Neidio i'r prif gynnwy

Mae Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, wedi lansio rhaglen newydd i geisio sicrhau bod cyfraith Cymru yn fwy hygyrch.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel rhan o gynllun hirdymor i greu Codau o Gyfraith Gymreig, bydd y gyfraith gynllunio yn cael ei symleiddio a'i moderneiddio drwy Fil cydgrynhoi, a fydd yn dwyn ynghyd y Deddfau niferus sydd wedi’u diwygio’n sylweddol ac sy’n rhan o’r prif fframwaith ar hyn o bryd. Bydd hyn yn galluogi’r bobl sy’n defnyddio’r system gynllunio yng Nghymru i gyfeirio at ddeddf unigol a chwbl ddwyieithog a fydd yn cynnwys yr holl gyfraith berthnasol.

Bydd Bil Cydgrynhoi, a fydd yn ffurfio corff cydlynol o gyfraith ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol i Gymru, hefyd yn cael ei ddwyn ymlaen. Ar hyn o bryd, mae perchenogion henebion cofrestredig neu adeiladau rhestredig yn wynebu her gymhleth o ran ceisio deall y gyfraith berthnasol gan fod gwahanol ddarpariaethau yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Bydd y Bil Cydgrynhoi yn arwain at ddeddfwriaeth glir, modern a phenodedig ar gyfer Cymru.

Mae deddfwriaeth bresennol mewn meysydd eraill yn cael ei hadolygu gyda'r bwriad o nodi prosiectau cydgrynhoi pellach yn ystod tymor y Senedd hon.

Bydd y rhaglen hefyd yn cynyddu hygyrchedd y gyfraith drwy atebion digidol. Mae hyn yn cynnwys gwneud gwelliannau ac ychwanegu cynnwys at wefan Cyfraith Cymru/Law Wales, archwilio'r potensial ar gyfer defnyddio dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, a gwella’r gwasanaethau cyhoeddi a gynigir gan legislation.gov.uk fel bod cyfraith Gymraeg ar gael ar ei ffurf ddiweddaraf ar y wefan hon yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ei dull o ddatblygu deddfwriaeth ddwyieithog, i wella effeithlonrwydd a sicrhau bod iaith glir yn cael ei defnyddio.

Bydd y rhaglen hefyd yn gosod y sylfeini ar gyfer creu codau cyfraith Cymru. Mae hyn yn cynnwys mabwysiadu strwythur ar gyfer cyfraith Cymru sy'n gwella ei hygyrchedd, a threfnu a chyhoeddi cyfraith gyfunol Cymru yn ôl y strwythur hwnnw. Wrth i brosiectau i ddosbarthu a chyfnerthu'r gyfraith ddatblygu, bydd modd dechrau codio'r gyfraith yn y pen draw.

Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:

"Mae hon yn rhaglen bwysig sy'n dangos ein hymrwymiad i geisio sicrhau bod y gyfraith ar gael ac yn ddealladwy i bawb.

"Bydd gwneud y gyfraith yn fwy hygyrch yn helpu pobl i ddeall eu hawliau a'u rhwymedigaethau cyfreithiol, sy'n arbennig o bwysig yng nghyd-destun y toriadau i gymorth cyfreithiol a allai olygu nad yw pobl yn gallu derbyn cyngor os na allant dalu am gynrychiolaeth gyfreithiol.

"Mae'r rhaglen yn cynyddu faint o ddeddfwriaeth sydd ar gael yn ddwyieithog, tra hefyd yn hwyluso gwell llywodraethu ar draws y sector cyhoeddus cyfan drwy alluogi'r rhai sy'n gweithio gyda chyfraith Cymru i ddod o hyd iddi a'i dehongli'n haws."