Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i’r cyfyngiadau ddechrau llacio ar ôl y cyfnod clo, mae Stephen yn rhannu sut roedd ei blant, Ayda a George, yn teimlo am fynd yn ôl i'r ysgol a beth yw eu cynlluniau ar gyfer misoedd yr haf.

Pan ddechreuodd y cyfyngiadau lacio, roedd Ayda a George yn hapus i ddychwelyd i'r ysgol. Pan oeddem ni i gyd yn dal i fod yn aros gartref, roedd Ayda yn mwynhau cyfarfodydd dosbarth Zoom bob dydd a gwneud ei gwaith ysgol ar ei phen ei hun neu gyda'i ffrindiau ar-lein. Doedd George ddim yn siŵr am waith ar-lein, felly ar ôl ceisio gwneud hynny (ac achosi straen i'r ddau ohonom ni) cysylltais â'i athro a bu modd i mi drefnu pecyn gwaith cartref wythnosol iddo. Roedd gweld y gwaith a mynd drwyddo ar ei gyflymder ei hun yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Doedd George ddim yn hoffi ei alwadau Zoom ar gyfer y dosbarth unwaith yr wythnos - collodd ambell un oherwydd gorbryder difrifol; roedd yn gorfeddwl ac yn ofidus iawn. Roedd y ddau yn gweld eisiau eu ffrindiau, felly ar y cyfan ni allent aros i ddychwelyd i'r ysgol.

Y rhan anoddaf am y cyfnod clo oedd cadw trefn reolaidd. Gyda'r cyfnod clo a rheolau llym ynghylch aros y tu mewn, roedd yn rhy hawdd colli golwg ar amser bwyd, gwaith cartref a hyd yn oed amser gwely, gan nad oedd gennym unrhyw gynlluniau (ac na allem ni fod â chynlluniau). Ar ôl i'r ysgol ddychwelyd, roedd yn ôl i foreau cynnar a mynd â’r plant i’r ysgol ac yn ôl, ac er bod hynny’n anodd ar y dechrau, yn sicr roedd angen hynny arnom ni i gyd. Ar ôl rhyw wythnos, roedd y plant wedi setlo'n ôl i mewn iddo fel nad oedden nhw erioed wedi bod i ffwrdd, ac roedd hynny’n wych.

Gyda chyfyngiadau'n llacio, nid ydym wedi gwneud unrhyw gynlluniau mawr. Yn rhannol, oherwydd ei fod yn dal yn gyfnod pryderus ac nad ydym yn glir eto, ac yn rhannol am nad ydym wedi arfer gwneud cynlluniau na meddwl yn rhy bell ymlaen llaw. Rydym ni i gyd wedi arfer â pheidio â gallu gweld teulu a ffrindiau, felly rwy'n meddwl bod gweld pobl yn bersonol a mwynhau'r pleserau syml fel cyfarfod wedi bod yn fwy na digon. Rydym wedi dechrau'n araf ac nid ydym wedi mentro'n rhy bell, ond y peth mwyaf yr ydym ni wedi'i wneud ers i'r cyfyngiadau lacio yw mynd am drip i lan y môr a'r ffair am y diwrnod. Nid yw'r un peth yn union ag yr oedd cyn y pandemig, ond rydych chi'n dysgu gwerthfawrogi pethau fel hynny oherwydd y pandemig.

Roedd gennym ni ein gwyliau teuluol go iawn cyntaf dramor wedi'i drefnu ers fy mhriodas i a fy niweddar wraig yng Ngwlad Groeg wyth mlynedd yn ôl. Yn amlwg, bu'n rhaid canslo hwnnw – ond rydym ni’n dal yn bwriadu mynd i ffwrdd, y tri ohonom ni, fy chwaer a'i phlentyn hi rywbryd – efallai y flwyddyn nesaf nawr. Rydym ni wrthi'n trefnu taith gyda fy nheulu ar gyfer yr haf. Taith i ganolbarth Lloegr i weld teulu fy mam a rhai o'r golygfeydd o gwmpas y fan honno, ac yna ymlaen i Lerpwl i weld ochr fy nhad o'r teulu. Mae'n mynd i fod yn arbennig gan nad ydym ni wedi'u gweld nhw am amser hir iawn.

Nid yw diddanu’r plant drwy gydol gwyliau'r haf bob amser yn syml. Bydden nhw’n hapus i fynd i’r fan hyn a fan draw – ond nid yw hynny'n ymarferol (pandemig ai peidio!). Mae fy nheulu i'n wych, ac mae fy chwaer yn athrawes, felly mae ganddi hi'r haf i ffwrdd sy'n help enfawr – yn enwedig gan ei bod wrth ei bodd yn cynllunio pethau! Mae gweld fy chwaer a'i phlentyn yn helpu'r undonedd o dim ond fod yn dad 24/7 – rhywbeth sy'n werthfawr i’r tri ohonom ni.

Fe fydda i'n onest, rwyf wedi dod i arfer gydag aros i mewn a pheidio â gwneud cynlluniau, felly rwy'n ei chael hi'n anodd nawr bod pethau wedi llacio, i dorri allan o'r arfer hwnnw. Mae wedi bod yn ddeunaw mis gwallgof, ond mae pethau'n gwella'n araf. Mae'n debyg ei fod yn ymwneud ag edrych ymlaen a newid y meddylfryd ychydig tuag at yr hyn y gallwn ni ei wneud yn hytrach na'r hyn na allwn ni ei wneud. Y peth mwyaf rwyf wedi'i ddysgu yw gwerthfawrogi'r pethau bach, yr oeddem ni i gyd o bosibl yn eu cymryd yn ganiataol cyn hyn.