadau BPS 2021 sy’n weddill cyn gynted â phosibl.

Rwy’n disgwyl i bob un achos, heblaw am y rhai mwyaf cymhleth, gael ei gwblhau erbyn 30 Mehefin y flwyddyn nesaf.