Neidio i'r prif gynnwy

Mae nifer o berchnogion anifeiliaid anwes yn pryderu a yw eu milfeddygon lleol yn parhau i gynnig gwasanaeth arferol yn ystod y cyfyngiadau symud presennol oherwydd y pandemig Covid-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae milfeddygon yn awyddus i roi sicrwydd i’r cyhoedd – perchnogion anifeiliaid anwes domestig, busnesau amaethyddol, perchnogion ceffylau a cheidwaid anifeiliaid eraill – er bod cyfyngu ar rai o’r gwasanaethau y maent yn eu cynnig, mae’r gwasanaeth ar gael ac yn gallu cynnig cymorth ar draws pob maes o’u gwaith.

Mae ymweliadau hanfodol â ffermydd a busnesau amaethyddol eraill hefyd yn parhau er mwyn sicrhau iechyd a lles anifeiliaid ac er mwyn parhad a diogelwch y gadwyn cyflenwi bwyd. 

Er mwyn gwneud yn siŵr y gall milfeddygon barhau i gynnig gwasanaeth yn ystod y cyfnod hwn, gofynnir i berchnogion anifeiliaid ddilyn rhai mesurau doeth: 

  • Edrych ar wefannau y milfeddygon neu y cyfryngau cymdeithasol am unrhyw ganllawiau ar oriau agor, yr ystod o wasanaethau sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd a threfniadau i ganiatáu pellter cymdeithasol. 
  • Galw ar filfeddygon i ddewis rhoi cyngor o bell (ble y bo hynny’n ymarferol) yn hytrach nag ymweliad personol. 
  • Deall y bydd milfeddygon yn dilyn gofynion pellter cymdeithasol, ac o’r herwydd y gallai gweithdrefnau o’r fath gymryd mwy o amser i’w cwblhau na’r hyn sy’n arferol – gofynnir i berchnogion fod yn amyneddgar, ac i barchu y ffaith bod milfeddygon yn gweithio o dan fwy o bwysau.
  • Er bod milfeddygon yn parhau i rannu meddyginiaeth i anifeiliaid anwes, rhoddir cyngor i berchnogion sydd angen meddyginiaeth reolaidd neu bresgripsiynau rheolaidd i wneud cais o leiaf ychydig ddiwrnodau ymlaen llaw os ydynt yn credu bod meddyginiaeth eu hanifail yn dod i ben, yn hytrach nag aros i’r cyflenwad presennol ddod i ben.
  • Er bod nifer o berchnogion anifeiliaid wedi bod yn ymarfer corff mewn ardaloedd gwledig gyda’u hanifeiliaid anwes yn ystod y cyfyngiadau presennol, cynghorir hwy i barhau i gadw at unrhyw ganllawiau i gadw cŵn ar dennyn, neu i gadw at lwybrau troed wrth gerdded, fel bod llai o risg i dda byw.
  • Os ydych yn disgwyl ymweliad gan filfeddyg ar eich safle, dylai ffermwyr a pherchnogion busnesau amaethyddol eraill wneud yn siŵr y gellir dilyn canllawiau cadw pellter; gan gynnwys wrth roi cymorth i gadw anifeiliaid fferm dan reolaeth ac ati.
  • Mae aros yn lleol ac aros gyda milfeddygon lleol, yn ogystal â dilyn y rheoliadau cyfredol, hefyd yn helpu milfeddygon i gynnal eu llwyth gwaith a sicrhau eu bod yn parhau yn hyfyw yn ystod y pandemig.

Mae cyngor ar y cyfan o’r uchod a mwy ar gael gan y Coleg Milfeddygon Brenhinol (RCVS) a Chymdeithas Milfeddygon Prydain (BVA).  Rhoddir cyngor i berchnogion edrych yn rheolaidd ar y canllawiau sy’n cael eu cynnig gan y ddau gorff, fydd yn datblygu yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru. 

Meddai Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru:

Ar ddechrau’r cyfyngiadau symud, roedd nifer o filfeddygon yn cyfyngu ar y gwasanaethau oedd yn cael eu cynnig i wasanaethau brys hanfodol. 

Ond wrth i gyfyngiadau newid, yn unol ag adolygiadau Llywodraeth Cymru pob tair wythnos, mae milfeddygon wedi gallu ail-ddechrau gwasanaethau eraill, tra’n parhau i ddilyn y canllawiau pellter cymdeithasol a darparu offer diogelu personol i staff.   

Ychwanegodd yr Athro Glossop:

Dylai perchnogion anifeiliaid sy’n ystyried cysylltu â’u milfeddygon arferol ddarllen y cyngor sy’n cael ei gynnig gan y BVA a RCVS – dylai roi y tawelwch meddwl iddynt a helpu iddynt benderfynu beth i’w wneud nesaf, cyn ffonio’r ganolfan filfeddygon i drafod eu pryderon.

Meddai Ifan Lloyd, Llywydd Cangen Cymru o’r BVA:

Ein cyngor i berchnogion anifeiliaid anwes yw eu bod yn holi eu milfeddygon lleol am unrhyw ganllawiau neu gyngor sydd ganddynt. 

Nid yw’n bosibl i berchnogion ymddangos gyda’u hanifeiliaid a disgwyl cael eu gweld ar y diwrnod, fel nifer ohonynt yn y gorffennol.  Ond ni ddylent ychwaith gadw i ffwrdd yn gyfan gwbl neu gymryd bod canolfannau wedi rhoi’r gorau i gynnig gwasanaethau yn gyfan gwbl. 

Mae’r gymuned o filfeddygon wedi gweithio’n  galed i wneud yn siŵr y gall y gwasanaethau barhau, a bydd y cyngor sy’n cael eI roi ganddynt – yn ogystal â gan y BVA a’r RCVS – o gymorth mawr i berchnogion wrth geisio penderfynu a oes angen delio â phroblem ar unwaith, ac os nag oes, sut y gallant ofalu am iechyd eu hanifail rhywbryd eto. 

Medai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

Fel perchennog anifail anwes sydd wedi gorfod defnyddio fy milfeddyg lleol nifer o weithiau yn ystod y cyfyngiadau symud, rwyf am gymeradwyo ymdrechion y milfeddygon sy’n parhau i gynnig gwasanaethau hollbwysig. 

Mae’r gwasanaethau hyn yn bwysig nid yn unig o ran iechyd anifeiliaid anwes, ond mae hefyd wedi chwarae rhan hollbwysig wrth reoli diogelwch y cadwyni cyflenwi bwyd mewn cymunedau gwledig ledled Cymru, a lles a diogelwch anifeiliaid amaethyddol.