Heddiw (dydd Iau, 6 Awst), mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu'r camau y bydd yn eu cymryd i wella ansawdd aer y wlad o dan ei Chynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach.
Ansawdd aer gwael yw'r perygl amgylcheddol mwyaf i iechyd y cyhoedd ac mae hefyd yn effeithio ar fioamrywiaeth a'r amgylchedd naturiol.
Yng Nghymru, mae ansawdd aer gwael yn cyfrannu at leihad mewn disgwyliad oes sy'n cyfateb i rhwng 1,000 a 1,400 o farwolaethau y flwyddyn. Yn aml, mae'n cael effaith amlwg ar y rhai mwyaf agored i niwed, fel yr ifanc iawn neu'r oedrannus iawn, a'r rhai sydd â chyflyrau anadlol a chardiofasgwlaidd.
Mae'r Cynllun Aer Glân yn nodi ystod o gamau gweithredu i'w cyflawni gan Lywodraeth Cymru a'n partneriaid i wella ansawdd aer y genedl.
Bydd y mesurau a amlinellir yn y Cynllun yn gweithio ochr yn ochr â chynlluniau presennol i leihau'r llygredd aer y mae'r cyhoedd yn dod i gysylltiad ag ef.
Bydd y camau hyn yn lleihau llygredd aer, risgiau iechyd ac anghydraddoldebau er mwyn gwella iechyd y cyhoedd.
Byddant hefyd yn cefnogi ein hamgylchedd naturiol drwy weithredu mewn ffordd sy'n cefnogi bioamrywiaeth ac amaethyddiaeth Cymru, gan leihau allyriadau o ddiwydiant a chreu lleoedd cynaliadwy i fyw ynddynt, a fydd yn gwella ansawdd ein bywydau.
Mae'r Cynllun yn cysylltu strategaethau a mentrau sy'n annog mwy o bobl i gerdded, seiclo neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan ategu'r Ddeddf Teithio Llesol a Menter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Mae rhai o'r mesurau yn cynnwys:
- buddsoddiad sylweddol yn y seilwaith teithio llesol, gan wella gwasanaethau rheilffyrdd a chefnogi datgarboneiddio drwy ein nod o sicrhau fflyd o dacsis a bysiau heb unrhyw allyriadau pibellau egsôst erbyn 2028.
- ymchwilio i fesurau i gefnogi gostyngiad yn y defnydd o gerbydau personol megis codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, Parthau Aer Glân a/neu Barthau Allyriadau Isel.
- gweithredu ein strategaeth gwefru cerbydau trydan a chefnogi cynnydd yng nghyfran y cerbydau allyriadau lefel iawn (ULEV) ac annog newid i gerbydau allyriadau isel iawn i gasglu gwastraff.
- adolygu'r pwerau sydd gan awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag allyriadau o losgi domestig.
- ymchwilio i sut y mae coelcerthi a thân gwyllt yn cyfrannu at lefelau allyriadau niweidiol
- gwella'r broses o fonitro ansawdd aer drwy ddatblygu Rhwydwaith Monitro Llygredd Aer newydd er mwyn diogelu'r cyhoedd, yn enwedig y rheini sydd fwyaf agored i niwed, rhag llygredd aer.
- plannu coed a gwrychoedd mewn ffordd ddeallus ochr yn ochr ag ehangu coetiroedd i gefnogi gwelliannau i ansawdd aer.
- cryfhau’r rheolaeth ar allyriadau mewn amaethyddiaeth.
- sicrhau gwell ddulliau o gyfathrebu i annog newid mewn ymddygiad a chynhyrchu canllawiau statudol newydd i helpu i ddiogelu gweithluoedd rhag dod i gysylltiad â llygredd aer.
- cynigion ar gyfer Deddf Aer Glân newydd i Gymru i wella deddfwriaeth bresennol a chyflwyno pwerau newydd i fynd i'r afael â llygredd aer ymhellach.
Lansiodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y cynllun newydd gydag ymweliad â Heol y Castell yng Nghaerdydd, lle mae Cyngor Caerdydd yn cymryd camau brys i fynd i'r afael â lefelau uchel o allyriadau nitrogen deuocsid.
Mae Heol y Castell wedi ei chau i gerbydau a'r gofod ffordd wedi ei ailddyrannu i greu lôn feiciau ddwy ffordd er mwyn gwella'r llwybr drwy ganol y ddinas. Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio i ad-drefnu canol y ddinas er mwyn blaenoriaethu diogelwch cerddwyr, a chefnogi mynediad i feiciau a bysiau yng nghanol y ddinas a rhwng canolfannau lleol allweddol.
Mae'r mesurau newydd ar Heol y Castell yn un o nifer o newidiadau sydd wedi eu gwneud gan awdurdodau lleol ledled Cymru – gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru – er mwyn cyfyngu ar allyriadau a gwella ansawdd aer yn lleol.
Dywedodd y Gweinidog:
“Rwy'n falch iawn o gyhoeddi lansiad ein Cynllun Aer Glân, sy'n nodi sut y byddwn yn ceisio gwella ansawdd aer ledled Cymru, a mynd i'r afael â'r problemau hynny a achosir gan lygredd aer, dros y 10 mlynedd nesaf.
“Mae'r nodau a amlinellir yn y Cynllun yno i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed, ond bydd gwella ein hansawdd aer yn genedlaethol o fudd i bawb yng Nghymru, ac mae'n rhywbeth y dylai pob un ohonom fod eisiau ac y dylem weithio tuag ato. Ond er mwyn cyflawni hynny, mae'n rhaid i ni weithredu yn awr.
“Mae llawer o'r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill – er gwaethaf y pandemig diweddar, rydym wedi gallu cefnogi awdurdodau lleol i ddechrau gweithio ar gynlluniau i wella ansawdd aer ledled Cymru, gyda'r newidiadau i Heol y Castell yn un enghraifft.
“Gwyddom fod pobl ledled Cymru wedi ymateb i'r cyfyngiadau hynny a osodwyd oherwydd pandemig Covid-19 ac wedi newid y ffordd maen nhw’n gwneud pethau. Maen nhw wedi dechrau arferion newydd – gan gynnwys lleihau eu dibyniaeth ar geir, a gwneud mwy yn eu hardaloedd lleol, yn hytrach na theimlo bod angen teithio pellteroedd maith.”
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Er y bydd y gwaith a amlinellir yn y cynllun yn digwydd ar draws y llywodraeth, ni all y mesurau dan sylw gael eu cyflawni gan lywodraeth yn unig – mae gennym oll waith i'w wneud o ran sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â phroblemau llygredd aer ac ansawdd aer gwael.
“Er y bydd y Cynllun Aer Glân yn gofyn i bob un ohonom chwarae ein rhan i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael, mae'r camau y mae pobl Cymru wedi'u cymryd yn ddiweddar yn dangos yr hyn y gallwn ei wneud wrth ddod at ein gilydd er mwyn amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, ac ymateb i'r problemau sy'n ein hwynebu i gyd.”
Meddai Joseph Carter, Cadeirydd Awyr Iach Cymru:
“Ar ôl bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cynllun hwn, rydym yn hynod falch o'r hyn sydd wedi'i greu. Mae'r cynnig uchelgeisiol hwn yn cynnig y cyfle i weddnewid ein gwlad a chreu Cymru wyrddach ac iachach.
“Fodd bynnag, ni ellir cyflawni'r cynllun hwn dros nos a bydd angen cefnogaeth gan bawb ledled Cymru. Nawr yw'r amser i roi blaenoriaeth i'r mater hwn – mae hyn yn fater o gyflawni dros bobl a chymunedau ledled Cymru.
“Mae gennym ni i gyd waith i'w wneud o ran gwella ansawdd aer ledled Cymru. Trwy gydweithio, gallwn ddatblygu pethau ymhellach a chydweithio i gyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Gadewch i ni greu'r dechrau newydd sydd ei angen ar Gymru yn 2021, drwy basio'r cynllun uchelgeisiol hwn gyda Deddf Aer Glân gadarn.”
Cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar fersiwn gynharach o'r Cynllun ym mis Rhagfyr; Mae'r cynllun diwygiedig ar ei ffurf bresennol yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw, a barhaodd am 12 wythnos. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys digwyddiadau gyda rhanddeiliaid a digwyddiadau ymgysylltu â phobl ifanc.