Mae safle warws yng ngogledd Cymru a aeth yn adfail ac a ddaeth yn hafan ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cael ei drawsnewid yn barc busnes modern gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Mae'r man problemus o ran fandaliaeth ym Mhrestatyn wedi cael ei drawsnewid yn ofod o'r radd flaenaf at ddibenion cyflogaeth gan James Industrial Limited.
Dyfarnodd Llywodraeth Cymru Grant Datblygu Eiddo gwerth £1.75 miliwn iddynt i gefnogi'r ailddatblygiad, gyda 28 o unedau busnes o ansawdd uchel wedi'u creu dros 75,000 o droedfeddi sgwâr.
Kwik Save oedd safle Warren Drive gynt, ond mae wedi bod yn wag ers tua 1998.
Wedi'i alw bellach yn Barc Busnes Prestatyn, mae disgwyl iddo ddod yn ganolfan ffyniannus i fusnesau a busnesau newydd.
Mae pum uned eisoes wedi'u meddiannu gydag eraill o dan gynnig neu wedi dod i drefniant o ran telerau. Mae'r safle yn cael ei farchnata gan gyd-asiantau Littler & Associates, Legat Owen a BA Masnachol.
Dywedodd Dominic James, cyfarwyddwr James Industrial Limited:
Mae gan y parc busnes gymysgedd da o ofod swyddfa ac unedau diwydiannol / warws, o 1,400 o droedfeddi sgwâr, gyda'r hyblygrwydd i ddarparu ar gyfer mannau mwy hyd at 25,000 o droedfeddi sgwâr os oes angen.
Rydym yn hapus i gynorthwyo tenantiaid drwy'r broses o ddechrau eu busnes i'w helpu i deilwra'r gofod i'w hanghenion.
Mae'r safle yn elwa ar fand eang ffeibr cyflym iawn ac yn agos at lan y môr, a chanol y dref.
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:
Bydd y buddsoddiad hwn yn trawsnewid y safle o fod yn broblem i drigolion i ofod busnes o'r radd flaenaf y gall Prestatyn fod yn falch ohono.
Rydym yn gwybod bod adeiladau masnachol modern yn hanfodol i fusnesau ledled Cymru dyfu a ffynnu, ac mae ein Cynllun Cyflawni Eiddo yn ceisio mynd i'r afael â'r mater hwnnw gydag ymyriadau fel hyn.