Neidio i'r prif gynnwy

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, ar doriad Llywodraeth y DU i'r cynnydd mewn Credyd Cynhwysol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mewn sesiwn drafod yn y Senedd ar Gredyd Cynhwysol heddiw, condemniodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, Lywodraeth y DU yn llym oherwydd ei chynllun i dorri'r cynnydd o £20 yr wythnos, a fydd yn golygu bod miloedd o unigolion ledled Cymru, p’un a ydyn nhw mewn gwaith neu beidio, yn waeth eu byd.

Dywedodd y Gweinidog:

Mae'n anghredadwy y byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig nawr yn dewis troi cefn ar y rhai sydd ein hangen fwyaf ac a chwaraeodd eu rhan wrth amddiffyn ein gwlad rhag COVID-19. 

Ers yr haf diwethaf, rydyn ni wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud y cynnydd o £20 yr wythnos yn barhaol.

Yn ein llythyr diweddaraf, a lofnodwyd ar y cyd â Gweinidogion o Lywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, fe ofynnom i Lywodraeth y Deyrnas Unedig rannu gyda ni ei hasesiad hi o’r effaith y byddai torri'r gynhaliaeth hanfodol hon o £20 yn ei chael ar lefelau tlodi. 

Dydyn ni ddim wedi cael ymateb o hyd. 

Ac os nad oedd y toriad hwn o £20 yr wythnos yn ddigon eithafol, fe allwn ychwanegu at hynny ddiwedd y cyfnod ffyrlo, y cynnydd mewn costau tanwydd, y cyfnod aros diangen o 5 wythnos, a'r cyhoeddiad diweddar y bydd Llywodraeth y DU yn cynyddu yswiriant gwladol. Cam a allai ei gwneud yn amhosibl i deuluoedd sydd eisoes yn byw ar y gwynt gario ymlaen, yn ôl ei hadran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ei hun. 

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn torri cynhaliaeth rhai o bobl fwyaf di-freintiedig ein cymdeithas.
Mae'r rhybuddion a'r dystiolaeth yn glir. Y rhai sydd fwyaf angen rhwyd ddiogelwch, sydd fwyaf angen i'w Llywodraeth sefyll drostyn nhw, fydd yn dioddef.

Wrth amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru, dywedodd y Gweinidog:

Mae colli’r £20 yr wythnos yn golygu bod aelwydydd ledled Cymru yn carlamu tuag at ddibyn ariannol. Mae'n hanfodol i ni helpu pobl i ddelio â'r anawsterau ariannol sydd o’u blaen nawr. 

Yn Tlodi Plant – Cynllun Gweithredu Pwyslais ar Incwm, fe wnaethom ni ddarparu amrywiaeth o brosiectau a oedd â nod syml – rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl. 

Rwy’n falch bod yr holl brosiectau wedi bod yn llwyddiannus, gan gynnwys ein hymgyrch genedlaethol gyntaf i annog pobl i hawlio budd-daliadau lles, a helpodd pobl i hawlio dros £650,000 o incwm budd-daliadau lles yn ystod mis Mawrth. 

Byddwn yn cynnal ein hail ymgyrch genedlaethol ar y mater yr hydref hwn.

Mae'r pandemig wedi arwain at weld pobl ledled Cymru yn troi at y Gronfa Cymorth Dewisol am gymorth gyda'r pwysau ariannol y maent yn eu hwynebu.

Fe symudom yn gyflym i gryfhau'r gefnogaeth y gallem ei chynnig drwy'r Gronfa honno, a gafodd £25.4m yn ychwanegol o gyllid yn ystod y pandemig.

Yn olaf, dywedodd y Gweinidog:

Pan fo gymaint o wrthwynebiad i dorri’r £20, mae'n sefyllfa gwbl warthus, amhosibl ei chyfiawnhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthod gwrando ac yn gwrthod amddiffyn y rhai mwyaf anghenus. Mae’n amlwg bod cyni yn ôl ar yr agenda i'r tlotaf a'r rhai ar y cyflogau isaf.