Cyflwyno ein Hwynebau Magu Plant: blog y teulu Smyth
"Helô, Stephen Smyth ydw i. Rwy’n 38 oed ac yn byw yn Rhydyfelin, ger Pontypridd, gyda fy nau blentyn – Ayda, sy’n chwech, a George, sy’n dair.
Rwy’n gogydd hyfforddedig, ond ers yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydw i wedi bod yn dad amser llawn i’m plant hardd, bishi. Mae Ayda’n hoffi chwarae gemau a gwneud pethau; mae George yn hoffi bod yn yr awyr agored a gwneud llanastr yn gyffredinol.
Fe wnes i a’m gwraig Teresa gyfarfod yn 2007 ar noson allan ym Mhen-y-bont ar Ogwr a, thua blwyddyn yn ddiweddarach, ar ôl treulio tri mis yn teithio’r byd gyda’n gilydd, fy symudon ni i Rydyfelin a phenderfynu dechrau teulu. Nid oedd yn daith rwydd ond, ar ôl 18 mis, fe gawson ni wybod bod Teresa’n disgwyl Ayda. Fe briodon ni yn Rhodes, Gwlad Groeg, ym mis Mehefin 2013 ac, yn gynnar yn 2014, roedden ni wrth ein boddau i glywed ein bod ni’n feichiog unwaith eto. Fodd bynnag, pan oedd Teresa saith mis yn feichiog gyda George, fe ddarganfyddon ni fod ganddi Lymffoma nad yw’n Hodgkin, sef canser anghyffredin y system lymffatig. Penderfynwyd yn gynnar y bydden ni’n ymdopi â’r beichiogrwydd a’r enedigaeth yn gyntaf, ac yna mynd i’r afael â’r canser. Yn anffodus, pan oedd George yn saith mis oed ac Ayda’n bedair, bu farw Teresa.
"Mae bod yn rhiant yn fraint, yn brofiad sy’n newid bywyd. Y peth olaf yr addewais Teresa oedd y byddwn i’n gwneud unrhyw beth a phopeth dros ein plant, fel y bydden nhw’n destun balchder i’w mam wrth dyfu. Dyna beth rwy’ wedi bod yn ceisio ei wneud ers hynny, gyda chymorth rhyfeddol ei rhieni hi, fy rhieni i a fy chwaer."
Rwy’n credu mai’r peth pwysicaf rydw i wedi’i ddysgu yw nad oes fformiwla hud ar gyfer magu plant. Y peth gorau y gallwch chi ei wneud yw sicrhau bod eich teulu a’ch ffrindiau o gwmpas, a gofyn am gymorth os bydd arnoch ei angen.
Yn ddiweddar, rydyn ni wedi bod yn dilyn llwybr Taf oherwydd bu’r plant yn ddigon ffodus i gael beiciau yn anrhegion pen-blwydd gan eu Tad-cu. Mae’r ddau yn hoffi pethau gwahanol – mae Ayda wrth ei bodd yn nofio a gwneud gymnasteg, tra bod George yn hoffi canu a chwarae â’i deganau – ond mae’r ddau yn hoffi chwarae meddal, a nosweithiau pizza a ffilm. Ond nid yw dewis ffilm yn rhwydd bob amser: mae George yn hoffi gwylio “Smurfs… neu Smurfs”, ac mae gan Ayda ei ffefrynnau hefyd.
Roedd Teresa a fi’n dîm magu plant da. Pan fyddai un ohonon ni’n ddiamynedd, byddai’r llall yn ddigyffro ac yn barod i fynd. Roedd yn gweithio. Rydw i wedi ceisio peidio â meddwl gormod am y ffaith mai fi sy’n gyfrifol am bopeth nawr. Mae gen i arferion dyddiol, ac rwy’n ceisio bod mor drefnus â phosibl – er enghraifft, os ydyn nhw’n hapus yn chwarae, rwy’n ceisio gwneud rhai pethau o gwmpas y tŷ, efallai rhoi’r sugnwr llwch dros y llawr. Trwy wneud hynny, pan fyddan nhw’n mynd i gysgu tua 8pm, galla i eistedd ac ymlacio, cael rhywbeth i’w fwyta os nad ydw i wedi cael cyfle, ac efallai gwylio ffilm. Ond weithiau, mae’n haws dweud na gwneud.