Mae casineb yn brifo Cymru
Mae troseddau casineb yn effeithio ar bawb. Mae'r dudalen hon ar gyfer eich helpu chi, p'un ai ydych chi wedi profi trosedd gasineb, wedi bod yn dyst, neu eisiau dysgu mwy am ei effaith. Gyda'n gilydd gallwn sefyll yn erbyn troseddau casineb.
Beth yw trosedd gasineb?
Trosedd gasineb yw unrhyw drosedd yn erbyn rhywun oherwydd gelyniaeth neu ragfran yn erbyn eu:
- hil
- crefydd
- cyfeiriadedd rhywiol
- hunaniaeth drawsryweddol
- anabledd
Gall trosedd gasineb gynnwys ymosodiad, difrod i eiddo, bygythiadau, aflonyddu, ymosodiadau ar-lein a cham-drin geiriol. Gallai'r troseddwr fod yn rhywun nad ydych chi’n eu hadnabod, neu gallai fod yn ffrind.
Sut i sefyll i fyny yn gadarn
Gallwch chi helpu dioddefwyr i deimlo'n llai unig a’u bod mewn rheolaeth. Gallwch chi ddarparu'r dystiolaeth i sicrhau euogfarn. Gallwch chi helpu i atal achos rhag gwaethygu.
Os ydych chi'n dyst i drosedd gasineb, dyma rai ffyrdd diogel a syml o gefnogi'r dioddefwr a gwneud gwahaniaeth.
- Cadwch yn ddiogel: peidiwch â chreu gwrthdaro na rhoi eich hun mewn perygl.
- Cofnodwch ef: byddwch yn llygaid a chlustiau ar gyfer y dioddefwr. Cofnodwch y digwyddiad neu nodwch yr hyn a ddigwyddodd, pryd a ble.
- Aseswch y sefyllfa: os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.
- Tynnwch sylw'n ddiogel: tynnwch sylw neu tawelwch y sefyllfa e.e. gofynnwch am gyfarwyddiadau, ewch at y dioddefwr gyda chwestiwn.
- Cefnogwch y dioddefwr: gofynnwch a ydyn nhw'n iawn, cynigiwch eich cefnogaeth. Cynigiwch i helpu'r dioddefwr i riportio’r hyn sydd wedi digwydd i'r heddlu (999) neu Ganolfan Cymorth Casineb Cymru (0300 3031 982). Gall yr ymchwiliad fod yn gryfach wrth riportio ar y cyd.
Gallwch chi helpu i roi rheolaeth yn ôl i'r dioddefwyr. Gall eich gweithredoedd wneud i rywun deimlo eu bod o bwys, eu bod yn cael eu cefnogi, a’u bod yn ddiogel.
Sut i roi gwybod am drosedd gasineb
Os ydych chi wedi gweld neu brofi trosedd gasineb, gallwch chi ei riportio i'r Heddlu neu i Ganolfan Cymorth Casineb Cymru (a gynhelir gan Cymorth i Ddioddefwyr). Gallwch hefyd riportio’r troseddau hyn os y gwelwch chi nhw'n digwydd i rywun arall.
Gall yr Heddlu a Chanolfan Cymorth Casineb Cymru gynnig cymorth i chi ddelio â'r hyn a ddigwyddodd a dod o hyd i ffordd ymlaen.
Yr Heddlu
Mewn argyfwng, ffoniwch 999
Os nad yw’n argyfwng, ffoniwch 101
Canolfan Cymorth Casineb Cymru
Gallwch siarad â Chanolfan Cymorth Casineb Cymru, a gynhelir gan Cymorth i Ddioddefwyr, fel opsiwn arall yn lle'r Heddlu. Maent yn darparu cymorth, cyngor a chefnogaeth annibynnol a chyfrinachol i ddioddefwyr a thystion troseddau casineb yng Nghymru.
Gallwch ffonio Canolfan Cymorth Casineb Cymru am ddim unrhyw bryd ar 0300 3031 982.
Ewch i’r wefan lle gallwch riportio troseddau casineb a darganfod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael.
Gwyliwch y fersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Beth sy'n digwydd pan fyddai’n riportio trosedd gasineb?
Mae'r Heddlu, Canolfan Cymorth Casineb Cymru ac asiantaethau cyfiawnder troseddol yn ystyried pob trosedd gasineb yn ddifrifol iawn. Os ydych chi’n penderfynu riportio trosedd gasineb, bydd yr Heddlu'n cysylltu â chi ac yn ymchwilio i'r hyn sydd wedi digwydd. Cynigir cymorth i chi trwy Gymorth i Ddioddefwyr er mwyn eich helpu i ymdopi ag effaith trosedd gasineb.
Os bydd achos yn mynd i'r llys, efallai y bydd dedfrydau cryfach yn cael eu rhoi i adlewyrchu difrifoldeb y mathau hyn o droseddau.
Ni fydd pob achos yn gallu mynd i'r llys, ond p'un ai ydych chi wedi cael eich targedu, wedi gweld trosedd casineb, neu'n cefnogi rhywun sydd wedi, mae cymorth ar gael bob amser.
Deunyddiau'r ymgyrch
Y deunyddiau hyrwyddo a ddefnyddir yn yr ymgyrch mae casineb yn brifo Cymru.
Ieithoedd gwahanol
Gellir gweld y wefan hon mewn iaith arall drwy ddefnyddio cyfieithu awtomatig Google Translate.
