Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd wedi helpu i warchod dros 100,000 o swyddi ledled Cymru yn ystod y pandemig, yn ȏl ffigurau newydd.
Hyd yma, mae’r gronfa wedi darparu bron £300 miliwn o gymorth i dros 13,000 o gwmnïau yng Nghymru, sydd wedi bod yn hanfodol i helpu busnesau i reoli heriau ac effeithiau economaidd y coronafeirws.
Mae’r rhain yn cynnwys cwmnïau fel Mono Equipment yn Abertawe; Robertson Geologging o Deganwy; MII Engineering Limited, yng Nghaerffili, a’r cwmni o Wrecsam F Bender, pob un ohonynt wedi derbyn cymorth ariannol gan y Gronfa Cadernid Economaidd i helpu i warchod swyddi a diogelu eu gweithluoedd.
Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn rhan o becyn cymorth gwerth £1.7 biliwn ar gyfer busnesau, sy’n ategu ac yn ychwanegu at y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU.
Heddiw, i gefnogi busnesau drwy’r hydref a’r gaeaf – ac at ddiweddd y cyfnod pontio Brexit – cyhoeddodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi amodau mwy hyblyg i gwmnïau fenthyca o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Banc Datblygu Cymru.
Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi:
“Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi busnesau drwy’r cyfnod hynod heriol hwn.
“Dyna pam yr ydy ni wedi gweithio’n gyflym i ddatblygu a darparu’r gronfa unigryw hon i Gymru, sydd wedi cynnig achubiaeth oedd angen mawr amdano i dros 13,000 o gwmnïau yma.
“Mae’r cymorth hwn wedi helpu i ddiogelu dros 100,000 o swyddi mewn cwmnïau ledled Cymru. Dyna 100,000 o bobl allai fod wedi gweld eu gyrfaoedd a’u bywoliaeth mewn perygl.
“Bu inni edrych eto ar ein cyllidebau a gwneud penderfyniadau anodd i sefydlu’r Gronfa Cadernid Economaidd, ond mae’r ffigurau hyn yn dangos yn glir y gwahaniaeth enfawr y mae wedi’i wneud.
Meddai Andrew Jones, rheolwr-gyfarwyddwr Mono Equipment o Abertawe:
“Rydyn ni yn ddiolchgar am y cymorth gan Lywodraeth Cymru yn ystod Covid-19. Mae wedi ein helpu’n fawr i ddod o hyd i ffordd o ddod drwy y cyfnod digynsail hwn.
Meddai rheolwr-gyfarwyddwr F Bender Limited, Andy Cunliffe:
“Gyda’n marchnadoedd yn dychwelyd, rydym yn bendant yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan bwysig i helpu i ddiogelu ein gweithlu yn Wrecsam. Rydyn ni yn parhau i weld cyfnod ansicr a heriol, ond mae’r cyllid hwn yn rhoi cefnoaeth wych inni yn y sefyllfa bresennol ac rydyn ni’n ddiolchgar amdano.
I gefnogi busnesau ymhellach wrth iddynt ddelio gyda’r heriau parhaus sy’n cael eu hachosi gan y coronafeirws a’r newidiadau a’r ansicrwydd sy’n gysylltiedig ag ymadawiad y DU â’r UE, mae Gweinidog yr Economi heddiw hefyd yn cyhoeddi telerau mwy hyblyg i gwmnïau fenthyca o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Banc Datblygu Cymru.
Bydd gan y Banc Datblygu y dewis i ymestyn cyfnod benthyca rhai cwmnïau i hyd at 15 mlynedd, gan helpu iddynt ledaenu cost eu benthyca ymhellach. Bydd terfyn buddsoddi y gronfa hefyd yn cael ei ddyblu o £5 miliwn i £10 miliwn.
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Mae’r newidiadau hyn yn enghraifft arall o sut yr ydym yn gwrando ac yn ymateb i anghenion busnes. Byddant yn cynnig mwy o hyblygrwydd, gan olygu y gallant ddefnyddio mwy o gymorth ariannol a bod ganddynt fwy o amser i dalu yn ȏl – hyblygrwydd, sydd fel y gwyddom i’w groesawu yn ystod y cyfnod heriol hwn.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu miloedd o gwmnïau drwy’r cyfnod anodd hwn a byddwn yn parhau i gefnogi busnesau gyda phecyn cymorth proactif sy’n ymateb i’r sefyllfa. Dwi’n gobeithio gallu cyhoeddi rhagor o fanylion y cynlluniau hyn yn ddiweddarach yn y mis.