Sut mae’r Map Cyfle Coetir yn gweithio ac yn eich helpu i benderfynu ble i blannu coetir newydd.
Dogfennau
Map Cyfle Coetir: canllaw i ddefnyddwyr , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Manylion
Rydyn ni wedi adolygu a diweddaru’r Map Cyfle Coetir. Mae'n cael ei gadw ym mhorthol MapDataCymru. Ei ddiben yw gwneud yn siŵr bod coed yn cael eu plannu yn y lle iawn ac yn rhoi’r manteision mwyaf. Mae’r map yn fap ar-lein sy’n
- ganllaw cyffredinol i berchenogion tir
- dangos yr ardaloedd yng Nghymru sydd fwyaf addas i greu coetir newydd arnynt
- dangos ardaloedd a allai fod yn sensitif i goetir newydd
- nodi pa awdurdodau y dylech ymgynghori â nhw
- dangos sut ydym yn sgorio ceisiadau am grantiau plannu.
Mae’r map yn berthnasol i bob cais creu coetir, pwy bynnag sy’n talu amdano.
Mae’r Canllaw i Ddefnyddwyr yn esbonio sut i ddefnyddio’r map.