Neidio i'r prif gynnwy

O alwadau Zoom i addysgu gartref, mae'r cyfnod clo wedi effeithio ar bob un ohonom ni mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.

Ar y dechrau, roedd y cyfnod clo yn beth newydd. Roedd y plant i ffwrdd o’r ysgol ac yn meddwl ei fod yn cŵl a threuliodd y tri ohonom ni bob eiliad gyda'n gilydd – ond nid oedd yr un ohonom ni’n gwybod mai dyma'r ffordd newydd o fyw (o dro i dro) dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn gynnar yn y cyfnod clo cyntaf ceisiais gadw rhyw fath o drefn arferol - efallai gan feddwl (gobeithio) na fyddai'n hir. Yna byddai wythnosau'n troi'n fisoedd ac roedd yn llawer anoddach - yn enwedig gyda'r plant ddim yn gweld eu ffrindiau na'u teulu. Byddwn i'n gwneud gwaith ysgol a gwaith cartref gyda nhw ond roedd cymaint o bethau i dynnu eu sylw gan nad oedden nhw yn yr ystafell ddosbarth. Roedd Ayda yn deall ei phethau ar-lein, felly fe wnaeth hi addasu yn dda i wirio pa waith yr oedd ei hathrawes wedi'i osod ac ymuno â dosbarthiadau ar Zoom yn ddyddiol; ond wnaeth George ddim cymryd at hynny gystal. Efallai mai ychydig o agwedd “ond dydw i ddim yn yr ysgol” oedd hynny ac efallai bod y ffaith nad oedd ei athro yno drwy'r amser wedi effeithio arno. Yn amlwg, ceisiais fy ngorau i'w helpu a'i annog, ond roedd yn rhwystredig iawn i'r ddau ohonom. Doeddwn i ddim yn gallu ei orfodi ac nid oedd colli fy amynedd yn iach i'r naill na'r llall ohonom. Mae ei athro wedi bod yn gefnogol iawn drwyddi draw, felly cysylltais ag ef a gofyn a fyddai modd i George gael taflenni gwaith ar bapur yn lle hynny. Doedd hynny ddim yn broblem a threfnwyd i mi eu casglu'n wythnosol. Roedd yn well gan George weld ei waith ar bapur; roedd gallu ysgrifennu a thorri allan a gludo pethau yn ei wneud yn llawer mwy brwdfrydig. Yn gynharach yn y cyfnod clo roedd yn ei chael hi'n anodd iawn gyda'i alwadau Zoom yn yr ystafell ddosbarth. Er gymaint yr oedd yn gweld eisiau ei ffrindiau i gyd, aeth yn nerfus iawn ac roedd yn swil iawn yn ystod y galwadau. Mae wedi gwella wrth i'r wythnosau a'r misoedd fynd yn eu blaenau, ond nid yw wedi eu mwynhau'n fawr, ac mae wedi bod yn anodd ei wylio'n mynd yn fwy mewnblyg yn ystod y cyfnod pan fyddai fel arfer yn mynd allan, yn llawn egni ac yn swnllyd!

Rwy'n credu bod y cyfnod clo wedi gwneud i'r plant fy ngwerthfawrogi i a beth rwy'n ei wneud ychydig yn fwy. Does dim tylwyth teg sy'n dod i drefnu pethau tra byddan nhw yn yr ysgol – fi a dyna ni. Maen nhw’n fwy parod ar adegau i helpu mwy o gwmpas y tŷ hefyd – yn enwedig George.

Mae Ayda a George wedi llefain. Roedd George yn arbennig o anodd yn gynnar. Heblaw am rywfaint o sicrwydd a chwtsh mawr yn ceisio eu hargyhoeddi "fydd hyn ddim am byth" rydym ni, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, wedi dod drwyddi ond dydy hi ddim wedi bod yn hawdd. Nid oes unrhyw un yn gwybod pryd y bydd hyn i gyd yn dod i ben, a phryd y byddwn ni i gyd yn dychwelyd i ryw fath o normalrwydd.

Rwy'n berson eithaf preifat ac yn byw bywyd tawel - i'r pwynt lle byddai fy nheulu yn dweud wrthych chi fy mod wedi bod dan gyfnod clo am ryw 5 mlynedd. Ond hyd nes y dywedir wrthych chi na allwch chi fynd i rywle na gweld unrhyw un mae'n rhyfedd yr effeithiau a all gael. Rwyf wedi teimlo ar adegau fy mod i wedi bod mewn ychydig o rigol. Yn byw rhyw fath o ‘Groundhog Day’ lle mae pob diwrnod yr un fath ac un diwrnod yn mynd yn un arall yn ddi-baid.

Mae bod gyda'n gilydd 24/7 yn siŵr o achosi tensiwn, dagrau a stranciau. Mae'n bwysig cymryd yr amser hwnnw i chi’ch hun. Ymlacio'r drefn ychydig i gadw'ch pwyll, ac i geisio cadw’n hapus pan fydd adegau anodd. Rwyf efallai wedi dysgu cymryd anadl ddofn a bod ychydig yn fwy hamddenol. Mae hi wedi bod yn anodd i'r plant ac maen nhw'n gyfarwydd ag amgylchedd y cartref, felly mae'n well ei gadw'n un hapus.