Mesurau gofal llygaid ar gyfer cleifion allanol y GIG: Ionawr 2025
Data misol ar gleifion allanol offthalmoleg a oedd yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i'w dyddiad targed ar ddiwedd mis Ionawr 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Rhyddhau data misol ar gleifion allanol offthalmoleg newydd a dilynol. Mae’n dangos y nifer sy’n aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’r dyddiad targed ar ddiwedd pob mis. Pe bai eu dyddiad targed yn cael ei fethu, byddai risg iddynt gael niwed na ellir ei ddad-wneud neu ganlyniad andwyol sylweddol (Ffactor Risg Iechyd R1).
Ar ddiwedd Ionawr 2025
- 161,962 o lwybrau cleifion, a oedd wedi eu hasesu’n Ffactor Risg Iechyd R1, sy’n aros am apwyntiad claf allanol. O’r rheini, roedd dyddiad targed wedi ei bennu ar gyfer 161,902 ohonynt.
- Roedd 50.1% o lwybrau cleifion, a aseswyd yn R1, yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’w dyddiad targed.
Yn ystod mis Ionawr 2025
- Cafodd 24,578 o apwyntiadau eu mynychu gan gleifion a oedd wedi eu hasesu’n Ffactor Risg Iechyd R1. O’r rheini, roedd dyddiad targed wedi ei bennu ar gyfer 22,393 ohonynt.
- Roedd 58.8% o apwyntiadau a fynychwyd, a aseswyd fel R1, wedi aros am gyfnod o fewn y dyddiad targed neu am gyfnod o fewn 25% y tu hwnt i’r dyddiad targed.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Helen Roberts
E-bost: hss.performance@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099