Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi wedi galw ar gyflogwyr a gweithwyr i wneud popeth bosibl i atal lledaeniad y coronafeirws yn y gweithle.
Wrth i fwy o fusnesau ail-agor ac i bobl sy’n methu gweithio o gartref ddychwelyd i’r gwaith, mae’r gweinidog wedi tynnu sylw at bwysigrwydd dilyn y rheolau aur i helpu i gadw lefelau y feirws yn isel yng Nghymru.
Mae yn annog pawb i olchi eu dwylo yn aml a phan yn bosibl, gadw pellter o ddau fetr rhyngddynt â’u cydweithwyr neu gwsmeriaid.
Dyma fesurau y gall bawb eu dilyn yn eu bywydau pob dydd.
Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi:
"Mae’n hollbwysig fod pawb yn cymryd camau i warchod eu hunain ac eraill yn y gweithle – mae hyn yn cynnwys cadw pellter corfforol ble yn bosibl. Bydd y mesurau hyn yn helpu inni barhau i gadw achosion y coronafeirws yn isel yng Nghymru.
“Mae cyflogwyr a gweithwyr wedi cymryd camau i sicrhau diogelwch eu gweithleoedd a dwi am ddiolch iddyn nhw i gyd am y camau mae nhw wedi’u cymryd. Fodd bynnag, dwi am atgoffa pob busnes sy’n gweithredu yng Nghymru bod yn rhaid iddyn nhw ddilyn gofynion cyfreithiol penodol sydd wedi’u cynllunio i helpu i gadw y feirws rhag lledaenu. Gallai peidio â gwneud hynny olygu y byddai’n rhaid i’r safle gau.
“Mae’r coronafeirws yn hynod ddifrifol ac mae’n parhau i fod o’n hamgylch. Mae’n rhaid inni wneud popeth y gallwn i gadw’n ddiogel yn y gweithle a chefnogi ein gilydd wrth wneud hynny.
“Dylai unrhyw un sy’n profi symptomau y coronafeirws, waeth ba mor ysgafn, hunan-ynysu a chadw oddi wrth y gweithle tan iddyn nhw gael prawf, i warchod eu cydweithwyr a’r cyhoedd yn ehangach.
“Mae gan bob un ohono ni ran bwysig i’w chwarae i gadw ein hunain, ein cydweithwyr a’n cleientiaid a’n cwsmeriaid yn ddiogel.
Mae cyfreithiau gan Lywodraeth Cymru yn galw ar bob busnes yng Nghymru i gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws ar eu safle.
Er mwyn gwneud hynny, y man cychwyn yw sicrhau y gall eu gweithwyr gadw pellter o ddwy fetr pan fyddant yn y gwaith.
Fodd bynnag, mae’r gyfraith yn cydnabod yr heriau a pha mor anymarferol yw cadw pellter cymdeithasol mewn rhai lleoliadau. Yn yr amgylchiadau hynny mae’n bwysig bod cyflogwyr yn defnyddio mesurau eraill i leihau cyswllt wyneb yn wyneb, megis codi sgriniau, ail-drefnu dodrefn a ffitiadau eraill neu ddefnyddio systemau unffordd. Dylid gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyfyng neu brysur ble nad yw mesurau eraill yn ymarferol.
Mae hylendid da yn hanfodol drwy’r amser a dylid glanhau pob arwynebedd ac offer yn rheolaidd. Dylai pobl hefyd barhau i sicrhau eu bod yn golchi eu dwylo yn rheolaidd, yn gorchuddio eu cegau wrth besychu ac yn osgoi cyffwrdd eu hwyneb neu eu gorchudd wyneb.