Mesurau Rheoli Pysgodfeydd Cocos 2022
Diogelu stociau cocos a'r amgylchedd drwy reoli addasol, i sicrhau bod pysgodfeydd cocos yng Nghymru yn gynaliadwy.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran I: Cyflwyniad
1. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a rheoli pysgodfeydd mewn modd cynaliadwy ac yn unol â thystiolaeth wyddonol gadarn. Rydym am i Gymru allu diwallu ein hanghenion heddiw yn ogystal ag anghenion cenedlaethau’r dyfodol, drwy gynnal amgylchedd morol iach a chefnogi diwydiant pysgota proffidiol, sefydlog ac amrywiol.
2. Er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ac yn cefnogi’r dulliau mwyaf amgylcheddol gynaliadwy a diogel o gasglu cocos; er enghraifft, â chribi a rhidyll gan ddefnyddio cychod sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth ddiogelwch briodol Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau.
3. Mae gan Gymru lawer o ardaloedd rhynglanwol ac ynddynt welyau cocos hynod gynhyrchiol. Mae cocos yn darparu ffynhonnell iach o brotein sy'n cefnogi diwydiant cocos ffyniannus ac amrywiaeth o adar hirgoes, yn enwedig yn ystod y gaeaf. Credir mai gwerth gwerthiant cyntaf y cocos a gesglir yng Nghymru yw tua £8 miliwn y flwyddyn ac mae'n darparu incwm ar gyfer tua 250 o bobl.
4. Llywodraeth Cymru sy’n rheoli pysgodfeydd cocos cyhoeddus ledled Cymru. Mae pysgodfeydd cocos Gogledd Cymru yn cael eu rheoli ar hyn o bryd o dan Orchymyn Cocos a Chregyn Gleision (Ardal Benodedig) (Cymru) 2011 ac Is-ddeddfau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru (NWNWSFC) gynt. Ar hyn o bryd rheoleiddir Pysgodfeydd De Cymru dan is-ddeddfau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru gynt).
5. Ar hyn o bryd mae pysgodfeydd cocos Aber Afon Dyfrdwy a Chilfach Tywyn yn cael eu rheoli ar wahân gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o dan ddeddfwriaeth wahanol. Rheolir y ddwy bysgodfa o dan Orchmynion Rheoleiddio a fydd yn parhau i fod mewn grym ac nad yw'r ymgynghoriad hwn yn effeithio arnynt. Wrth i’r Gorchmynion Rheoleiddio hyn ddod i ben, bydd CNC yn penderfynu a ddylid gwneud cais am Orchmynion Rheoleiddio newydd. Bydd pob cais yn destun ymgynghoriad cyhoeddus cyn i Weinidogion wneud penderfyniad.
Pam mae angen rhagor o fesurau rheoli?
6. Mae'r ddeddfwriaeth bresennol a ddefnyddir i reoli pysgodfeydd cocos cyhoeddus yn anghyson ledled Cymru ac mae angen ei diweddaru. Tynnodd adborth o ymgynghoriadau cyhoeddus blaenorol ar gynigion ar gyfer mesurau newydd ar gyfer rheoli cocos sylw at yr angen i fynd i'r afael ag amrediad eang o faterion.
7. Ar hyn o bryd, mae’r gwiriadau o gymhwysedd unigolion sy'n gwneud cais am drwydded i gasglu cocos mewn pysgodfeydd cyhoeddus yng Nghymru yn gyfyngedig. Hefyd, nid oes angen trwydded ar gyfer pob pysgodfa gocos gyhoeddus yng Nghymru, ac mae lefel y rheoleiddio ar gyfer rhai ohonynt yn isel iawn.
8. Yn ogystal â phryderon ynghylch diogelwch, mae niferoedd uchel o gasglwyr yn peri risg i gynefinoedd sensitif a stociau cocos, yn ogystal â chael effaith negyddol bosibl ar gymunedau lleol sy'n gyfagos i'r pysgodfeydd.
9.Bwriad y mesurau arfaethedig hyn yw:
- Sicrhau bod yr amgylchedd a chynaliadwyedd pysgodfeydd cocos Cymru yn cael ei ddiogelu yn y dyfodol drwy reoli addasol.
- Addasu'r system ar gyfer gwneud cais am drwydded i sicrhau bod casglwyr yn gweithio mewn modd cyfreithlon a diogel.
- Addasu a symleiddio'r gwaith o reoli'r holl bysgodfeydd cocos cyhoeddus yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod ein stociau cocos yn gynaliadwy a diogelu'r amgylchedd ehangach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno Trwydded ar gyfer Cymru gyfan i gasglu cocos ar unrhyw bysgodfa gyhoeddus neu bob un o'r pysgodfeydd cyhoeddus yng Nghymru.
Pa fesurau rheoli ychwanegol sy'n cael eu cynnig?
10. Gan adeiladu ar adborth o ymgynghoriadau blaenorol a’r profiad diweddar o agor pysgodfa gocos beilot y Tair Afon (2018-2021), mae Llywodraeth Cymru bellach yn ymgynghori ar fesurau newydd ar gyfer rheoli pysgodfeydd gan gynnwys:
- Trwydded ar gyfer Cymru gyfan i gasglu cocos ar unrhyw wely cocos cyhoeddus
- Cynnal gwiriadau o gymhwysedd y rhai sy’n gwneud cais am drwyddedau cocos
- Codi ffi flynyddol am drwyddedau cocos
- Atodi nifer o amodau trwydded cyffredinol i bob trwydded gocos
- Gwneud darpariaeth i ganiatáu ar gyfer amodau lleol ychwanegol, sy'n benodol i bysgodfeydd unigol a enwir, at ddibenion rheoli pysgodfeydd cocos mewn modd addasol
- Safoni'r lwfans hamdden personol ledled Cymru
11.Bydd y mesurau arfaethedig yn berthnasol i bob gwely cocos cyhoeddus yng Nghymru, gan ddiwygio neu ddirymu deddfwriaeth flaenorol a chyflwyno deddfwriaeth newydd lle bo angen.
12.Bydd y mesurau hyn yn cyflwyno cyfundrefn drwyddedu newydd yng Nghymru a fydd yn sail i nod Llywodraeth Cymru i wella'r gwaith o reoli’r pysgodfeydd, asesiadau stoc, y stoc dros ben y gellir ei chynaeafu a elwir y Ddalfa Fwyaf a Ganiateir (TAC) ac amodau trwyddedau nawr ac yn y dyfodol. Pan fyddant wedi cael eu gweithredu, disgwylir y bydd y mesurau'n cael eu hadolygu a'u mireinio ymhellach ar y cyd â rhanddeiliaid perthnasol.
Adran II: Cynigion manwl
A. Cyhoeddi trwyddedau cocos blynyddol ar gyfer Cymru gyfan
13.Rydym yn cynnig y bydd y drwydded gocos newydd ar gyfer Cymru gyfan yn ddilys am flwyddyn. Penderfynir ar ddyddiadau dechrau a dod i ben y drwydded yn dilyn yr ymgynghoriad hwn.
14.Bob blwyddyn, bydd angen gwneud cais am drwydded cocos o fewn cyfnod o wyth wythnos. Os bydd ymgeisydd yn methu gwneud cais o fewn y cyfnod hwn, efallai y bydd modd cyflwyno cais yn hwyr, ond mae’n bosibl y bydd prosesu ceisiadau o’r fath yn cymryd rhagor o amser.
15.Bydd dechrau’r cyfnod ar gyfer gwneud cais am drwydded gocos yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru (LLYW.CYMRU), a chyfrifoldeb deiliad y drwydded fydd edrych ar y wefan yn rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Os yw deiliad trwydded unigol wedi gofyn i gyfathrebu mewn ffordd arall, gwneir cyhoeddiadau yn y ffordd honno.
16.Bydd angen trwydded ar unrhyw un sydd am gasglu cocos yn fasnachol ar welyau cocos cyhoeddus (h.y. mwy na 5kg y dydd. Bydd y drwydded hon yn para am un flwyddyn galendr. Bydd disgwyl i bob deiliad trwydded dalu'r ffi lawn, ni waeth pryd y gwneir cais am y drwydded. Penderfynir ar gyfnod y drwydded yn dilyn yr ymgynghoriad hwn.
17.Bydd gan ddeiliaid trwyddedau hawl i gasglu cocos ar unrhyw wely agored yng Nghymru. Bydd yr holl welyau'n parhau i fod ar gau nes iddynt gael eu hagor yn weithredol gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn asesiad ffafriol o stoc ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd i sicrhau eu bod yn gynaliadwy. Bydd Llywodraeth Cymru yn agor ac yn cau gwelyau pysgodfeydd ac yn defnyddio cwotâu dyddiol neu dymhorol at ddibenion rheoli pysgodfeydd.
18. Wrth wneud cais am drwydded, bydd angen i ymgeiswyr wneud y canlynol:
- Cyflwyno tystiolaeth i ddangos eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd (gweler Blwch 1).
- Talu'r ffi ofynnol yn llawn cyn i drwydded gael ei chyhoeddi.
B. Gwirio cynhwysedd y rhai sy’n gwneud cais am Drwyddedau Cocos Cymru Cyfan
19. Bydd yn ofynnol i’r rhai sy’n gwneud cais am drwydded gwblhau ffurflen gais a chyflwyno'r dystiolaeth a ddisgrifir ym Mlwch 1.
20. Gall ymgeiswyr fod yn anghymwys i gael trwydded os ydynt wedi derbyn euogfarn am drosedd mewn perthynas â physgodfeydd yn ystod y 24 mis blaenorol. Bydd gan y Llys bŵer, yn dilyn euogfarn, i wahardd diffynnydd rhag dal trwydded, a phenderfynir ar hyd y gwaharddiad yn ôl disgresiwn y Llys. Wrth wneud hyn, bydd y Llys yn ystyried difrifoldeb yr euogfarn a/neu droseddau blaenorol.
C. Codi ffi flynyddol am drwyddedau cocos ar gyfer Cymru gyfan
21.Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu codi ffi am Drwydded Gocos Cymru Gyfan i dalu am y costau sy'n gysylltiedig â rheoli, gweinyddu ac archwiliadau gwyddonol (ac eithrio gorfodi). Bydd angen talu'r ffi yn llawn cyn i drwydded gael ei rhoi.
22.Yn seiliedig ar y costau gweithredu cyfredol rydym yn disgwyl i'r ffi am drwydded fod rhwng £400 a £800. I ddechrau, os gweithredir y mesurau hyn, yn y flwyddyn gyntaf o weithredu bydd Llywodraeth Cymru yn codi ffi safonol o £250 am drwydded. Yn y blynyddoedd dilynol byddwn yn ceisio adennill costau llawn.
23.Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y fethodoleg ar gyfer cyfrifo'r ffi a'r swm a godir cyn newid y ffi. Mae’n bosibl y bydd yr ymgynghoriad hwnnw’n cael ei gyfyngu i'r rhai sydd â diddordeb uniongyrchol yn y ffioedd dan sylw, a bydd yn cael ei gynnal cyn i'r ffioedd gael eu cyflwyno.
24.Ar gyfer pob cyfnod trwyddedu, bydd ffi'r drwydded yr un fath ni waeth pryd y gwneir cais.
D. Amodau trwydded gyffredinol i Drwyddedau Cocos Cymru Gyfan
25. Bydd yr holl bysgodfeydd cocos cyhoeddus yn parhau i fod ar gau nes iddynt gael eu hagor yn weithredol gan Lywodraeth Cymru.
26. Bydd gwelyau cocos pysgodfeydd cyhoeddus yn cael eu hagor ar ôl:
- Cynnal asesiad o’r stoc
- Cyfrifo’r stoc fasnachol hyfyw a’r Ddalfa Fwyaf a Ganiateir
- Cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (os oes angen un)
27.Pan fydd gwely wedi cael ei agor, bydd yn cael ei fonitro'n barhaus ac, os oes angen, gellir ei gau at ddibenion rheoli pysgodfeydd.
28.Bydd penderfyniadau i agor a chau gwelyau yn cael eu hysbysu ar wefan Llywodraeth Cymru (LLYW.CYMRU). Bydd yn ofynnol i ddeiliaid trwyddedau edrych ar y wefan i weld y cyhoeddiadau diweddaraf cyn mynd ati i gasglu cocos. Os yw deiliad trwydded unigol wedi gofyn i gyfathrebu mewn ffordd arall, gwneir cyhoeddiadau yn y ffordd honno.
29.Cynigir y bydd angen i bob casglwr gwblhau datganiadau dalfa dyddiol er mwyn sicrhau bod y defnydd o'r Ddalfa Fwyaf a Ganiateir yn cael ei reoli'n gywir ac nad yw gormod o’r stociau’n cael ei gasglu.
30.Er mwyn diogelu stociau, gwaherddir defnyddio bagiau net ar bob gwely cocos i sicrhau nad yw cocos sy'n rhy fach yn cael eu casglu o'r gwelyau yn anfwriadol.
31.Er mwyn sicrhau diogelwch casglwyr, bydd casglu yn ystod y nos yn cael ei wahardd ar bob gwely. Bydd amser y nos yn cael ei ddiffinio fel ‘rhwng hanner awr ar ôl machlud ar unrhyw ddiwrnod a hanner awr cyn codi'r haul ar y diwrnod canlynol’.
32.Er mwyn sicrhau diogelwch pawb sy'n defnyddio cychod, rhaid i bob cwch a ddefnyddir i gludo cocos a gesglir yn fasnachol arddangos yn glir dystiolaeth ei fod yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol y DU ynghylch diogelwch cychod ar y môr, ar gyfer y dyfroedd y bydd y cwch yn cael ei ddefnyddio ynddynt, h.y. copi o dystysgrif neu fathodyn yn cadarnhau hyn.
33.Er mwyn lleihau'r potensial ar gyfer casglu gormod o gocos a sicrhau mordwyo diogel, rhaid i bob cwch a ddefnyddir i gludo cocos a gesglir yn fasnachol fod yn llai na chyfanswm o 10m o hyd (LOA).
34.Er mwyn atal gweithgareddau anghyfreithlon, rhaid didoli a golchi cocos cyn i gocos gael eu symud o'r bysgodfa. Yn ogystal, ystyrir bod cocos wedi cael eu symud o'r bysgodfa cyn gynted ag y cânt eu rhoi mewn unrhyw gynhwysydd (gan gynnwys bagiau, sachau a chynwysyddion tebyg eraill), trelar, cerbyd neu gwch.
35.Er mwyn sicrhau bod y defnydd o’r Ddalfa Fwyaf a Ganiateir yn cael ei fonitro'n gywir, wrth bwyso a chasglu cocos, ni wneir unrhyw lwfans ar gyfer pwysau sachau, tywod na deunyddiau eraill sy'n bresennol ar ôl eu casglu.
E. Mesurau rheoli addasol i gyd-fynd ag amodau lleol
36.At ddibenion rheoli pysgodfeydd cocos unigol (grwpiau o welyau) neu welyau cocos unigol mewn modd cynaliadwy, gellir defnyddio amodau trwydded sy'n benodol i bysgodfa neu welyau i adlewyrchu amodau lleol. Er enghraifft, ar hyn o bryd caniateir gwahanol ddulliau o gasglu mewn gwahanol bysgodfeydd, a gellir casglu ar wahanol ddyddiau o'r wythnos neu eu cyfyngu i lanw penodol. Fel rhan o'r cynigion hyn, bydd gwahaniaethau lleol o'r fath yn cael eu rhoi ar waith gan amodau trwydded.
37.Ymgynghorir â'r rhai sydd â diddordeb yn y bysgodfa ar newidiadau i amodau trwydded cyn eu cyflwyno, a hynny’n dilyn cyngor ar y dystiolaeth wyddonol/amgylcheddol ddiweddaraf. Bydd newidiadau i amodau trwydded yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru (LLYW.CYMRU). Bydd yn ofynnol i ddeiliaid trwyddedau edrych ar y wefan yn rheolaidd i weld y wybodaeth ddiweddaraf. Os yw deiliad trwydded unigol wedi gofyn i gyfathrebu mewn ffordd arall, gwneir cyhoeddiadau yn y ffordd honno.
F. Safoni'r lwfans hamdden personol ledled Cymru
38. Bydd uchafswm o 5kg y dydd yn cael ei osod ar draws pysgodfeydd cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer unrhyw un sy'n casglu cocos i'w bwyta'n bersonol. Bydd angen Trwydded Gocos Cymru Gyfan ar unrhyw un sy'n dymuno casglu mwy na 5kg y dydd.
Adran III: Gweithredu
Sut y bydd y cynigion yn cael eu rhoi ar waith?
39. Mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud deddfwriaeth newydd i gyflwyno'r newidiadau hyn a chreu cyfundrefn trwyddedu cocos newydd ar gyfer Gymru gyfan. Bydd angen trwydded ar unrhyw un sydd am gasglu mwy na 5kg o gocos y dydd o wely (neu welyau) cocos cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y ddeddfwriaeth yn nodi'r meini prawf cymhwysedd sy'n berthnasol i ymgeiswyr ac yn galluogi Gweinidogion Cymru i godi ffi am y drwydded. Bydd y ddeddfwriaeth yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud y canlynol:
- Rheoli pysgodfeydd cocos cyhoeddus mewn modd cynaliadwy a diogelu'r amgylchedd yng Nghymru.
- Nodi mewn deddfwriaeth un set o amodau cyffredinol i'r drwydded – h.y. yr amodau safonol hynny sy'n sefydlog iawn ac yn anaml iawn y bydd angen eu newid, ac a fydd yn berthnasol ledled Cymru.
- Galluogi Llywodraeth Cymru i atodi rhagor o amodau trwydded hyblyg, y gellir eu hadolygu, sy’n berthnasol i bysgodfa benodol, a fydd yn caniatáu i amodau fod yn benodol i bysgodfa neu wely. Er enghraifft, mewn perthynas â materion fel y Maint Cadwraeth Lleiaf a dulliau pysgota, diwrnodau ac amseroedd pysgota a llanwau, Bydd yr amodau hyn yn cael eu hadolygu'n rheolaidd ar y cyd â’r rhai sydd â diddordeb mewn pysgodfeydd cocos yng Nghymru.
- Gwneud pob trwydded yn ddarostyngedig i gwota dyddiol penodol ar gyfer pysgodfa/gwely y gellir ei amrywio o bryd i'w gilydd. Bydd hyn ar sail asesiadau stoc parhaus a gynhelir drwy gydol y tymor.
- Bydd pob trwydded yn ddarostyngedig i bŵer i Lywodraeth Cymru reoli pysgodfeydd cyhoeddus yng Nghymru yn gynaliadwy, yn seiliedig ar yr egwyddor y byddant ar gau nes iddynt gael eu hagor yn weithredol. Bydd hyn yn galluogi swyddogion Llywodraeth Cymru i reoli'r defnydd o'r bysgodfa yn effeithiol yn dilyn arolwg stoc a chyngor gwyddonol.
Beth fydd effeithiau’r gyfundrefn newydd?
40. Bydd gwneud y canlynol yn drosedd:
- Casglu cocos yn fasnachol o unrhyw wely cocos cyhoeddus yng Nghymru heb Drwydded Gocos Cymru Gyfan (ystyrir bod person yn casglu'n fasnachol os yw'n cymryd mwy na 5kg o gocos o bysgodfa mewn un diwrnod)
- Mynd yn groes i ofynion y ddeddfwriaeth newydd neu un o amodau Trwydded Gocos Cymru Gyfan.
Ar bwy y bydd y cynigion hyn yn effeithio?
41. Unrhyw un sy'n am gasglu cocos o bysgodfeydd cocos cyhoeddus yng Nghymru.
Beth rydym yn ceisio ei wneud?
42. Bwriad y pecyn hwn o fesurau yw rhoi cyfres o offerynnau i Weinidogion Cymru er mwyn gwneud y canlynol:
- Sicrhau bod yr amgylchedd a chynaliadwyedd pysgodfeydd cocos Cymru yn cael eu diogelu yn y dyfodol drwy reoli addasol.
- Addasu'r system ar gyfer gwneud cais am drwydded i sicrhau bod casglwyr yn gweithio mewn modd cyfreithlon a diogel.
- Addasu a symleiddio'r gwaith o reoli holl bysgodfeydd cocos cyhoeddus yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod ein stociau cocos yn gynaliadwy a diogelu'r amgylchedd ehangach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno trwydded ar gyfer Cymru gyfan i gasglu cocos ar unrhyw bysgodfa gyhoeddus neu bob un o'r pysgodfeydd cyhoeddus yng Nghymru.
Cwestiynau am y cynigion uchod
Cwestiwn 1
Beth yw eich diddordeb yn y diwydiant cocos yng Nghymru?
(Ticiwch un blwch isod sy'n disgrifio orau eich diddordeb mewn pysgodfeydd cocos yng Nghymru).
- Casglwr Masnachol
- Pysgotwr hamdden
- Prynwr
- Prosesydd
- Amgylchedd / Cadwraeth
- Gorfodi / Rheoleiddio
- Arall (nodwch)
Cwestiwn 2
A ydych yn cytuno â bwriadau Llywodraeth Cymru i wella rheolaeth a chynaliadwyedd pysgodfeydd cocos a diogelu'r amgylchedd drwy gyflwyno deddfwriaeth newydd?
- Ydw
- Nac ydw
Cwestiwn 3
A ydych yn cytuno â chyhoeddi trwyddedau cocos blynyddol ar gyfer Cymru gyfan, fel y disgrifir yng nghynnig A?
- Ydw
- Nac ydw
Cwestiwn 4
A ydych o blaid cyflwyno terfyn dyddiol os ystyrir bod angen, fel y nodir yng nghynnig A?
- Ydw
- Nac ydw
Cwestiwn 5
A ydych o blaid cynnal gwiriadau o gymhwysedd y rhai sy’n gwneud cais am Drwydded Gocos Cymru Gyfan, fel y disgrifir yng nghynnig B?
- Ydw
- Nac ydw
Cwestiwn 6
A ydych o blaid codi ffi flynyddol am drwydded gocos, fel y disgrifir yng nghynnig C?
- Ydw
- Nac ydw
Cwestiwn 7
A ydych o blaid amodau trwydded gyffredinol sydd ynghlwm wrth bob trwydded fel y disgrifir yng nghynnig D?
- Ydw
- Nac ydw
Cwestiwn 8
A ydych o blaid cyflwyno datganiad dalfa dyddiol i alluogi monitro effeithiol?
- Ydw
- Nac ydw
Cwestiwn 9
A ydych o blaid y cynnig ar gyfer rheoli pysgodfeydd cocos mewn modd addasol drwy amodau lleol ychwanegol sy'n benodol i bysgodfeydd unigol a enwir, fel y disgrifir yng nghynnig E?
- Ydw
- Nac ydw
Cwestiwn 10
A ydych yn cytuno â'r cynnig i safoni'r lwfans hamdden ar gyfer casglu cocos at ddibenion personol ledled Cymru, fel y disgrifir yng nghynnig F?
- Ydw
- Nac ydw
Cwestiwn 11
Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r newidiadau i'r ffordd y mae pysgodfeydd cocos yn cael eu rheoli yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a hefyd yr effaith y byddent yn ei chael o ran peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Beth, yn eich barn chi, fyddai’r effeithiau? Sut y gellir cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?
Cwestiwn 12
Eglurwch hefyd sut rydych yn credu y gellid newid neu addasu’r polisïau ar gyfer rheoli pysgodfeydd cocos i sicrhau eu bod yn cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy helaeth ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, ac ar drin y Gymraeg yn yr un ffordd â'r Saesneg, ac na fydd unrhyw effeithiau anffafriol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg nac ar drin y Gymraeg yr un mor ffafriol â'r Saesneg.
Cwestiwn 13
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech wneud sylwadau ar unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw'n benodol, defnyddiwch y blwch isod i'w nodi:
Sut i ymateb
Dylid anfon ymatebion drwy e-bost/y post i'r cyfeiriad isod, i gyrraedd erbyn 6 Mai 2022 fan bellaf:
- llenwi ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i hanfon ar e-bost at marineandfisheries@llyw.cymru. Sicrhewch eich bod yn rhoi ‘Mesurau Rheoli Cocos 2022’ yn y blwch pwnc.
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i phostio i:
Mesurau Rheoli Cocos 2022
Is-adran y Môr a Physgodfeydd
Swyddfa Llywodraeth Cymru
Ystafell 3, Cedar Court
Parc Busnes Haven’s Head
Aberdaugleddau
Sir Benfro
SA73 3LS
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.
Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig
Rhif: WG42711
YGallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.