Dylai pawb fanteisio ar eu pigiad atgyfnerthu COVID-19, dyna neges y Prif Weinidog wrth iddo rybuddio bod Cymru’n wynebu ton newydd o heintiau o ganlyniad i’r amrywiolyn Omicron.
Mae mwy na miliwn o bobl eisoes wedi cael eu pigiad atgyfnerthu yng Nghymru, ond mae’r rhaglen yn cael ei chyflymu’n dilyn ymddangosiad yr amrywiolyn hwn sy’n lledaenu’n gyflym.
Yn ei gynhadledd i’r wasg yn dilyn yr adolygiad 21 diwrnod, sydd i’w gynnal ddydd Gwener (10 Rhagfyr), bydd y Prif Weinidog yn dweud er mai dim ond llond llaw o achosion sydd wedi’u cadarnhau yng Nghymru hyd yma, bod angen inni fod yn barod i weld achosion yn cynyddu’n gyflym iawn.
Cafodd yr achosion cyntaf o omicron eu darganfod yn Ne Affrica ychydig dros bythefnos yn ôl. Mae wedi lledaenu’n gyflym ar draws y byd, gan gynnwys i’r Deyrnas Unedig. Nawr mae’r amrywiolyn yn lledaenu yn y gymuned mewn sawl ardal yn Lloegr ac yn yr Alban.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
Mae ymddangosiad yr amrywiolyn omicron yn ddatblygiad arall sy’n peri pryder i ni yn y pandemig hwn. Rydym yn bryderus am y cyflymder y mae’n lledaenu a’r potensial y gallai heintio niferoedd mawr o bobl.
Rydym yn rhoi’r pigiadau atgyfnerthu’n gyflymach mewn ymateb i’r amrywiolyn newydd. Rydym yn cynyddu nifer y clinigau ac yn ymestyn yr oriau agor.
Mae pob dos o’r brechlyn a roddir i rywun yn fuddugoliaeth fach yn erbyn y feirws – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn blaenoriaethu cael eich brechlyn neu’ch pigiad atgyfnerthu.
Dyma’r anrheg Nadolig gorau y gallwch chi ei roi i chi eich hun a’ch teulu eleni.
Mae sawl peth arall y gall pobl ei wneud i helpu i amddiffyn eu hunain rhag coronafeirws, gan gynnwys yr amrywiolyn omicron newydd.
Bydd y Prif Weinidog yn gofyn i bobl gymryd profion llif unffordd cyn mynd allan a gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob lleoliad cyhoeddus o dan do i helpu i ddiogelu pobl yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Bydd Cymru’n aros ar lefel rhybudd sero ar ôl yr adolygiad diweddaraf o’r rheoliadau COVID. Fodd bynnag, o ganlyniad i ledaeniad yr amrywiolyn omicron, mae Llywodraeth Cymru’n cynghori’n gryf y dylai pobl wneud y canlynol:
- Gwneud prawf llif unffordd cyn mynd allan – i barti Nadolig; i siopa Nadolig; i ymweld â ffrindiau neu deulu; i unrhyw le prysur neu cyn teithio.
- Aros adref os yw’r prawf yn bositif. Dylech drefnu prawf PCR a hunanynysu.
- Pobl i wisgo gorchuddion wyneb mewn tafarndai a bwytai, pan nad ydynt yn bwyta nac yn yfed. Rhaid i bawb wisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus dan do eraill, yn unol â'r gyfraith, gan gynnwys mewn sinemâu a theatrau.
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
Doedd dim un ohonom eisiau clywed y newyddion am yr amrywiolyn newydd hwn. Ar ôl bron i ddwy flynedd o bandemig, roeddem wedi gobeithio y byddem yn gallu rhoi’r coronafeirws y tu ôl i ni y Nadolig hwn.
Ond rydym wedi wynebu sawl her yn ystod y pandemig. Ac rydym wedi dysgu gwersi bob tro. Nid yw hyn yn golygu ein bod yn mynd yn ôl i’r dechrau.
Gwnewch bopeth y gallwch i’ch diogelu eich hun a’ch anwyliaid. Dilynwch y cyngor a’r holl fesurau sydd wedi ein cadw’n ddiogel yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Gadewch inni gadw’n ddiogel ac yn iach y Nadolig hwn.